Beth yw bancio agored?

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
24 Ionawr 2025
Efallai y bydd bancio agored yn ymddangos yn gymhleth, ond gallai wneud tasgau fel talu biliau, cyllidebu a symud eich arian rhwng gwahanol fanciau a chymdeithasau adeiladu yn symlach.
Sut mae bancio agored yn gweithio?
Mae bancio agored yn ffordd i chi roi caniatâd i gwmnïau eraill gael mynediad i'ch cyfrif banc dros dro. Gallai hyn fod i weld eich trafodion (a elwir yn "fynediad darllen yn unig") neu i gymryd neu anfon taliadau.
Mae'n caniatáu ichi fewngofnodi gan ddefnyddio'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair bancio ar-lein heb eu rhannu â'r wefan rydych chi'n ei defnyddio.
Mae bancio agored wedi'i gynllunio i fod yn syml i'w ddefnyddio, yn enwedig os ydych chi'n defnyddio ffôn symudol sydd eisoes â'ch ap bancio arno.
Gall wneud taliadau'n gyflymach, oherwydd yn hytrach na gorfod gadael safle, agor eich ap bancio yna ychwanegu talai newydd i wneud trosglwyddiad banc, gallwch fewngofnodi i'ch banc a gwneud y taliad i gyd ar yr un dudalen.
Mae bancio agored yn aml yn cael ei ddefnyddio gan gwmnïau "fintech" (technoleg ariannol), ond mae'n dod yn fwy cyffredin.
Mae'r defnydd cyffredin ar gyfer bancio agored yn cynnwys:
- apiau cyllidebu sy'n cael mynediad darllen i'ch cyfrif yn unig fel y gall yr ap gadw golwg ar eich incwm a'ch gwariant
- talu biliau
- symud eich arian rhwng cyfrifon o wahanol fanciau.
Nid oes rhaid i chi ddefnyddio bancio agored; mae'n un o'r ffyrdd y gallwch wneud taliadau neu rannu gwybodaeth.
A yw pob banc yn defnyddio bancio agored?
Mae bancio agored yn gweithio dim ond os yw'ch banc wedi cofrestru i'w ddefnyddio.
Pan lansiwyd bancio agored yn y DU yn 2017, gofynnodd yr FCA i'r chwe grŵp bancio mwyaf gymryd rhan. Felly, banciau llai yn bennaf nad oes ganddynt fancio agored eto.
Gwiriwch a yw'ch banc wedi cofrestru ar y rhestr hon o fanciau a chymdeithasau adeiladu sy'n defnyddio bancio agoredYn agor mewn ffenestr newydd
A yw CThEF yn defnyddio bancio agored?
Ydyn, gallwch dalu eich bil treth i CThEF gan ddefnyddio bancio agored. Fodd bynnag, mae hyn yn un ffordd y gallwch ddewis talu, gallech dalu drwy drosglwyddiad banc, Debyd Uniongyrchol neu gyda'ch cerdyn yn lle.
Hefyd, gall CThEF ddefnyddio bancio agored i ad-dalu unrhyw dreth y gallech fod wedi'i gordalu. Gallwch ddewis cael yr arian mewn ffyrdd eraill, ond gyda bancio agored gall fod yn haws sicrhau bod eich arian yn mynd i mewn i'r cyfrif cywir.
A yw bancio agored yn ddiogel?
Gyda bancio agored, eich cyfrifoldeb chi yw rhoi neu dynnu'ch caniatâd yn ôl i gwmnïau gael mynediad i'ch cyfrif a phenderfynu pa gyfrifon rydych chi am roi mynediad iddynt.
Gallwch wirio a yw cwmnïau sy'n gofyn i chi ddefnyddio bancio agored ar y gofrestr bancio agoredYn agor mewn ffenestr newydd Mae'r holl gwmnïau ar y rhestr hon yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) neu sefydliad tebyg mewn gwlad Ewropeaidd arall.
Os yw cwmni ar y gofrestr bancio agored, bu'n rhaid iddynt brofi bod eu gwefan neu ap yn ddiogel.
Mae risgiau os ydych chi’n bancio agored, yn union fel pan fyddwch chi'n gwneud unrhyw daliadau ar-lein. Mae'n bwysig ceisio lleihau'r risgiau drwy wirio ddwywaith beth rydych chi'n cofrestru ar ei gyfer.
Pan fyddwch yn defnyddio bancio agored, dylech ddarllen y caniatâd y gofynnir i chi amdanynt cyn i chi glicio 'derbyn'. Os ydych chi'n cofrestru ar gyfer ap cyllidebu, gallai wneud synnwyr eich bod chi'n caniatáu i'r ap weld gweithgaredd eich cyfrif am fis, ond ni fyddai hynny'n briodol pe baech chi'n ceisio talu bil.
Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi cael eich twyllo gan ddefnyddio bancio agored, cysylltwch â'ch banc. Darllenwch fwy yn ein blog am gael ad-daliad am sgamiau trosglwyddo banc. Gallwch hefyd gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS) os na all eich banc eich
A yw bancio agored yn gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig?
Mae bancio agored wedi cael ei ddefnyddio'n eang yn y DU ers 2018, ac mae'n cael ei reoleiddio gan yr FCA. Caiff eich data ei ddiogelu gan GDPR pan fyddwch yn defnyddio bancio agored.