Dylai rhannu buddsoddiadau a chynilion pan fyddwch yn gwahanu fod yn gymharol syml os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Efallai y byddwch yn gallu hawlio eich cyfraniadau iddynt yn ôl. Efallai hefyd y bydd angen i chi eu brisio a thalu treth neu daliadau os byddwch yn eu gwerthu neu’n eu cyfnewid am arian.
Sut y delir â buddsoddiadau a chynilion
Yn gyffredinol, mae unrhyw fuddsoddiadau neu gynilion yn eich enw chi yn unig yn perthyn i chi yn unig. Ac mae unrhyw rai sydd yn enw eich cyn-bartner yn unig yn perthyn iddynt hwy yn unig.
Ond os ydych chi wedi cyfrannu tuag at eu hasedau sy'n eiddo iddyn nhw yn unig, efallai y byddwch chi'n gallu gwneud hawliad am gyfran (ac i'r gwrthwyneb).
Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, dim ond os gallwch ddangos bod gennych ‘fuddiant llesiannol’ ynddynt y gallwch wneud cais am gyfran o asedau eich cyn-bartner.
Gall hyn olygu:
- roedd cytundeb y byddech chi'n rhannu perchnogaeth, neu
- eich bod wedi gwneud cyfraniad y mae’r gyfraith yn ei gydnabod fel un sy’n rhoi hawl i gyfran i chi, megis arian neu waith ar eiddo.
Nid oes dyddiad cau penodol, ond y cynharaf y byddwch chi'n gweithredu, yr hawsaf yw dangos yr hyn y cytunwyd arno neube gwnaethoch roi fewn.
Gall yr hawliadau hyn fod yn gymhleth ac yn ddrud, felly mae'n werth cael cyngor yn gynnar gan gyfreithiwr sy'n arbenigo mewn cyfraith teulu. Efallai yr hoffech hefyd ystyried cyfryngu.
Yr Alban
Yn yr Alban, gallech wneud hawliad ariannol am gyfran o asedau eich cyn-bartner os oeddech chi'n byw gyda'ch gilydd fel cwpl heb fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil, a elwir yn 'gyd-fyw'.
I wneud hawliad, mae angen i chi ddangos naill ai:
- eich bod wedi profi ‘anfantais economaidd’ – sy’n golygu eich bod mewn sefyllfa ariannol waeth o ganlyniad i’r berthynas. Er enghraifft, fe wnaethoch chi roi'r gorau i waith i fagu eich plant a rennir.
- bod eich cyn-bartner wedi ennill ‘mantais economaidd’ o ganlyniad i’r berthynas – sy’n golygu bod eich cyn-bartner wedi gallu elwa’n ariannol oherwydd eich cyfraniadau neu aberthau yn ystod eich amser gyda’ch gilydd.
Mae gennych un flwyddyn i wneud cais o’r dyddiad y gwnaethoch wahanu.
Efallai yr hoffech ystyried cyfryngu i'ch helpu chi a'ch cyn-bartner i ddod i gytundeb ar eich cyllid.
Yn yr Alban, ni allwch ofyn i'r llys drosglwyddo eiddo o un person i'r llall. Ond os gallwch ddangos hawliad ariannol, efallai y byddwch yn gallu cael cyfandaliad 'cyfalaf' i helpu i ddod â’r cyfraniadau ariannol a wnaed yn ystod y berthynas yn ôl i gydbwysedd.
Os ydych chi'n berchen ar gartref ar y cyd ac na allwch gytuno ar beth i'w wneud ag ef, bydd angen ei werthu. Os yw un ohonoch eisiau gwerthu ond nid yw’r llall yn cytuno, gallwch wneud cais i'r llys i orfodi'r gwerthiant.
Efallai y bydd angen i chi hefyd drefnu i unrhyw fuddsoddiadau gael eu prisio.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i ddiogelu eich arian wrth wahanu os oeddech yn cyd-fyw
Rhannu cyfrifon cynilion
Os ydych wedi cytuno ar sut fyddwch yn rhannu’r arian a gynilwyd yn eich enw eich hun neu yn eich enwau chi'ch dau, mae’n bwysig deall eich opsiynau i wneud hyn pan fyddwch yn gwahanu.
Gall y broses fod yn wahanol – yn ddibynnol ar y math o gyfrif sydd gennych ac yn enw pwy y mae.
Efallai fod gennych y canlynol:
ISAs Arian Parod neu ISAs Gydol Oes
Dim ond yn enw un person y gellir cadw’r rhain - ac nid ar y cyd.
