Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Esbonio pensiynau

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Esbonio pensiynau Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Problemau ariannol
  3. Help gyda chostau byw
Problemau ariannol Help gyda chostau byw

Diswyddo a cholli’ch swydd 

Os ydych mewn perygl o gael eich diswyddo neu wedi colli eich swydd yn ddiweddar, gallwn eich helpu i ddeall eich hawliau cyflogaeth a thâl diswyddo. Hefyd, sut i reoli eich arian a gwirio a ydych yn gymwys ar gyfer unrhyw daliadau budd-dal.

Menyw ifanc yn eistedd gan wenu

Gwybod eich hawliau cyflogaeth a sut i gael help

Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael tâl diswyddo

Deall pa fudd-daliadau y gallech eu hawlio

Beth i’w wneud ar ôl i’ch swydd ddod i ben

Gwybod eich hawliau cyflogaeth a sut i gael cymorth

Os ydych yn wynebu colli swydd, rhaid i’ch cyflogwr eich trin yn deg. Mae’n bwysig deall ble rydych yn y broses, gwirio goblygiadau unrhyw ddewisiadau eraill a gynigir i chi a ble i gael cyngor cyflogaeth os oes ei angen arnoch.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Gwiriwch eich statws cyflogaeth

Mae p’un a ydych yn gymwys i gael tâl diswyddo yn dibynnu ar eich statws cyflogaeth. Fel arfer, os ydych yn weithiwr, mae gennych hawl i dâl diswyddo statudol os ydych wedi gweithio i’ch cyflogwr am ddwy flynedd neu fwy.

Ond os ydych yn weithiwr asiantaeth neu’n gweithio yn yr economi gig, yn benodol contract oriau sero, gall fod yn anoddach diffinio'ch statws cyflogaeth.  Er enghraifft, efallai y bydd eich cyflogwr yn dweud eich bod yn hunangyflogedig ac nad oes gennych hawl i dâl diswyddo, pan ydych yn weithiwr mewn gwirionedd.

Os nad ydych yn siŵr am eich statws, mae’n bwysig ei wirio a gwneud yn siŵr nad ydych yn colli allan ar dâl diswyddo.

Darganfyddwch fwy am dâl colli swydd cytundebol a thâl colli swydd statudolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Cyngor ar Bopeth.

Gwiriwch eich statws cyflogaeth yn ein canllaw Gwahanol fathau o statws cyflogaeth
Gwiriwch fod y broses ddiswyddo yn deg

Os dywedir wrthych eich bod mewn perygl o golli swydd, y peth cyntaf i'w wneud yw gwirio bod eich cyflogwr yn dilyn y broses yn deg.

Rhaid i’ch cyflogwr yn gyfreithiol roi cyfnod rhybudd statudol i chi cyn gofyn i chi adael y cwmni. Ni chaniateir iddynt wahaniaethu wrth ddewis pwy i ddiswyddo.

Rhaid i’ch cyflogwr bob amser:

  • ymgynghori â chi i weld a oes ffyrdd o osgoi diswyddo
  • ysgrifennu atoch ynghylch eich hawl i dâl diswyddo statudol
  • rhoi’r cyfle i chi apelio yn erbyn y penderfyniad, ac
  • ystyried unrhyw gyflogaeth amgen addas.

Efallai y byddai’n werth gofyn a allwch fynd â chydweithiwr gyda chi i unrhyw ymgynghoriadau diswyddo, megis cynrychiolydd undeb llafur neu staff. Nid oes gennych hawl cyfreithiol i ddod â rhywun gyda chi yn ystod y cyfarfodydd hyn, ond dylai llawer o gyflogwyr ei ganiatáu.

Ystyriwch ddewisiadau amgen addas

Yn lle colli swydd, efallai y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi:

  • leihau nifer y dyddiau neu oriau yr ydych yn eu gweithio bob wythnos (a elwir yn waith amser byr)
  • cymryd diwrnodau cyfan i ffwrdd (a elwir yn seibiant)
  • gwneud swydd wahanol yn gyfan gwbl, neu
  • newid eich contract.

