Byddwch chi'n cael sgyrsiau am arian gyda gwahanol bobl yn eich bywyd. Gall rhai o'r sgyrsiau hyn fod yn anodd neu'n llawn straen ond gall y canllaw hwn eich helpu i gynllunio a theimlo'n fwy hyderus.
Sut i baratoi ar gyfer sgwrs am arian
Nid oes angen gor-baratoi ond gall meddwl am ychydig o bethau ymlaen llaw wneud y sgwrs yn haws.
Pryd i siarad
Anaml y bydd moment perffaith ond gall rhoi ychydig o rybudd i'r person arall helpu.
Rhowch wybod iddynt eich bod chi eisiau siarad am arian, ac os gallwch chi, rhowch syniad bras iddynt o beth yn benodol mae amdan.
Fel 'na, bydd ganddynt amser i feddwl amdano a theimlo'n fwy parod ar gyfer y sgwrs.
Ble i siarad
Dewiswch fan tawel lle na fyddwch chi'n cael eich torri ar draws. Efallai mai gartref fyddai orau os oes angen gwaith papur arnoch chi, ond gallai mynd am dro helpu pethau i deimlo'n fwy hamddenol.
Pwy ddylai fod yno
Mae'n dibynnu ar y sefyllfa. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'n bwysig cynnwys pawb sy'n ymwneud â'r mater.
Ond weithiau mae'n helpu cael sgwrs gydag un neu ddau o bobl yn gyntaf, yn enwedig os yw'r pwnc yn sensitif neu'n gymhleth (fel pan fydd plant yn gysylltiedig ac mae angen i rieni siarad yn breifat yn gyntaf).
Ymarferwch yr hyn y byddwch chi'n ei ddweud
Mae'n helpu dweud pethau'n uchel ymlaen llaw. Ceisiwch feddwl am sut y gallai'r person arall ymateb a'r hyn y gallech chi ei ddweud yn ôl.
Gallech ymarfer o flaen drych neu ymarfer gyda ffrind nad yw'n gysylltiedig i gael persbectif ffres.
Ar ôl i chi baratoi, byddwch mewn lle da i ddechrau'r sgwrs yn hyderus.
Beth i'w wneud os nad ydych chi'n teimlo'n ddiogel i siarad
Os yw'ch partner neu'ch teulu yn rheoli'ch arian, neu'n cymryd dyled yn eich enw, mae hynny'n gam-drin ariannol. Nid oes rhaid i chi ei wynebu ar eich pen eich hun.
Mae ein canllaw Cam-drin ariannol: gweld yr arwyddion a gadael yn ddiogel yn esbonio beth i'w wneud a ble i gael help.
Sut i ddechrau sgwrs am arian
Nid oes rhaid i ddechrau sgwrs am arian fod yn uniongyrchol bob amser. Weithiau mae'n haws dod i mewn iddo'n naturiol, yn hytrach na gofyn i rywun eistedd i lawr am sgwrs ddifrifol. Dyma rai ffyrdd o helpu i gychwyn y sgwrs:
- Os yw ffrind neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn mynd trwy rywbeth tebyg, gallech siarad am eu sefyllfa i helpu i arwain at eich sefyllfa eich hun.
- Sôn am raglen deledu, stori newyddion, neu lyfr sy'n ymwneud â'r hyn rydych chi'n delio ag ef. Gall fod yn ffordd ddefnyddiol o sôn am eich profiad eich hun.
- Defnyddiwch beth sydd o'ch cwmpas, fel bil, pryniant diweddar, neu rywbeth ar y teledu, i sbarduno'r sgwrs.
Wedi dweud hynny, mae adegau pan fydd angen i chi fod yn fwy uniongyrchol, yn enwedig os yw'r mater yn un brys ac yn methu aros.
Gall gwybod sut i ddechrau’r sgwrs roi hwb i'ch hyder. Dyma ychydig o syniadau ar sut i ddechrau:
- “Mae rhywbeth yr hoffwn siarad amdano a allai ein helpu i weithio tuag at ein nodau.”
- “Rwyf am siarad am [xxxx], ond hoffwn glywed eich barn yn gyntaf.”
- “Mae angen eich help arnaf gyda rhywbeth sydd newydd ddigwydd. Oes gennych chi ychydig funudau i siarad?”
- “Rwy’n credu y gallem weld [xxxx] yn wahanol, a hoffwn ddeall eich safbwynt chi.”
Cofiwch, mae sgwrs dda yn mynd y ddwy ffordd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrando yn ogystal â siarad.
Yn dibynnu ar eich sefyllfa, gall y canllawiau hyn helpu:
Awgrymiadau ar gyfer siarad am arian
Rydym yn gwybod y gall fod yn anodd siarad am arian, ond gall cael y sgyrsiau hyn helpu eich lles meddyliol.
Mae ein hymchwil yn dangos y gall siarad am arian:
- wella eich perthnasoedd
- rhoi hwb i'ch hyder wrth reoli arian
- eich helpu i wneud penderfyniadau ariannol mwy doeth a mwy diogel
- lleihau straen a phryder a'ch helpu i deimlo'n fwy mewn rheolaeth.
Dyma rai awgrymiadau i wneud y sgyrsiau hynny'n haws ac yn fwy cynhyrchiol.
Rheoli emosiynau
Mae'n normal teimlo'n emosiynol, ond ceisiwch aros yn dawel a chanolbwyntio. Os oes angen, neilltuwch amser arall i brosesu eich teimladau fel y gallwch feddwl yn glir yn ystod y sgwrs.
