Beth yw yswiriant GAP?

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
16 Medi 2024
Os oes angen i chi wneud hawliad drud ar eich yswiriant car, fan neu feic, efallai y bydd arian yn ddyledus gennych o hyd os yw eich cerbyd yn cael ei lesio neu ei brynu gyda benthyciad. Yn y canllaw hwn, byddwn yn archwilio sut y mae yswiriant GAP yn gweithio a pha fathau o yswiriant sydd ar gael.
Sut mae yswiriant GAP yn wahanol i yswiriant car?
Os gwnewch hawliad ar eich yswiriant car ar ôl iddo gael ei ddwyn neu ei ddileu, mae yswiriant car safonol fel arfer yn eich diogelu am werth presennol y cerbyd ar y farchnad. Mae hyn fel arfer yn llawer llai na'r pris prynu.
Ond beth os gwnaethoch fenthyg neu lesio car, a bod gwahaniaeth rhwng gwerth marchnad y cerbyd a’r balans sy’n weddill ar eich benthyciad neu les? Dyna beth yw pwrpas yswiriant Diogelu Asedau Gwarantedig (GAP).
Mae angen yswiriant car arnoch i yrru'n gyfreithlon, ond mae yswiriant GAP yn ddewisol.
Sut mae yswiriant GAP yn gweithio?
Mae yswiriant GAP yn helpu i’ch diogelu’n ariannol rhag gwerth gostyngol eich car os oes rhaid i chi wneud hawliad yswiriant.
Fe’i cynlluniwyd i lenwi’r ‘bwlch’ rhwng gwerth marchnad y cerbyd a’r balans sy’n weddill ar fenthyciad neu les os caiff y car ei ddwyn neu ei ddileu. Os nad oes gennych fenthyciad car neu les, nid oes ‘bwlch’ i’w warchod, sy’n golygu nad oes angen yswiriant GAP.
Er enghraifft, rydych yn prynu car newydd am £20,000.
Mae gwerth eich car yn gostwng cyn gynted ag y byddwch yn ei yrru oddi ar y blaengwrt.
Ar ôl blwyddyn, mae gwerth marchnad eich car yn gostwng i £15,000.
Os caiff eich car ei ddwyn neu ei ddileu, dim ond y gwerth presennol o £15,000 y mae eich yswiriant car safonol yn ei dalu.
Ond beth os oes £18,000 yn ddyledus gennych o hyd ar fenthyciad car? Dyma lle mae yswiriant GAP yn ddefnyddiol. Gallai dalu’r gwahaniaeth o £3,000, felly ni fyddwch yn colli arian ar gar nad oes gennych chi bellach.
Beth mae yswiriant GAP yn ei gynnwys?
Mae tri math o yswiriant GAP. Mae pob un wedi'i gynllunio i'ch amddiffyn yn ariannol mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Dychwelyd i Anfoneb
Mae yswiriant Dychwelyd i Anfoneb (RTI) yn cwmpasu’r gwahaniaeth rhwng y taliad yswiriant safonol (gwerth presennol y car ar y farchnad) a’r pris gwreiddiol a dalwyd gennych amdano.
Amnewid Cerbyd
Mae yswiriant amnewid cerbydau yn mynd gam ymhellach nag RTI.
Mae’n cwmpasu’r gwahaniaeth rhwng gwerth marchnad eich car a’i bris gwreiddiol a’r gost o newid eich cerbyd am un newydd o’r un gwneuthuriad, model a manyleb – hyd yn oed os yw’r pris wedi codi ers i chi brynu.
Er enghraifft, rydych yn prynu car am £20,000.
Flwyddyn yn ddiweddarach, pan fydd gwerth eich car yn £15,000, caiff ei ddwyn neu ei ddileu.
Os yw car newydd bellach yn costio £22,000, dylai yswiriant Amnewid Cerbyd gynnwys y gwahaniaeth o £7,000 – nid y £5,000 gwreiddiol yn unig.
Llogi Contract
.
Mae'r math hwn o yswiriant ar gyfer cerbydau ar les heb unrhyw opsiwn prynu diwedd tymor.
Os ydych yn lesio car, rydych yn cytuno i dalu ffi fisol sefydlog am gyfnod penodol, fel arfer rhwng 24 a 48 mis.
Os caiff y car hwnnw ei ddwyn neu ei ddileu mewn damwain, efallai na fydd eich cwmni yswiriant yn cwmpasu’r taliadau les sy'n weddill sy'n ddyledus gennych.
Er enghraifft, rydych yn lesio car am £300 y mis.
Ar ôl blwyddyn, mae'r car yn cael ei ddwyn.
Mae eich cwmni yswiriant yn prisio’r car ar £12,000, ond mae dal £14,000 yn ddyledus gennych mewn taliadau les yn y dyfodol.
Dylai yswiriant GAP Llogi Contract gynnwys y gwahaniaeth o £2,000 rhwng gwerth y car a’r hyn sy’n ddyledus gennych o hyd.