Beth bynnag yw’r cynnig, mae’n werth ystyried a chael cyngor gan eich undeb llafur neu gynrychiolydd gweithwyr cyn penderfynu. Os nad oes gennych un, gallwch drafod eich opsiynau gyda chynghorydd yn eich Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd, AcasYn agor mewn ffenestr newydd, neu Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA)Yn agor mewn ffenestr newydd yng Ngogledd Iwerddon.

Os cynigir ymddeoliad cynnar i chi a’ch bod yn penderfynu ei gymryd, ni fydd gennych unrhyw hawliau diswyddo ac ni fyddwch yn derbyn unrhyw dâl diswyddo.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ymddeoliad cynnar
Darganfyddwch beth i’w wneud os ydych yn meddwl eich bod yn cael eich diswyddo’n annheg

Efallai y bydd gennych achos dros ddiswyddo annheg os credwch fod eich cyflogwr:

  • heb ddilyn proses deg
  • wedi gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail: oedran, hil, rhyw, rhywioldeb neu nodweddion gwarchodedig eraill
  • Efallai y bydd gennych achos dros ddiswyddo annheg awtomatig os ydych yn meddwl bod eich cyflogwr yn gadael i chi fynd am unrhyw un o’r rhesymau hyn:
  • beichiogrwydd neu famolaeth
  • rhesymau teuluol, gan gynnwys cymryd absenoldeb rhiant neu ofalu am ddibynyddion
  • perthyn i undeb llafur neu weithredu fel cynrychiolydd staff
  • chwythu’r chwiban ar arferion gwael neu faterion iechyd a diogelwch
  • gweithio’n rhan-amser neu ar gontract cyfnod penodol
  • oherwydd eich bod wedi gofyn am weithio hyblyg
  • oherwydd eich bod wedi codi pryderon am hawliau cyflogaeth statudol, gan gynnwys tâl, oriau gwaith neu wyliau blynyddol

Cewch gyngor cyfrinachol a diduedd am ddim gan wasanaethau cynghori yn y gweithle AcasYn agor mewn ffenestr newydd neu, yng Ngogledd Iwerddon, yr Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA)Yn agor mewn ffenestr newydd

Darganfyddwch fwy a yw’ch diswyddo yn annheg yn ein canllaw Diswyddo annheg a diswyddo
Cewch gyngor cyfrinachol, diduedd ac am ddim

Weithiau, nid yw’n hawdd nac yn bosibl siarad â rhywun am ddiswyddo neu golli swydd, yn enwedig os nad oes gan eich gweithle adran Adnoddau Dynol neu os ydych yn amau ​​eich bod yn cael eich diswyddo’n annheg.

Os na allwch siarad â’ch cyflogwr, undeb neu gynrychiolydd staff, mae gwasanaeth cyngor yn y gweithle Acas yn cynnig cyngor arbenigol ar bob mater hawliau cyflogaeth yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Gallwch hefyd ddefnyddio AdvicelocalYn agor mewn ffenestr newydd i ddod o hyd i gyngor cyflogaeth yn eich ardal.

Ffoniwch Linell Gymorth Acas ar 0300 123 1100Yn agor mewn ffenestr newydd neu ymwelwch â gwefan AcasYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch Linell Gymorth yr Asiantaeth Cysylltiadau Llafur ar 0330 055 5300Yn agor mewn ffenestr newydd neu ymwelwch â gwefan yr Asiantaeth Cysylltiadau LlafurYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch pa mor hir yw eich cyfnod rhybudd

Gwiriwch eich contract i weld hyd eich cyfnod rhybudd – faint o amser rhwng pan fydd eich cyflogwr yn dweud wrthych y byddwch yn colli eich swydd a’ch diwrnod gwaith olaf. Os yw eich contract cyflogaeth yn rhoi’r hawl i chi gael cyfnod rhybudd hirach na’r swm statudol, rhaid i’ch cyflogwr roi hwn i chi.

