Mae'n gyflym ac yn gyfleus prynu nwyddau a gwasanaethau gan ddefnyddio taliadau digyswllt mewn siopau, bwytai ac ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut mae taliadau digyswllt yn gweithio a'r hyn sydd angen i chi ei wybod.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw taliad digyswllt?
- Sut mae taliadau digyswllt yn gweithio?
- Terfynau digyswllt
- Pryd y gofynnir i chi am eich PIN
- Dyfeisiau y gallwch eu defnyddio: cardiau, ffonau a dyfeisiau i’w gwisgo
- Rheoli taliadau digyswllt ar eich cyfrif
- Sut mae digyswllt yn eich diogelu rhag twyll
- Cerdyn banc ar goll neu wedi’i ddwyn:beth i’w wneud
- Cadw’n ddiogel – amddiffyn eich hun
- Defnyddio digyswllt dramor
Beth yw taliad digyswllt?
Mae taliad digyswllt yn ffordd o dalu gyda chardiau debyd, credyd neu ragdaledig ar gyfer trafodion llai heb fewnosod eich cerdyn neu ddefnyddio'ch PIN – yn lle hynny rydych chi'n tapio i dalu.
Sut mae taliadau digyswllt yn gweithio?
Mae taliadau digyswllt yn defnyddio technoleg 'cyfathrebu maes agos (NFC)' i drosglwyddo'ch manylion talu'n gyflym ac yn ddiogel pan fyddwch chi'n dal eich cerdyn neu'ch ffôn (os ydych wedi storio'ch cerdyn mewn waled ddigidol) yn erbyn darllenydd cerdyn.
Os oes gennych ffôn clyfar, mae'n debygol y bydd gennych ap lle gallwch gadw manylion cerdyn. Y prif waledi digidol yw Apple Pay a Google Pay. Mae hyn yn golygu nad oes angen i chi hyd yn oed gael eich cerdyn corfforol i dalu.
Pan ofynnir i chi dalu, bydd angen i chi ddal eich cerdyn neu'ch ffôn yn erbyn y peiriant am eiliad neu ddwy nes bod y peiriant yn gwneud sŵn bîp. Yna bydd yn prosesu'ch taliad ac yn cadarnhau pryd mae'n mynd drwodd. Yn aml ni fyddwch yn cael derbynneb gorfforol.
Terfynau digyswllt
Fel arfer, gallwch tapio am drafodiad hyd at £100. Fodd bynnag, mae'r terfyn hwn o £100 yn newid. O fis Mawrth 2026 ymlaen, bydd banciau a darparwyr taliadau yn gallu gosod eu terfyn eu hunain, ei gadw ar £100, ei sgrapio'n gyfan gwbl neu ofyn i chi osod eich terfyn eich hun.
Gall terfynau digyswllt trwy ddarparwyr waled digidol fel Apple neu Google Pay fod yn uwch, oherwydd eu bod yn defnyddio diogelwch ychwanegol fel ID wyneb.
Pryd y gofynnir i chi am eich PIN
Os ydych chi wedi talu gan ddefnyddio digyswllt fwy nag ychydig o weithiau yn olynol, efallai y gofynnir i chi am eich PIN. Felly, bob hyn a hyn bydd angen i chi fewnosod eich cerdyn yn y darllenydd a nodi'ch PIN. Dyma ffordd y banc o wirio mai chi ydyw mewn gwirionedd.
Gallai'r gwiriad diogelwch hwn hefyd ddigwydd os ydych wedi cyrraedd y 'terfyn cronnus' felly rydych chi wedi gwario mwy na £300 dros sawl trafodiad (bydd y terfyn hwn hefyd yn newid ym mis Mawrth 2026).
Dyfeisiau y gallwch eu defnyddio: cardiau, ffonau a dyfeisiau i’w gwisgo
Gallwch ddefnyddio'ch cerdyn debyd neu gredyd i wneud taliad digyswllt os oes ganddo'r symbol digyswllt (mae’r symbol ar bron pob carden).
Gallwch hefyd ddefnyddio dyfeisiau i’w gwisgo fel ‘smartwatch’ neu hyd yn oed modrwy os yw NFC wedi’i galluogi.
Mae ffonau yn gadael i chi ychwanegu eich cerdyn at eich dyfais fel y gallwch wneud pryniannau ar-lein gan ddefnyddio waledi symudol fel Apple Pay neu Google Pay.
Darganfyddwch fwy am ychwanegu cardiau at waledi yn ein canllaw Sut mae PayPal a waledi symudol yn gweithio
Rheoli taliadau digyswllt ar eich cyfrif
Mae digyswllt yn gyflym ac yn hawdd i'w ddefnyddio – bron yn rhy hawdd. Felly mae'n bwysig gwybod y gallwch chi osod rheolaethau eich hun os ydych chi'n poeni am orwariant.
Os oes gennych ap bancio, gwiriwch osodiadau cerdyn a dewiswch y terfyn talu digyswllt (gelwir hyn yn 'terfyn digyswllt neu 'terfynau cerdyn'). Mae rhai banciau a darparwyr taliadau yn eich caniatáu chi i osod eich terfyn eich hun hyd at £100 (gyda rhai banciau / darparwyr taliadau).
