A ddylwn i sefydlogi fy mhrisiau ynni?
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
01 Ebrill 2026
Ddim yn siŵr ai dyma’r amser iawn i osod eich bargen ynni? Mae prisiau ynni yn newid yn barhaus, felly gallai wneud synnwyr i ddewis cyfradd sefydlog nawr, fel eich bod yn gwybod beth fydd eich biliau yn y dyfodol.
Beth yw’r bargeinion ynni gorau?
Mae cap ar brisiau Ofgem bellach yn £1,641 y flwyddyn. Bydd hyn yn newid eto ar 1 Gorffennaf 2026 ond nid ydym yn gwybod faint fydd eto.
Mae’r cap ar brisiau ynni yn derfyn ar y swm y mae’n ei gostio fesul uned o nwy neu drydan pan fyddwch chi ar dariff amrywiol safonol eich cyflenwr. Mae’r ffigur blynyddol uchod yn seiliedig ar yr hyn y mae aelwyd gyffredin yn ei ddefnyddio.
Mae'r terfyn hwn yn berthnasol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r Rheoleiddiwr Cyfleustodau yn gwirio bod y prisiau a godir yn deg.
Nid oes lawer o fargeinion sefydlog ar gael sydd llai na’r cap ar brisiau. Os yw’ch cytundeb yn dod i ben, efallai bydd angen i chi aros ar y tariff diofyn.
Gallwch hefyd ddefnyddio gwefannau cymharu i ddod o hyd i fargeinion gwell gan gwmnïau ynni eraill.
Pryd mae prisiau ynni yn gostwng?
Mae cap pris Ofgem yn cael ei gyfrifo ar sail faint mae'n ei gostio i brynu nwy a thrydan ar y farchnad gyfanwerthu. Mae'r cap pris yn newid bob tri mis, ar ddechrau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref. Ofgem yn cyhoeddi beth fydd y cap pris tua mis cyn iddo newid.
Rydw i wedi cael cynnig bargen gyfradd sefydlog fel cwsmer presennol, a ddylwn i gofrestruamdano?
Mae’n anodd cyllidebu ar gyfer costau byw bob dydd pan nad ydych yn gwybod pa olwg fydd ar eich biliau mewn tri mis. Gall sefydlogi eich biliau ynni eich helpu i wybod beth i’w ddisgwyl bob mis.
Efallai na fydd dyfynbris eich cyflenwr yn rhoi’r gost flynyddol ar gyfer cartref arferol, gallai fod yn seiliedig ar eich defnydd. Defnyddiwch gyfradd uned y cap ar brisiau a’r gost sefydlog isod i gymharu â’r hyn y mae eich cyflenwr wedi’i gynnig.
|
Pris uned ynni ar gyfer Cap Prisiau o 1 Ebrill 2026 |
|
|
Trydan |
£0.25 fesul KWh Cost sefydlog ddyddiol: £0.57 |
|
Nwy |
£0.06 fesul KWh Cost sefydlog ddyddiol: £0.29 |
Ffynhonnell: OfgemOpens in a new window
Chi sydd i benderfynu a yw gwybod beth fydd eich biliau bob mis yn werth y risg y bydd prisiau ynni yn gostwng yn ystod eich contract, a gallech chi dalu gormod drwy symud ymlaen i gytundeb sefydlog.
A allaf newid fy nghyflenwr ynni?
Yn ddiweddar, mae cyflenwyr ynni wedi tynnu llawer o’r bargeinion roeddent yn eu cynnig islaw’r cap ar brisiau. Mae’n werth gwirio a oes gynigion gwell ar gael o hyd.
Gweler ein canllaw ar wefannau cymharu am fwy o wybodaeth.
Sut fedrai arbed arian ar fy miliau ynni?
Er efallai na fyddwch yn gallu lleihau’n sylweddol y swm y byddwch yn ei dalu fesul uned o nwy neu drydan, os gallwch ddefnyddio llai, yna bydd eich biliau’n gostwng.
Mae gan ein herthygl Sut i leihau eich biliau ynni llawer o syniadau ar sut i dorri yn ôl ar eich defnydd ynni
Gallai gwneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni eich helpu i wneud arbedion tymor hir. Mae gan ein canllaw am dalu am welliannau cartref wybodaeth am grantiau a benthyciadau y gallwch eu defnyddio am bethau fel gwell inswleiddio neu foeler mwy effeithlon.