A oes angen Trwydded Deledu arnaf a faint mae’n ei gostio?

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
01 Ebrill 2025
Y dyddiau hyn mae cymaint o wahanol wasanaethau ffrydio a gwefannau fideo am ddim mae modd gwylio ystod eang o deledu heb dalu am Drwydded Deledu.
Mae’n bwysig eich bod yn gwybod a oes rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch i dalu am Drwydded Deledu, oherwydd os ydych yn gwylio’r teledu hebddo a’i bod yn dod i’r amlwg bod angen un arnoch, gallai olygu dirwy o £1,000.
Pwy sydd angen Trwydded Deledu yn y DU?
Nid oes angen i bawb dalu am Drwydded Deledu. Os nad ydych yn gwylio unrhyw deledu byw neu BBC iPlayer yna nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer un. Os ydych chi neu rywun sy’n byw gyda chi dros 74 oed, mae angen i chi wneud cais am Drwydded Deledu o hyd os ydych chi eisiau gwylio teledu byw neu iPlayer, ond nid oes angen i chi dalu amdani. Daeth y cynllun Trwydded Deledu am ddim i bobl 75 oed a throsoddYn agor mewn ffenestr newydd i ben ar 31 Gorffennaf 2020, os ydych yn hawlio Credyd Pensiwn rydych yn gallu cael Trwydded Deledu am ddim o hyd.
Oes rhaid i ni dalu Trwydded Deledu yn ôl y gyfraith?
Mae’n anghyfreithlon gwylio BBC iPlayer neu wylio neu recordio teledu byw o unrhyw sianel heb Drwydded Deledu. Os canfyddir eich bod yn gwylio’r teledu neu’n defnyddio iPlayer heb Drwydded Deledu gellir mynd â chi i’r llys a rhoi dirwy o hyd at £1,000.
Oes rhaid i mi dalu Trwydded Deledu os oes gen i Sky neu Netflix?
Os ydych chi'n gwylio'ch holl deledu trwy wasanaethau dal i fyny am ddim (heb gynnwys BBC iPlayer) neu wefannau ffrydio tanysgrifiad fel Netflix, Amazon Prime Video neu Now TV, yna nid oes angen i chi gael Trwydded Deledu. Gallwch roi gwybod i TV Licensing nad oes angen Trwydded Deledu arnochYn agor mewn ffenestr newydd
Os oes gennych Sky neu Freeview bydd angen i chi dalu am Drwydded Deledu o hyd os ydych yn gwylio unrhyw deledu byw.
Pam fod angen i mi dalu Trwydded Deledu?
Yn y DU nid yw’r BBC yn cael incwm o hysbysebu, felly mae 90% o’r arian o daliadau Trwydded Deledu yn cael ei wario ar raglenni’r BBC ar gyfer teledu a radio, yn ogystal ag ariannu eu gwefan. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i ariannu darlledwyr lleol ac S4C. Defnyddir 3% o'r arian o daliadau Trwydded Deledu ar gyfer gorfodi.
Pa wledydd sy’n talu Trwydded Deledu?
Mae llawer o wledydd yn mynnu bod pobl yn talu am Drwydded Deledu neu dreth sy'n ariannu eu darlledwr cyhoeddus. Mae Iwerddon, Ffrainc, yr Eidal, Japan a De Affrica ond yn rhai enghreifftiau o wledydd sydd â system debyg i system y DU.
Faint yw Trwydded Deledu?
Mae trwydded deledu ar gyfer teledu lliw yn costio £174.50 y cartref (£58.50 y flwyddyn yw du a gwyn). Does dim ots faint o bobl sy’n byw mewn cartref na faint o liniaduron neu setiau teledu rydych chi’n eu cadw yno, bydd angen un Drwydded Deledu arnoch i bob eiddo. Os ydych yn byw mewn eiddo a rennir ar denantiaeth unigol (fel neuaddau myfyrwyr er enghraifft) yna ni allwch rannu Trwydded Deledu gyda’r tenantiaid eraill yn eich fflat, gallwch ddarllen mwy am y rheolau a’r costauYn agor mewn ffenestr newydd hyn.
Faint yw Trwydded Deledu i fyfyriwr?
