Gall colli swydd gynnig cyfleoedd newydd, gan gynnwys y cyfle i ail-hyfforddi ar gyfer gyrfa newydd. Yn y canllaw hwn, cewch wybod ble i gael cymorth a chyngor ariannol yn ogystal â’ch dewisiadau pan ddaw’n amser i ail-hyfforddi. Efallai’n wir y gwelwch fod colli’ch swydd yn agor y drws i yrfa newydd sbon.
Cael cyngor ar yrfaoedd, ail-hyfforddi a chyllid
Mae ychwanegu at eich sgiliau presennol neu gael cymwysterau mewn maes newydd yn ffyrdd da o wella’ch gobeithion o gael swydd arall.
Gallent hefyd roi hwb i’ch hyder y mae mawr ei angen.
Gwelwch fod llawer o ddewisiadau ail-hyfforddi ar gael i chi pan fydd eich swydd wedi’i dileu, o brentisiaethau i interniaethau i gyrsiau astudio rhan-amser neu amser llawn neu gyrsiau astudio o bell yn y coleg neu’r brifysgol.
Mae llawer o gymorth ariannol ar gael hefyd.
Dolenni defnyddiol a manylion cyswllt
- Cymru – Gyrfa Cymru neu ffoniwch 0800 028 4844
- Lloegr – Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol neu ffoniwch 0800 100 900
- Yr Alban – Skills Development Scotland neu ffoniwch 0800 917 8000
- Gogledd Iwerddon – nidirect
Sgiliau cyfrifiadurol ac ar-lein
Ewch i UK Online Centres Network i ddod o hyd i’ch canolfan hyfforddiant agosaf.
Mae Learn My Way yn cynnig cyrsiau am ddim ar ddefnyddio cyfrifiadur, pori’r we a chanfod gwaith ar-lein. Dysgwch fwy ar safle Learn My Way
Cyllido’ch hyfforddiant, eich astudiaethau neu’ch prentisiaeth
Mae’n bosibl na chewch daliad terfynol enfawr pan fyddwch yn colli eich swydd, ond nid yw hynny’n golygu na allwch fforddio ail-hyfforddi.
Mae gwahanol ffyrdd o ariannu newid gyrfa, gan ddibynnu ar y rhaglen hyfforddi neu’r cwrs astudio yr hoffech ei ddilyn – sydd hefyd yn dibynnu ar unrhyw gynilion neu incwm sydd gennych.
Ystyriwch pa ddewis sy’n addas ar eich cyfer:
- benthyciad - a fydd rhaid i chi ei dalu’n ôl
- grantiau neu fwrsariaethau - ni fydd yn rhaid i chi dalu’r rhain yn ôl
- prentisiaethau - byddwch yn ennill arian wrth ddysgu.
Nid yw’r cynllun Benthyciad Datblygiad Proffesiynol a Gyrfa bellach yn agored i geisiadau newydd, er os oes gennych fenthyciad yn barod, ni fydd yn cael ei effeithio.
Benthyciadau myfyrwyr
Mae dros hanner y bobl sy’n astudio ar gyfer cyrsiau gradd yn y DU dros 21 - nid yw byth yn rhy hwyr i fynd i’r coleg neu’r brifysgol. Neu’n wir, i fynd yn ôl!
Darganfyddwch sut i gael cyllid myfyrwyr ar wefan GOV.UK
Grantiau a bwrsariaethau
Maent ar gael fel arfer gan y llywodraeth, elusennau, neu’r coleg neu’r brifysgol lle rydych yn bwriadu mynd, ond mae angen i chi chwilio amdanynt.
Chwiliwch am grantiau hyfforddi ar wefan Turn2Us
Os ydych dros 16, ar incwm isel ac yn byw yn yr Alban, darganfyddwch fwy am y rhaglen ‘pay to learn’ ar wefan My World of Work
Prentisiaethau
Os ydych yn 16 oed neu’n hŷn, gall prentisiaeth fod yn ffordd dda o symud i yrfa newydd.
Byddwch yn ennill tra byddwch yn dysgu, a dylai fod gennych well gobaith o gael swydd.
Darganfyddwch fwy am brentisiaeth ar wefan GOV.UK
Hawlio budd-daliadau tra byddwch yn ail-hyfforddi
Cyn gynted ag y byddwch wedi cael eich diswyddo, mae angen i chi wneud cais am yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
A phan fyddwch yn cofrestru ar gyfer prentisiaeth neu gwrs astudio, cofiwch wneud cais am unrhyw gymorth ychwanegol fel arian tuag at ofal plant.