Gall dewis gofal plant fel rhiant newydd deimlo'n llethol. Dyma grynodeb o’r opsiynau gwahanol sydd ar gael i’ch helpu i ddod o hyd i’r hyn sy’n gweithio orau i’ch teulu a’ch cyllideb.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Defnyddio gwarchodwr plant cofrestredig
- Dewis meithrinfa ddydd
- Defnyddio cylch chwarae neu gyn-ysgol
- Canolfan Blant Cychwyn Cadarn
- Ysgol feithrin
- Pa opsiynau gofal plant sydd gen i os oes gan fy mhlentyn anabledd?
- Cynlluniwch ymlaen llaw ar gyfer diwrnodau cau neu salwch
- Dibynnu ar deulu neu ffrindiau
- Gofal plant gartref
- Help gyda chostau gofal plant
- Dewis y gofal plant cywir
Defnyddio gwarchodwr plant cofrestredig
Costau gofal plant
Bydd costau gofal plant yn dibynnu ar y dewis a wnewch a ble rydych yn byw. Er mwyn cymharu costau’n gyflym, gweler ein canllaw, Costau gofal plant cyfartalog.
Rhywun sy’n gofalu am blant yn ei gartref ei hun ac sydd wedi cofrestru gydag un o’r canlynol:
- yng Nghymru: Arolygiaeth Gofal CymruYn agor mewn ffenestr newydd
- yn Lloegr: Ofsted
- yn Yr Alban: Care Inspectorate
- yng Ngogledd Iwerddon: Health and Social Care Trust
Manteision
-
Maent yn hunangyflogedig, felly nid oes rhaid i chi boeni am dalu eu treth neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol (NI).
-
Cyn belled â’u bod wedi cofrestru, gallech fod yn gymwys am help i dalu am eich gofal plant drwy ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth. Os ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol, efallai gallwch hawlio hyd at 85% yn ôl o’r gofal plant misol.
-
Mae llawer o ofalwyr plant yn gweithio oriau hyblyg ac yn casglu/gollwng plant yn yr ysgol neu gylch chwarae.
-
Gallwch ddefnyddio eich oriau gofal plant am ddim os ydych yn gymwys.
-
Bydd rhai gwarchodwyr plant yn aros ar agor yn ystod gwyliau ysgol ac efallai gallant gymryd plant ifanc nad ydynt eto mewn addysg ffurfiol.
Anfanteision
-
Bydd angen i chi wneud trefniadau eraill os yw'r gofalwr plant yn sâl neu ar wyliau.
Darganfyddwch ofalwr plant cofrestredig yn GOV.UK
Dewis meithrinfa ddydd
Mae meithrinfeydd yn cynnig gofal ac addysg i blant rhwng chwe wythnos a phum mlwydd oed.
Gallant gael eu rhedeg yn breifat neu gan sefydliadau cymunedol, awdurdodau lleol neu gyflogwyr.
Manteision
-
Fel arfer maent ar agor ar ddyddiau’r wythnos o 8am i 6pm, sy’n gweddu i’r rhan fwyaf o oriau gwaith.
-
Weithiau bydd awdurdodau lleol neu gyflogwyr yn talu cymhorthdal ffioedd meithrinfa.
-
Gallwch ddefnyddio eich oriau gofal plant am ddim os ydych yn gymwys. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help gyda chostau gofal plant.
-
Cyn belled â'u bod wedi'u cofrestru neu eu cymeradwyo, efallai y byddwch yn gymwys i gael help i dalu am eich gofal plant gan ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth. Os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, efallai y gallwch hawlio hyd at 85% o'r gofal plant misol yn ôl.
Anfanteision
-
Fel arfer maent yn ddrytach na gofalwyr plant – gwelwch ein canllaw Costau gofal plant cyfartalog.
-
Fel rheol mae rhaid i chi dalu’r ffioedd hyd yn oed os ydych ar wyliau.
Defnyddio cylch chwarae neu gyn-ysgol
Beth ydyw?
Gofal ac addysg gymunedol a gwirfoddol ar gyfer plant rhwng tair a phump oed.
Fel arfer maent yn cynnig sesiynau tair-awr yn y bore neu’r prynhawn yn ystod y tymor ysgol.
