Os ydych yn byw mewn tai cymdeithasol yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon, efallai y byddwch yn gallu prynu eich cartref am lai na'i gyfradd marchnad.
Beth yw Hawl i Brynu (Lloegr)
Os ydych yn rhentu eich cartref gan y cyngor neu gymdeithas dai yn Lloegr, efallai y gallwch ei brynu gyda gostyngiad drwy'r cynllun Hawl i Brynu.
Y disgownt uchaf y gallwch ei gael yw’r un isaf o’r ddau:
- 70% o werth eich eiddo
- y disgownt uchaf ar gyfer eich rhanbarth.
Os byddwch yn gwerthu eich cartref o fewn 5 mlynedd, bydd angen i chi ad-dalu rhywfaint o'r gostyngiad neu'r cyfan ohono. Efallai y bydd angen i chi rannu unrhyw elw hefyd. Mae'r swm a dalwch yn ôl yn mynd yn llai po hiraf y byddwch yn cadw'r cartref o fewn y pum mlynedd.
Darganfyddwch fwy am Eich hawl i brynu eich cartrefYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Pa ostyngiad allech chi ei gael?
Mae'r gostyngiad uchaf yn wahanol ym mhob ardal, felly gwiriwch yr hyn a gynigir lle rydych chi'n byw bob amser.
| Rhanbarth | Gostyngiad uchaf |
|---|---|
|
Gogledd Orllewin |
£22,000 |
|
Gogledd Ddwyrain |
£26,000 |
|
Sir Efrog a’r Humber |
£24,000 |
|
Canolbarth Gorllewinol |
£24,000 |
|
Canolbarth Dwyreiniol |
£26,000 |
|
Dwyreiniol |
£34,000 Heblaw am ardal Watford (£16,000) |
|
De Ddwyrain |
£38,000 Heblaw am yr ardaloedd Cyngor Bwrdeistref Reading a Chyngot West Berkshire, yr ardal o Hart, Oxford a Vale of the White Horse a bwrdeistrefi Tonbridge a Malling, Epsom ac Ewell a Reigate a Banstead (£16,000) |
|
De Orllewin |
£30,000 |
|
Llundain |
£16,000 Heblaw am Fwrdeistrefi Llundain Barking a Dagenham a Havering (£38,000) |
Cymhwysedd ar gyfer y gostyngiad Hawl i Brynu mwyaf
Mae'r gostyngiad y gallwch ei gael yn dibynnu ar ba mor hir yr ydych wedi bod yn byw mewn tŷ cymdeithasol. Po hiraf y buoch yn denant, y mwyaf yw'r gostyngiad sydd ar gael, hyd at yr uchafswm a nodir uchod.
Mae lefel y gostyngiad yn wahanol ar gyfer tai a fflatiau, ond ar gyfer y ddau rydych yn gymwys ar ôl 3 blynedd o fod yn denant cyngor neu gymdeithas tai.
Darganfyddwch pa ostyngiad y gallech ei gael ar GOV.UK.
Os gwnaethoch gais am Hawl i Brynu cyn 20 Tachwedd 2024
Gostyngwyd y gostyngiad Hawl i Brynu ar 21 Tachwedd 2024. Ond os gwnaethoch gais cyn neu ar 20 Tachwedd 2024 ar neu, byddwch yn dal yn gymwys i gael y gostyngiad uchaf uwch o £102,400, neu £136,400 yn Llundain.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â'ch landlord i wirio.
Sut mae Hawl i Brynu yn gweithio?
Gallwch wneud cais os:
- rydych wedi bod yn denant y cyngor neu'r sector cyhoeddus am dair blynedd i gyd (nid oes rhaid i’r blynyddoedd fod yn olynol)
- Bydd y cartref rydych chi am ei brynu yn cael ei ddefnyddio fel eich prif gartref
- dydych chi ddim yn rhannu ystafelloedd gyda phobl eraill - hynny yw, mae'r eiddo yn hunangynhwysol
- eich landlord yw'r cyngor, cymdeithas dai, ymddiriedolaeth GIG neu landlord sector cyhoeddus arall.
Hefyd:
- Gallwch wneud cais am Hawl i Brynu gyda rhywun arall sy’n rhannu’r denantiaeth gyda chi; neu gyda hyd at 3 aelod o’ch teulu os buoch yn byw gyda’ch gilydd ers o leiaf y 12 mis diwethaf.
- Os gwerthodd y cyngor eich cartref i landlord sector cyhoeddus arall tra yr oeddech yn byw yno, gall yr hawl fod gennych o hyd i’w brynu dan ‘Hawl i Brynu a Gadwyd’.
Pryd nad oes gennych Hawl i Brynu?
- os ydych mewn perygl o gael eich troi allan, yn fethdalwr neu os oes gennych ddyledion mawr
- os yw'ch cartref wedi'i gadw ar gyfer pobl hŷn neu anabl
- pan fydd prinder tai
- os oes gennych unrhyw faterion ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd heb ei chlirio.
Sut ydw i’n dechrau’r cynllun?
Gofynnwch i'ch landlord am ffurflen Hawl i Brynu neu lawrlwythwch ffurflen Hawl i Brynu - prynu eich cartref cyngor ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd. Ar ôl i chi ei bostio, rhaid i'ch landlord ymateb o fewn 4 wythnos, neu 8 wythnos os ydynt wedi bod yn landlord i chi am lai na 3 blynedd.
Os mai na yw'r ateb, rhaid iddynt ddweud pam, ac os mai'r ateb yw ie, byddant yn anfon cynnig atoch. Rhaid iddyn nhw anfon y cynnig hwnnw o fewn 8 wythnos o ddweud ie os ydych yn prynu eiddo rhydd-ddaliad, neu 12 wythnos os ydych yn prynu eiddo lesddaliad.
