Wedi’u cynllunio i’ch helpu i fenthyg arian yn ddiweddarach mewn bywyd, gall morgeisi ymddeol llog yn unig fod yn ffordd amgen o ail-forgeisio yn eich ymddeoliad neu ryddhau arian parod o’ch cartref. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw morgais ymddeol llog yn unig (RIO)?
- Pwy all gael morgais RIO?
- Sut mae morgais ymddeol llog yn unig yn gweithio?
- Beth yw’r gwahaniaeth rhwng morgeisi RIO a gydol oes?
- A allaf ailforgeisio?
- Sut i gael morgais ymddeoliad llog yn unig
- Dod o hyd i frocer morgeisi neu arbenigwr rhyddhau ecwiti
- Beth i’w wneud os na allwch fforddio’r llog ar eich morgais RIO
Beth yw morgais ymddeol llog yn unig (RIO)?
Mae morgais ymddeol llog yn unig – a elwir hefyd yn ‘forgais RIO’ – yn fath arbennig o fenthyciad cartref os ydych yn fenthyciwr hŷn (dros 50 oed) nad yw ei anghenion yn cael eu diwallu gan forgais safonol.
Gall fynd yn anoddach cael morgais newydd wrth i chi ddod yn nes at oedran ymddeol, felly gall morgais RIO helpu drwy:
- gadael i chi forgeisio'ch cartref yn ddiweddarach mewn bywyd, neu
- darparu dewis arall yn lle rhyddhau ecwiti.
Mae’n debyg i forgais gydol oes lle mae’r benthyciad fel arfer ond yn cael ei dalu pan fyddwch chi’n gwerthu’r tŷ, yn marw neu’n symud i ofal hirdymor, ond nid oes gennych y risg o adlog.
Pwy all gael morgais RIO?
g.Mae benthycwyr yn gosod eu rheolau eu hunain ar bwy all wneud cais am forgais ymddeol llog yn unig.
Efallai y bydd angen i chi:
- fod yn isafswm oedran, fel arfer dros 50 neu 55, ond nid oes gan rai benthycwyr unrhyw ofyniad oedran is
- bod yn morgeisio eiddo sy'n brif gartref i chi
- bod ag isafswm o ecwiti yn eich cartref
- profi y gallwch fforddio'r ad-daliadau llog misol, nawr ac ar ôl ymddeol.
Archwiliwch eich holl opsiynau cyn gwneud cais a dewch o hyd i ymgynghorydd ariannol sydd wedi'i gofrestru gyda'r FCA sy'n arbenigo mewn cynllunio ar gyfer ymddeoliad.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i ddod o hyd i ymgyngorydd pensiwn neu ymddeoliad
Sut mae morgais ymddeol llog yn unig yn gweithio?
Fel morgais llog yn unig safonol, mae dwy ran i forgais RIO: y llog a’r cyfalaf (swm y benthyciad).
Mae eich ad-daliadau misol yn cynnwys y llog ar y swm a fenthycwyd gennych, ond fel arfer dim ond pan fyddwch yn gwerthu eich cartref y caiff y benthyciad gwreiddiol ei ad-dalu.
Gwiriwch y manylion bob amser cyn cytuno i forgais RIO:
- Nid yw'r rhan fwyaf o fenthycwyr yn gosod terfyn amser i ad-dalu'ch benthyciad cyn i chi ymddeol, ond bydd rhai yn gwneud hynny.
- Mae rhai benthycwyr yn gadael i chi dalu mwy tuag at glirio cyfalaf y benthyciad. Mae hyn yn ddewisol ond gallai olygu bod gennych lai i'w ad-dalu ar ôl i'r eiddo gael ei werthu.
Manteision ac anfanteision morgais RIO
Manteision
-
- Rydych chi'n fwy tebygol o fod â rhywbeth i'w drosglwyddo fel etifeddiaeth o gymharu â morgais gydol oes.
-
- Mae’n eich helpu i ryddhau arian parod i dalu am ymddeoliad neu anghenion eraill.
-
- Gall fod yn rhatach na morgais gydol oes oherwydd fel arfer nid oes unrhyw opsiwn o ‘gronni llog’ (lle mae llog yn cronni gan gynyddu’r ddyled gyffredinol).
-
- Gall gynnig hyblygrwydd gan fod gan rai benthycwyr gynhyrchion y gellir eu hadolygu (2, 5, 10 mlynedd) fel nad ydych wedi'ch cloi i mewn i gyfradd am oes a gallwch osgoi taliadau ad-dalu cynnar yn y dyfodol.
Anfanteision
-
- Mae dal angen i chi basio gwiriadau fforddiadwyedd morgais i ddangos y gallwch fforddio'r ad-daliadau llog.
