Gall rhoi arian i ffwrdd tra byddwch chi'n fyw leihau gwerth eich ystâd ar ôl i chi farw. Gallai hyn leihau faint o Dreth Etifeddiant sydd angen ei thalu. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Beth yw Treth Etifeddiant?
Os yw eich ystâd werth dros £325,000 ac nad yw wedi'i gadael i'ch priod neu bartner sifil, efallai y bydd angen talu Treth Etifeddiant cyn y gellir ei throsglwyddo.
Mae eich ystâd fel arfer yn cynnwys arian, eiddo a meddiannau eraill fel car a dodrefn - minws unrhyw ddyledion.
Mae yna hefyd lwfansau eraill a all olygu y gellir trosglwyddo ystâd gwerth hyd at £1 miliwn heb dalu Treth Etifeddiant.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw i Dreth Etifeddiant yn y DU.
Sut gall rhoddion leihau Treth Etifeddiant
Os ydych chi'n poeni y bydd eich ystâd yn destun Treth Etifeddiant ar ôl i chi farw, gallech ystyried lleihau ei gwerth drwy rhoi rhan o’ch asedau i eraill tra byddwch yn dal yn fyw.
Faint o’ch asedau y gallwch eu rhoi i eraill
Bob blwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill), caniateir i chi drosglwyddo:
- symiau diderfyn i'ch priod neu bartner sifil os ydynt yn byw yn y DU
- symiau diderfyn i elusen gofrestredig – os byddwch yn gadael o leiaf 10% o'ch ystâd i elusen pan fyddwch yn marw, gallai'r gyfradd Treth Etifeddiant ostwng o 40% i 36%
- hyd at £3,000 i bobl eraill, neu hyd at £6,000 os na wnaethoch ddefnyddio lwfans y flwyddyn flaenorol.
Mae yna lwfansau ar wahân hefyd nad ydynt yn defnyddio'ch terfyn blynyddol cyffredinol o £3,000:
- lwfans rhodd fach – mae hyn yn caniatáu i chi roi hyd at £250 y pen, cyn belled nad oes lwfans arall wedi'i ddefnyddio ar eu cyfer.
- rhoddion ar gyfer priodas neu bartneriaeth sifil – mae hyn yn eich galluogi i drosglwyddo (ar neu ychydig cyn dyddiad y briodas) hyd at:
- £5,000 i'ch plentyn
- £2,500 i'ch ŵyr neu'ch gor-ŵyr
- £1,000 i unrhyw un arall
- rhoddion rheolaidd o'ch incwm – mae hyn yn caniatáu i chi roi symiau diderfyn i rywun cyhyd ag y gallwch ddangos bod:
- yr arian yn dod o’ch incwm misol rheolaidd.
- yr ydych yn gallu fforddio’r rhodd ar ôl talu’ch costau byw.
Darganfyddwch fwy am Dreth Etifeddiant a rhoddionYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Mae rhoddion uwchlaw eich lwfans yn dal i gyfrif os byddwch yn marw o fewn saith mlynedd
Os byddwch yn trosglwyddo mwy na’ch lwfans blynyddol, bydd y symiau hyn yn dal i gael eu hychwanegu at eich ystâd os byddwch yn marw o fewn saith mlynedd i’w gwneud.
Mae hyn yn golygu y bydd y rhoddion hynny’n dal i gyfrif wrth gyfrifo a oes angen talu Treth Etifeddiant.
Mae rhoddion fel arfer yn cael eu cyfrif yn gyntaf wrth gyfrifo Treth Etifeddiant
Bydd unrhyw roddion y mae angen eu hychwanegu at eich ystâd yn defnyddio unrhyw lwfans di-dreth y mae gennych hawl iddo yn gyntaf.
Er enghraifft, os mai dim ond y lwfans di‑dreth safonol o £325,000 ar gyfer Treth Etifeddiant rydych yn gymwys amdano ac mae cyfanswm eich holl rhoddion dros y saith mlynedd diwethaf yn:
- llai na £325,000, bydd y rhoddion hynny’n lleihau’r lwfans di‑dreth sydd ar gael ar gyfer yr asedau eraill rydych yn eu trosglwyddo – felly efallai y bydd eich buddiolwyr yn talu mwy o dreth ac yn derbyn llai
- mwy na £325,000, ni fyddai unrhyw lwfans di‑dreth ar gael ar gyfer gweddill eich ystâd.
