Cynlluniwr cyllideb
I’ch helpu i reoli’ch arian, rhowch gynnig ar ein Cynlluniwr cyllideb rhad ac am ddim sy'n hawdd ei ddefnyddio.
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
17 Mehefin 2024
Does dim amheuaeth bod nifer ohonom wedi dibynnu ar danysgrifiadau yn ystod cyfnodau clo y pandemig. O wasanaethau ffrydio, i flychau harddwch, i Beano ar gyfer y plant, roeddent yn edrych fel bethau braf gwerth chweil. Ond nawr bod pethau’n dychwelyd i’r arfer, ydych chi’n talu am bethau nad ydych yn eu defnyddio?
Er bod arbedion i’w gwneud yn aml trwy ymrwymo i bethau yn hytrach na’u prynu bob tro y mae eu hangen arnoch, rydym hefyd yn meddwl ei bod hi’n debygol eich bod yn talu am danysgrifiad nad ydych eisiau mwyach neu nad oes ei angen arnoch.
Mae gennym dri cham syml i sicrhau eich bod yn cadw ar ben eich gwariant ac nad ydych yn gwastraffu arian ar danysgrifadau nad ydych yn eu defnyddio.
Casglwch eich cyfriflenni banc a chardiau credyd diweddar ac edrychwch ar yr hyn rydych wedi bod yn ei brynu. Os sylwch ar daliad rheolaidd, gwiriwch a yw ar gyfer rhywbeth rydych yn ei ddefnyddio’n aml. Os na, gallai fod yn werth torri’n ôl.
Os allwch fynd yn ôl dros flwyddyn, gallech hefyd weld unrhyw daliadau blynyddol sy’n adnewyddu’n awtomatig megis yswiriant teithio.
Mae gan HelpwrArian declyn Cynlluniwr cyllideb sy’n eich helpu i gyfrifo ble mae’ch arian yn mynd a faint fyddech yn ei arbed pe baech yn rhoi’r gorau i wasanaeth.
Mewnbynnwch gost eich gwasanaeth ffrydio cerddoriaeth neu aelodaeth i glwb a gallech gael eich synnu faint mae’n ei gostio i chi mewn blwyddyn.
Bydd gan unrhyw danysgrifiadau sydd gennych ddyddiad adnewyddu. Dewch o hyd iddo a sicrhewch eich bod yn rhoi nodyn yn eich dyddiadur er mwyn i chi wybod i roi’r gorau iddo. Ar gyfer contractau blynyddol, dylech wneud hyn bum wythnos cynt yn ddelfrydol er mwyn osgoi colli’r cyfnod rhybudd (sy’n aml yn 30 diwrnod).
Hyd yn oed yn well, os gallwch roi’r gorau i’r tanysgrifiad cyn gynted â’ch bod yn cofrestru, bydd yn golygu y byddwch yn sicr o beidio anghofio’n nes ymlaen yn y flwyddyn. Os hoffech barhau gyda’r tanysgrifiad, mae’n ddigon hawdd cofrestru eto.
Os nad ydych yn ei ddefnyddio, peidiwch â thalu amdano. Ffoniwch, e-bostiwch neu ysgrifennwch at y darparwr i’w cael i roi’r gorau i’r tanysgrifiad. Gallai hyn fod yn anodd neu’n rhwystredig ar adegau ond daliwch ati!
Cadwch lygad ar unrhyw gosbau os ydych yn ceisio gadael yn gynnar, ond holwch a allwch gael ad-daliad hefyd – yn enwedig gyda thanysgrifiadau cylchgrawn.
Mae’n werth cadw llygad ar fargeinion ar gyfer cadw’r tanysgrifiad. I gadw’ch busnes, gallech gael cynnig mis arall am bris rhatach. Mae hynny’n wych...os ydych yn ei ddefnyddio. Fel arall, rydych yn parhau i dalu am rywbeth nad oes ei angen arnoch er ei fod yn rhatach.