Sut bydd cyfraddau llog yn effeithio ar fy morgais?
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
18 Medi 2025
Ar ôl chwyddiant is a'r pwysau ar brisiau'n gwella ganiatàu i Fanc Lloegr ostwng y cyfraddau nifer o weithiau yn 2025, cyhoeddwyd heddiw y byddai'r gyfradd sylfaenol yn aros yn gyson ar 4%. Sut fydd hyn yn effeithio ar eich morgais? Mae'n dibynnu pa fath o forgais sydd gennych.
Beth yw cyfradd llog morgais?
Mae cyfraddau llog morgais - neu gyfraddau morgais - yn cael eu cytuno gyda'ch benthyciwr a dyma beth fyddwch chi'n ei dalu mewn llog pan fyddwch chi'n benthyg arian i brynu cartref. Mae'r gyfradd gyfartalog fel arfer yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr.
Beth yw cyfradd sylfaenol Banc Lloegr ar hyn o bryd?
Y gyfradd sylfaenol ar hyn o bryd yw 4%.
Sut fydd newid cyfradd llog yn effeithio arnaf?
Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd â morgais yn cael eu heffeithio gan newid mewn cyfraddau llog mewn rhyw ffordd. Bydd yr effaith y mae'n ei chael yn dibynnu ar y math o forgais sydd gennych, ymhlith ystod o ffactorau eraill.
Os yw'r gyfradd sylfaenol yn mynd i fyny neu i lawr, gallai eich taliadau morgais newid, yn enwedig os oes gennych gyfradd amrywiol neu dracio. Efallai y bydd eich taliadau yn mynd i lawr os yw'r gyfradd sylfaenol yn cael ei gostwng ac yn codi os yw'r gyfradd yn cynyddu.
Os oes gennych forgais cyfradd sefydlog, ni fydd eich taliadau'n newid nes y bydd eich cyfnod cyfradd sefydlog yn dod i ben a'ch bod yn symud i gyfradd amrywiol safonol eich benthyciwr.
Mae'n dda cael cynllun yn ei le felly os yw cyfraddau'n codi, byddwch chi'n gwybod sut i allu talu'r gost ychwanegol. Dargnafyddwch fwy yn ein canllaw Sut i baratoi at y gyfradd log yn newid.
Morgeisi Cyfradd Amrywiol Safonol (SVR)
Gosodir Cyfradd Amrywiol Safonol gan y benthycwr morgais ac fel arfer mae'n dilyn symudiadau cyfradd sylfaen Banc Lloegr.
Er efallai na fydd cyfraddau'n newid cymaint â morgeisi gyfradd tracio, mae'n debygol y bydd benthycwyr yn trosglwyddo cynnydd neu gwymp yn y gyfradd llog i'w cwsmeriaid. Mae hyn yn golygu y gallech weld newid i'ch bil misol cyn gynted â'ch taliad nesaf.
Dylai eich benthycwr morgais anfon llythyr atoch yn esbonio'r gyfradd newydd a'r hyn y gallwch ddisgwyl ei dalu. Os oes gennych forgais SVR ac nad ydych wedi clywed gan eich benthycwr, cysylltwch â nhw cyn gynted â phosibl.
Fel arfer nid oes cosbau am adael morgais SVR, felly gallai fod yn rhatach i newid i fargen wahanol os bydd cyfraddau llog yn codi.
Morgeisi cyfradd tracio
Mae morgeisi cyfraddau tracio yn symud mewn cysylltiad â chyfradd arall - fel arfer cyfradd sylfaenol Banc Lloegr, ynghyd ag ychydig o ganrannau.
Os yw'r gyfradd sylfaenol yn cynyddu 0.25%, bydd eich cost fisol yn cynyddu'r un swm.
Mae cyfraddau tracio fel arfer yn para rhwng dwy i bum mlynedd cyn dychwelyd i SVR, felly gallech geisio newid i gyfradd sefydlog os ydych ar ddiwedd eich tymor ac yn poeni am newid yn y gyfradd llog. Fodd bynnag, mae rhai cyfraddau tracio yn para am fywyd eich morgais.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am newid morgeisi yn ein canllaw Ailforgeisio i gael y cytundeb gorau
Morgeisi cyfradd sefydlog
Nid yw morgais cyfradd sefydlog yn newid pan fo cyfraddau llog yn newid; bydd faint rydych chi'n ei dalu bob mis yn aros yr un peth hyd yn oed os yw cyfraddau'n codi, sy'n gallu helpu pan fo'r economi mewn helbul. Mae hefyd yn golygu efallai na fyddwch yn gweld budd gostyngiad mewn cyfraddau llog tan i'ch cyfnod sefydlog ddod i ben.