Mae yna rai rhoddion, fel rhoddion mawr i ymddiriedolaethau, a allai olygu bod yn rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant pan fyddwch chi'n gwneud y rhodd.
Fel arfer, y person a dderbyniodd y rhodd sy'n talu unrhyw dreth
Os oes angen talu Treth Etifeddiant ar rodd rydych chi wedi'i rhoi, fel arfer mae angen i'r person a'i derbyniodd dalu'r dreth. Efallai yr hoffech chi ddweud wrth y person sy'n derbyn yr arian y gallai fod treth i'w thalu yn y dyfodol, fel y gallant roi rhywfaint i’r ochr os bydd hynny’n bosibl.
Mae'r gyfradd y bydd angen iddynt ei dalu yn dibynnu ar yr amser rhwng y rhodd a'ch marwolaeth. Gelwir hyn yn rhyddhad taprog.
| Amser rhwng rhodd a marwolaeth | Cyfradd dreth |
|---|---|
|
Llai na 3 blynedd |
40% |
|
3 i 4 blynedd |
32% |
|
4 i 5 mlynedd |
24% |
|
5 i 6 mlynedd |
16% |
|
6 i 7 mlynedd |
8% |
|
7 mlynedd neu fwy |
0% |
Beth i'w hystyried cyn trosglwyddo unrhyw beth
Gallai rhoi rhywfaint o'ch ystâd i ffwrdd helpu i leihau Treth Etifeddiant, ond nid yw byth yn benderfyniad i'w ruthro i mewn iddo.
Mae yna anfanteision posibl i'w hystyried, gan gynnwys:
- a fyddwch chi'n cadw digon o arian i fyw arno, yn enwedig os ydych chi'n byw yn hirach na'r disgwyl
- gallai rhoi arian i ffwrdd achosi problemau teuluol, gan gynnwys os na allwch fforddio rhoi'r un peth i bawb.
- y rhodd ariannol yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd nad ydych chi'n cytuno ag ef – neu'n cael ei cholli os yw'r person yn ysgaru neu'n mynd yn fethdalwr
- os ydych chi eisiau gwneud cais am gyllid ar gyfer gofal hirdymor, gall cynghorau barhau i gyfrif rhoddion wrth benderfynu a ydych chi'n gymwys
- gallai costau gofal yn ddiweddarach mewn bywyd leihau eich ystâd beth bynnag.
Cofiwch y gall rheolau treth, eich sefyllfa bersonol a'r gwerth eich ystâd newid dros amser.
Os yw rhoi rhoddion yn iawn i chi
Os ydych chi wedi penderfynu bod rhoi eich ystâd yn rhodd yn addas i chi, mae'n syniad da i:
- wneud nodyn i esbonio pam wnaethoch rai penderfyniadau – nid yw hyn yn rhwymol yn gyfreithiol ond gallai helpu i atal anghydfodau yn y dyfodol
- ystyried defnyddio ymddiriedolaeth neu roddion bach rheolaidd, os ydych chi'n poeni am sut y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio.
- meddwl am gostau gofal os oes angen yn ddiweddarach mewn bywyd.
Am help gyda chostau gofal, gweler ein Canllaw i ddechreuwyr ar dalu am ofal hirdymor
Cael cyngor am Dreth Etifeddiant
Gall ymgynghorydd ariannol rheoleiddiedig roi cyngor personol i chi ar Dreth Etifeddiant, gan gynnwys:
- esbonio'r rheolau sy'n berthnasol i chi
- gwneud yn siŵr eich bod yn defnyddio'r holl lwfansau treth sydd ar gael
- argymell ffyrdd o leihau treth ar eich ystâd ar ôl i chi farw.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut i ddewis ymgynghorydd ariannol.
Er mwyn helpu i sefydlu ymddiriedolaeth, gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr:
- yng Nghymru a Lloegr ar The Law SocietyYn agor mewn ffenestr newydd
- yn yr Alban ar The Law Society of ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
- yng Ngogledd Iwerddon ar Law Society of Northern IrelandYn agor mewn ffenestr newydd