Os ydych eisiau rhoi arian i’ch partner o’ch ISA Arian Parod, byddai rhaid i chi dynnu’r arian allan o’r ISA. Ni fyddech yn gallu ei drosglwyddo o’ch cyfrif chi i gyfrif eich partner.
Gydag ISA Gydol Oes (LISA), gallech dynnu allan yr arian rydych ei angen ond bydd yn rhaid i chi dalu tâl ymadael. Fel gydag ISA Arian, ni allech drosglwyddo arian yn eich LISA i rywun arall.
Cyfrifon cynilo a Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)
Mae cyfrifon cynilo yn syml oherwydd gallwch drosglwyddo rhywfaint o arian o’ch cyfrif i gyfrif eich cyn bartner yn ddidrafferth.
Yr unig anhawster posibl fyddai pe byddai’r arian mewn cyfrif lle mae'n rhaid rhoi rhybudd. Os felly, siaradwch â’ch banc neu gymdeithas adeiladu er mwyn deall eich opsiynau i dynnu’ch arian allan. Os na fyddwch, gallech golli rhywfaint o’r llog.
Os yw’r arian mewn cyfrif cynilo cyfradd sefydlog, efallai na fyddwch yn gallu codi’r arian nes bydd y tymor wedi dod i ben. Hyd yn oed os ydych, gallech golli swm sylweddol o log.
Mae rhai Cyfrifon cynilo a Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)Yn agor mewn ffenestr newydd yn caniatáu mynediad i'ch arian parod yn syth, er gallai fod tâl os oeddech chi eisiau codi bond tymor penodol yn gynnar.
ISA Iau
Os ydych wedi agor cyfrif ISA Iau i’ch plentyn, bydd yr arian hwn yn enw’ch plentyn, ac yn perthyn i’ch plentyn.
Fodd bynnag, os yw un rhiant yn symud ei arian i gyfrif plentyn i geisio ei gadw allan o setliad ariannol, gall llys edrych ar o ble ddaeth yr arian hwnnw'n wreiddiol a’i drin fel rhan o’r gwahaniad.
Sut i rannu eiddo buddsoddi
Mae eiddo buddsoddi – fel eiddo prynu i osod neu gartref gwyliau – sydd yn eich enw chi neu yn enw eich cyn-bartner yn unig yn eiddo i’r unigolyn hwnnw. Mae hyn yn wir os na allwch ddangos eich bod wedi gwneud cyfraniadau tuag ato.
Ceisiwch drafod sut y caiff y cyfraniadau hyn eu had-dalu, er enghraifft drwy gyfryngu. Fel arall, mae’n werth cael cyngor cyfreithiol i asesu eich cais.
Os ydych chi a'ch cyn-bartner yn berchen ar eiddo buddsoddi ar y cyd, bydd ei brisio. Bydd hyn yn eich helpu i weithio allan a ydych chi am ei werthu neu barhau i fod yn berchen arno neu ei rentu allan.
Os yw'r ddau ohonoch yn cytuno, gallwch gysylltu â'ch benthyciwr os ydych am dynnu eich enw neu enw eich cyn-bartner oddi ar y morgais.
Efallai y bydd angen i chi ailforgeisio, a gall siarad ag ymgynghorydd morgais eich helpu i ddeall eich opsiynau. Cofiwch y bydd angen i fenthycwyr asesu eich fforddiadwyedd p'un a ydych chi'n ail-forgeisio neu'n gwneud cais am forgais newydd - darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ailforgeisio i gael y cytundeb gorau.
Os ydych chi'n berchen ar eiddo gyda'ch gilydd ond na allwch gytuno beth ddylai ddigwydd iddo, gallwch ofyn i'r llys benderfynu.
Yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw yn y DU, gall llys edrych ar y sefyllfa ac, lle mae'r gyfraith yn caniatáu, penderfynu a ddylid gwerthu'r eiddo neu sut y dylid delio â chyfran pob person.
Darganfyddwch beth allech chi ei fenthyg yn ein canllaw Prynu cartref - pa forgais alla i ei fforddio?
Prisio eich buddsoddiadau
Os oes gennych fuddsoddiadau, dylech dderbyn datganiad pob blwyddyn yn rhoi gwybod i chi beth yw eu gwerth.
Ond efallai na fydd hyn yr un faint ag y byddech yn ei gael os ydych yn gwerthu neu drosglwyddo eich buddsoddiadau.
Yn hytrach, yn ddibynnol ar y math o fuddsoddiad, efallai y bydd y gwerth yn:
- werth trosglwyddo, neu
- gwerth ildio (arian i mewn).
