Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Esbonio pensiynau

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Esbonio pensiynau Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Dod yn rhiant
Teulu a gofal Dod yn rhiant

Help gyda chostau gofal plant

Gall gofal plant fod yn gost fawr i'ch teulu, ond mae help ar gael i wneud pethau ychydig yn haws. Gall y canllaw hwn eich helpu i ddarganfod faint o gymorth ariannol y gallwch ei gael gyda chostau gofal plant lle rydych chi'n byw.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Gwiriwch pa gymorth y gallech ei gael gyda chostau gofal plant
  • Pa ofal plant am ddim alla i ei gael?
  • Sut i gael gofal plant am ddim yn Lloegr
  • Sut i gael gofal plant am ddim yng Nghymru
  • Sut i gael gofal plant am ddim yn yr Alban
  • Sut i gael gofal plant am ddim yng Ngogledd Iwerddon
  • Credyd Cynhwysol
  • Beth yw Gofal Plant Di-dreth?
  • Faint yw Gofal Plant Di-dreth?
  • Sut i wneud cais am ofal plant di-dreth
  • Gofal plant amgylchynnol yn Lloegr
  • Meithrinfeydd yn y gweithle
  • Credydau Yswiriant Gwladol ar gyfer neiniau a theidiau sy'n gofalu am wyrion

Gwiriwch pa gymorth y gallech ei gael gyda chostau gofal plant

Efallai y bydd gennych hawl i rywfaint o ofal plant am ddim, felly mae'n werth gwirio a ydych chi'n gymwys i wneud yn siŵr nad ydych chi'n colli allan. Defnyddiwch y gyfrifiannell gofal plant ar GOV.UK i ddarganfod faint o help y gallech ei gael.

Nol i’r brig

Pa ofal plant am ddim alla i ei gael?

Mae faint y gallwch ei gael yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. Gallwch ddefnyddio'r oriau am ddim hyn yn y lleoliadau cofrestredig canlynol:

  • meithrinfeydd a dosbarthiadau meithrin

  • cylchoedd chwarae a chyn-ysgolion

  • gwarchodwyr plant 

  • cynlluniau gwyliau, clybiau brecwast ac ar ôl ysgol.

Os ydych yn byw yn: Darganfyddwch a ydych yn gymwys ar gyfer gofal plant am ddim

Cymru

Dechrau'n Deg

Lloegr

Canolfannau Plant Dechrau'n Deg

Yr Alban

Gwneud cais am feithrinfa neu chwilio am leoliad gofal plant ar gov.scot

Gogledd Iwerddon

Gwasanaethau Dechrau'n Deg

Gallwch ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth ynghyd ag oriau gofal plant am ddim os ydych chi'n gymwys ar gyfer y ddau. Gweler yr adran ar Beth yw Gofal Plant Di-dreth? i ddarganfod mwy.

Dewch o hyd i'r opsiwn gofal plant cywir ar eich cyfer gyda'n canllaw Opsiynau gofal plant
Nol i’r brig

Sut i gael gofal plant am ddim yn Lloegr

Efallai y byddwch chi'n gallu cael:

  • 15 awr o ofal plant am ddim i'ch plentyn rhwng naw mis a dwy oed

  • hyd at 30 awr o ofal plant am ddim i'ch plentyn rhwng tair a phedair oed.

Os ydych chi'n gweithio

Fel arfer, gallwch gael gofal plant am ddim os ydych chi (a'ch partner, os oes gennych un):

  • yn gweithio neu’n dechrau swydd newydd

  • ar absenoldeb salwch neu wyliau blynyddol

  • ar absenoldeb rhiant, absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu.

Gwiriwch a ydych chi'n gymwys i gael gofal plant am ddim ar GOV.UK.

Os nad ydych chi'n gweithio ar hyn o bryd

Gall pob plentyn tair a phedair oed gael 15 awr o ofal plant am ddim ond efallai y gallech hefyd fod yn gymwys i gael mwy os yw'ch partner yn gweithio, a'ch bod ar absenoldeb gofalwr neu os ydych chi'n cael unrhyw un o'r canlynol:

  • Budd-dal Analluogrwydd

  • Lwfans Anabledd Difrifol

  • Lwfans Gofalwr 

  • Budd-dal Gallu Cyfyngedig i Weithio

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n seiliedig ar gyfraniadau.