Manteision
-
Dewis rhad – gwelwch ein canllaw Costau gofal plant cyfartalog.
-
Gallwch ddefnyddio eich lwfans gofal plant o 15-30 awr yr wythnos am ddim os yw eich plentyn yn gymwys.
-
Cyn belled â'u bod wedi'u cofrestru neu eu cymeradwyo, efallai y byddwch yn gymwys i gael help i dalu am eich gofal plant gan ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth. Os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, efallai y gallwch hawlio hyd at 85% o'r gofal plant misol yn ôl.
Anfanteision
-
Bydd angen i chi chwilio am ddarpariaeth gofal plant arall ar gyfer gwyliau ysgol ac/neu weddill y diwrnod.
Er mwyn helpu rhieni a gofalwyr sy'n gweithio (neu eisiau gweithio), bydd y llywodraeth yn ariannu ysgolion ac awdurdodau lleol i gynyddu'r gofal y gallant ei ddarparu, fel y gall pob rhiant a gofalwr i blant oed ysgol ollwng eu plant yn yr ysgol o 8am a'u casglu o gwmpas 6pm.
Darganfyddwch cylch chwarae neu gyn-ysgol lleol yn GOV.UK
Canolfan Blant Cychwyn Cadarn
Manteision
-
Dewis rhad - mae llawer o’r gwasanaethau am ddim. Gwelwch ein canllaw Costau gofal plant cyfartalog.
-
Gan eu bod yn ‘siop un stop’, gallwch gael cyngor ar bethau eraill – er enghraifft, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith.
-
Gallwch ddefnyddio eich oriau gofal plant am ddim os yw eich plentyn yn dair neu bedair blwydd oed.
-
Cyn belled â'u bod wedi'u cofrestru neu eu cymeradwyo, efallai y byddwch yn gymwys i gael help i dalu am eich gofal plant gan ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth. Os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, efallai y gallwch hawlio hyd at 85% o'r gofal plant misol yn ôl.
Anfanteision
-
Nid yw pob canolfan yn caniatáu i chi adael eich plentyn yno trwy’r dydd.
Darganfyddwch Ganolfan Blant Cychwyn Cadarn yn GOV.UK
Ysgol feithrin
Cyflwyniad i addysg gynradd ar gyfer plant tair i bump oed. Yn aml maent wedi eu cysylltu â chylch cyn-ysgol neu ysgol gynradd. Ar agor yn ystod oriau ysgol yn ystod y tymor.
Manteision
-
Maent am ddim fel arfer os byddant yn gysylltiedig ag ysgol gynradd.
-
Bydd eich plentyn yn cael ei addysgu gan athrawon cymwysedig.
-
Gallwch ddefnyddio eich oriau gofal plant am ddim os ydych yn gymwys.
-
Cyn belled â'u bod wedi'u cofrestru neu eu cymeradwyo, efallai y byddwch yn gymwys i gael help i dalu am eich gofal plant gan ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth. Os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol, efallai y gallwch hawlio hyd at 85% o'r gofal plant misol yn ôl.
Anfanteision
-
Bydd angen i chi chwilio am ddarpariaeth gofal plant arall ar gyfer gwyliau ysgol.
Darganfyddwch leoliad mewn ysgol feithrin yn GOV.UK
Pa opsiynau gofal plant sydd gen i os oes gan fy mhlentyn anabledd?
Os oes gan eich plentyn anabledd neu anghenion addysgol arbennig (SEN), mae gennych chi amrywiaeth o opsiynau gofal plant o hyd.
Mae'n ofynnol i bob lleoliad sydd wedi'i gofrestru ag Ofsted yn Lloegr, fel meithrinfeydd a chyn-ysgolion, gefnogi plant a SEN. Mae'n syniad da siarad yn uniongyrchol â'ch darparwr dewisol i ddeall pa gefnogaeth y gallant ei chynnig a sut y gallant ddiwallu anghenion eich plentyn.
- Yn Lloegr, mae gan Coram ganllaw defnyddiol a manwl i rieniYn agor mewn ffenestr newydd sy'n egluro'ch hawliau a'ch opsiynau.
- Os ydych chi'n byw yng Nghymru, gall eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleolYn agor mewn ffenestr newydd roi mwy o fanylion i chi.