Dylai eich cam cyntaf fod i ofyn i’r cwmni buddsoddi am brisiad cyfredol, neu werth trosglwyddo neu ildio.
Efallai y bydd gennych:
- bondiau
- bondiau buddsoddi
- stociau a chyfranddaliadau
- polisïau ag elw, megis gwaddol
- ymddiriedolaethau uned, ymddiriedolaethau buddsoddi neu OEICS (cwmnïau buddsoddi penagored).
Deall costau gwerthu buddsoddiadau
Efallai na fydd gwerthu eich buddsoddiadau’r dewis gorau - gan y bydd rhaid i chi dalu treth a thaliadau atodol.
- Efallai y bydd rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf (CGT) os byddwch yn cyfnewid neu werthu buddsoddiad ac yn gwneud elw. Mae gennych lwfans CGT blynyddol, sy’n golygu y gallwch wneud swm penodol o elw – wedi didynnu costau gwerthu a ffioedd – cyn i chi orfod talu treth. Does dim rhaid i chi dalu ‘r dreth hon os ydych yn gwerthu eich prif gartref neu ar ISAs stociau a chyfranddaliadau. Mae hwn yn faes cymhleth felly mae’n debygol y byddai’n werth cael cyngor gan ymgynghorydd ariannol annibynnol neu gyfrifydd. Bydd rhaid i chi dalu am y cyngor hwn.
- Yn ddibynnol ar y buddsoddiad sydd gennych, efallai y bydd rhaid i chi dalu rhywfaint o gostau os byddwch yn gwerthu neu gyfnewid yn gynnar. Hyd yn oed os nad oes rhaid i chi dalu tâl, efallai y byddwch ar eich colled os byddwch yn gwerthu buddsoddiadau yn seiliedig ar gyfranddaliadau pan fydd y farchnad stoc ar lefel isel.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i ddod o hyd i ymgyngorydd pensiwn neu ymddeoliad
Trosglwyddo neu werthu cyfranddaliadau sy’n eiddo i chi
Os ydych yn berchen ar gyfranddaliadau gallwch naill ai eu trosglwyddo i’ch cyn-bartner neu gallwch eu gwerthu er mwyn i chi allu rhoi arian i’ch cyn-bartner yn lle hyn.
Mae’n werth cael cyngor gan gynghorydd ariannol annibynnol neu gyfrifydd ynglŷn â beth yw’r dewis gorau.
- Gallwch drosglwyddo cyfranddaliadau i’ch cyn-bartner trwy lenwi a llofnodi ‘ffurflen trosglwyddo cyfranddaliadau’ – a elwir hefyd yn ffurflen ‘J30’. Efallai y gallech lawrlwytho hon yn uniongyrchol o wefan y cwmni mae gennych gyfranddaliadau ynddo. Efallai y bydd rhaid i’ch cyn-bartner dalu Treth Stamp.
- Os oes gennych frocer stoc - neu os ydych yn defnyddio cwmni brocer a stoc - gall drefnu i werthu’r cyfranddaliadau ar eich rhan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod faint fydd hyn yn costio. Efallai hefyd y byddwch yn gallu gwerthu trwy wasanaeth delio â chyfranddaliadau a gynigir gan y cwmni y mae gennych gyfranddaliadau ynddynt. Nid yw pob cwmni yn cynnig y gwasanaeth hwn.
Rhoi asedau i’ch cyn-bartner
Os ydych yn ildio ased – er enghraifft, buddsoddiad yr ydych wedi gwneud elw arno – efallai y bydd rhaid i chi dalu CGT.
Os ydych chi'n briod neu mewn partneriaeth sifil, fel arfer gallwch drosglwyddo asedau rhwng y ddau ohonoch heb dalu CGT. Os ydych chi'n gwahanu, gellir gwneud trosglwyddiadau di-dreth am hyd at dair blynedd dreth ar ôl y flwyddyn rydych chi'n gwahanu. Gall trosglwyddiadau a wneir fel rhan o setliad ysgariad neu ddiddymiad ffurfiol hefyd fod yn ddi-dreth.
Os nad ydych chi'n briod neu mewn partneriaeth sifil, nid yw'r rheolau hyn yn berthnasol. Os yw ased wedi codi mewn gwerth ers i chi ei gael, efallai y bydd CGT yn ddyledus pan gaiff ei drosglwyddo i'ch cyn-bartner.
Eich cam nesaf
Mae’n werth darllen ein canllaw Adolygu yswiriant ar gyfer dibynyddion a’ch ewyllys wrth wahanu os oeddech yn cyd-fyw.