Fodd bynnag, os ydych yn dod i ddiwedd eich tymor cyfradd sefydlog, gallwch siarad ag ymgynghorydd morgais am ailforgeisio cyn i'r cyfraddau newid.
Os yw’ch bargen bresennol yn dod i ben yn y chwe mis nesaf, gallwch gloi cyfradd newydd i mewn heb unrhyw ymrwymiad. Os yw’r gyfradd morgais yn gostwng cyn i’ch bargen newydd ddechrau, yna gallwch ganslo’r un rydych wedi’i drefnu a newid i gynnig gwell.
Os yw cyfraddau'n gostwng llawer, efallai yr hoffech chi ddod o hyd i gytundeb gwell. Gwiriwch bob amser a oedd ffioedd ad-daliad cynnar mewn grym oherwydd y gallai hyn ddadwneud unrhyw arbedion o newid i gyfradd well.
Ond os yw'n edrych fel bod cyfraddau morgais yn codi, mae'n werth ail-forgeisio cyn gynted ag sy'n bosibl. Os na wnewch, bydd eich cyfradd yn newid yn awtomatig i gyfradd newidiol safonol a fydd yn codi (neu'n gostwng) gyda chyfraddau llog.
Morgeisi cyfradd gostyngol
Mae cyfraddau gostyngol yn cael eu gosod ychydig yn is na SVR, ond dim ond am amser penodol. Mae cyfraddau gostyngol yn cynyddu pan fydd cyfraddau SVR a chyfradd Banc Lloegr yn cynyddu, felly pan fydd hyn yn digwydd, byddwch yn talu mwy bob mis.
Mae cyfraddau morgeisi cynyddol yn gallu bod yn straen mawr. Os ydych yn poeni, dan straen neu'n ei chael hi'n anodd ymdopi, mae ein canllaw Problemau Arian a lles meddyliol yn dangos i chi ble i gael help.
Pam oedd cyfraddau morgais mor uchel?
Pan fo cyfraddau llog yn gostwng, mae benthyca'n dod yn rhatach. Mae hyn yn annog mwy o wario a buddsoddi sydd yn ei dro'n cefnogi economi'r DU.
Gall ei wneud yn haws i ddod ar draws cytundebau da ar fenthyciadau a morgeisi lle bydd talu llai o log yn arbed arian i chi dros amser. Ond mae cyfraddau is hefyd yn golygu y byddwch chi fel arfer yn ennill llai o log ar eich cynilion.
Beth y mae'n ei olygu pan fo cyfraddau llog yn gostwng?
Pan fo cyfraddau llog yn gostwng, mae benthyca'n dod yn rhatach. Mae hyn yn annog mwy o wario a buddsoddi sydd yn ei dro'n cefnogi economi'r DU.
Gall ei wneud yn haws i ddod ar draws cytundebau da ar fenthyciadau a morgeisi lle bydd talu llai o log yn arbed arian i chi dros amser. Ond mae cyfraddau is hefyd yn golygu y byddwch chi fel arfer yn ennill llai o log ar eich cynilion.
Pryd fydd y cyfraddau llog yn gostwng?
Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr (MPC) sy'n gosod y gyfradd sylfaenol. Maen nhw'n cyfarfod bob tua chwech wythnos i benderfynu a yw'n codi, gostwng neu aros yr un peth.
Tra bod cyfraddau eisoes wedi gostwng yn 2025, mae'n amhosibl gwybod yn sicr beth fydd yn digwydd. Ceisiwch beidio â gwneud penderfyniadau ariannol mawr nawr yn seiliedig ar y gobaith y bydd y cyfraddau'n gostwng eto yn y dyfodol.
