Beth yw cost gyfartalog perchen ar gath?

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
14 Ionawr 2025
Meddwl am gael cath oherwydd eu bod yn ymddangos yn haws i ofalu amdanynt na chŵn? Er ei bod yn wir bod cathod fel arfer yn llai o gynhaliaeth, gallant dal costio swm syfrdanol i chi.
Ar gyfartaledd, bydd perchen ar gath yn costio tua £1,500 y flwyddyn, unwaith y byddwch yn ystyried bwyd, gwasarn, biliau milfeddyg. yswiriant a hanfodion eraill. Mae perchen ar gath yn ymrwymiad mawr ac mae’n werth gwybod am yr hyn mae’n ei gynnwys cyn dod ag un adref.
Cost gyfartalog prynu cath
Os ydych yn cael cath ddomestig safonol o fridiwr dilys neu gartref achub, nid yw’r gost yn ormodol, gyda phris cyfartalog o £50 i £200.
Ond, gallwch wario llawer mwy, gyda phris rhai cathod yn gwneud i’ch ffwr sefyll ar y diwedd!
Gall cathod Russian Blue, Maine Coon, a chathod Norwegian Forest costio dros £1,000.
Gall bod gan y bridiau Bengal, Savannah ac Ashera, sydd i gyd yn hybrid o lewpard bach a chathod domestig, prisoedd sydd yn y degau o filoedd.
Cost gyfartalog bwyd cathod
Tra bod bwydo cath yn costio llai na bwydo ci, gall eu bil bwyd bod yn sylweddol.
Pob blwyddyn, rydych yn debygol yn edrych ar rhwng £240 a £655 yn dibynnu ar ba fath o fwyd cath rydych yn prynu.
Gall bwyd cath o safon uwch fod o fydd i iechyd eich anifail, er gall fod yn ddrytach. Ond, sicrhewch eich bod yn gwirio’r cynhwysion i sicrhau eich bod yn cael cynnwys uwch o gig.
Cost gyfartalog teganau a gwelyau
Mae eithaf tipyn o gostau ychwanegol pan rydych yn berchen ar gath. Nid yn unig y pethau amlwg sydd eu hangen arnoch, fel bowlen a gwely, ond mae hefyd pethau fel basgedi gwastraff a gwasarn.
Fel man dechrau, mae’n rhaid eich bod yn edrych ar tua £145 - £190 y flwyddyn i dalu am y costau mwyaf sylfaenol.
Nawr, mae pethau gallwch wario symiau enfawr o arian arnynt, fel postau crafu, felly mae hyn i fyny i chi mewn gwirionedd. Ond yn wirioneddol, yn y diwedd, mae’n debyg bydd y gath yn chwarae gyda’r bocs.
Cost gyfartalog yswiriant cathod
Bydd polisi yswiriant anifail anwes gydol-oes yn costio tua £285 y flwyddyn, yn ôl Battersea Dogs & Cats Home.
Gallwch arbed arian trwy brynu polisi un-flwyddyn yn y blynyddoedd cynnar, ond byddwch yn ofalus.
Bydd premiymau yn cynyddu llawer pan mae’ch cath yn cyrraedd chwech neu saith oed, ac efallai y byddwch yn cael trafferth cael yswiriant cath o gwbl pan maent yn troi’n wyth neu naw, neu hyd yn oed yn fwy ifanc am rai bridiau.
Cost gyfartalog biliau milfeddyg am eich cath
Gall biliau milfeddyg bod yn ddrud iawn, sydd yn rheswm pam mae gymaint o bobl yn dewis cael yswiriant anifail anwes.
Ond, os ydych yn meddwl am dalu’r costau eich hun, mae’n werth gwybod faint gall hwn costio.
Gall triniaeth ar gyfartaledd costio £1,500, ond mae pethau wirioneddol yn bwrw’ch poced pan fydd costau meddygol parhaus am salwch hirdymor.
Mae cathod yn enwedig yn dueddol o ddal rhai clefydau fel haint y llwybr wrinol a chlefyd yr afu.
Darganfyddwch y ffyrdd orau i gynilo am filiau milfeddyg annisgwyl yn ein canllaw
Cost gyfartalog brechiadau cath
Pan rydych yn dod â chath fach adref, mae’n hanfodol eich bod yn cael eu brechiadau ac yn cadw lan gyda’u pigiadau atgyfnerthu blynyddol. Cost y rownd gyntaf bydd tua £100, gyda £50 arall am y pigiadau atgyfnerthu blynyddol.
Os ydych yn dewis cael cath fach neu gath o ganolfan achub, fel arfer bydd y gath wedi cael rownd gyntaf y brechiadau’n barod.
