Os oedd gennych gytundeb cyllid modur gyda chomisiwn heb eu datgan, efallai y gallech hawlio iawndal. Mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn llunio cynllun iawndal ar gyfer cyllid ceir wedi'u camwerthu. Dyma beth sy'n digwydd a beth allech chi ei wneud nesaf.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pam y dylech osgoi defnyddio cwmni rheoli hawliadau
Ni fydd hawlio iawndal sy'n ddyledus i chi yn costio unrhyw beth i chi os ydych chi'n ei wneud eich hun
Efallai eich bod wedi gweld hysbysebion ar gyfer cwmnïau sy'n gallu hawlio iawndal ar eich rhan. Mae'r cwmnïau hyn fel arfer yn cymryd canran mawr o unrhyw iawndal – hyd at 30%
Ni fydd cwmni rheoli hawliadau yn gyflymach nac yn gwneud unrhyw beth na allwch ei wneud eich hun – gallai eu hosgoi arbed cannoedd i chi.
Pwy sy’n gymwys i gael iawndal?
Ar hyn o bryd, nid yw’n sicr pwy fydd yn gymwys i gael iawndal. Mae’r FCA wrthi’n llunio cynllun iawndal ac yn bwriadu darparu mwy o fanylion am bwy fydd yn gymwys. Disgwylir y wybodaeth hon ym mis Hydref 2025.
Mae’n fwy tebygol y byddwch yn cael iawndal os oedd eich cytundeb yn cynnwys DCA
Mae un math o gomisiwn, o'r enw trefniant comisiwn dewisol (DCA), wedi'i wahardd. Mae cwsmeriaid a oedd â chytundebau cyllid gyda DCA yn debygol o dderbyn iawndal.
Os ydych chi'n credu efallai eich bod wedi prynu'ch cerbyd gyda chytundeb DCA, gallwch gyflwyno cwyn nawr. Darganfyddwch fwy am Sut i hawlio iawndal am DCAs wedi'u camwerthu mewn cyllid car.
Os nad oedd gan eich cytundeb DCA
Nid ydym yn gwybod eto pwy fydd yn gymwys i gael iawndal mewn achosion nad ydynt yn DCA. Ond efallai y bydd arian yn ddyledus i chi os:
ni chafodd comisiynau yn eich cytundeb cyllid eu datgelu'n briodol i chi, ac
roedd y swm a dalwyd gennych mewn comisiwn yn annheg o uchel.
Os ydych chi'n teimlo bod eich cytundeb yn annheg, y cam nesaf yw cyflwyno cwyn.
Pwy sy’n gallu cwyno?
Gallai iawndal fod yn ddyledus i chi os:
gwnaethoch gymryd cyllid modur rhwng Ebrill 2007 a Hydref 2024 (gan gynnwys ceir, faniau, cerbydau gwersylla a beiciau modur)
roedd eich cytundeb yn Bryniant ar Gytundeb Personol (PCP), Hurbwrcas (HP) neu Gytundeb Prydlesu Personol (PCH, a elwir yn aml yn les)
prynwyd eich cerbyd at ddefnydd personol
roedd eich cytundeb yn cynnwys trefniant comisiwn nad oedd wedi cael ei esbonio i chi yn llawn.
Gwneud cwyn
Defnyddiwch dempled llythyr cwyn am ddim
Os ydych chi'n meddwl am gwyno, mae'n syniad da i ddefnyddio llythyr templed am ddim fel nad oes angen i chi dalu cwmni rheoli hawliadau. Gall y cwmnïau hyn godi hyd at 30% o unrhyw iawndal sy'n ddyledus i chi ac ni fydd yn gyflymach.
Gellir defnyddio'r llythyr templed am ddim sydd ar gaelYn agor mewn ffenestr newydd ar MoneySavingExpert hefyd i wirio a ydych wedi cael eich gwerthu unrhyw gyllid gyda chomisiwn cudd.
Yn gyntaf, cwynwch i'ch benthyciwr
Casglwch unrhyw wybodaeth am gyllid eich car. Yna gwnewch gŵyn i'ch benthyciwr, yn ysgrifenedig yn ddelfrydol.
Bydd angen i chi gwyno wrth y cwmni yr oeddech yn ei dalu bob mis. Os nad ydych yn siŵr pwy ydyw, gallwch wirio'ch adroddiad credyd (os oedd y cytundeb yn weithredol yn ystod y chwe blynedd diwethaf) neu hen gyfriflenni banc os oes gennych rai.
Dywedwch wrth y benthyciwr eich bod wedi talu comisiwn cudd a chynnwys cymaint o wybodaeth ag sydd gennych.
Cael ymateb
Dylech gael ymateb gan y benthyciwr i gadarnhau ei fod wedi derbyn eich cwyn o fewn ychydig wythnosau. Os na fyddwch yn clywed unrhyw beth, cysylltwch â'r cwmni eto i weld a ydynt wedi’i gael.
Dylai eich benthyciwr gadarnhau a oedd gennych drefniant comisiwn. Fodd bynnag, mae'r FCA wedi rhoi mwy o amser i gwmnïau ymateb i gwynion, felly efallai na fyddwch yn clywed yn ôl am gyfnod.
Mae'r hyn a wnewch nesaf yn dibynnu ar yr ymateb a gewch:
- Os oedd gennych drefniant comisiwn, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth mwy am y tro. Pan fydd yr FCA yn cyhoeddi manylion ei gynllun iawndal, bydd cwsmeriaid yn cael gwybod beth sydd angen iddynt ei wneud nesaf.
- Os nad oedd gennych chi gytundeb comisiwn neu os cafodd ei ddatgelu'n llawn, yn anffodus mae'n annhebygol y bydd unrhyw iawndal yn ddyledus i chi. Os ydych yn anghytuno, gallwch fynd â'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol
- Os nad yw'ch benthyciwr yn rhoi unrhyw ymateb pellach i chi, peidiwch â phoeni. Cyn belled â bod eich cwyn wedi'i chydnabod, byddwch yn gallu cymryd y camau nesaf unwaith y bydd yr FCA wedi cyhoeddi manylion ei gynllun iawndal.
Os nad ydych yn cael ymateb o gwbl
Os na fyddwch yn cael unrhyw ymateb o gwbl, neu os ydych yn anghytuno ag ymateb y darparwr benthyciadau, gallwch fynd â'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS) am ddimYn agor mewn ffenestr newydd
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Disgwylir i'r FCA gyhoeddi manylion ei gynllun iawndal ym mis Hydref 2025.
Unwaith y bydd hyn yn cael ei gyhoeddi, dylai fod yn gliriach pwy fydd yn derbyn iawndal a sut y bydd yn cael ei dalu.
Mae hyn yn golygu, unwaith y bydd eich cwyn wedi'i chofnodi, y cam nesaf yw aros nes bod mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi.