Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu ym mis Ebrill bob blwyddyn, yn seiliedig ar system o’r enw ‘clo triphlyg’. Mae hyn yn golygu y bydd y cynnydd yn cyfateb i'r uchaf o'r tri chanran hyn:
- faint y mae costau byw cyffredinol wedi codi (chwyddiant), yn seiliedig ar Fynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) ym mis Medi.
- y cynnydd cyfartalog mewn cyflogau o fis Mai i fis Gorffennaf y flwyddyn flaenorol, neu
- 2.5%
Er enghraifft, yn 2024, y gyfradd CPI oedd 1.7% a'r cynnydd cyflog cyfartalog oedd 4.1%. Mae hyn yn golygu y bydd Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu 4.1% ym mis Ebrill 2025
Mae hyn yn cymryd yr uchafswm o £221.20 i £230.25 yr wythnos. Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, bydd swm llawn Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn cynyddu i £176.45, i fyny o £169.50.
Mae’r clo triphlyg yn berthnasol i’r rhan fwyaf o daliadau Pensiwn y Wladwriaeth, ond mae dau eithriad sy’n cynyddu yn unol â CPI:
- Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth - rhan o hen Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael os gwnaethoch gyrraedd oedran pensiwn cyn 6 Ebrill 2016.
- Unrhyw swm ychwanegol os gwnaethoch benderfynu oedi cyn cymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth - a elwir yn ohirio.