Rydym eisiau i apwyntiadau Pension Wise fod yn hawdd i bawb gael mynediad iddynt. Dyma'r addasiadau y gallwn eu gwneud a sut i ofyn amdanynt.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Apwyntiadau ar-lein
Mae apwyntiad Pension Wise ar-lein yn gadael i chi:
- archwilio eich opsiynau pensiwn ar eich cyflymder eich hun
- cychwyn a stopio unrhyw bryd – gallwch arbed a dychwelyd pryd bynnag y dymunwch
- cael camau nesaf personol ar y diwedd.
Gallwch ofyn cwestiynau i'n harbenigwyr pensiwn drwy ddefnyddio'r gwe-sgwrs unrhyw bryd. Byddwn yn ateb rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Os ydych yn cael anhawster defnyddio cyfrifiadur, gallech ofyn i rywun arall eich helpu neu i gwblhau'r apwyntiad ar eich rhan.
Addasiadau apwyntiadau ffôn a fideo
Mae apwyntiadau Pension Wise fel arfer hyd at 60 munud o hyd ar ddyddiad ac amser a drefnwyd.
Wrth drefnu, gallwch ofyn am:
- apwyntiad hirach – gellir esbonio gwybodaeth yn arafach neu ei hailadrodd
- apwyntiad ar y cyd gyda pherson arall – gallwn esbonio opsiynau pensiwn y ddau ohonoch ar yr un pryd, gan bara hyd at ddwy awr fel arfer
- rhywun i fynychu’r apwyntiad gyda chi – gallwn ddefnyddio galwad cynadledda fel y gallant ymuno a darparu cefnogaeth, hyd yn oed os ydynt mewn lleoliad gwahanol i chi
- rhywun i fynychu'r apwyntiad ar eich rhan
- arbenigwr pensiynau sy'n siarad Cymraeg
- cyfieithydd.
Gallwch hefyd ofyn am rywbeth nad yw wedi’i restru – byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.
Sut i drefnu apwyntiad ffôn gydag addasiadau
I wneud cais am y rhan fwyaf o addasiadau, gallwch:
- drefnu apwyntiad ffôn ar-lein a llenwi’r blwch ‘gwybodaeth ychwanegol’
- trefnu dros y ffôn (9am i 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener) ar:
- 0800 138 3944 neu
- +44 20 3733 3495Yn agor mewn ffenestr newydd os ydych y tu allan i'r DU.
Rhaid i chi ffonio i drefnu os:
- rydych o dan 50 oed
- os hoffech i rywun gael yr apwyntiad ar eich rhan – gall y naill neu'r llall ohonoch ffonio i drefnu apwyntiad.
Ar gyfer apwyntiadau yn Gymraeg, gallwch ofyn am arbenigwr pensiynau sy’n siarad Cymraeg ar-lein.
Sut i drefnu apwyntiad fideo gydag addasiadau
Gallwch chi neu rywun arall drefnu apwyntiad fideo drwy ffonio:
- 0800 138 1585Yn agor mewn ffenestr newydd neu
- +44 20 3733 3495Yn agor mewn ffenestr newydd os ydych y tu fas i’r DU.
Rydym ar agor dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm (amser y DU). Ar gau ar wyliau banc.