-
- Mae'r hyn y gallwch ei fenthyca yn seiliedig ar eich incwm ymddeol a LTV (benthyciad i werth) y morgais – gall benthycwyr gynnig llai na morgais safonol.
-
- Mae morgeisi RIO heb ffi ar gael, ond gall rhai cytundebau gynnwys ffioedd trefnu o hyd at £3.000.
-
- Mae eich cartref mewn perygl os na fyddwch yn cadw at yr ad-daliadau.
Cewch gyngor bob amser a thrafodwch fanteision ac anfanteision eich sefyllfa. Darllenwch ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng morgeisi RIO a gydol oes?
Gall y ddau ryddhau ecwiti o’ch cartref, ond mae gwahaniaethau rhwng y ddau forgais.
- Gall RIOs ganiatáu i chi fenthyg cyfran fwy o'ch cartref na morgais gydol oes. Mae hyn oherwydd eich bod yn gwneud taliadau i gynnal y balans, gan leihau'r risg o ecwiti negyddol. Os gallwch fforddio gwneud hynny, gall RIO ganiatáu i chi fenthyca hyd at 50-60% o werth eich cartref yn 50 oed, tra bydd morgais gydol oes yn debygol o gynnig dim ond 10-20% yn 55 oed.
- Gall fod yn anoddach gwneud cais am forgais RIO oherwydd mae angen i chi ddangos eich bod yn gallu fforddio'r taliadau.
- Gyda morgais RIO, rydych yn talu'r llog bob mis. Gyda morgais gydol oes treigl, nid oes rhaid i chi wneud taliadau misol, felly gall y llog gronni a chynyddu'r hyn sy'n ddyledus gennych.
- Mae'r isafswm oedran yn amrywio, ond fel arfer gallwch fod yn iau i wneud cais am forgais RIO.
- Rhaid i chi siarad ag ymgynghorydd rhyddhau ecwiti cymwys i gael morgais gydol oes.
A allaf ailforgeisio?
Ydy, mae’n bosibl ail-forgeisio gyda morgais ymddeol llog yn unig.
Efallai y bydd yn rhaid i chi wneud asesiad fforddiadwyedd arall os byddwch yn newid benthyciwr neu eisiau cynyddu maint eich morgais, a allai fod yn anodd i rai pobl.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ailforgeisio i gael y cytundeb gorau
Sut i gael morgais ymddeoliad llog yn unig
Gall benthycwyr morgeisi traddodiadol gynnig morgeisi ymddeol llog yn unig, gan gynnwys banciau stryd fawr a chymdeithasau adeiladu.
Os ydych chi’n dod tuag at ddiwedd eich morgais llog yn unig presennol ac eisiau aros yn eich cartref, siaradwch â’ch benthyciwr i weld a fyddant yn ymestyn cyfnod eich morgais hyd at ymddeoliad.
Dod o hyd i frocer morgeisi neu arbenigwr rhyddhau ecwiti
Siaradwch â brocer morgeisi neu ymgynghorydd rhyddhau ecwiti annibynol am eich opsiynau. Nid oes angen iddynt feddu ar gymhwyster rhyddhau ecwiti i’ch helpu i ddod o hyd i forgais ymddeol llog yn unig.
Gall ymgynghorydd annibynnol weld pa forgeisi sydd ar gael ac a ydynt yn addas ar gyfer eich sefyllfa. Fel arfer codir ffi am eu cyngor.
Gallwch ddod o hyd i ymgynghorydd morgais rheoledig ar y gwefannau hyn:
Mae hefyd yn syniad da dewis cwmni sy’n aelod o’r Association of Mortgage Intermediaries (AMI)Yn agor mewn ffenestr newydd, y corff proffesiynol ar gyfer cwmnïau cyfryngwyr morgeisi.
Darganfyddwch y bobl iawn i siarad â nhw am gartrefi a morgeisi yn ein canllaw Prynu a gwerthu eich cartref: dod o hyd i weithiwr proffesiynol.
Beth i’w wneud os na allwch fforddio’r llog ar eich morgais RIO
Os ydych chi’n cael trafferth gwneud eich ad-daliadau misol, siaradwch â’ch benthyciwr morgais am eich opsiynau cyn gynted â phosibl.
Efallai y byddwch yn gallu newid i forgais gydol oes lle gallwch optio allan o ad-daliadau misol, ond bydd hyn yn costio mwy i chi dros amser oherwydd adlog.
Os ydych chi’n poeni y byddwch yn neu wedi methu un neu fwy o daliadau morgais, defnyddiwch ein teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor cyfrinachol am ddim ar ddyledion ar-lein, dros y ffôn neu’n agos at eich cartref.
Mae opsiynau eraill ar gael os ydych yn cael trafferth talu eich morgais – gweler ein canllaw Help gyda thaliadau morgais.