Mae Credyd Treth Gwaith wedi'i ddisodli gan Gredyd Cynhwysol. Os ydych chi o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel, mae angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol – dyma'r budd-dal allweddol i roi arian ychwanegol i chi fyw arno. Os ydych chi’n gweithio a dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y byddwch chi’n gymwys i gael Credyd Pensiwn a/neu Fudd-dal Tai.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Mae Credyd Treth Gwaith wedi'i ddisodli gan Gredyd Cynhwysol
Mae Credyd Treth Gwaith nawr wedi dod i ben, ac mae wedi’i ddisodli’n gyfan gwbl gan Gredyd Cynhwysol, taliad sengl misol a allai eich helpu gyda’ch costau sy’n ymwneud â’ch teulu, eich rhent a magu plant.
Gallwch hawlio Credyd Cynhwysol p'un a ydych chi'n gweithio ai peidio ac, yn wahanol i Gredydau Treth Gwaith, nid oes unrhyw gyfyngiadau i'r oriau y gallwch weithio ar Gredyd Cynhwysol. Ond er mwyn cael help gyda gofal plant cofrestredig bydd angen i chi fod yn gweithio neu fod gennych gynnig swydd, a dylai eich partner fod yn gweithio hefyd. Nid yw hynny’n berthnasol os yw un ohonoch yn sâl neu’n anabl, yn gofalu am berson anabl neu i ffwrdd o’r cartref dros dro. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol.
Faint yw Credyd Cynhwysol?
Mae Credyd Cynhwysol yn cynnwys lwfans safonol, ac elfennau ychwanegol os ydych chi:
- yn gyfrifol am blant
- yn gofalwr di-dâl
- methu gweithio oherwydd salwch neu anabledd, a/neu’n
- rhentu eich cartref.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Faint yw Credyd Cynhwysol? a GOV.UK - Credyd Cynhwysol: Beth fyddwch yn ei gaelYn agor mewn ffenestr newydd
Yn wahanol i Gredyd Treth Gwaith, mae Credyd Cynhwysol yn un taliad misol
Os oeddech wedi bod yn derbyn Credydau Treth Gwaith o'r blaen, efallai y bydd angen help arnoch i ddod i’r arfer â chyllidebu taliad misol sengl. Mae angen i chi hefyd feddwl am newid dyddiadau talu ar gyfer eich biliau, rhent neu forgais i'r diwrnod ar ôl i chi gael eich talu.
Darganfyddwch sut i wneud y gorau o'ch arian yn ein canllaw Help i reoli eich arian os ydych yn cael budd-daliadau.
Help gyda chostau gofal plant
Mae cymorth ar gyfer costau gofal plant yn fwy hael ar Gredyd Cynhwysol nag yr oedd ar gyfer Credyd Treth Gwaith gan y gallech hawlio hyd at 85% o gostau gofal plant cymwys. Yn 2026/27 mae hyn hyd at uchafswm o £1,071.09 ar gyfer un plentyn, neu £1,836.16 ar gyfer dau.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'n rhaid i chi ddefnyddio gofal plant cofrestredig neu gymeradwy. Gall hyn gynnwys gwarchodwyr plant, cylchoedd chwarae a meithrinfeydd.
Ni allwch gael help gan Gredyd Cynhwysol am ofal plant os ydych chi’n defnyddio’r cynllun gofal plant di-dreth. Fodd bynnag, gallwch chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych chi’n talu arian i ddarparwyr i ychwanegu at yr oriau gofal plant am ddim sydd gennych.