- Yn yr Alban, gallwch ddod o hyd i gefnogaeth ac arweiniadYn agor mewn ffenestr newydd ar disabilityscot.
- Yng Ngogledd Iwerddon, ewch i nidirect i gael gwybodaeth am ofal plant i blant ag anableddauYn agor mewn ffenestr newydd
Gall cael y wybodaeth a'r gefnogaeth gywir wneud gwahaniaeth mawr, felly mae'n werth archwilio'ch opsiynau'n gynnar.
Cynlluniwch ymlaen llaw ar gyfer diwrnodau cau neu salwch
Hyd yn oed os oes gennych chi ofal plant rheolaidd, bydd adegau pan nad yw ar gael, fel diwrnodau hyfforddi athrawon, salwch, gwyliau neu gau munud olaf.
Gall y bylchau hyn eich dal yn ddiarwybod, felly mae'n helpu i gynllunio ymlaen llaw. Gallech ofyn i aelod o'r teulu neu ffrind helpu, trefnu cynllun wrth gefn gyda rhiant arall, neu gynllunio i gymryd diwrnod i ffwrdd o'r gwaith os oes angen.
Gall cael rhywbeth yn ei le wneud pethau'n llawer haws pan fydd yr annisgwyl yn digwydd.
Dibynnu ar deulu neu ffrindiau
Mae opsiwn o gael aelod o’ch teulu neu ffrind i ofalu am eich plentyn. Gall hyn fod am ddim, am daliad neu trwy drefniant lle byddwch yn gofalu am blant eich gilydd – gelwir hyn yn ‘ofal plant dwyochrog’.
Gall hyn ymddangos yn ddewis cyfleus a fforddiadwy - ond gall y rheolau am y math hwn o drefniant fod yn gymhleth.
Manteision
-
Nid oes rhaid i aelod o’r teulu gofrestru gydag Ofsted os yw’n darparu gofal plant am ddim.
-
Gallai pobl sy’n gofalu am eu hwyrion i alluogi rhieni (neu ofalwyr) y plant i fynd i weithio fod yn gymwys i gredydau Specified Adult Childcare – budd-dal i gynyddu eu pensiwn y wladwriaeth yn y dyfodol.
Anfanteision
-
Yn ôl y gyfraith, ni allwch ddefnyddio ffrind i ofalu am blentyn yn rheolaidd am fwy na dwy awr y dydd yn ystod oriau gwaith arferol os yw’r plentyn dan wyth oed, oni bai eu bod yn ofalwr plant cofrestredig. Mae hyn yn rhywbeth i’w ystyried os oes gennych drefniant gofal plant dwyochrog.
Darganfyddwch fwy am y rheolau am ofal plant anffurfiol yn Netmums
Credydau Gofal plant Dynodedig i Oedolion
Mae’r cynllun hwn ar gyfer aelodau o’r teulu – neiniau a theidiau fel arfer – sy’n rhoi’r gorau i weithio er mwyn helpu i ofalu am blentyn.
Gallant elwa ohono os nad ydynt wedi cronni digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (NI) i fod yn gymwys am bensiwn y wladwriaeth yn llawn.
Gall y gofalwr fod yn gymwys:
- os ydynt dros 16 oed ond heb gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth
- os ydynt yn perthyn i’r plentyn. Neiniau a theidiau yw’r gofalwyr mwyaf cyffredin, ond gall unrhyw aelod o’r teulu hawlio.
I fod yn gymwys, mae rhaid i’r plentyn fod dan 12 oed a:
- bod y rhiant (neu’r prif ofalwr) yn gymwys am Fudd-dal Plant
- bod gan y rhiant flwyddyn gymwys o gyfraniadau NI y mae’n fodlon ei throsglwyddo i’r gofalwr
- bod y rhiant (neu’r prif ofalwr) yn cytuno i’r cais. Efallai na fyddwch yn cytuno er enghraifft, os nad ydych yn dychwelyd i’r gwaith a bod angen y cyfraniadau NI arnoch.
Darganfyddwch fwy am eich cymhwyster a sut i wneud cais yn GOV.UK
Ni ellir cyflwyno cais am flwyddyn dreth neilltuol tan y mis Hydref canlynol. Mae hyn oherwydd bod hyn yn caniatáu i gofnodion NI gael eu diweddaru ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol.
I wneud cais lawrlwythwch furflenni gais yn GOV.UK
Gofal plant gartref
Cyflogi nani
Rhywun sy'n gofalu am blentyn yng nghartref y plentyn ei hun. Fel arfer mae'n rôl fyw yn y cartref neu rôl ddyddiol, ond mae nanis rhan-amser hefyd ar gael.
Gall nanis gofrestru'n wirfoddol gydag Ofsted.
Manteision
-
Mae eich plentyn yn cael gofal gartref.
Anfanteision
-
Chi fydd eu cyflogwr, a byddwch yn gyfrifol am dalu eu Treth Incwm a'u cyfraniadau Yswiriant Gwladol
-
Fel cyflogwr, mae ymrestru awtomatig yn golygu y bydd yn rhaid i chi dalu i mewn i bensiwn ar gyfer eich nani os ydynt o leiaf 22 oed ac yn ennill mwy na £192 yr wythnos (£833 y mis) cyn treth. Darganfyddwch fwy o wybodaeth am y dyletswyddau fel cyflogwr gan y Rheoleiddiwr Pensiynau
-
Bydd angen i chi wneud trefniadau eraill os ydyn nhw'n sâl neu ar wyliau
-
Cyn belled â'u bod wedi'u cymeradwyo a'u cofrestru gydag Ofsted, efallai y byddwch chi'n gymwys i gael help i dalu am eich gofal plant gan ddefnyddio Gofal Plant Di-dreth
Au pair sy'n byw gyda chi
Rhywun sy'n byw gyda chi ac yn dysgu'r iaith a'r diwylliant lleol wrth ddarparu tua 30 awr o ofal plant a chymorth o amgylch y cartref.
Manteision
-
Dylent gael eu talu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw Cenedlaethol.
-
Fel arfer cânt eu trin fel aelod o'r teulu yn hytrach na gweithiwr, felly ni fydd yn rhaid i chi ddelio â'u treth na'u Yswiriant Gwladol.
Anfanteision
-
Bydd angen i chi ystyried cost eu llety a'u bwyd ar ben yr hyn rydych chi'n ei dalu.
Darganfyddwch fwy am gyflogi au pairYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Help gyda chostau gofal plant
Cofiwch, nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau cynllunio am gost gofal plant.
Nid oes angen i chi fod ar incwm isel i gael help gyda chostau gofal plant. Mae llawer o leoedd i gael help. Help is available for many families. Gall hyn gynnwys pethau fel clybiau brecwast, gofal cofleidiol (cyn ac ar ôl ysgol), meithrinfeydd a gwarchodwyr plant.
Mae yna lawer o leoedd i gael cymorth, gan gynnwys Gofal Plant Di-dreth, Credyd Cynhwysol ac oriau gofal plant am ddim yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw ac oedran eich plentyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help gyda chostau gofal plant
Dewis y gofal plant cywir
Mae’r galw am lefydd gofal plant yn uchel, felly nid yw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau ymchwilio i’ch dewisiadau.
Mae gwahanol fathau o ofal plant ar gael gan gynnwys meithrinfeydd, gwarchodwyr plant, grwpiau chwarae a chrèches. Mae crèches yn cynnig gofal achlysurol am gyfnod cyfyngedig, a geir yn aml mewn mannau fel campfeydd, gweithleoedd neu ganolfannau siopa, ond nid yw pob un wedi'i gofrestru ag Ofsted.
Mae costau gofal plant yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw, felly mae'n syniad da darganfod beth allwch chi ddisgwyl ei dalu yn eich ardal.
Mae costau'n amrywio llawer yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw, felly mae'n syniad da darganfod beth allwch chi ddisgwyl ei dalu yn eich ardal.
Ar gyfer cyfartaledd yn y DU ac yn Llundain, gwelwch ein canllaw Costau gofal plant cyfartalog.
Gallwch gyfrifo a yw’r gofal plant rydych ei eisiau yn fforddiadwy trwy gymharu’r costau gyda’ch incwm dros ben ar ôl taliadau hanfodol.