Mae gennych hawl i isafswm cyfnod rhybudd statudol o:

  • o leiaf wythnos o rybudd os ydych wedi cael eich cyflogi rhwng mis a dwy flynedd
  • wythnos o rybudd am bob blwyddyn os ydych wedi cael eich cyflogi rhwng dwy a 12 mlynedd, neu
  • 12 wythnos o rybudd os ydych wedi cael eich cyflogi am 12 mlynedd neu fwy.
Rhestr wirio ar gyfer eich diwrnod olaf

Cyn i chi adael y cwmni, gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn y canlynol:

  • unrhyw dâl diswyddo, cyflog, tâl gwyliau ac arian arall sy’n ddyledus i chi
  • datganiad ysgrifenedig yn dangos sut y cyfrifwyd eich tâl diswyddo
  • llythyr yn nodi dyddiad eich diswyddo
  • geirda swydd gan eich cyflogwr, ac
  • eich ffurflen dreth P45 (i’w rhoi i’ch cyflogwr newydd fel eich bod yn cael eich trethu’n gywir), a manylion eich pensiwn.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys ar gyfer tâl diswyddo

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael tâl diswyddo

Efallai y bydd gennych hawl i dâl diswyddo statudol os ydych wedi gweithio’n barhaus i’ch cyflogwr am o leiaf dwy flynedd. Os ydych yn gweithio’n achlysurol, neu’n weithiwr asiantaeth neu dros dro, mae’n debyg na fyddwch yn gymwys i gael tâl diswyddo.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Deall beth sy’n rhan o daliad diswyddo statudol

Mae faint y mae gennych hawl iddo yn dibynnu ar ba mor hir rydych wedi bod yn y swydd, eich oedran ym mhob blwyddyn y buoch yn gweithio yno a’ch cyflog presennol.

Byddwch yn cael:

  • hanner wythnos o dâl am bob blwyddyn lawn yr oeddech o dan 22 oed
  • wythnos o dâl am bob blwyddyn lawn yr oeddech yn 22 oed neu’n hŷn, ond o dan 41 oed
  • wythnos a hanner o dâl am bob blwyddyn lawn yr oeddech yn 41 oed neu’n hŷn.

Yn anffodus, ni fydd gennych hawl i daliad statudol os ydych wedi bod yn gweithio i’ch cyflogwr am lai na dwy flynedd neu os yw eich statws cyflogaeth yn golygu nad ydych yn gymwys i gael un. Fodd bynnag, efallai y bydd gennych hawl i ddiswyddiad cytundebol.

Darganfyddwch fwy am eich statws a hawliau cyflogaeth yn ein canllaw Gwahanol fathau o statws cyflogaeth
Gwiriwch eich contract cyflogaeth neu lawlyfr staff

Tâl diswyddo statudol yw’r isafswm cyfreithiol. Ni all eich cyflogwr dalu llai na hyn i chi.

Ond efallai y bydd yn rhaid iddynt dalu mwy i chi os yw eich contract cyflogaeth yn dweud hynny. Gelwir hyn yn ‘dâl diswyddo cytundebol’.

Gallai hyn olygu cyfandaliad mwy neu gael taliad, hyd yn oed os ydych wedi gweithio yno am lai na dwy flynedd.

Os nad oes unrhyw sôn am ddiswyddo yn eich contract neu’ch llawlyfr staff, gallwch dybio y byddwch yn cael y lleiafswm cyfreithiol.

Cyfrifwch eich tâl diswyddo gan ddefnyddio ein cyfrifiannell

Efallai y byddwch yn derbyn cyfandaliadau eraill yn eich pecyn cyflog terfynol pan fyddwch yn colli eich swydd.

Os ydy'r rhain yn ddyledus i chi o dan eich contract cyflogaeth (yn hytrach nag fel iawndal am golli’ch swydd), byddant yn cael eu trethu yn yr un modd â’ch cyflog arferol.

Gall taliadau gynnwys unrhyw un o’r canlynol:

  • cyflogau a thaliadau bonws
  • talu yn lle rhybudd (PILON)
  • tâl gwyliau.

Defnyddiwch ein Cyfrifiannell tâl diswyddo

Caiff y cyngor ei deilwra i'ch sefyllfa, p'un a’ch bod wedi cael eich diswyddo'n ddiweddar neu'n meddwl bod siawns o gael eich diswyddo. Bydd ein Cyfrifiannell tâl diswyddoYn agor mewn ffenestr newydd yn eich helpu i ddeall eich hawliau a chymryd rheolaeth o'ch arian.

Gwiriwch a fydd yn rhaid i chi dalu treth ar eich tâl diswyddo

Nid ydych yn talu treth neu Yswiriant Gwladol ar unrhyw dâl diswyddo hyd at £30,000. Os byddwch yn cael mwy na £30,000, bydd yn rhaid i chi dalu treth ar eich cyfradd uchaf ar y swm dros £30,000. Efallai y gallwch wrthbwyso unrhyw ofyniad treth gan dalu i mewn i’ch pensiwn.

Os ydych yn cael unrhyw fuddion heb fod yn arian parod fel rhan o’ch pecyn diswyddo, fel car cwmni neu gyfrifiadur, bydd hyn yn cael ei gyfrifo fel gwerth arian parod a'i ychwanegu at eich tâl diswyddo at ddibenion treth.

Bydd yn rhaid i chi dalu treth ar unrhyw dâl a gewch yn lle rhybudd (PILON). Chi sy’n gyfrifol am sicrhau eich bod wedi talu’r swm cywir o dreth.

Gweler ein canllaw Oes rhaid i chi dalu treth ar eich tâl diswyddo?
Beth i’w wneud os na all eich cyflogwr eich talu

Os yw’ch cyflogwr wedi mynd i’r wal neu’n dweud wrthych na allant fforddio eich talu, bydd Gwasanaeth Taliadau Diswyddo’r llywodraeth yn talu’r swm statudol i chi yn lle hynny.

Dylai’r cwmni ansolfedd sy’n delio â’ch cyflogwr roi ffurflen RP1 i chi i wneud cais.

Mae'n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud cais am unrhyw fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt oherwydd pan fydd y Gwasanaeth Ansolfedd yn cyfrifo’ch taliad byddant yn didynnu unrhyw Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol yr ydych yn gymwys i’w gael, p’un a ydych yn hawlio’r budd-daliadau hyn ai peidio.

Dechreuwch eich cais am daliadau diswyddoYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan GOV.UK
Cysylltwch â’r Gwasanaeth AnsolfeddYn agor mewn ffenestr newydd os na all eich cyflogwr dalu eich taliad diswyddo statudol oherwydd ei fod yn fethdalwr ar 0300 123 1100Yn agor mewn ffenestr newydd

Darganfyddwch pa fudd-daliadau sydd ar gael i chi os ydych wedi colli eich swydd

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Deall pa fudd-daliadau y gallech wneud cais amdanynt

Efallai y gallwch wneud cais am fudd-daliadau tra byddwch yn chwilio am swydd newydd i helpu gyda’ch costau tai a byw. Peidiwch ag oedi cyn gwneud cais amdanynt oherwydd byddwch hefyd yn cael credydau Yswiriant Gwladol i ddiogelu eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Gwnewch gais cyn gynted ag y gallwch

Gall gymryd mwy o amser nag y credwch i ddychwelyd i’r gwaith, felly mae bob amser yn werth gwirio pa Fudd-daliadau y gallech wneud cais amdanynt.

Dim ond am gyfnod cyfyngedig y gellir ôl-ddyddio budd-daliadau ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros ychydig wythnosau am eich taliad cyntaf ar ôl i chi wneud cais, felly mae’n well gwneud cais yn gynnar os ydych yn gymwys.

Gallwch bob amser ganslo’ch cais os byddwch yn cael swydd arall.

Defnyddio ein cyfrifiannell budd-daliadau

Os ydych chi’n byw ar incwm isel neu wedi cael sioc incwm, defnyddiwch ein cyfrifiannell Budd-daliadau i ddarganfod yn gyflym beth y gallech fod â hawl iddo.

Gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) dull Newydd

Os ydych wedi colli eich swydd, y prif fudd-dal y gallwch wneud cais amdano yw JSA dull newydd. Gall y rhan fwyaf o bobl ei hawlio os ydych wedi gwneud digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) Dosbarth 1 yn y ddwy flynedd dreth lawn ddiwethaf ac os ydych yn gymwys, nid yw’n amodol ar brawf modd, felly gallwch ei hawlio waeth beth fo incwm neu gynilion eich cartref.

