Gall sgyrsiau arian gryfhau eich perthynas a’ch helpu i adeiladu dyfodol gwell gyda'ch gilydd. Dyma sut i ddechrau.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pam mae siarad am arian yn helpu eich perthynas
- Deall gwahanol ddulliau arian
- Pan nad yw’ch partner eisiau siarad am arian
- Pan fydd newidiadau bywyd yn effeithio ar eich arian
- Bod yn onest am ddyled
- Pan fyddwch chi’n ennill symiau gwahanol
- Os ydych yn meddwl bod gan eich partner broblem gamblo
- Os yw eich partner yn rheoli eich arian
- Cael help gyda’ch perthynas
Pam mae siarad am arian yn helpu eich perthynas
Pan fyddwch chi’n rhannu eich bywyd gyda rhywun, mae rhannu sgyrsiau gonest am arian yn eich helpu i deimlo’n ddiogel a gweithio tuag at yr un nodau.
Mae sgyrsiau arian yn arbennig o ddefnyddiol pan fyddwch chi’n:
symud i mewn gyda’ch gilydd a rhannu biliau
cynllunio i gael plant
prynu cartref
meddwl am ymddeol
gwneud unrhyw benderfyniadau ariannol mawr gyda’ch gilydd.
Mae byw gyda’ch gilydd yn aml yn golygu y gallwch arbed arian a chyrraedd eich nodau yn gyflymach drwy rannu treuliau a chefnogi eich gilydd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Deall gwahanol ddulliau arian
Mae gan bawb eu hagwedd eu hunain at arian, ac mae hynny’n hollol normal.
Efallai y byddwch chi’n gynilwr gofalus tra bod yn well gan eich partner wario a mwynhau bywyd nawr.
Mae’r gwahaniaethau hyn yn dod o’ch cefndiroedd a’ch profiadau.
Yr hyn sydd bwysicaf yw dysgu gweithio gyda’ch gilydd, nid newid eich gilydd.
Cwestiynau i’ch helpu i ddeall eich gilydd
Siaradwch drwy’r cwestiynau hyn gyda’ch gilydd i ddeall eich gwahanol ddulliau:
A yw’n well gennych gynilo ar gyfer y dyfodol neu fwynhau arian heddiw?
Pa mor hyderus ydych chi’n teimlo ynghylch rheoli arian?
Ydych chi’n hoffi cynllunio’ch gwario neu brynu pethau’n ddigymell?
Pa mor bwysig yw cadw golwg ar yr hyn rydych chi’n ei wario?
Ydych chi’n gyfforddus yn siarad am arian?
Ydych chi’n gofyn am help gyda phenderfyniadau ariannol?
Gosod nodau a rennir
Mae gosod nodau gyda’ch gilydd yn eich helpu i wybod beth rydych chi’n gweithio tuag ato. Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws gwneud penderfyniadau gwario ac i gadw cymhelliant.
Gallai eich nodau gynnwys:
cynilo ar gyfer gwyliau
adeiladu cronfa argyfwng
prynu cartref
cynllunio ar gyfer plant
paratoi ar gyfer ymddeol.
Mae newidiadau bywyd yn digwydd - fel dechrau teulu neu newid swyddi. Mae cael nodau a rennir yn golygu eich bod chi’n barod ac yn gallu addasu eich cynlluniau gyda’ch gilydd.
Pan nad yw’ch partner eisiau siarad am arian
Efallai eich bod chi wrth eich bodd gyda’r un sioeau teledu ac yn rhannu llawer o ddiddordebau, ond gall siarad am arian deimlo’n wahanol.
Mae rhai pobl yn teimlo bod sgyrsiau arian yn emosiynol neu’n straen oherwydd profiadau yn y gorffennol.
Dyma sut i wneud sgyrsiau arian yn haws:
Gwneud iddo deimlo ei fod yn bosibl
Dechreuwch gyda chyllideb syml sy’n cynnwys y pethau sylfaenol fel rhent, biliau a bwyd. Yna siaradwch am sut i wario’r hyn sydd dros ben. Cofiwch gynnwys bethau sy’n hwyl rydych chi’n eu mwynhau - dangoswch nad yw cyllidebu yn golygu rhoi’r gorau i bopeth rydych chi’n ei hoffi.
Rhowch gynnig ar y dull ‘gwario arian’
Rhowch eich arian hwyl mewn cyfrif ar wahân. Pan fydd wedi mynd, mae wedi mynd - does dim angen sgyrsiau anodd am wariant.
Canolbwyntiwch ar eich dyfodol gyda’ch gilydd
Cynlluniwch y sgwrs ynghylch yr hyn yr hoffech chi ei gyflawni gyda’ch gilydd, nid pwy sy’n dda neu’n ddrwg gydag arian. Mae hyn yn helpu i osgoi unrhyw un yn teimlo’i fod yn cael ei farnu neu’n teimlo’n amddiffynnol.
Gofynnwch am gymorth os oes ei angen arnoch
Os yw sgyrsiau’n teimlo’n anodd, gallai fod o gymorth os ydych chi neu’ch partner yn siarad â rhywun annibynnol yn gyntaf:
Dewch o hyd i’r ffyrdd y gallwn eich helpu ar ein tudalen Cysylltu â ni.
I gael help gyda phryderon perthynas, gallwch ymweld â Relate
Mae rhai gweithleoedd yn darparu gwasanaethau a budd-daliadau sy’n cynnig cefnogaeth.
I gael awgrymiadau ar sut i baratoi ar gyfer sgwrs a dechrau sgwrs arni, a delio ag ymatebion negyddol, lawrlwythwch ein canllaw am ddim Siarad â’ch partner am arianYn agor mewn ffenestr newydd (PDF/A, 7.1MB)
Pan fydd newidiadau bywyd yn effeithio ar eich arian
Gall newidiadau bywyd mawr fel cael babi neu golli swydd effeithio ar eich cyllid. Mae’r newidiadau hyn yn gyfleoedd i weithio gyda’ch gilydd fel tîm.
Os ydych chi’n cael babi, bydd y canllawiau hyn yn ddefnyddiol:
Os ydych wedi cael eich diswyddo, bydd y canllawiau hyn yn ddefnyddiol:
Os yw un person yn rhoi’r gorau i ennill neu’n ennill llai
Gall hyn deimlo’n heriol, yn enwedig os yw’r person sy'n ennill llai yn dechrau teimlo’n euog am wario arian neu deimlo’n ddibynnol ar ei bartner.
Dyma sut i ymdrin â hyn yn gadarnhaol:
Gwnewch gyllideb newydd gyda’ch gilydd sy’n adlewyrchu eich amgylchiadau newydd.
Gosodwch nodau newydd a rennir sy’n gweithio i’ch sefyllfa.
Gwnewch yn siŵr bod unrhyw doriadau gwariant yn effeithio ar y ddau ohonoch chi, nid dim ond y person sy’n ennill llai.
Parhewch i gyfathrebu’n agored am sut mae’r ddau ohonoch chi’n teimlo.
Canolbwyntiwch ar ffeithiau yn hytrach nag emosiynau wrth drafod gwariant.
Os oes angen i chi rannu cyfrifoldebau ariannol
Siaradwch am yr hyn sydd bwysicaf - efallai y bydd talu dyledion llog uchel yn dod yn gyntaf, neu efallai bod angen i chi leihau rhai treuliau am gyfnod.
Cofiwch, mae hyn dros dro ac rydych chi’n gweithio tuag at eich nodau a rennir.
Bod yn onest am ddyled
Os oes gennych ddyled nad ydych wedi dweud wrth eich partner amdani, y cynharaf y byddwch chi’n rhannu hyn, y gorau.
Mae ei chadw’n gyfrinach yn aml yn gwneud y straen yn waeth.
Sut i gael y sgwrs hon
Dewiswch amser pan na fydd rhywbeth yn torri ar eich traws.
Paratowch eich holl waith papur fel y gallwch ddangos y darlun llawn.
Byddwch yn hollol onest - mae’n well delio â phopeth ar unwaith.
- Byddwch yn barod i ateb cwestiynau am yr hyn a ddigwyddodd a beth yw eich cynllun.
Cofiwch, gall dyled gudd effeithio ar eich ddau sgôr credyd os oes gennych gyfrifon ar y cyd neu forgais gyda’ch gilydd.
Gallwch wirio a ydych chi’n gysylltiedig yn ariannol drwy gael mynediad i’ch adroddiad credyd, sy’n rhad ac am ddim i’w wneud.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae gwella eich sgôr credyd
Os darganfyddwch fod gan eich partner ddyled
Mae’n naturiol i deimlo'n ofidus, ond ceisiwch ganolbwyntio ar y camau ymarferol nesaf.
Gofynnwch am yr holl fanylion ac ystyriwch gysylltu ag elusen cyngor ar ddyledion gyda’ch gilydd am gymorth diduedd am ddim.
