Gall costau gofal plant gymryd cryn dipyn o incwm eich teulu. Os ydych yn bwriadu dychwelyd i'r gwaith, mae'n hanfodol cyllidebu'n ofalus a hawlio'r holl help sydd ar gael.
Faint mae gofal plant yn ei gostio?
Costau gofal plant rhan-amser
Mae’r tabl isod yn dangos cyfartaledd pris gofal plant am 25 awr yr wythnos ar gyfer plant o dan dair oed mewn meithrinfeydd, ar ôl i’r hyn y mae rhieni sy’n gweithio yn Lloegr yn gallu’i hawlio gael ei ystyried.
Meithrinfa | O dan ddwy oed | Dwy oed |
---|---|---|
Lloegr (yn talu am 10 awr) |
£70.51 |
£66.34 |
Yr Alban |
£122.38 |
£124.75 |
Cymru |
£155.04 |
£146.15 |
Ffynhonnell: Costau meithrinfa yn ôl Coram Family and Childcare Trust 2025Yn agor mewn ffenestr newydd
Ar gyfer costau aupair, gweler GOV.UK.
Gwiriwch beth allech chi ei gael gan gynnwys Gofal Plant Di-Dreth a Chredyd Cynhwysol yn ein canllaw Help gyda chostau gofal plant.
Costau gofal plant llawn amser
Mae’r tabl isod yn dangos cyfartaledd pris gofal plant am 50 awr yr wythnos ar gyfer plant o dan dair oed mewn meithrinfeydd, ar ôl i’r hyn y mae rhieni sy’n gweithio yn Lloegr yn gallu’i hawlio gael ei ystyried.
Meithrinfa | O dan ddwy oed | Dwy oed |
---|---|---|
Lloegr (yn talu am 35 awr) |
£238.95 |
£225.70 |
Yr Alban |
£239.78 |
£235.49 |
Cymru |
£290.06 |
£279.14 |
Mae’r tabl isod yn dangos cyfartaledd pris gofal plant am 50 awr yr wythnos ar gyfer plant o dan dair oed gyda gofalwyr plant, ar ôl i’r hyn y mae rhieni sy’n gweithio yn Lloegr yn gallu’i hawlio gael ei ystyried.
Meithrinfa | O dan ddwy oed | Dwy oed |
---|---|---|
Lloegr (yn talu am 35 awr) |
£202.09 |
£198.59 |
Yr Alban |
£259.53 |
£259.67 |
Cymru |
£259.51 |
£251.30 |
Ffynhonnell: Costau gofalwr plant a meithrinfa yn ôl Coram Family and Childcare 2025Yn agor mewn ffenestr newydd
Gofal plant anffurfiol neu am ddim
Math o ofal plant | Faint mae’n ei gostio? |
---|---|
Cylch chwarae neu gyn-ysgol |
£5-£15 am bob sesiwn 3 awr |
Canolfan Blant Cychwyn Cadarn |
Dibynnol ar incwm eich cartref - gall rhai sesiynau chwarae fod am ddim |
Ysgol Feithrin |
Am ddim os yw’n rhan o system ysgolion y wladwriaeth |
Trefniant teuluol |
All fod am ddim, ond os ydych yn bwriadu talu i aelod o’ch teulu am ofal plant, efallai na fyddwch yn gymwys i gael help gyda chostau gofal plant. |
Trefniant gofal plant a rennir |
Yn dechnegol, mae hwn yn drefniant di-dâl, ond bydd angen ichi ystyried yr incwm y byddwch yn ei golli. |
Pris cyfartalog o glwb ar ôl ysgol
Cost gyfartalog clwb ar ôl ysgol yw £66.48 yr wythnos, sef £2,593 y flwyddyn yn ystod y tymor (39 wythnos).
Mae’r tabl isod yn dangos y pris wythnosol ar gyfer clwb ar ôl ysgol a gwarchodwr plant ar gyfer plant rhwng pump ac 11 oed yn ystod amser tymor.
Gwlad | Clwb ar ôl ysgol | Gwarchodwr plant hyd at 6pm |
---|---|---|
Lloegr |
£66.04 |
£81.65 |
Yr Alban |
£72.97 |
£79.99 |
Cymru |
£69.14 |
£75.41 |
Ffynhonnell: Costau gofalwr plant a meithrinfa yn ôl Coram Family and Childcare 2025Yn agor mewn ffenestr newydd
Costau gofal plant yn ystod y gwyliau
Mae’r tabl isod yn dangos cyfartaledd pris gofal plant yn ystod y gwyliau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Gwlad | Prisiau cyfartelog gofal plant |
---|---|
Lloegr |
£178.47 |
Yr Alban |
£167.87 |
Cymru |
£209.60 |
Ffynhonnell: Costau gofalwr plant a meithrinfa yn ôl Coram Family Holiday Childcare Survey 2025Yn agor mewn ffenestr newydd
Rhiant sy’n aros gartref
Os ydych yn dewis gweithio’n llawn amser neu’n rhan-amser - neu fod yn rhiant aros gartref - mae’n ddewis personol iawn.
Mae amrywiaeth eang o bethau i’w hystyried. Un yw effaith incwm a gyrfa a chostau gofal plant nawr ac i’r dyfodol.
I ddarganfod sut mae costau gofal plant yn effeithio ar eich incwm, rhowch gynnig ar ddefnyddio ein Cynlluniwr Cyllideb hawdd i’w ddefnyddio.
Mae cymorth ar gael pan gewch fabi - yn cynnwys budd-daliadau a grantiau gan y llywodraeth a’ch cyflogwr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau y gallwch eu hawlio tra byddwch yn feichiog neu wedi cael babi?
Gall cymryd seibiant o’ch gyrfa effeithio ar eich dewisiadau cyflogaeth i’r dyfodol a’ch gallu i ennill arian.
Dyma rai gwefannau allai fod o gymorth i chi wrth ystyried y manteision a’r anfanteision: