Mae apwyntiad Pension Wise yn esbonio'ch opsiynau ar gyfer cymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio. Mae Pension Wise yn wasanaeth am ddim a gefnogir gan y llywodraeth
Gallwch ddechrau ar-lein ar unrhyw adeg neu archebu lle i siarad ag un o'n harbenigwyr pensiwn a chyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Yn ystod eich apwyntiad, byddwn yn esbonio sut mae pob opsiwn pensiwn yn gweithio, pa dreth y gallech ei dalu a sgamiau cyffredin i fod yn wyliadwrus ohono.
Gallwch gael apwyntiad os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’i diffinio yn y DU ac os ydych naill ai'n 50 neu'n hŷn neu o dan 50 oed ac yn cymryd eich pensiwn yn gynnar oherwydd salwch, neu wedi etifeddu pensiwn rhywun arall. Does dim ots pa mor fach yw’ch cronfa bensiwn.
Ddim yn siŵr a oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio? Darganfyddwch eich math o bensiwn gan ddefnyddio ein teclyn – fe welwch y ddolen ar y dudalen hon.
Mae dwy ffordd o gael apwyntiad Pension Wise gyda chyfieithydd BSL, sy'n para hyd at 90 munud. Gallwch ofyn am alwad fideo gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein sydd wedi’i chysylltu ar y dudalen hon. Neu gallwch drefnu apwyntiad wyneb yn wyneb yn eich Cyngor ar Bopeth lleol trwy wneud galwad BSL.
Cliciwch ar y ddolen ar y dudalen hon a byddwn yn eich cysylltu â chyfieithydd BSL a fydd yn ein ffonio i drefnu eich apwyntiad. Dim ond y cyfieithydd y byddwch chi'n gweld ar eich sgrin. Oriau agor ein llinell trefnu apwyntiad yw 9am i 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener. Rydyn ni ar gau ar wyliau banc.
Mae'n well galw o rywle preifat, o flaen cefndir plaen heb unrhyw symudiad. Bydd angen i chi fod wedi’ch cysylltu â’r rhyngrwyd. Mae'r gwasanaeth am ddim, ond efallai y byddwch chi'n talu am unrhyw ddata a ddefnyddir i fod ar-lein.