Sut i wneud cais am ofal plant am ddim yn Lloegr

Gallwch wneud cais ar-lein drwy sefydlu cyfrif gofal plant a dod o hyd i ddarparwyr cofrestredig Ofsted ar GOV.UK 

Mae gan rai cynghorau restr o ddarparwyr gofal plant sy'n cynnig yr oriau ychwanegol ar eu gwefannau, neu gallwch ofyn i'ch darparwr gofal plant yn uniongyrchol.

Nol i’r brig

Sut i gael gofal plant am ddim yng Nghymru

Gofal plant am ddim i blant dwy a thair oed trwy Dechrau'n Deg

Os ydych chi'n byw mewn ardal Dechrau'n Deg, gall rhai plant dwy a thair oed gael gofal plant rhan-amser am ddim am 2.5 awr y dydd, pum diwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn.  Dewch o hyd i'ch gwasanaeth Dechrau'n Deg lleol

Gofal plant am ddim i blant tair a phedair oed

Gall pob plentyn tair a phedair oed gael 10 awr o addysg gynnar am ddim yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn mewn ysgol neu feithrinfa a ariennir. Caiff hyn ei adnabod fel y Cyfnod Sylfaen.

Gall rhai plant tair a phedair oed gael 20 awr ychwanegol o ofal plant am ddim, gan ei wneud yn gyfanswm o 30 awr yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn.

Pwy all gael yr 20 awr ychwanegol

  • Rhaid i'r ddau riant fod yn gweithio, neu os ydych chi'n rhiant sengl, mae angen i chi fod yn gweithio.

  • Rhaid i chi fyw'n barhaol yng Nghymru

  • Dros y tri mis nesaf, rhaid i chi a'ch partner (os oes gennych un) ddisgwyl ennill o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd

  • Rhaid i bob rhiant ennill llai na £100,000 y flwyddyn. 

Sut mae'r oriau'n gweithio

Ni allwch gario oriau heb eu defnyddio i wythnos arall. Mae llawer o ddarparwyr gofal plant yn ymestyn yr oriau dros y flwyddyn, felly efallai y byddwch chi'n cael cyfartaledd o 22 awr yr wythnos yn hytrach na 30. Gofynnwch i'ch darparwr gofal plant sut maen nhw'n rheoli'r oriau.

Sut i wneud cais am ofal plant am ddim yng Nghymru

Gallwch wneud cais am ofal plant am ddim trwy eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol. Am ragor o fanylion, gweler Gwybodaeth am Ofal Plant yng Nghymru

Mae gan rai cynghorau restr o ddarparwyr gofal plant cymeradwy, gallwch wirio a yw darparwr wedi'i gymeradwyo ar Arolygaeth Gofal Cymru

Nol i’r brig

Sut i gael gofal plant am ddim yn yr Alban

Yn yr Alban, gall pob plentyn rhwng tair a phump oed gael hyd at:

  • 22 awr yr wythnos os caiff ei rannu dros y flwyddyn gyfan

  • 30 awr yr wythnos os defnyddir yn ystod y tymor ysgol yn unig.

Efallai y bydd rhai plant dwy oed hefyd yn gallu cael addysg gynnar a gofal plant am ddim os: 

  • ydych chi'n derbyn budd-daliadau penodol

  • mae gennych chi neu'ch plentyn brofiad o ofal.

Sut i wneud cais am ofal plant am ddim yn yr Alban

Gallwch wneud cais a darganfod mwy am ofal plant ac addysg am ddim yn yr Alban ar Parent Club

Nol i’r brig

Sut i gael gofal plant am ddim yng Ngogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, mae gan blant hawl i o leiaf 12.5 awr o addysg cyn-ysgol am ddim yr wythnos am 38 wythnos yn y flwyddyn cyn iddynt ddechrau ysgol gynradd.

Darganfyddwch fwy am addysg gynradd am ddim yng Ngogledd Iwerddon ar nidirect

Os ydych chi'n derbyn Gofal Plant Di-dreth i blant nad ydynt yn yr ysgol gynradd eto, efallai y byddwch yn gymwys i gael 15% ychwanegol ar gyfer gofal plant. Darganfyddwch fwy am Gynllun Cymhorthdal Gofal Plant Gogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal i bobl sydd mewn ac allan o'r gwaith. Mae'n disodli chwe budd-dal presennol.

