Mae'n bwysig cael y cais yn iawn y tro cyntaf, felly cymerwch ofal i ddilyn y cyfarwyddiadau. Os byddwch yn gwneud camgymeriad, efallai y bydd eich cais yn cael ei wrthod, gan arwain at oedi a ffioedd ychwanegol i wneud cais arall.
Er nad oes angen cyfreithiwr arnoch i wneud atwrneiaeth, os oes gennych anghenion cymhleth neu os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw ran o’r broses, gallai cael cyngor proffesiynol fod yn ddefnyddiol. Ond cadwch mewn cof y gall cyfreithwyr godi ffioedd.
Dyma rai awgrymiadau allweddol i'ch helpu i wneud pethau'n iawn:
Defnyddiwch enwau llawn
Gwiriwch fod yr holl enwau, dyddiadau geni a chyfeiriadau ar eich cyfer chi a’ch atwrneiod yn gywir. Ceisiwch osgoi defnyddio blaenlythrennau na gadael unrhyw fanylion allan.
Gwiriwch eich tystion
Sicrhewch fod eich tystion yn gymwys. Er enghraifft, ni all atwrnai fod yn dyst i lofnod y rhoddwr. Gallai manylion coll neu anghywir ohirio'r broses.
Ysgrifennwch mewn inc du neu las yn unig
Os gwnewch gamgymeriad, croeswch y gwall allan yn daclus, gwnewch y cywiriad a'i lythrennu.
Rhowch gyfarwyddiadau clir
Teilwra'r atwrneiaeth i weddu i'ch anghenion. Penderfynwch pa bwerau i’w cynnwys neu eu heithrio er mwyn sicrhau eu bod yn ddefnyddiol i chi a’ch atwrneiod. Cofiwch y gall cyfarwyddiadau croes (fel mynnu gweithredoedd ‘ar y cyd ac yn unigol’ a phleidleisiau mwyafrifol) wneud yr atwrneiaeth yn annilys.
Adolygwch eich cais
Cyn ei hanfon, gofynnwch i rywun arall wirio'ch ffurflen am wallau i sicrhau bod popeth yn gywir.
Os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr, mae gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ganllaw i’ch helpu i lenwi’r ffurflenni ac osgoi gwneud camgymeriadau cyffredinYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yn yr Alban, darganfyddwch y rhesymau mwyaf cyffredin dros wrthodYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Office of Public Guardian Scotland.