Beth sydd wedi'i eithrio o yswiriant GAP?
Nid yw yswiriant GAP yn eich diogelu os nad oes gennych yswiriant car cynhwysfawr.
Fel arfer nid yw yswiriant GAP yn cynnwys yswiriant ar gyfer pethau fel:
- dibrisiant oherwydd oedran neu filltiredd, megis colli gwerth car dros amser oherwydd heneiddio neu filltiredd uchel
- difrod oherwydd esgeulustod, fel peidio â gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd neu adael y car heb ei gloi
- traul, gan gynnwys unrhyw swm a dynnwyd o bris prynu eich car ar gyfer pethau fel crafiadau paent ysgafn neu seddi treuliedig
- ychwanegion heb eu hyswirio, fel olwynion aloi neu ffenestri arlliw nad ydynt fel arfer wedi'u cynnwys yn y polisi yswiriant safonol neu yswiriant GAP.
Mae’n bwysig gwirio manylion eich polisi i ddeall yr holl eithriadau a allai fod yn berthnasol.
Pryd mae angen yswiriant GAP?
Nid yw yswiriant GAP yn ofyniad cyfreithiol.
Fodd bynnag, gall helpu i’ch diogelu pan fydd fwy yn ddyledus gennych ar eich benthyciad car na gwerth y car ar y farchnad.
Os oes gennych fenthyciad car, gall gwerth eich car ostwng yn gyflymach na balans y benthyciad oherwydd llog a sut mae taliadau benthyciad yn cael eu strwythuro. Gall car newydd golli dros 20% o'i werth yn y flwyddyn gyntafYn agor mewn ffenestr newydd yn ôl yr AA. Felly, mae yswiriant GAP yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer ceir newydd, drud sy'n colli gwerth yn gyflym.
Gallai yswiriant GAP fod yn ddefnyddiol hefyd os oes gennych fenthyciad hirdymor. Mae benthyciadau hirach yn golygu ad-daliad arafach a mwy o amser pan allai fod mwy yn ddyledus gennych na gwerth y car ar y farchnad.
Felly, os ydych yn prynu car newydd neu os oes gennych fenthyciad hirdymor, gallai yswiriant GAP helpu i’ch diogelu’n ariannol.
Faint yw yswiriant GAP?
Mae costau yswiriant GAP yn amrywio yn dibynnu ar y darparwr a ffactorau fel:
- gwerth eich car
- hyd eich polisi
- math o yswiriant a ddewiswch.
Rydym yn argymell cymharu polisïau darparwyr amrywiol i helpu i sicrhau eich bod yn cael y fargen orau.
Am fwy o wybodaeth darllenwch ein blog Beth yw cost yswiriant car ar gyfartaledd?
Ydy yswiriant GAP yn werth chweil?
Math dewisol o yswiriant yw yswiriant GAP.
Er efallai na fydd yn angenrheidiol i bawb, gall yswiriant GAP roi tawelwch meddwl. Mae’n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer ceir newydd, drud neu geir ar les hirdymor.
Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi canfod bod llawer o bobl yn talu gormod am yswiriant GAPYn agor mewn ffenestr newydd o ddelwyr ceir, a all fod yn ddrytach oherwydd ffioedd comisiwn uchel.
Mae’r FCA wedi rhybuddio nad yw rhai cwmnïau yswiriant wedi bod yn cynnig bargen deg i’w cwsmeriaid ar yswiriant GAP. O ganlyniad, mae rhai yswirwyr wedi rhoi'r gorau i werthu yswiriant GAP trwy ddelwriaethau.
Er y gall yswiriant GAP fod yn ddefnyddiol, efallai nad ei brynu o ddeliwr yw'r opsiwn gorau. Fe allech chi dalu mwy na'r disgwyl oherwydd comisiwn.
Oes rhaid i chi brynu yswiriant GAP gan ddeliwr ceir?
Gall prynu yswiriant GAP drwy ddelwriaethau fod yn ddrytach oherwydd ffioedd comisiwn. Fel arfer mae’n rhatach prynu’n uniongyrchol gan ddarparwyr yswiriant.
Cofiwch nad y polisi drutaf yw'r gorau bob amser.
Rydym yn argymell siopa o gwmpas i gymharu darparwyr a helpu i sicrhau eich bod yn dod o hyd i'r fargen orau.
Pa mor hir mae yswiriant GAP yn para?
Mae hyd yswiriant GAP yn amrywio yn dibynnu ar eich polisi. Fel arfer byddwch yn cael eich yswirio hyd nes y bydd y benthyciad car wedi'i dalu neu nes bod y cerbyd yn cael ei werthu.
Gwiriwch fanylion eich polisi bob amser i sicrhau bod gennych y swm cywir o yswiriant.
Dysgwch fwy am yswiriant car
Os ydych yn ystyried prynu yswiriant car, gallwch ddysgu pa fathau o yswiriant sydd ar gael a sut i ddod o hyd i’r polisi gwerth gorau yn ein canllaw: Yswiriant car – beth rydych angen ei wybod.