Codir yr un swm am Drwydded Deledu ar gyfer myfyriwr ag y byddai ar unrhyw berson arall oni bai eich bod dros 75 oed. Lle gall myfyrwyr gael gostyngiad bach trwy hawlio ad-daliad am unrhyw fisoedd cyflawn y maent yn eu treulio i ffwrdd o'u cyfeiriad yn ystod y tymor, mewn eiddo trwyddedig arall. Er enghraifft, os bydd myfyriwr yn mynd i dŷ ei rieni rhwng mis Mai a mis Medi bob blwyddyn, gall wneud cais am ad-daliad am chwarter y flwyddyn. O 2025/26 ymlaen gallwch hawlio £14.54 yn ôl am bob mis llawn y byddwch yn ei dreulio mewn eiddo trwyddedig gwahanol.
Dysgwch sut i wneud cais am ad-daliadYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan TV Licensing.
Bwlch trwydded teledu myfyriwr posibl
Yn gyfreithiol, os ydych yn byw mewn eiddo trwyddedig am ran o’r flwyddyn gallwch ddefnyddio’r Drwydded honno i wylio iPlayer ar liniadur, ffôn neu lechen pan nad ydych yno, ond ni allwch ei blygio i mewn i’r prif gyflenwad tra byddwch yn gwylio. Gallai hyn fod yn opsiwn arbed arian i fyfyrwyr sy'n mynd adref dros y gwyliau.
Sut ydw i’n gwneud cais am drwydded deledu?
Gallwch wneud cais am Drwydded Deledu mewn gwahanol ffyrdd:
- ar-lein ar wefan TV Licensing
- dros y ffôn ar 0300 555 0286 os ydych am ddefnyddio’r system cerdyn taluYn agor mewn ffenestr newydd (i dalu’n wythnosol, bob pythefnos neu’n fisol)
- ffonio 0300 790 0368 os hoffech dalu am y flwyddyn gyfan ymlaen llaw neu drwy ddebyd uniongyrchol misol
- gallwch wneud cais drwy'r post drwy ysgrifennu at TV Licensing, Darlington, DL98 1TL
- mae cyfleuster minicom ar gyfer y byddar neu’r trwm eu clyw ar gael ar 0300 790 6050.
Allwch chi dalu Trwydded Deledu yn fisol, a faint ydyw?
Gallwch dalu am eich Trwydded Deledu yn fisol drwy Ddebyd Uniongyrchol heb unrhyw gost ychwanegol. Er ei fod yn gweithio allan i fod yn £14.54 y mis, pan fyddwch yn cael eich Trwydded Deledu gyntaf byddwch yn talu £29.08 bob mis am chwe mis. Byddwch wedi talu am y flwyddyn gyfan ar ôl chwe mis, ond gallwch ganslo a chael ad-daliad. Ar ôl y chwe mis cychwynnol bydd y rhandaliadau yn mynd i lawr i £14.54 y mis, a byddant yn adnewyddu'n awtomatig oni bai eu bod yn cael eu canslo.
Sut ydw i’n talu fy Nhrwydded Deledu ar-lein?
Os byddwch yn dewis talu ar-lein gallwch ddewis rhwng talu £174.50 ar unwaith drwy Ddebyd Uniongyrchol neu ddefnyddio’ch cerdyn debyd neu gredyd, neu sefydlu Debyd Uniongyrchol bob mis neu bob chwarterYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan TV Licensing.
Mae’n werth cadw mewn cof, os ydych yn dewis talu pob chwarter, bydd yn costio £5 yn ychwanegol y flwyddyn i chi gan fod gan bob taliad bremiwm o £1.25.
A allaf dalu fy Nhrwydded Deledu yn Swyddfa’r Post?
Na, ni allwch dalu am eich Trwydded Deledu yn Swyddfa'r Post mwyach. Os hoffech dalu am eich Trwydded Deledu yn bersonol, bydd angen i chi wneud cais am gerdyn taluYn agor mewn ffenestr newydd drwy ffonio 0300 555 0286.
Mae’r cerdyn talu am ddim, ac ni fydd yn costio mwy i chi ei ddefnyddio. Gallwch ddewis talu bob wythnos, bob pythefnos neu bob mis gydag ef. I ddefnyddio’ch cerdyn talu mewn siop, bydd angen i chi ddod o hyd i siop gyda pheiriant PayPoint. Mae gan lawer o siopau cornel, archfarchnadoedd a gorsafoedd petrol rai - dewch o hyd i'ch siop PaypointYn agor mewn ffenestr newydd agosaf
Ewch â'ch cerdyn talu i siop gyda pheiriant PayPoint, a bydd yr ariannwr yn gallu ychwanegu eich taliad wythnosol, fesul pythefnos neu fisol i'ch cyfrif.