Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgeisi
I gyfrifo faint allwch chi ei fforddio, defnyddiwch ein cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais.
Diweddarwyd diwethaf:
11 Mawrth 2025
Mae morgais mewn egwyddor yn amcangyfrif ysgrifenedig o faint mae darparwr morgais yn barod i chi fenthyg wrtho ar sail gwiriad cyflym o’ch incwm ac - mewn rhai achosion – eich ffeil gredyd. Er nad yw’n gynnig morgais swyddogol, mae’n rhoi syniad realistig i chi o’r hyn y gallai cyllideb gyffredinol eich eiddo fod. Darganfyddwch beth mae’n ei olygu i gael morgais mewn egwyddor, a beth sy’n digwydd nesaf.
Mae morgais mewn egwyddor, a elwir hefyd yn “gytundeb mewn egwyddor” neu “benderfyniad mewn egwyddor” yn ddogfen ysgrifenedig gan fenthyciwr sy’n nodi faint y gallai fod yn barod i chi ei fenthyg wrtho. Er nad yw’n gynnig ffurfiol, mae’n eich helpu i gael syniad bras (ond realistig) o gyllideb eich eiddo. Fel arfer bydd yn ddilys am 30 i 90 diwrnod.
Os ydych chi’n brynwr tro cyntaf, gall fod yn ddefnyddiol cael hyn ar waith i gael syniad clir o ba fenthycwyr fydd yn rhoi benthyg i chi a faint y gallech ei fenthyg. Os nad ydych yn brynwr tro cyntaf a bod gennych eiddo i’w werthu - gall fod yn ddefnyddiol o hyd i gael syniad o gyfanswm eich cyllideb.
Fel arfer, gallwch gael morgais mewn egwyddor am ddim ond efallai y bydd rhai broceriaid yn codi ffi - felly mae’n syniad da gwirio hyn yn gyntaf.
Nac oes. Ond pan fydd y farchnad eiddo yn arbennig o gystadleuol gall rhai asiantaethau tai ofyn am weld eich morgais mewn egwyddor pan fyddwch yn gwneud cynnig neu hyd yn oed ofyn am weld un os hoffech weld eiddo. Fodd bynnag, pan fydd y farchnad dai yn dawelach ac yn llai cystadleuol, efallai na ofynnir i chi ddangos morgais mewn egwyddor.
Nid yw’n ofyniad cyfreithiol i gael morgais mewn egwyddor cyn gwneud cynnig ar eiddo - ond os oes gan brynwyr eraill hyn ar waith ac nad ydych yn gwneud, gallai eich rhoi dan anfantais.
Mae llawer o fenthycwyr yn cynnig y gallu i wneud cais ar-lein ac os oes gennych yr holl wybodaeth angenrheidiol, gallech gael penderfyniad cyn pen awr.
Gall gofynion benthycwyr amrywio ond fel arfer bydd angen manylion arnoch am eich incwm a’ch treuliau, ynghyd â hanes cyfeiriadau a gwybodaeth bersonol arall.
Y wybodaeth sydd ei hangen arnoch:
Efallai. Pan fyddwch yn gwneud cais am forgais mewn egwyddor, bydd y darparwr morgais yn defnyddio’r wybodaeth rydych yn ei darparu ac yna’n cynnal gwiriad credyd. Bydd rhai benthycwyr yn cynnal “gwiriad credyd meddal” na fydd yn gadael marc ar eich ffeil, ond bydd eraill yn rhedeg “gwiriad caled”, sy’n weladwy ar eich ffeil. Nid oes uchafswm o wiriadau caled y gall unrhyw un eu cael, neu na allant eu cael, ond gall gormod o wiriadau caled mewn cyfnod byr effeithio’n negyddol ar eich statws credyd. Os nad yw’n glir sut y bydd eich benthyciwr yn gwirio, gallwch ofyn. Os ydych chi’n poeni am sgôr credyd gwan sy’n effeithio ar eich cais morgais, darganfyddwch fwy yn ein canllaw A allwch gael morgais gyda chredyd gwael?
Mae cymeradwyaeth forgais terfynol yn wahanol i’ch morgais mewn egwyddor. Mae’n gynnig morgais cadarn gan fenthyciwr sy’n defnyddio’r eiddo rydych chi’n bwriadu ei brynu fel sicrwydd yn erbyn y benthyciad. Er y gallwch wneud cynnig yn seiliedig ar forgais mewn egwyddor, er mwyn mynd ymlaen i brynu’r eiddo yn gyfreithiol, bydd angen cynnig morgais llawn arnoch. Mae cynnig morgais llawn fel arfer yn ddilys am chwe mis ond gellir ei dynnu’n ôl os bydd eich lefelau incwm yn newid neu os byddwch yn methu gweithio.
Efallai na chewch. Mae hyn oherwydd hyd yn oed os yw’ch benthyciwr yn fodlon bod eich amgylchiadau ariannol yn foddhaol i wneud ad-daliadau ac i fforddio’r benthyciad, mae angen iddo hefyd fod yn fodlon â’r eiddo rydych yn ei brynu. Mae hyn yn golygu, hyd yn oed os yw’ch cyllid yn gadarn, y gall y benthyciwr wrthod eich cais ar y sail nad yw'n hapus gyda’r eiddo.
Er enghraifft, ni fydd rhai benthycwyr yn rhoi benthyg ar gartrefi heb geginau neu ystafelloedd ymolchi sy’n gweithio, ni fydd eraill yn rhoi benthyg ar gyfer eiddo sydd mewn adeiladau uchel sy’n uwch na rhyw lefel benodol, neu ar ystâd cyngor.
Os nad ydych yn siŵr a oes gan eich benthyciwr unrhyw eithriadau, gallwch ofyn iddynt ar ôl i chi gael eich morgais mewn egwyddor ac unwaith y byddwch wedi nodi eiddo posibl - ond cyn i chi wneud cais am y morgais ei hun. Os nad ydych chi’n yn siŵr o hyd beth y gallech chi ei fforddio neu beidio, defnyddiwch ein cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais.
Cyn i chi wneud cais, sicrhewch fod popeth yn barod i’ch rhoi yn y sefyllfa gryfaf bosibl. Bydd angen i chi ddarparu prawf o hunaniaeth ac incwm i ddangos y gallwch fforddio’r ad-daliadau morgais. Gall hyn olygu hyd at chwe mis o gyfriflenni banc.
Bydd angen i chi hefyd gael prisiad ar eich eiddo. Mae’r arolwg hwn yn gwirio a yw’r eiddo yn werth y pris rydych yn ei dalu - neu o leiaf y swm rydych yn ei fenthyg - cyn iddynt gymeradwyo eich morgais. Mae’n werth gwybod yn y rhan fwyaf o achosion y bydd eich benthyciwr yn trefnu hyn i chi – a gallwch hyd yn oed ofyn i’ch benthyciwr uwchraddio'ch prisiad.
Gofynnwch i’ch benthyciwr pwy sy’n talu’r gost hon. Mae rhai benthycwyr yn talu cost prisiad sylfaenol ac yna os hoffech chi uwchraddio, chi sy’n talu’r gwahaniaeth. Felly efallai y bydd angen i chi gyllidebu £150-£800 ychwanegol yn seiliedig ar werth yr eiddo. Efallai y byddwch hefyd eisiau arolwg Prynwyr Cartref, yr arolwg sydd orau ar gyfer cartrefi cyffredin sydd mewn cyflwr teg. Gweler fwy yn ein canllaw Ffioedd a chostau morgais wrth brynu neu werthu cartref.