Gall teuluoedd sy'n gweithio sy'n gymwys i gael Credyd Cynhwysol hawlio hyd at 85% o'u costau gofal plant misol yn ôl.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Cynhwysol wedi'i esbonio.

Pwy sy'n ei gael?

Fel arfer, bydd angen i chi a/neu'ch partner:

  • fod yn gweithio (does dim gwahaniaeth faint o oriau rydych chi neu'ch partner yn gweithio), neu’n

  • cael cynnig swydd.

Faint ydyw?

Gallwch gael :

  • £1031.88 y mis ar gyfer un plentyn

  • £1768.94 y mis ar gyfer dau neu fwy o blant.

Dim ond os yw eich gofal plant yn cael ei ddarparu gan ddarparwr gofal plant sydd wedi'i gofrestru neu ei gymeradwyo gan y llywodraeth y gallwch hawlio. Am ragor o fanylion, gweler GOV. UK

Sut i hawlio eich costau gofal plant

Mae costau gofal plant yn cael eu talu fel ôl-daliadau. Mae hyn yn golygu y byddwch fel arfer yn:

  • talu'r costau gofal plant eich hun

  • rhoi gwybod am y costau gofal plant trwy eich cyfrif ar-lein, ac yn

  • cael eich talu'n ôl ar eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf. 

Mae gennych tan ddiwedd yr ail gyfnod asesu ar ôl i'r gofal plant gael ei gynnal i adrodd ar y costau hyn.

Er enghraifft, os mai eich dyddiad asesu (y diwrnod y dechreuoch eich cais Credyd Cynhwysol a chael eich talu) yw'r 10fed a'ch bod eisiau hawlio costau gofal plant yn ôl a dalwyd ym mis Medi, mae gennych tan 10 Tachwedd i adrodd am y costau.

Dim ond am y cyfnod y cawsant eu darparu mewn gwirionedd y gallwch hawlio costau gofal plant yn ôl. Felly, os ydych chi'n talu am ofal plant fwy na mis ymlaen llaw, fel talu am dymor cyfan, dylech adrodd am y costau fel arfer. Byddwch yn cael eich talu'n ôl mewn rhandaliadau dros hyd at dri chyfnod asesu.

Beth i'w wneud os ydych chi'n cael trafferth talu costau gofal plant ymlaen llaw

Os na allwch dalu'r gost ymlaen llaw, efallai y byddwch chi'n gallu cael help gyda hynny trwy'r Cymorth HyblygYn agor mewn ffenestr newydd

Os oes gennych gynnig swydd, gallwch ofyn am help gyda chostau gofal plant am y mis cyn i chi ddechrau gweithio. Siaradwch â'ch anogwr gwaith am eich cynnig swydd a pha gefnogaeth y gallwch ei gael.

Gallwch hefyd gael help gyda chostau gofal plant am o leiaf fis ar ôl i'ch swydd ddod i ben i gadw'ch gofal plant i fynd wrth i chi newid rhwng swyddi. Darganfyddwch fwy ar GOV.UK

Gogledd Iwerddon

Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon ac yn gymwys ar gyfer elfen gofal plant Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill sy'n seiliedig ar incwm, gallwch wneud cais am grant na ellir ei ad-dalu o hyd at £1,500 gan yr Adviser Discretion Fund (ADF). Gallwch wneud hyn drwy anogwr gwaith yn eich canolfan Swyddi a Budd-daliadau lleol.

Bydd y grant yn cael ei dalu'n uniongyrchol ymlaen llaw i ddarparwr gofal plant cofrestredig. Bydd unrhyw arian a roddir ar gyfer costau gofal plant yn cyfrif tuag at y terfyn blynyddol o £1,500 ar gyfer dyfarniadau ADF.

Darganfyddwch fwy am yr Adviser Discretion Fund (ADF)Yn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect.

Nol i’r brig

Beth yw Gofal Plant Di-dreth?

Mae Gofal Plant Di-dreth yn gynllun gan y llywodraeth i helpu rhieni sy'n gweithio gyda chostau gofal plant yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gall dalu am:

  • warchodwr plant cofrestredig, nani, cynllun chwarae, meithrinfa neu glwb cofrestredig

  • gwarchodwr plant neu nani gydag asiantaeth gwarchodwyr plant neu asiantaeth gofal plant cofrestredig

  • ysgol gofrestredig

  • gweithiwr gofal cartref sy'n gweithio i asiantaeth gofal cartref cofrestredig.