I wirio dyddiad y cyhoeddiad nesaf, ewch i ddyddiadau Pwyllgor Polisi Ariannol 2025 a 2026Yn agor mewn ffenestr newydd
Sut mae gostyngiad mewn cyfradd llog yn effeithio ar fy morgais?
Gallai'r mwyafrif o bobl sydd â morgais fanteisio os yw'r cyfraddau llog yn gostwng.
Os oes gennych forgais newidiol neu forgais dracio, gallai eich taliad misol ostwng gyda'r gyfradd sylfaenol, o'ch ad-daliad nesaf weithiau hyd yn oed.
Neu os ydych chi o fewn chwech mis i ddiwedd eich morgais cyfradd sefydlog, gallech gael cyfradd is - ac ad-daliadau misol llai - trwy ragdrefnu cytundeb newydd heb ymrwymiad. Felly, os yw'r gyfradd llog yn gostwng eto cyn i'r cytundeb newydd ddechrau, gallwch ei ganslo a newid i gynnig gwell.
Beth mae cyfraddau llog yn gostwng yn ei olygu i gytundebau morgais newydd?
Pan fo cyfraddau llog yn gostwng, mae cytundebau morgais fel arfer yn cystadlu mwy. Golyga hyn y gallech chi gael morgais newydd gydag ad-daliadau misol is neu delerau gwell.
Os oes gennych forgais cyfnod sefydlog, bydd fel arfer angen i chi aros tan y chwech mis olaf i edrych am gytundeb newydd gyda'ch benthyciwr presennol. Gelwir hyn yn drosglwyddo cynnyrch. Gallech chi newid yn gynt, ond gallech wynebu costau ad-dalu cynnar, felly siaradwch gydag ymgynghorydd morgeisi cyn penderfynu bob tro.
Gallwch hefyd siopa o gwmpas am fenthyciwr newydd. Dechreuwch chwech mis cyn i'ch cynnig presennol ddod i ben, ond er mwyn osgoi costau ychwanegol, dylech aros tan i'r cynnig pressennol orffen cyn newid benthycwyr.
Beth os yw'r cyfraddau llog yn gostwng ar ôl i mi gael cynnig ar gyfer morgais?
Os yw cyfraddau llog yn gostwng ar ôl i chi gytuno ar eich morgais, peidiwch â phoeni, gallech newid o hyd os yw eich benthycwr wedi cofrestru gyda'r Siarter Morgeisi.
Set o reolau yw'r Siarter Morgeisi sydd wedi'u cytuno gan y mwyafrif o fenthycwyr morgeisi yn y DU sy'n rhoi mwy o hyblygrwydd a diogelwch i chi pan fo'ch morgais cyfnod sefydlog yn dod i ben.
Os yw'ch benthyciwr yn cynnig cyfradd well, debyg ar ôl i chi gloi eich cytundeb, gallwch ofyn i newid cyhyd â nad yw eich morgais newydd wedi cychwyn eto a bod eich ad-daliadau'n gyfredol.
Sut mae'r cyfraddau llog yn gostwng yn effeithio ar fy nghynilion?
Tra bod cyfraddau llog yn gostwng yn gallu bod yn dda i'r rheiny sydd â morgeisi, nid yw felly i gynilwyr.
Gall gyfradd llog is olygu bod eich cynilion yn ennill llai, yn arbennig os yw'ch cyfrif yn dilyn y gyfradd sylfaenol. Mae'n bwysig gwirio pa fath o gyfrif sydd gennych a pha gyfradd y mae eich cynilion yn ei thalu ar hyn o bryd.
Nid yw benciau bob amser yn cynyddu neu'n gostwng eich cyfraddau cynilo'n awtomatig pan fo'r gyfradd llog yn newid. Ond os yw'n edrych fel nad ydych chi'n cael y cytundeb gorau bellach, edrychwch o gwmpas i weld a allai newid ennill mwy o arian i chi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i ddod o hyd i'r cyfrifon cynilo gorau
Os ydych chi'n cael trafferth talu eich morgais
Os yw'r cyfraddau llog uwch wedi gwneud eich taliadau morgais yn anfforddiadwy, mae'n bwysig gofyn am help cyn gynted â phosibl.
Darganfyddwch beth allwch chi ei wneud gyda'n canllaw ar Help gyda thaliadau morgais.