Sut i arbed arian ar gar trydan

Last updated:
04 Medi 2025
Gall prynu cerbyd trydan (EV) fod yn ddrud, ond mae yna ffyrdd o dorri cost o berchen ar un. Darganfyddwch am y grantiau sydd ar gael a sut i arbed arian ar wefru'ch car.
Pa gynlluniau llywodraeth y DU sydd ar gael ar gyfer ceir trydan?
Mae yna ychydig o gynlluniau llywodraeth i helpu i wneud prynu cerbydau trydan newydd yn fwy fforddiadwy. Y prif rai yw'r Grant Ceir TrydanYn agor mewn ffenestr newydd a chyllid i'ch helpu i osod gorsaf wefru gartref (a elwir yn grantiau pwynt gwefru cerbydau trydan).
Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth i gael y Grant Ceir Trydan. Bydd gwneuthurwr y car eisoes wedi'i gymhwyso fel gostyngiad i bris gwerthu ceir trydan cymwys newydd sydd â phris o dan £37,000. Mae hyn yn werth £1,500 neu £3,750.
Mae gostyngiad mwy ar gael ar gyfer cerbydau gwaith fel faniauYn agor mewn ffenestr newydd a lorïauYn agor mewn ffenestr newydd
Gallwch wneud cais am grant pwynt gwefru cerbydau trydanYn agor mewn ffenestr newydd i helpu i dalu i osod gorsaf wefru cartref os ydych chi'n bodloni'r meini prawf.
Ar hyn o bryd dim ond os:
- ydych chi’n rhentu
- ydych chi’n byw mewn fflat, neu
- dim ond parcio ar y stryd sydd gennych chi.
Mae grantiau hefyd ar gael i landlordiaid a busnesau sy'n gosod pwynt gwefru.
Faint yw grant llywodraeth y DU ar gyfer ceir trydan?
Os ydych chi'n prynu car trydan newydd am lai na £37,000, bydd gostyngiad o £1,500 neu £3,750 yn cael ei gymhwyso i rai cerbydau cymwys.
Mae faint o ostyngiad a gewch yn dibynnu a yw'r gwneuthurwr wedi cyrraedd targedau cynaliadwyedd a osodwyd gan y llywodraeth.
Gallwch ddod o hyd i'r rhestr o gerbydau cymwysYn agor mewn ffenestr newydd a lefel y gostyngiad ar wefan GOV.UK.
I hawlio'r gostyngiad, nid oes angen i chi wneud cais gan y bydd y grant eisoes wedi'i dynnu oddi ar bris y pryniant os yw'r car yn gymwys.
Faint allwn i arbed ar orsaf wefru cerbyd trydan ar y ffordd?
Mae gwefru'ch car mewn mannau gwefru cyhoeddus yn llawer drutach na gwefru gartref a thalu drwy'ch bil trydan arferol. Gallai wneud synnwyr ariannol i chi roi gwefrydd ar eich dreif neu lle rydych chi fel arfer yn parcio'ch car.
Mae'r grant pwynt gwefru cerbydau trydanYn agor mewn ffenestr newydd yn darparu grant i dalu hyd at 75% o gost gosod gorsaf wefru gartref, wedi'i gapio ar £350.
Fodd bynnag, ni fydd pawb yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn. Os ydych chi'n berchen ar eich cartref eich hun, ac mae'n dŷ gyda pharcio oddi ar y stryd, ni fyddwch yn gallu hawlio. Gwiriwch y meini prawf cymhwyseddYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan GOV.UK.
Sut ydw i'n gwneud y mwyaf o arbedion ar brynu car trydan yn y DU?
Gall prynu car trydan fod yn ddrud, ac nid yw llawer o'r grantiau a'r gostyngiadau a gynigiwyd ar gerbydau trydan yn y gorffennol ar gael mwyach.
Fodd bynnag, mae yna ffyrdd y gallwch arbed arian. Os oes gan eich cyflogwr gynllun aberthu cyflog ar gyfer cerbydau trydan, gall hyn wneud prydlesu car yn fwy fforddiadwy.
Mae eich blwyddyn gyntaf o dreth car ar gyfer cerbyd trydan newydd yn cael ei gostwng i £10, ac ar ôl hynny caiff ei godi ar yr un gyfradd â char nad yw'n drydannol.
Fel arfer nid yw gerbydau trydan yn destun i daliadau mewn parthau aer glânYn agor mewn ffenestr newydd mewn dinasoedd ledled y DU a'r parth allyriadau isel iawn (ULEZ)Yn agor mewn ffenestr newydd yn Llundain.
Faint mae'n ei gostio i wefru cerbyd trydan?
Mae cost gwefru car trydan yn dibynnu ar ble a phryd rydych chi'n gwefru.
Gwefru gartref yw'r opsiwn rhataf fel arfer. Ar gyfartaledd, mae gwefru llawn ar gyfer car trydan maint canolig yn costio rhwng £15 a £20 wrth ddefnyddio tariff trydan safonol. Gyda thariffau y tu allan i oriau brig neu dariffau penodol i gerbydau trydan, gall y gost hon ostwng ymhellach fyth.
Gallai fod yn werth newid cyflenwr neu dariff ynni i un sy'n cynnig tariff y tu allan i oriau brig neu dariff cerbyd trydan. Mae'r rhain yn cynnig prisiau trydan is os byddwch chi'n gwefru'ch car dros nos.
Mae pwyntiau gwefru cyhoeddus yn ddrytach. Gall gwefrwyr cyflym wefru'ch car i 80% mewn tua hanner awr ac fel arfer maent yn costio rhwng 60c ac 80c y kWh. Mae hyn yn golygu y gallai gwefru llawn gostio dros £30, yn dibynnu ar faint eich batri.
Er y gall cost ymlaen llaw car trydan fod yn uchel, mae gwefru cerbyd trydan yn aml yn rhatach na llenwi â phetrol neu ddisel. I yrwyr sy'n gwefru gartref yn bennaf, gall arbedion gynyddu hyd at gannoedd o bunnoedd bob blwyddyn o'i gymharu â cheir traddodiadol.