Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgeisi
I gyfrifo faint allwch chi ei fforddio, defnyddiwch ein cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais.
Diweddarwyd diwethaf:
21 Mawrth 2025
Gall newid darparwyr morgais - a elwir hefyd yn ailforgeisio - o bosibl arbed arian i chi. Gall newid dorri eich bil morgais misol a lleihau’r cyfanswm sydd angen i chi ei ad-dalu dros oes eich morgais. Gweler sut i newid darparwyr, pryd y gallai fod yn iawn a sut i ddechrau.
Y rheswm mwyaf cyffredin dros newid darparwyr morgais yw oherwydd bod eich cytundeb presennol gyda’ch darparwr presennol yn dod i ben. Yn y DU mae’r rhan fwyaf o gytundebau morgais yn para rhwng dwy a phum mlynedd. Ar ôl i’ch cytundeb ddod i ben byddwch yn newid yn awtomatig i Gyfradd Amrywiol Safonol (SVR) eich benthyciwr. Gall fod yn ddrud i fod ar SVR gan fod y cyfraddau llog fel arfer yn uwch na bargeinion morgais cyfnod sefydlog. Mae hyn yn golygu os cewch eich symud i SVR gallai eich bil misol cynyddu gan gannoedd – hyd yn oed filoedd – oni bai eich bod yn gweithredu.
Felly os yw’ch bargen yn dod i ben, mae gennych ddau brif opsiwn: naill ai dewis bargen newydd gyda’ch darparwr presennol – a elwir yn trosglwyddo cynnyrch – neu chwilio am fargen newydd gyda darparwr gwahanol – a elwir yn ailforgeisio.
Cyn i chi ddechrau siopa o gwmpas am fargeinion, mae’n syniad da darganfod beth allwch chi fforddio ei ad-dalu bob mis. Efallai bod eich amgylchiadau wedi newid yn sylweddol ers i chi gael eich cytundeb morgais cychwynnol. Efallai eich bod wedi cael codiad mewn cyflog, gostyngiad neu gynnydd mewn costau byw eraill neu newid cyflogwr – gweler faint y gallwch ei fforddio, defnyddiwch ein cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais.
Y prif reswm dros newid darparwyr morgeisi yw er mwyn arbed arian drwy gael y fargen rataf y gallwch. Mae bargeinion morgeisi yn cael eu gyrru gan “gyfradd sylfaenol” Banc Lloegr a gan natur gystadleuol y farchnad morgeisi. Mae hyn yn golygu, er y gallai eich bargen gychwynnol fod wedi bod y gorau ar y farchnad i chi ar y pryd, bydd bargeinion newydd gan wahanol fenthycwyr yn dod ar gael a gallech arbed arian trwy newid.
Gallai ailforgeisio hefyd eich helpu i gael bargen sy’n cynnig hyblygrwydd ychwanegol neu sydd â nodweddion a all arbed hyd yn oed mwy o arian i chi. Er enghraifft, opsiwn i ordalu pan fydd gennych arian parod dros ben, gan leihau cost gyffredinol eich morgais.
Yr opsiwn i newid i forgais i wrthbwyso neu gyfrif cyfredol. Dyma pryd y gallwch ddefnyddio unrhyw gynilion i leihau faint o log rydych yn ei dalu yn barhaol neu dros dro – a chael y dewis i dynnu eich cynilion yn ôl os oes eu hangen arnoch.
I gael syniad o'r hyn y gallech ei dalu os byddwch yn ailforgeisio, siaradwch ag ymgynghorydd morgais
Gallwch newid darparwr bron unrhyw bryd, ond fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd cosb os nad yw eich cytundeb wedi dod i ben. Fel arfer gallwch wneud cais am forgais newydd hyd at chwe mis ymlaen llaw o'r dyddiad y mae ei angen arnoch i ddod i rym. Felly mae angen i chi ddarganfod pryd mae'ch bargen yn dod i ben a dechrau chwilio am fargeinion mewn da bryd.
Er ei bod yn well osgoi ffioedd cosb fel arfer, mewn rhai amgylchiadau hyd yn oed gyda ffi fawr, gallech sicrhau bargen ratach o lawer a allai arbed hyd yn oed mwy o arian i chi. Os ydych chi wedi cael newid mewn amgylchiadau – fel cynnydd mewn cyflog, gostyngiad mewn costau byw – efallai y byddwch chi’n gweld bod bargeinion hyd yn oed yn fwy cystadleuol yn cael eu cynnig i chi.
Os oes gennych chi’r arian i dalu ffi cosb a sicrhau bargen ratach mae’n werth ystyried gordalu’ch morgais ac aros ar eich bargen bresennol. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gofynnwch i'ch ymgynghorydd morgais am eich opsiynau. Gallwch hefyd ddarllen mwy am ordalu'ch morgais yn ein canllaw A ddylech chi glirio’ch morgais yn gynnar?
Gall bargen newydd arbed arian i chi a gallai fod yn deniadol i neidio i mewn, ond yn gyntaf mae angen i chi wirio a oes unrhyw ffioedd ar y bargeinion morgais newydd yr ydych yn edrych arnynt. Cyn i chi newid, gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio am unrhyw gostau gweinyddol neu gostau eraill. Efallai y bydd rhai benthycwyr yn cynnig talu rhywfaint neu'r cyfan o'ch ffioedd am symud iddynt neu ddarparu arian yn ôl. Ond os na wnânt, bydd gennych gostau cyfreithiol, prisio a gweinyddu i’w talu.
Os ydych yn ystyried symud tŷ yn fuan dylech feddwl yn ofalus cyn ailforgeisio a chloi i mewn i fargen newydd gyda thaliadau ad-dalu cynnar mawr. Os ydych yn gwybod eich bod yn debygol o symud, ystyriwch fargeinion gyda thaliadau ad-dalu cynnar isel neu ddim o gwbl. I weld faint allwch chi ei fforddio, defnyddiwch ein cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais.
Mae’n werth cofio hefyd y gall cyfraddau fynd i fyny ac i lawr a gall bargeinion morgais ddod yn rhatach neu’n ddrytach yn sydyn heb fawr o rybudd. Gallai cloi’r hyn sy’n edrych fel “bargen rad” am bum mlynedd fod yn gostus os bydd cyfraddau’n gostwng. Ni all neb ragweld yn gywir beth yn union fydd yn digwydd i brisiau eiddo a chyfraddau llog, felly mae'n ddoeth bod yn ofalus i ble rydych chi'n mynd i gael arweiniad a chyngor - siaradwch ag ymgynghorydd morgais.
Ar ôl i chi ddefnyddio ein Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais i ddarganfod faint allwch chi fforddio ei fenthyg. Nesaf siaradwch â’ch benthyciwr presennol i weld beth yw’r fargen orau y gallent ei chynnig i chi. Bydd hyn yn rhoi meincnod i chi wedyn i wirio bargeinion eraill ar y farchnad.
Nesaf, gallwch wedyn gymharu bargeinion morgais ar wefan gymharu. Ni fydd gwefannau cymharu i gyd yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio mwy nag un. Dylai hyn roi syniad da i chi o'r hyn sydd ar gael.