Gallwch gael JSA am hyd at chwe mis a bydd yn cael ei dalu i mewn i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd bob pythefnos.

I fod yn gymwys, rhaid i chi fod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar gael i weithio ac wrthi'n chwilio am waith.

Os yw incwm eich cartref yn isel a bod gennych neu’ch partner gynilion o lai na £16,000, efallai y gallwch hawlio Credyd Cynhwysol yn ogystal â JSA i helpu gyda chostau eraill, fel tai a magu plant.

Darganfyddwch eich Canolfan Byd Gwaith agosafYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol

Gall Credyd Cynhwysol helpu gyda chostau byw sylfaenol, gan gynnwys rhent a magu plant.

Mae’n seiliedig ar incwm y cartref, felly os ydych yn byw gyda rhywun fel cwpl, bydd eu hincwm yn effeithio ar faint y byddwch yn ei gael.

Gallai eich taliad diswyddo effeithio ar faint a gewch ac os oes gan y naill neu’r llall ohonoch gynilion dros £16,000, ni fyddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.

Mae Credyd Cynhwysol wedi disodli chwe budd-dal arall, gan gynnwys credydau treth. Felly os gwnaethoch chi (neu’ch partner) hawlio’r budd-daliadau hynny, bydd angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes.

Mae ein canllaw printiedig am ddim Paratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol yng Nghymru a LloegrYn agor mewn ffenestr newydd yn dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am baratoi eich cais
Cael help gyda chostau tai

Os ydych yn rhentu:

  • efallai y gallwch wneud cais am elfen tai Credyd Cynhwysol os yw incwm a chynilion eich cartref yn isel iawn, neu
  • gwnewch gais am Daliad Tai Dewisol gan eich cyngor lleol i ychwanegu at daliadau.

Os oes gennych forgais:

  • gwiriwch a oes gennych yswiriant diogelu taliadau morgais neu incwm
  • darganfyddwch a oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol, Cymorth ar gyfer Llog Morgais a Thaliadau Tai Dewisol.
Darganfyddwch fwy ein canllawiau:
  • Help gyda chodiadau rhent, ôl-ddyledion ac osydych yn cael trafferth talu
  • Help gyda thaliadau morgais
Gweld a ydych yn gymwys am Ostyngiad Treth Cyngor

Os yw eich incwm yn isel iawn ac nad oes gennych fawr ddim cynilion, os o gwbl, efallai y bydd eich cyngor yn cytuno i ostwng eich bil Treth Cyngor. Mae faint fydd y gostyngiad yn dibynnu ar eich cynllun lleol a gall ddibynnu a ydych yn cael budd-daliadau yn ymwneud ag incwm, fel Credyd Cynhwysol. Ni fydd y rhan fwyaf o gynghorau yn ôl-ddyddio taliadau.

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith am y tro cyntaf, gwnewch gais am ostyngiad cyn gynted ag y byddwch wedi gwneud eich cais.

Os ydych yn byw ar eich pen eich hun, mae gennych hawl hefyd i ostyngiad person sengl.

Gwnewch gais am Ostyngiad Treth CyngorYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan GOV.UK
Cymorth os ydych yn chwilio am Waith

Efallai gallwch ddefnyddio’r Gronfa Cymorth Hyblyg i helpu gyda chost teithio i gyfweliadau a hyfforddiant neu gyda chostau ychwanegol gallech wynebu yn y misoedd cyntaf o ddechrau swydd newydd.

Gallwch hefyd wneud cais i dalu am gostau ymlaen llaw os oes angen i chi gadarnhau lle gofal plant. Gofynnwch i’ch anogwr gwaith os ydych yn gymwys.

Pan rydych wedi bod yn hawlio rhai budd-daliadau – gan gynnwys Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol – am dri mis, mae gennych hawl i Gerdyn Gostyngiadau Teithio y Ganolfan Byd Gwaith.

Gallwch gael tocynnau trên hanner pris a gostyngiadau ar wasanaethau bws penodol am chwe mis (18-24-mlwydd-oed) neu naw mis (dros-25).

