Oes gennych chi ffrind, cymydog neu gydweithiwr a allai gael Cymorth i Gynilo?
Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod tua 2.6 miliwn o bobl sy'n gweithio yn hawlio Credyd Cynhwysol ond dim ond tua 1 o bob 10 sydd wedi agor cyfrif Cymorth i Gynilo mewn gwirionedd.
Yn 2023-24 dim ond tua 2% o'r rhai sy'n derbyn Credyd Cynhwysol a agorodd gyfrif Cymorth i Gynilo newydd.
Os ydych chi'n adnabod rhywun a allai wneud cais, dywedwch wrthyn nhw am Gymorth i Gynilo. Mae'r bonws o 50% yn golygu y gall hyd yn oed y cynilion lleiaf gael hwb iachus. Mae am ddim i agor cyfrif trwy GOV.UK neu ap CThEF