Nid yw’r oriau sydd wedi’u cyllido’n cychwyn yn awtomatig ar y diwrnod y bydd eich plentyn yn troi’n naw mis oed neu’r union ddyddiad y byddwch yn dychwelyd i’r gwaith. Bydd angen i chi wneud cais o flaen llaw. I sicrhau na fyddwch chi’n colli allan ar eich oriau sydd wedi’u cyllido, bydd angen i chi wirio’r dyddiad terfyn.
Os ydych ar absenoldeb rhiant o hyd pan fydd eich plentyn yn naw mis oed, ni allwch gael yr oriau sydd wedi’u cyllido tan i chi ddychwelyd i’r gwaith, ac mae’r un peth yn wir am y ffordd arall: pe baech yn dychwelyd i’r gwaith cyn i’ch plentyn droi’n naw mis oed, ni allwch gael yr oriau sydd wedi’u cyllido’n gynt.