Rhaid i'ch darparwr gofal plant fod wedi cofrestru ar gyfer y cynllun cyn i chi allu eu talu ac elwa o ofal plant di-dreth. Gwiriwch gyda'ch darparwr gofal plant i weld a ydyn nhw wedi cofrestru.

Gallwch ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth ochr yn ochr ag oriau gofal plant am ddim, os ydych chi'n gymwys ar gyfer y ddau. 

Ond ni allwch ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth ar yr un pryd â:

  • Chredyd Cynhwysol

  • talebau gofal plant.

Os ydych eisoes yn cael help gyda chostau gofal plant drwy Gredyd Cynhwysol, bydd agor cyfrif Gofal Plant Di-dreth yn atal eich holl daliadau budd-daliadau, nid dim ond y rhan gofal plant. Os nad ydych yn siŵr a fyddai defnyddio Gofal Plant Di-dreth neu'ch budd-daliadau yn well i chi, siaradwch â chynghorydd budd-daliadau annibynnol ar Advice local

Pwy all gael Gofal Plant Di-dreth?

I fod yn gymwys, fel arfer, mae angen i un neu'r ddau riant:

  • fod yn gyflogedig a chael plant o dan 12 oed (neu o dan 17 os oes gan eich plentyn anabledd). Ar ôl i'r plentyn droi'n 11, nid ydynt bellach yn gymwys. Mae plant mabwysiedig yn gymwys, ond nid yw plant maeth

  • ennill o leiaf yr Isafswm Cyflog neu Gyflog Byw am gyfartaledd o 16 awr yr wythnos

  • bod ganddynt incwm net wedi'i addasu o ddim mwy na £100,000 y flwyddyn, fesul rhiant. Dysgwch fwy am incwm net wedi'i addasu ar GOV.UK

  • bod yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig. Os ydych chi neu'ch partner ar absenoldeb mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu, efallai y byddwch chi'n dal i fod yn gymwys. Gallwch hefyd wneud cais os byddwch chi'n dechrau neu'n dychwelyd i'r gwaith o fewn 31 diwrnod.

Os ydych chi'n gofalu am rywun, os ydych chi'n sâl, neu os oes gennych anabledd ac na allwch weithio, gallwch fod yn gymwys i gael cyfrif gofal plant os yw un rhiant yn gweithio, ac mae'r llall yn methu gweithio ac yn derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Gofalwr

  • Budd-dal Analluogrwydd neu Fudd-dal Analluogrwydd Hirdymor

  • Lwfans Anabledd Difrifol

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau

  • Credydau yswiriant gwladol ar gyfer analluedd neu allu cyfyngedig i weithio.

Nol i’r brig

Faint yw Gofal Plant Di-dreth?

Gallwch gael hyd at £500 bob tri mis (hyd at £2,000 y flwyddyn) ar gyfer pob plentyn i helpu gyda chostau gofal plant. Os oes gan eich plentyn anabledd, gallwch gael hyd at £1,000 bob tri mis (hyd at £4,000 y flwyddyn).

Gyda Gofal Plant Di-dreth, byddwch chi'n sefydlu cyfrif ar-lein ar gyfer eich plentyn ac yn ychwanegu arian i'r cyfrif i'w ddefnyddio i dalu eich darparwr gofal plant. Am bob £8 rydych chi'n ei dalu i'r cyfrif hwn, bydd y llywodraeth yn ychwanegu £2.

Gall pobl eraill, fel neiniau a theidiau neu ffrindiau teulu, hefyd gyfrannu at y cyfrif.

Nol i’r brig

Sut i wneud cais am ofal plant di-dreth

Gallwch wneud cais ar-lein drwy sefydlu cyfrif gofal plant ar GOV.UK.

Bob tri mis, bydd angen i chi wirio a chadarnhau eich bod yn gymwys o hyd gan ddefnyddio'ch cyfrif gofal plant ar-lein. Byddwch yn derbyn nodyn atgoffa i wneud hyn.

Hyd yn oed os nad yw eich amgylchiadau wedi newid, cadarnhewch hyn. Os yw'ch sefyllfa wedi newid, bydd y llywodraeth yn ail-wirio a ydych chi'n gymwys o hyd.