Cost gyfartalog niwtro cath a chost disbaddu cath
Os ydych am osgoi sŵn pawennau cath fach, bydd angen gwario tua £100 i £300 niwtro neu ddisbaddu’ch cath.
Cost gyfartalog microsglodyn cath
Yn 2024, daeth gosod microsglodyn ar eich cath yn ofyniad cyfreithiol, yn union fel y mae ar gyfer cŵn.
Ac nid yw hyd yn oed yn costio llawer, gyda phris cyfartalog o £20 i £30.
Mae rhai cwmnïau gosod microsglodyn yn codi tâl arnoch i ddiweddaru'ch manylion, gwiriwch y telerau ac amodau pan fyddwch yn rhoi microsglodyn i’ch cath.
Cost gyfartalog triniaeth chwain a llyngyr am eich cath
Mae angen triniaethau chwain misol ar gathod, ac mae llyngyr yn driniaeth ataliol bwysig arall sydd ei hangen bob tri mis. Gall y triniaethau rheolaidd hyn gostio tua £120 y flwyddyn i chi.
Cost gyfartalog ysgrafellu cath
Gall gofynion ysgrafellu amrywio yn dibynnu ar frîd eich cath ac, yn fwy penodol, eu cot.
Mae angen brwsio cathod domestig yn aml i osgoi matio yn eu cot a pheli ffwr ac ni fydd brwsh o safon yn costio llawer.
Bydd angen mwy o ysgrafellu ar gathod pedigri a gwallt hir ac efallai byddwch am ystyried eu cymryd i ysgrafellwr proffesiynol. Bydd hwn fel arfer yn eich costio tua £30 i £100 yn dibynnu ar faint eich cath.
Costau gosod fflap cath
Os ydych am wneud eich bywyd yn haws, ar gyfer chi a’ch cath, efallai byddwch am ystyried gosod fflap cath.
Mae dau beth i feddwl am - cost y fflap cath ei hun, a chost gosod y fflap cath.
Gallwch brynu fflap cath am gost mor isel â £10, ond gall costio mwy na £50 am rai sydd â synhwyrydd is goch neu synhwyrydd microsglodyn. Gall fflapiau cath gyda nodweddion wi-fi ac amserydd fod hyd yn oed yn ddrutach.
Y broblem fwyaf yw gosod a ble rydych chi'n dewis gosod y fflap, a allai gostio rhwng £40 a £200.
Cost gyfartalog pasbort anifail anwes am eich cath
Os ydych chi eisiau mynd â'ch cath ar wyliau gyda chi, yna gall pasbort anifail anwes gostio cyn lleied â £130 neu gymaint â £330, neu fwy. Mae'r gost yn dibynnu ar y milfeddygfa ac o ble rydych chi'n teithio.
Rhaid bod gan eich cath microsglodyn er mwyn cael pasbort anifail anwes a bydd hefyd angen brechiad y cynddaredd a thriniaeth am lyngyr rhuban cyn iddynt ddychwelyd i’r DU.
Mae’n hefyd werth cofio efallai na fydd eich yswiriant anifail anwes yn eich yswirio os ydych allan o’r DU.
Cost gyfartalog llety cathod
Os nad ydych am fynd trwy’r drafferth o gymryd eich cath tramor gyda chi, mae llety cathod yn opsiwn arall.
Ar gyfartalog, bydd hwn fel arfer yn costio rhwng £5 a £10 y diwrnod, ynghyd â phethau ychwanegol.
Opsiwn arall yw trefnu i warchodwr anifail anwes dod i ymweld a bwydo’ch cath tra eich bod i ffwrdd, sydd yn cael gwared â’r straen o’u cymryd i leoliad anghyfarwydd. Bydd hwn yn costio’n debyg i aros mewn llety cathod.
Cost ewthanasia cath
Pan ddaw’r amser i ffarwelio â’ch cath, fel arfer bydd yn costio rhwng tua £100 a £300. Gall gostio mwy os caiff eich cath ei rhoi i gysgu yn y nos, ar benwythnosau, neu gartref yn lle clinig y milfeddyg.
Cost amlosgi cath
Mae amrywiad mawr yn faint mae’n costio am amlosgiad ac i raddau helaeth mae’n dibynnu a ydych am gael y lludw yn ôl.
Os ydych am gael y lludw yn ôl, bydd angen amlosgiad unigol arnoch, sydd yn costio mwy. Bydd hwn fel arfer yn eich costio rhwng £150 a £300.
Os nad ydych am gael y lludw yn ôl, gall ond eich costio £50.
Mae rhai milfeddyg hefyd yn cynnig gwasanaeth ewthanasia ac amlosgi cyfun, ond ni fydd hwn yn arbed llawer o arian i chi.