Defnyddiwch ein Cyfrifiannell cyfraniadau pensiwn gweithle
Darganfyddwch faint y byddwch chi a’ch cyflogwr yn ei dalu i’ch pensiwn o dan ymrestru awtomatig gyda’n Cyfrifiannell cyfraniadau pensiwn gweithle.
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
28 Hydref 2025
Y bwlch pensiynau rhywedd yw'r gwahaniaeth rhwng gwerthoedd pensiwn cyfartalog dynion a menywod. Darganfyddwch pam mae menywod yn aml yn agosáu at ymddeoliad gyda llawer llai o arian wedi'i arbed.
Mae data diweddaraf y llywodraeth yn datgelu mai gwerth pensiwn preifat cyfartalog ar gyfer pobl rhwng 55 a 59 oed rhwng 2020 a 2022 oedd:
Pe bai hyn i gyd yn cael ei drosi i incwm rheolaidd gwarantedig wrth ymddeol (a elwir yn prynu blwydd-dal), byddai hyn yn talu tua:
Mae menywod fel arfer yn byw yn hirach na dynion, felly mae angen i gynilion ymddeol yn aml ymestyn ymhellach. Gall hyn hefyd olygu bydd blwydd-daliadau sy'n gwarantu incwm am oes yn talu cyfradd is i fenywod nag i ddynion.
Er enghraifft, y disgwyliad oes cyfartalog ar gyfer person 55-mlwydd-oed yw:
Mae hyn yn seiliedig ar y Life expectancy calculatorYn agor mewn ffenestr newydd gan Y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae hyn yn golygu efallai y bydd yn rhaid i fenywod:
Mae yna lawer o wahanol resymau pam mae bwlch pensiynau rhywedd, gan gynnwys y bwlch cyflog rhywedd – lle, ar gyfartaledd, mae menywod yn ennill llai na dynion.
Y bwlch cyflog rhywedd yw'r gwahaniaeth rhwng y cyflog cyfartalog a dderbynnir gan ddynion a menywod.
Er enghraifft, mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai'r cyflog awr cyfartalog ar gyfer gweithwyr amser llawn ym mis Ebrill 2024 oedd:
Mae'r bwlch yn cynyddu rhwng dynion a menywod sy'n gweithio mewn crefftau medrus neu dros 40 oed.
Mae menywod yn fwy tebygol o gymryd cyfrifoldebau gofalu am y teulu neu'r cartref – weithiau gweithio oriau rhan-amser neu gymryd seibiannau gyrfa ac absenoldeb mamolaeth. Gallai'r ymrwymiadau hyn hefyd olygu bod menywod yn colli allan ar ddyrchafiadau.
Gall iechyd menywod hefyd chwarae rôl, gyda data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dangos bod menywod wedi cael mwy o ddiwrnodau salwch na dynionYn agor mewn ffenestr newydd ym mhob grŵp oedran yn ystod 2024. Gall hyn gael effaith sylweddol ar eich pensiwn os ydych chi'n cael eich talu fesul awr neu os yw'ch cyflogwr yn cynnig Tâl Salwch Statudol yn unig
Mae cyfraniadau pensiwn yn aml yn cael eu cyfrifo fel cyfran o'ch cyflog bob mis, fel 5%. Mae hyn yn golygu y bydd llai yn cael ei gynilo mewn i bensiwn os oes gennych gyflog is – neu ddim o gwbl yn ystod seibiant gyrfa di-dâl.
Os ydych chi'n sefydlu eich pensiwn eich hun, gallwch fel arfer ddewis faint a pha mor aml i gynilo. Os bydd eich incwm yn gostwng, efallai na fyddwch yn gallu fforddio parhau i gyfrannu neu angen addasu faint rydych chi'n ei dalu.
Gallai cyflogau isel hefyd olygu:
Er mwyn i ymrestru awtomatig ar gyfer pensiwn ddechrau, fel arfer mae angen i chi ennill o leiaf £192 yr wythnos, £833 y mis neu £10,000 y flwyddyn a bod rhwng 22 oed ac oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd
Os nad ydych yn gymwys ar gyfer ymrestru awtomatig ac yn ennill llai na £120 yr wythnos, £520 y mis neu £6,240 y flwyddyn, nid oes rhaid i'ch cyflogwr dalu i'ch pensiwn – oni bai eu bod yn dewis gwneud hynny. Mae hyn yn golygu y gallech golli cyfraniadau gwerth o leiaf 3% o'ch cyflog.
Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn cynnwys eu pensiynau wrth benderfynu sut i rannu eu harian a'u heiddo ar ôl gwahanu.
Mae hyn yn golygu bod pob person yn cadw eu pensiynau llawn. Ond, gan fod pensiynau dynion fel arfer yn llawer uwch na menywod, gall menywod mewn perthynas â dynion golli allan.
Hyd yn oed os yw pensiwn wedi'i gynnwys, nid yw llawer yn deall pa mor werthfawr ydyw. Er enghraifft, efallai y byddant yn cytuno i gadw'r cartref os yw'r llall yn cadw eu pensiwn – ond gallai'r pensiwn fod yn werth llawer mwy na'r cartref.
Mae oedran Pensiwn y Wladwriaeth wedi bod yr un fath ar gyfer pob dyn a menyw ers mis Tachwedd 2018. Dyma'r cynharaf y gall unrhyw un hawlio Pensiwn y Wladwriaeth.
Cyn hyn, gallai menywod hawlio Pensiwn y Wladwriaeth hyd at bum mlynedd yn gynt na dynion. Roedd hyn yn aml yn golygu bod menywod yn stopio gweithio cyn dynion, felly roedd ganddynt lai o amser i gynilo mewn i bensiwn preifat.
Am y camau y gallwch eu cymryd i helpu i gau'r bwlch pensiynau rhywedd, gweler ein canllaw Ffyrdd o gau'r bwlch pensiynau rhywedd.