Gallech wneud cais am Gerdyn Gostyngiadau Teithio y Ganolfan Byd Gwaith yn eich Canolfan Byd Gwaith lleol.

Darganfyddwch fwy am gymorth i helpu gyda chost cludiantYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Darganfyddwch fwy am beth i’w wneud ar ôl i’ch swydd ddod i ben

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Beth i’w wneud ar ôl i’ch swydd ddod i ben

Gall colli eich swydd fod yn straen ond mae’n bwysig nad ydych yn gadael i hyn eich rhwystro rhag symud ymlaen i swydd arall neu newid gyrfa. Bydd angen i chi hefyd benderfynu beth i’w wneud â’ch pensiwn neu unrhyw gyfandaliadau.

Dilynwch y camau hyn i weithio allan beth sydd angen i chi ei wneud

Diweddarwch eich CV

Eich CV yw’r cyfle cyntaf a gewch i greu argraff ar gyflogwr newydd, felly mae angen i chi sicrhau ei fod yn dangos y gorau o’ch galluoedd a’ch cyflawniadau.

Siaradwch â'ch anogwr gwaith am gymorth lleol i’ch helpu i ysgrifennu CV yn eich Canolfan Gwaith.

Eisiau creu CV sy’n creu argraff a sy’n cael cyfweliad i chi?

  • Os ydych yn byw yn Lloegr, ewch i wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd CenedlaetholYn agor mewn ffenestr newydd
  • Os ydych yn byw yng Nghymru, ewch i Yrfa CymruYn agor mewn ffenestr newydd
  • Os ydych yn byw yn Yr Alban, ewch i Skills DevelopmentYn agor mewn ffenestr newydd
  • Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i nidirect.gov.ukYn agor mewn ffenestr newydd
Sicrhewch gefnogaeth y llywodraeth i'ch helpu i ddod o hyd i waith

Mae gan y Ganolfan Byd Gwaith gronfa ddata fwyaf y DU o swyddi gwag (a elwir yn Find A Job neu Jobcentre Online NI yng Ngogledd Iwerddon).

Gallant hefyd eich helpu i wneud cais am swyddi, llenwi ffurflenni cais a pharatoi ar gyfer cyfweliadau. Gall y Ganolfan Byd Gwaith hefyd gynnig cymorth ychwanegol i'ch helpu ddychwelyd i'r gwaith.

Cefnogaeth os ydych yn chwilio am waith

Efallai y gallwch ddefnyddio’r Gronfa Cymorth Hyblyg i helpu gyda chostau teithio i gyfweliadau a hyfforddiant neu gyda chostau ychwanegol a allai fod gennych yn ystod y misoedd cyntaf ar ôl dechrau swydd newydd.

Gallwch hefyd wneud cais i dalu costau ymlaen llaw os oes angen i chi sicrhau lle gofal plant. Gofynnwch i'ch anogwr gwaith a ydych yn gymwys.

Pan fyddwch wedi bod yn hawlio budd-daliadau penodol – gan gynnwys Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol – am dri mis, mae gennych hawl i Gerdyn Gostyngiad Teithio y Ganolfan Byd Gwaith.

Gallwch brynu tocynnau trên hanner pris a gostyngiadau ar wasanaethau bws a ddewiswyd am chwe mis (18-24-oed) neu naw mis (dros 25-oed).

Darganfyddwch fwy am gymorth i helpu gyda chost cludiantYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Penderfynwch beth i’w wneud gyda’ch pensiwn

Os oes gennych bensiwn, fel arfer mae’n rhaid i chi wneud un o’r canlynol:

  • Gadael eich pensiwn gyda’ch cyflogwr a phan fyddwch yn ymddeol byddwch yn derbyn incwm ymddeoliad o’r cynllun hwnnw. Dyma’r opsiwn gorau fel arfer os ydych yn perthyn i gynllun buddion wedi'u diffinio.
  • Trosglwyddwch eich cronfa bensiwn. Gallai hyn fod i gynllun cyflogwr newydd pan fyddwch yn dod o hyd i swydd newydd, os bydd y cynllun newydd yn caniatáu hyn, neu i’ch pensiwn personol eich hun.
Cyn i chi wneud penderfyniad am eich pensiwn darllenwch ein canllaw Beth fydd yn digwydd i'm pensiwn os byddaf yn gadael swydd neu'n optio allan?
Gwnewch y mwyaf o’ch tâl diswyddo

Efallai eich bod wedi cael cyfandaliad diswyddo. Tra’ch bod yn penderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio’r arian, dyma rai pethau y gallech fod am eu hystyried.