Gwrandewch heb dorri ar draws
Gall siarad ar draws eich gilydd arwain at ddadleuon. Gadewch i bob person siarad yn llawn. Os bydd ymyrraeth yn digwydd, awgrymwch gymryd eich tro yn ysgafn fel bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu clywed.
Osgowch feio neu farnu
Dechreuwch frawddegau gyda "Rwy'n teimlo" neu "Rwy'n meddwl" yn lle "Ti..." Gall cyhuddiadau ac iaith gorff negyddol gau'r person arall i lawr.
Arhoswch ar y pwnc
Cadwch at y mater ariannol dan sylw. Os bydd pryderon eraill yn codi, cadwch nhw ar gyfer amser arall. Mae hyn yn helpu i gadw'r sgwrs yn gynhyrchiol ac ar ffocws.
Byddwch ar yr un lefel
Ceisiwch eistedd neu sefyll ar yr un uchder. Mae'n helpu i greu awyrgylch mwy cyfartal a pharchus.
Gwybod ble i gael cymorth
Cael manylion cyswllt wrth law ar gyfer elusennau neu wasanaethau cymorth, rhag ofn y bydd angen cymorth allanol arnoch i symud ymlaen.
Gallwch ddod o hyd i gysylltiadau defnyddiol ar gyfer dyled, gamblo a phroblemau perthynas yn ein canllaw Siarad â'ch partner am arian.
Gall aros yn dawel, yn barchus ac mewn ffocws eich helpu i gael sgwrs fwy defnyddiol a chadarnhaol.
Sut i ddelio ag ymatebion negyddol
Weithiau ni fydd pethau'n mynd yn ôl y bwriad ac mae hynny'n iawn. Os yw'r person arall yn ymateb yn negyddol, dyma rai ffyrdd y gallwch ymateb yn dawel ac yn adeiladol:
| Os.... | Ceisiwch... |
|---|---|
|
Nad ydynt yn cytuno â chi |
Gofynnwch iddynt pam maent yn ei weld yn wahanol a gwrandewch â meddwl agored. Os ydynt yn gwneud pwynt da, cydnabyddwch ef. Os ydych chi'n dal i anghytuno, canolbwyntiwch ar sut allwch chi symud ymlaen gyda'ch gilydd. |
|
Maent yn rhoi’r bau arnoch chi |
Arhoswch yn dawel ac yn agored heb fynd yn amddiffynnol na'u beio'n ôl. Gofynnwch i chi'ch hun a yw eu sylwadau'n deg. Os ydyn nhw, siaradwch am sut y byddwch chi'n mynd i'r afael â nhw. Os ydynt yn symud y bai yn unig, gofynnwch yn dawel beth allwch chi'ch dau ei wneud i wella'r sefyllfa. |
|
Maent yn ddiamynedd neu’n newid y pwnc |
Atgoffwch nhw pam mae'r sgwrs yn bwysig. Rhowch wybod iddynt fod ganddynt ddewisiadau, a'ch bod chi'n deall nad yw'n hawdd, ond gall siarad nawr helpu i osgoi problemau mwy yn ddiweddarach. Gallwch chi bob amser ddod yn ôl at bynciau eraill yn ddiweddarach. |
|
Maent yn siarad llawer a’n mynd oddi ar y trywydd |
Rhowch amser iddynt siarad, ond llywiwch bethau'n ôl yn dawel trwy gyfeirio at yr hyn maent wedi'i ddweud a gofyn cwestiynau clir a pherthnasol. |
Oes unrhyw senarios posibl eraill rydych chi'n meddwl a allai ddigwydd? Os felly, ysgrifennwch nhw i lawr, ynghyd ag ateb.
Sut i orffen y sgwrs yn dda
Ar ôl sgwrs ariannol anodd, mae'n normal teimlo rhyddhad ei bod hi drosodd ac efallai na fyddwch chi eisiau ei chodi eto. Ond mae dilyn i fyny yn rhan bwysig o wneud cynnydd go iawn.
Dyma rai ffyrdd syml o orffen y sgwrs ar nodyn da a chadw pethau'n symud ymlaen.
Cydnabyddwch y sgwrs
Gadewch i'r person arall wybod eich bod chi'n gwerthfawrogi cael y sgwrs, hyd yn oed os oedd hi'n anodd. Cydnabyddwch ei bod hi wedi cymryd ymdrech, ac amlygwch unrhyw bethau cadarnhaol a ddaeth ohoni, fel deall eich gilydd yn well neu ddod o hyd i ffordd ymlaen.
Cymerwch y camau nesaf
Dangoswch eich bod chi'n cymryd y sgwrs o ddifrif trwy ddilyn unrhyw gamau a drafodwyd gennych. Mae bod yn glir ynghylch beth sy'n digwydd nesaf yn helpu i feithrin ymddiriedaeth ac yn cadw pethaui symud.
Ysgrifennwch bethau i lawr
Gall helpu i roi'r pwyntiau allweddol yn ysgrifenedig naill ai mewn neges, e-bost, neu ar bapur. Mae hyn yn rhoi rhywbeth i'r ddau ohonoch edrych yn ôl arno a gall osgoi dryswch yn ddiweddarach.
Yn aml, mae pobl yn cofio pethau'n wahanol, felly mae cael y peth wedi'i ysgrifennu i lawr yn helpu i sicrhau eich bod chi ar yr un dudalen.
Mae gorffen yn dda yn gosod y naws ar gyfer sgyrsiau yn y dyfodol ac yn ei gwneud hi'n haws parhau i siarad pan fyddwch angen.