Nol i’r brig

Gofal plant amgylchynnol yn Lloegr

Mae gofal plant cyn ac ar ôl ysgol i blant ysgol gynradd, fel arfer rhwng 8yb a 6yh yn ystod y tymor.

Gall ddigwydd yn yr ysgol neu mewn lleoliadau cyfagos fel:

  • canolfan gymunedol

  • meithrinfa, neu 

  • warchodwr plant.

Mae hyn yn wahanol i weithgareddau y tu allan i'r ysgol, neu glybiau ysgol, sy'n llai rheolaidd.

Pwy all ddefnyddio gofal plant amgylchynnol?

Gall pob rhiant yn Lloegr sydd â phlant oedran ysgol gynradd gael mynediad at ofal plant amgylchynnol.

Sut i gael mynediad at ofal plant amgylchynnol

Cysylltwch ag ysgol eich plentyn neu'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol i weld beth sydd ar gael yn eich ardal chi.

Sut i dalu am ofal plant amgylchynnol

Mae'r prisiau'n amrywio gan ddibynnu ar y darparwr. Rydych chi'n talu'r darparwr yn uniongyrchol.

Os ydych chi'n gymwys, gallwch ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth neu Gredyd Cynhwysol i helpu i dalu'r costau. Efallai y byddwch hefyd yn cael help gyda chostau ymlaen llaw. Gwiriwch pa gymorth y gallwch ei gael gan ddefnyddio'r gwiriwr cymhwysedd gofal plant

Clybiau Brecwast am ddim

Mae'r llywodraeth yn bwriadu ariannu clybiau brecwast am ddim ym mhob ysgol gynradd. Mae'r 750 ysgol gyntaf wedi'u cadarnhau, a bydd mwy o fanylion yn cael eu rhannu'n fuan. Am ragor o wybodaeth, gweler GOV.UK

Nol i’r brig

Meithrinfeydd yn y gweithle

Mae gan rai cwmnïau eu meithrinfeydd eu hunain, naill ai yn eu gweithle neu mewn lleoliad arall.

Mae eich cyflogwr yn penderfynu faint y bydd angen i chi ei dalu i ddefnyddio'r feithrinfa yn y gweithle.

P'un a yw'n rhad ac am ddim neu ar gyfradd ostyngedig, mae'n cael ei ystyried fel budd di-dreth o'ch swydd.

Gwiriwch gyda'ch cyflogwr i weld a ydyn nhw'n cynnig meithrinfa yn y gweithle. 

Nol i’r brig

Credydau Yswiriant Gwladol ar gyfer neiniau a theidiau sy'n gofalu am wyrion

Os ydych chi'n nain neu’n daid neu’n berthynas arall sy'n gofalu am blant tra bod eu rhieni yn y gwaith, gallwch gael credydau Yswiriant Gwladol. Gall y credydau hyn eich helpu i adeiladu digon o flynyddoedd cymwys ar gyfer eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae angen 35 mlynedd cymwys arnoch i dderbyn Pensiwn y Wladwriaeth llawn.

Gallwch wirio eich cofnod Yswiriant Gwladol ar GOV.UK.

Gelwir y credydau Yswiriant Gwladol hyn yn gredydau Gofal Plant Penodedig i Oedolion, a bydd angen i chi wneud cais amdanynt.

I ddysgu mwy am gredydau Gofal Plant Penodedig i Oedolion a sut i wneud cais, gweler GOV.UK.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Dod yn rhiant

Cymorth a chostau gofal plant

  • Costau gofal plant cyfartalog
  • Dewisiadau gofal plant
  • Help gyda chostau gofal plant
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Cymorth a chostau gofal plant

  • Costau gofal plant cyfartalog
  • Dewisiadau gofal plant
  • Help gyda chostau gofal plant
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2025 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn
I gael yr ateb cyflymaf, defnyddiwch ein llinell gymorth neu we-sgwrs. Rydym ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • English: 0800 138 7777
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd difrifol ac mae angen yswiriant teithio arnoch.
Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni am help i ddelio â dyled.
Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni os ydych chi'n poeni am dwyll neu sgamiau ac angen arweiniad arbenigol.
Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn, ond gall hyn gymryd dros bum niwrnod gwaith. I gael ateb cyflymach, defnyddiwch ein gwe-sgwrs rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.

Blaenorol Cau