Mae'n haws rheoli digyswllt gan ddefnyddio bancio ar-lein neu symudol. Bydd hyn yn eich caniatáu chi i wirio gosodiadau cerdyn.
Gallwch gymryd y camau syml hyn i gyfyngu ar eich gwariant:
- Analluogi digyswllt trwy ddefnyddio eich ap bancio neu drwy gysylltu â'ch banc neu gymdeithas adeiladu yn uniongyrchol. Gallwch wneud hyn dros dro ac yna ail-alluogi taliadau digyswllt. Mae rhai banciau yn galw hyn yn 'rhewi' – gallwch ddefnyddio eich cerdyn o hyd, ond nid ar gyfer digyswllt.
- Galluogi rhybuddion yn yr ap – felly pan fydd taliad digyswllt yn cael ei wneud, rydych chi'n cael hysbysiad ar eich ffôn. Gall hyn eich helpu i gadw golwg ar eich gwariant.
Mae'r terfyn presennol o £100 yn newid o fis Mawrth 2026 - bydd darparwyr talu yn gosod eu terfyn eu hunain, yn ei gadw ar £100, yn ei ddileu’n gyfan gwbl neu'n gofyn i chi ei osod. Felly mae'n dda newid eich terfyn i weddu i chi a'ch cyllideb. Gweler ein blog am awgrymiadau ar reoli eich gwariant digyswllt.
Sut mae digyswllt yn eich diogelu rhag twyll
Mae taliad digyswllt yn arbed amser i chi, ond mae hefyd yn ffordd ddiogel o dalu - nid yw manylion eich cerdyn gwirioneddol yn cael eu rhannu yn ystod y trafodiad. Ac os oes unrhyw beth yn mynd o'i le, rydych chi'n cael eich diogelu.
Os yw'ch cerdyn yn cael ei ddwyn, gall lleidr ei ddefnyddio i wario gan ddefnyddio taliad digyswllt. Ond ar ôl i chi roi gwybod i'r banc neu'r darparwr cerdyn, nid ydych chi'n atebol am unrhyw golledion ac mae'n rhaid i'r darparwr talu eich ad-daliad.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu'r £50 cyntaf a wariwyd cyn i chi roi gwybod am y cerdyn a gollwyd – ond dyma'r uchafswm y byddwch yn atebol amdano. Ni fyddwch yn cael arian yn ôl os nad ydych wedi cymryd 'gofal rhesymol' i gadw'ch cerdyn yn ddiogel (e.e. rydych wedi gwneud y camgymeriad o ysgrifennu'r rhif PIN arno).
Cerdyn banc ar goll neu wedi’i ddwyn:beth i’w wneud
Y peth pwysicaf sydd angen i chi ei wneud yw gweithredu'n gyflym.
- Canslo neu rwystro'r cerdyn coll yn eich ap bancio.
- Rhowch wybod am gerdyn coll neu wedi'i ddwyn i'ch banc trwy eu ffonio.
- Gwiriwch am drafodion anawdurdodedig a chodwch anghydfod – rhowch wybod i'ch banc neu ddarparwr talu.
Cadw’n ddiogel – amddiffyn eich hun
Gallwch gymryd camau i amddiffyn rhag twyll:
- Peidiwch â throsglwyddo'ch cerdyn – cadwch ef mewn golwg bob amser pan fyddwch chi'n talu.
- Gwiriwch eich datganiad yn rheolaidd i sylwi ar unrhyw drafodion anarferol.
- Galluogi hysbysiadau yn eich ap bancio fel y gallwch sylwi ar unrhyw drafodion twyllodrus.
- Ychwanegwch nodweddion diogelwch seiliedig ar leoliad yn eich ap bancio - felly mae'n rhaid i chi gadarnhau eich hunaniaeth wrth wneud taliad o leoliad anarferol.
Gallech ddefnyddio waledi digidol yn hytrach na chardiau digyswllt gan fod angen data biometrig arnynt (fel eich ID wyneb). Mae hyn yn golygu os yw'ch ffôn yn cael ei golli neu ei ddwyn mae eich waled yn anhygyrch heb eich wyneb na'ch olion bysedd.
Fel gydag unrhyw wybodaeth ariannol neu bersonol, byddwch yn ofalus a chadwch eich manylion yn ddiogel. I ddiogelu eich hun, gweler ein canllaw Ydw i’n cael fy sgamio? Sut i wybod a ydych wedi cael eich targedu.
Defnyddio digyswllt dramor
Gallwch ddefnyddio eich cerdyn dramor lle bynnag y gwelwch y symbol digyswllt yn cael ei arddangos. Mae'r rhan fwyaf o fanciau a darparwyr cardiau credyd yn codi ffioedd am ddefnyddio eich cerdyn pan fyddwch allan o'r DU felly gwiriwch cyn i chi deithio.
Darganfyddwch fwy am wario dramor yn ein canllaw i gardiau rhagdaledig.