Ychwanegu at eich incwm nes i chi gael swydd newydd

Defnyddiwch ein Cynllunydd cyllideb i gyfrifo faint fydd ei angen arnoch bob wythnos neu fis, a pha mor hir y gallwch wneud i’r arian para

Cliriwch ddyledion os bydd hyn yn dod â gwariant i lawr i lefel haws ei rheoli

Anelwch at glirio unrhyw ddyledion â blaenoriaeth cyn gynted â phosibl. Gwiriwch a oes unrhyw gosbau ad-dalu cynnar ar ddyledion yr ydych yn ystyried eu had-dalu’n llawn. Byddwch yn ymwybodol y gallai ad-dalu dyledion effeithio ar unrhyw gais am fudd-daliadau’r wladwriaeth sy’n dibynnu ar brawf modd os nad oedd yn rhaid i chi ad-dalu’r dyledion a’ch bod wedi gwneud hynny’n rhannol o leiaf i gynyddu eich budd-daliadau drwy leihau eich cynilion.

Sefydlu cynilion brys

Mae cael rhai cynilion brys yn ffordd wych o baratoi am gostau annisgwyl. Ystyriwch roi eich cyfandaliad mewn cyfrif mynediad hawdd neu gyfrif cyfredol sy’n talu llog. Rhowch hwb i'ch cynilion pensiwn

Byddwch yn cael gostyngiad treth ar y swm rydych yn talu i mewn i gynllun pensiwn hyd at derfynau penodol.

Darganfyddwch fwy ein canllawiau:
  • Gwneud y gorau o’ch tâl diswyddo
  • Y llawlyfr dileu swyddi Yn agor mewn ffenestr newydd

Oedd y wybodaeth yma yn ddefnyddiol?

Diolch am eich adborth.

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Nol i’r brig

Ydych chi wedi methu taliad?

Eicon biliau ac ebychnod mewn triongl rhybudd melyn

Os felly, nawr yw’r amser i gael cyngor ar ddyledion

  • Mae am ddim ac yn gyfrinachol

  • Yn rhoi gwell ffyrdd i chi reoli eich dyledion a’ch arian

  • Yn sicrhau eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau a hawliadau cywir

Darganfyddwch fwy am gyngor ar ddyled
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma

Efallai bydd gennych ddiddordeb mewn...

Blaenoriaethwr biliau: cael help gyda’ch biliau
Os na allwch dalu eich treth cyngor, morgais neu filiau cyfleustodau, mae’n bwysig cael help i osgoi canlyniadau difrifol. Darganfyddwch pa opsiyn...
Cefnogaeth os ydych yn hunangyflogedig
P'un a ydych chi'n newydd i weithio i chi'ch hun neu wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd, mae'n bwysig cael y wybodaeth ddiweddaraf am y budd-dal...
Byw ar incwm gwasgedig
Os ydych yn poeni am gostau byw cynyddol, darganfyddwch ffyrdd o wneud i'ch incwm fynd ymhellach. Dysgwch sut i gyllidebu, cwtogi ar gostau a gwel...
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2025 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn
I gael yr ateb cyflymaf, defnyddiwch ein llinell gymorth neu we-sgwrs. Rydym ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • English: 0800 138 7777
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd difrifol ac mae angen yswiriant teithio arnoch.
Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni am help i ddelio â dyled.
Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni os ydych chi'n poeni am dwyll neu sgamiau ac angen arweiniad arbenigol.
Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn, ond gall hyn gymryd dros bum niwrnod gwaith. I gael ateb cyflymach, defnyddiwch ein gwe-sgwrs rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.

Blaenorol Cau