Pan fyddwch chi’n ennill symiau gwahanol
Mae incwm gwahanol yn gyffredin ac yn reoladwy pan fyddwch chi’n cyfathrebu’n agored am eich anghenion a’ch disgwyliadau.
Ffyrdd o fynd i’r afael â hyn
Penderfynwch ar flaenoriaethau gyda’ch gilydd - efallai y bydd talu dyled llog uchel yn dod yn gyntaf
Gosod nodau tymor byr a hirdymor - o wyliau i ymddeol
Dewiswch sut i reoli arian - ar y cyd, ar wahân, neu gyfuniad
- Dod o hyd i ffordd deg o rannu treuliau - efallai na fydd hyn yn 50/50 os yw’r incwm yn wahanol iawn
Yr hyn sy’n allweddol yw dod o hyd i ymagwedd sy’n teimlo’n deg i’r ddau ohonoch ac nad yw’n creu drwgdeimlad.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Eich sefyllfa ariannol mewn perthynas newydd
Os ydych yn meddwl bod gan eich partner broblem gamblo
Os ydych chi’n amau bod gan eich partner broblem gamblo, nid ydych ar eich pen eich hun ac nid eich bai chi ydyw.
Gall dibyniaeth ar gamblo effeithio’n ddifrifol ar berthnasoedd a chyllid teuluol.
Efallai y byddwch chi’n sylwi ar eich partner yn:
bod yn gyfrinachol am arian neu gyfriflenni banc
mynd yn amddiffynnol pan fyddwch chi’n gofyn am wariant
teimlo’n anarferol o isel neu’n ofidus, yn enwedig ar ôl gwylio chwaraeon
arian yn diflannu o gyfrifon heb esboniad.
Gall problemau gamblo roi diogelwch ariannol eich teulu mewn perygl, gan gynnwys cynilion, cardiau credyd, neu hyd yn oed eich cartref.
Y peth pwysig yw cael cefnogaeth cyn gynted ag sy’n bosibl.
Mae llawer o help ar gael i chi a’ch partner.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taclo gamblo problemus a dyled
Os yw eich partner yn rheoli eich arian
Mae pawb yn haeddu cael rheolaeth dros eu harian eu hunain. Mae gennych yr hawl i annibyniaeth ariannol.
Beth yw cam-drin ariannol?
Mae cam-drin ariannol yn digwydd pan fydd eich partner yn:
rheoli eich arian neu wariant
creu dyledion yn eich enw
eich atal rhag gweithio neu fod yn annibynnol yn ariannol.
Yn ôl yr elusen Refuge, mae hyn yn effeithio ar un o bob pump o oedolion yn y DU - nid ydych ar eich pen eich hun. Mae cam-drin ariannol yn aml yn digwydd ochr yn ochr â mathau eraill o gamdriniaeth.
Mae eich diogelwch yn bwysig
Os ydych chi yn y sefyllfa hon, rydym yn deall y gallai siarad am arian eich rhoi mewn perygl. Eich diogelwch sy’n dod yn gyntaf.
Nid oes rhaid i chi frwydro gyda hyn ar eich pen eich hun. Mae yna bobl sy’n gallu eich helpu chi’n ddiogel.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cam-drin ariannol: adnabod yr arwyddion a gadael yn ddiogel
Cael help gyda’ch perthynas
Os yw problemau ariannol yn achosi straen ar eich perthynas, gall siarad â rhywun y tu allan i’ch sefyllfa helpu.
Cymorth am ddim y gallwch ei gael ar hyn o bryd
- Relate – cael sgwrs 30 munud am ddim ar-lein gyda chwnselydd perthynas hyfforddedig. Os ydych chi eisiau mwy o sesiynau ar ôl hyn, mae’r gost yn dibynnu ar yr hyn y gallwch ei fforddio.
- Ap Toucan – ap am ddim wedi’i wneud ar gyfer parau i weithio trwy faterion perthynas gyda’i gilydd, gan gynnwys sgyrsiau ariannol.
Cymru a Lloegr
Mae gan wefan y GIG declyn sy’n dangos i chi pa gwnsela perthynas sydd ar gael yn eich ardal chi.
Mae rhai gwasanaethau yn hollol rhad ac am ddim, mae eraill yn gofyn am rodd fach.
Gogledd Iwerddon
Gall Relate NI eich rhoi mewn cysylltiad â chwnselwyr yn eich ardal chi
Yr Alban
Gallwch gael cwnsela drwy: