Ydych chi’n ystyried buddsoddi? Mae rhai penderfyniadau mawr i’w gwneud - ond, fel defnyddiwr, mae gennych eich hawliau. Mae’n rhaid i gwmni sy’n gwerthu ISAs, cronfeydd buddsoddi, polisïau bywyd a phensiwn a chynhyrchion buddsoddi a chynilo eraill roi Dogfen Wybodaeth Ffeithiau Allweddol neu Ddogfen Wybodaeth Allweddol i Fuddsoddwyr i chi a chyfle i chi newid eich meddwl.
Beth sydd yn y canllaw hwn:
Gwybodaeth am eich cynnyrch
Pan fydd cwmni yn gwerthu neu’n argymell cynnyrch buddsoddi, fel cronfa, pensiwn, polisi yswiriant bywyd, neu gynhyrchion cynilo penodol fel ISAs Arian Parod, mae'n rhaid iddynt roi gwybodaeth i chi mewn modd sy’n glir ac sy'n hawdd ei ddeall.
Oeddech chi’n gwybod?
Mae’n ofynnol i gwmnïoedd fod yn deg, yn glir a pheidio â bod yn gamarweiniol wrth ddarparu gwybodaeth am eich cynnyrch.
Mae nhw’n gwneud hyn drwy ddogfen Ffeithiau Allweddol – a elwir yn aml yn ddogfen Nodweddion Allweddol neu’n ddogfen Gwybodaeth Allweddol i Fuddsoddwyr (KIID) neu ddogfen Gwybodaeth Allweddol (KID).
Mae'n rhoi trosolwg o’r cynnyrch a dylai fod yn hawdd ei ddeall.
Sicrhewch fod gennych y wybodaeth hon bob amser a’ch bod wedi bwrw golwg drosti cyn i chi benderfynu buddsoddi.
Beth sydd mewn dogfen ffeithiau allweddol?
Nid telerau ac amodau llawn y buddsoddiad yw dogfen Ffeithiau Allweddol.
Yn hytrach, mae’r ddogfen wedi’i lunio i roi’r brif wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud penderfyniad hyddysg, er gall fod angen i chi gyfeirio hefyd at y telerau ac amodau llawn.
Pan fyddwch chi'n prynu cronfa fuddsoddi, byddwch chi'n cael cynnig naill ai Dogfen Gwybodaeth Allweddol i Fuddsoddwyr (KIID) neu Ddogfen Wybodaeth Allweddol (KID), sy'n dweud wrthych chi beth sydd angen i chi ei wybod am y gronfa a sut mae'n gweithio
Ar gyfer cynnyrch buddsoddi bydd y ddogfen yn cwmpasu pethau fel:
- sut mae’r cynnyrch yn gweithio
- beth rydych yn ymrwymo iddo
- y risgiau a’r manteision posibl
Efallai y cewch ddogfen ar wahân a elwir yn nodweddion allweddol enghreifftiol a fydd yn dangos:
- sut allai’r cynnyrch berfformio (gan gymryd rhai ystyriaethau’n ganiataol) er y mae'n annhebygol o ddangos sut allai’r cynnyrch hefyd golli’i werth.
- gwybodaeth ar rai o’r ffioedd y byddwch yn eu talu, yn cynnwys cost unrhyw gomisiynau a sut allai’r rhain effeithio ar yr arian a gewch yn ôl. Nodwch y gallai rhai ffioedd fel costau trafodion gael eu hepgor felly ni fydd hyn yn rhoi rhestr gyflawn o’r ffioedd a godir.
Mae angen i’r cwmni ddweud wrthych am y canlynol hefyd:
- y broses os hoffech wneud cwyn
- eich hawl i ganslo’r cynnyrch, ac a oes unrhyw ffioedd ar gyfer gwneud hynny
- iawndal a allai fod ar gael o’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol os na all y cwmni gyflawni ei rwymedigaethau o ran y cynnyrch (os yw’n berthnasol).
Defnyddio gwybodaeth allweddol
Dylech ddefnyddio dogfennau Gwybodaeth Allweddol i’ch helpu i gymharu gwahanol gynhyrchion.
Er mwyn sicrhau eich bod yn gwybod beth rydych yn ymrwymo iddo pan fyddwch yn penderfynu buddsoddi, dylech bob amser:
- cadarnhau’r ffioedd cysylltiedig;
- cadw copi o’r dogfennau gwybodaeth allweddol
- sicrhau eich bod yn gwybod a ydych yn delio â chwmni sydd wedi’i awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, ac a oes gennych yr hawl i gyflwyno unrhyw gŵyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
Cyfle i ailystyried
Ni waeth pa mor ofalus y byddwch yn gwneud eich gwaith ymchwil, mae bob amser yn bosibl gwneud camgymeriad a dewis buddsoddiad nad ydych yn gwbl fodlon ag ef - yn enwedig os bydd cyffro buddsoddi yn mynd yn drech na chi.
Unwaith y byddwch wedi cael cyfle i feddwl, efallai y byddwch yn gweld pethau’n wahanol, felly mae’n rhaid i gwmnïau ariannol roi cyfle i chi ailystyried.
Beth yw cyfnod ailystyried?
Rhaid i gyfnodau i ail-feddwl bara am 14 neu 30 diwrnod calendr o leiaf, gan ddibynnu ar y cynnyrch. Efallai y bydd cwmnïau yn cynnig cyfnodau i ail-feddwl hirach, ond mae'n rhaid iddynt ddatgan unrhyw amodau ychwanegol perthnasol.
Fel arfer, ni fydd rhaid i chi dalu cosb am ganslo, ond efallai y bydd raid i chi wneud hynny gyda rhai cynnyrch, fel polisïau neu gronfeydd yswiriant bywyd, a dylid egluro hynny wrth iddynt egluro’ch hawl i ganslo. Dylai hyn gael ei gyfathrebu i chi wrth esbonio'ch hawl i ganslo.
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu hefyd am unrhyw gostau y bydd y cwmni wedi mynd iddynt.
Er enghraifft, os gwnaeth eich buddsoddiad golli arian yn ystod yr ychydig ddiwrnodau cyn i chi ganslo, efallai na chewch y swm llawn y gwnaethoch ei fuddsoddi yn ôl.
Gwiriwch bob amser
Y ddogfen Ffeithiau Allweddol - dylai ddweud wrthych beth yw'r rheolau.
Sut i ddefnyddio eich cyfnod ailfeddwl?
Byddwch yn ymwybodol
Efallai na fyddwch yn cael swm llawn eich buddsoddiad yn ôl - gwiriwch delerau ac amodau eich cynnyrch.
Dylech ddefnyddio eich cyfnod ailfeddwl fel cyfle ychwanegol i sicrhau eich bod yn gyfforddus â’ch dewis.
Os ydych yn ailfeddwl, peidiwch ag oedi.
Mae’n bosibl mai dim ond pythefnos o gyfnod ailfeddwl a roddir a gall y cyfnod hwn hedfan.
Cysylltwch â’r darparwr ar unwaith. Bydd y ddogfen Ffeithiau Allweddol yn nodi sut i arddel eich hawl i ganslo (fel arfer bydd yn rhaid i chi ganslo’n ysgrifenedig). Mae’n bwysig cadw cofnod o ba bryd yr anfonwch eich hysbysiad gan ei fod yn ddilys cyn belled y caiff ei anfon cyn i’r cyfnod canslo ddod i ben.
Peidiwch â bod ofn canslo. Dyma eich hawl fel defnyddiwr