Os nad ydych chi'n siŵr pa fath o eiddo rydych chi'n byw ynddo, gweler Cymhareb lesddaliad o gymharu â rhydd-ddaliad: beth yw’r gwahaniaeth?
Defnyddiwch y darganfyddwr cyngor GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd i ddod o hyd i wefan eich cyngor
Faint fydd yn costio i brynu’r eiddo?
Bydd eich landlord yn enwi ei bris ac yn esbonio'r disgownt.
Os nad ydych yn credu ei fod yn deg, gallwch ofyn am brisiad gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio annibynnol gan Gyllid a Thollau Ei FawrhydiYn agor mewn ffenestr newydd
- Bydd cynnig y landlord yn cynnwys disgrifiad o'r eiddo ac unrhyw dir, manylion unrhyw broblemau strwythurol ac amcangyfrifiad o'r tâl gwasanaeth (os oes un) am y pum mlynedd gyntaf.
- Rhaid i'r landlord ddweud wrthych a oes cyfyngiadau ar i bwy y gallwch werthu'ch cartref iddo yn hwyrach ymlaen. Gall hyn ei gwneud hi'n anoddach cael morgais.
- Mae gennych 12 wythnos i benderfynu a ddylech fynd ymlaen.
A gaf newid fy meddwl?
Cewch, gallwch dynnu allan o'r gwerthiant a pharhau i rentu ar unrhyw adeg.
Codi’r arian
Mae'r rhan fwyaf o brynwyr angen morgais i dalu am eu cartref.
Gallwch wneud cais am forgais gan fanc neu gymdeithas adeiladu a bydd y benthyciwr yn gwirio y gallwch fforddio talu'r ad-daliadau. Mae eich gostyngiad Hawl i Brynu yn cyfrif fel eich blaendal, felly ni fydd angen i chi ddod o hyd i arian ychwanegol ar gyfer hynny.
Gweler ein canllaw ar Prynu cartref - pa forgais alla i ei fforddio?
Cyn i chi symud ymlaen, gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o arian i dalu am ffioedd a chostau eraill y bydd angen i chi eu talu wrth brynu eich cartref.
Gall aelod o'r teulu eich helpu i ariannu hyn, ond rhaid i'r berchnogaeth morgais ac eiddo fod yn eich enw chi, fel y person sy'n gwneud cais am yr hawl i brynu.
Bydd angen i chi hefyd ystyried a fyddwch yn gallu cadw taliadau i fyny os bydd cyfraddau llog yn codi – felly gweler ein canllaw Deall morgeisi a chyfraddau llog.
Gall ein cyfrifiannell ad-dalu morgais eich helpu i gyfrifo beth allai gostio i chi.
Beth yw Hawl i Gaffael? (Lloegr)
Mae Hawl i Gaffael yn gynllun a gynigir yn Lloegr ar gyfer tenantiaid cymdeithasau tai nad ydynt yn gymwys i gael Hawl i Brynu.
- Mae'n rhaid eich bod wedi bod yn denant am dair blynedd ac yn prynu eich eiddo i'w ddefnyddio fel eich prif gartref.
- Ni allwch ymuno â'r cynllun os ydych mewn perygl o gael eich troi allan, yn fethdalwr neu os oes gennych unrhyw ddyledion mawr.
- Os yw eiddo i fod i gael ei ddymchwel, neu os cânt eu darparu ar gyfer yr henoed, anabl neu'r rhai sydd mewn swyddi penodol, nid ydynt yn gymwys.
- Mae gostyngiadau yn is nag o dan Hawl i Brynu ac fel arfer maent yn amrywio o £9,000 i £16,000. Ewch i GOV.UK i wirio gostyngiadau Hawl i Gaffael yn ôl lleoliadYn agor mewn ffenestr newydd
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, rhaid i'ch landlord fod yn gymdeithas taiYn agor mewn ffenestr newydd neu ar y gofrestr darparwyr tai cymdeithasolYn agor mewn ffenestr newydd
Mae'n rhaid bod eich cartref wedi cael ei adeiladu gydag arian cyhoeddus neu wedi ei drosglwyddo o gyngor lleol ar ôl 1 Ebrill 1997.
Rhagor o wybodaeth
Cynllun gwerthu tai yng Ngogledd Iwerddon
Dim ond ar gael i denantiaid y Weithrediaeth Tai mae’r cynllun hwn- nid yw bellach yn berthnasol i denantiaid mewn cymdeithasau tai cofrestredig.
Unwaith y byddwch wedi bod yn denant i'r Weithrediaeth Tai am bum mlynedd (neu mai eich partner neu'ch rhiant oedd y tenant cyn hynny), efallai y byddwch yn gallu prynu'ch cartref. Mae faint o ostyngiad y byddwch yn ei gael yn cynyddu sy’n ddibynnol ar ba mor hir rydych wedi byw yn yr eiddo. Ni ellir prynu rhai mathau o eiddo oherwydd eu bod yn anodd ei darganfod a bod eu hangen ar gyfer stoc tai cymdeithasol.
Y gostyngiad mwyaf sydd ar gael i denantiaid Gweithrediaeth Tai sy'n gwneud cais i brynu eu cartref yw £24,000. 20% bydd eich gostyngiad os ydych wedi byw yn yr eiddo am o leiaf pump mlynedd. Byddwch yn cael gostyngiad ychwanegol o 2% am bob blwyddyn ychwanegol, hyd at uchafswm disgownt o 60% o'r prisiad neu £24,000 (pa un bynnag yw'r isaf).