Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, fel arfer gallwch ddewis sut a phryd i gymryd eich arian. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio?
Mae pensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio yn caniatáu i chi adeiladu cronfa o arian i'w ddefnyddio wrth ymddeol. Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar:
faint sy'n cael ei dalu i mewn
pa mor dda mae'r buddsoddiadau yn perfformio
y ffioedd a'r taliadau rydych chi'n eu talu
pryd fyddwch chi'n dewis cymryd yr arian.
Mae hyn yn golygu y gall gwerth eich pensiwn godi a gostwng nes i chi dynnu'r arian allan.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Esboniad o gynlluniau pensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio.
Pa fath o bensiwn sydd gennyf?
Gallwch ddefnyddio ein teclyn i ddarganfod eich math o bensiwn neu ofyn i'ch darparwr pensiwn.
Pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio yw'r math mwyaf cyffredin o bensiynau mwyach. Ond os oes gennych hen gynllun pensiwn neu eich bod yn gweithio yn y sector cyhoeddus (fel addysg, y GIG neu'r Lluoedd Arfog), efallai y bydd gennych bensiwn buddion wedi’u diffinio yn lle hynny. Gelwir y rhain yn aml yn gynlluniau cyflog terfynol neu gyfartaledd gyrfa.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynlluniau pensiwn buddion wedi’u diffinio: cyflog terfynol a chyfartaledd gyrfa wedi’u hesbonio.
Pryd alla i gymryd arian o’m pensiwn?
Y cynharaf y gallwch gymryd arian o'ch pensiwn fel arfer yw 55 oed (57 o fis Ebrill 2028), oni bai:
bod angen i chi ymddeol yn gynnar oherwydd iechyd gwael, neu
mae eich darparwr pensiwn yn rhestru isafswm oedran pensiwn wedi'i warchod yn gynharach.
Mae'r rhan fwyaf o'r pensiynau wedi'u cynllunio i dalu allan ar eich oedran pensiwn arferol (NPA). Mae'r NPA yn amrywio rhwng cynlluniau pensiwn ond yn aml mae'n 60, 65 oed neu'r un fath â’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae hyn yn golygu y gallech gael llai na'r disgwyl os ydych chi'n cymryd eich arian yn gynharach.
Gallwch ohirio cymryd eich pensiwn os ydych am ymddeol yn ddiweddarach
Nid oes rhaid i chi ddechrau cymryd arian o'ch cronfa bensiwn pan fyddwch chi'n cyrraedd oedran pensiwn arferol eich darparwr pensiwn (NPA). Gallwch adael eich arian wedi'i fuddsoddi yn eich cronfa nes bod ei angen arnoch.
Mae darparwyr pensiwn yn aml yn symud eich arian i fuddsoddiadau risg is po agosaf at eich oedran pensiwn arferol. Os nad ydych chi eisiau defnyddio'ch arian yna, mae'n syniad da adolygu'ch opsiynau buddsoddi gan y gallech golli twf ychwanegol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ymddeol yn hwyrach neu oedi cyn cymryd eich cronfa bensiwn.
Sut alla i gymryd arian o’m pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio?
Pan fyddwch chi'n barod i gymryd eich arian pensiwn, fel arfer mae gennych sawl opsiwn. Os nad yw'ch darparwr pensiwn yn cynnig yr opsiwn yr hoffech chi, gallech ystyried trosglwyddo'ch pensiwn i ddarparwr sy'n gwneud hynny.
Mae'r holl opsiynau yn caniatáu i chi gymryd hyd at 25% yn ddi-dreth, ar yr amod ei fod yn cael ei gymryd fel un neu fwy o gyfandaliadau ac nad yw cyfanswm yr arian di-dreth o'ch holl bensiynau yn uwch na'r lwfans cyfandaliad (LSA). Mae'r LSA yn £268,275 i'r rhan fwyaf o bobl.
Cymryd cyfandaliad di-dreth a gadael i’r gweddill fuddsoddi nes bod ei angen arnoch
Gallwch gymryd rhywfaint o'ch pensiwn fel cyfandaliad di-dreth (hyd at 25%) a chadw'r gweddill wedi'i fuddsoddi. Gelwir hyn yn tynnu pensiwn i lawr neu incwm ymddeol hyblyg.
Nid oes rhaid i chi gymryd y 25% llawn fel cyfandaliad di-dreth, neu unrhyw beth o gwbl. Po fwyaf y byddwch chi'n ei gymryd nawr, y lleiaf y bydd ar ôl fel incwm i chi yn nes ymlaen.
Gan y bydd y rhan fwyaf (neu'r cyfan) o'ch pensiwn yn parhau wedi’i fuddsoddi, gallwch benderfynu faint i'w gymryd allan a phryd, a allai fod yn incwm rheolaidd neu gyfandaliad pan a phryd y mae eu hangen arnoch. Mae hyn fel arfer yn cael ei drethu ynghyd ag unrhyw enillion eraill. Efallai y byddwch hefyd yn gallu parhau i dalu – gallwch elwa o ryddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn tan 75 oed.
Tra bod eich arian yn cael ei fuddsoddi, gall gwerth eich pensiwn godi a gostwng nes i chi ei gymryd allan. Mae hyn yn golygu bod risg y gallai redeg allan os ydych chi'n cymryd gormod yn rhy fuan.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw incwm ymddeol hyblyg (tynnu pensiwn i lawr)?
Cymryd cyfandaliad di-dreth a chael incwm gwarantedig gyda'r gweddill
Gallwch gymryd rhywfaint o'ch pensiwn fel cyfandaliad di-dreth (hyd at 25%) a throsi'r gweddill yn incwm rheolaidd a gwarantedig. Gelwir hyn yn prynu blwydd-dal.
Nid oes rhaid i chi gymryd y 25% llawn fel cyfandaliad di-dreth, neu unrhyw beth o gwbl. Po fwyaf y byddwch chi'n ei gymryd nawr, y lleiaf y bydd ar ôl fel incwm i chi yn nes ymlaen.
Gyda gweddill (neu'r cyfan) o'ch pensiwn, fel arfer gallwch ddewis prynu incwm gwarantedig:
am weddill eich bywyd – a elwir yn flwydd-dal gydol oes
tan ddyddiad penodol - a elwir yn flwydd-dal tymor penodol.
Mae faint y gallwch ei gael yn dibynnu ar bris blwydd-daliadau ar y pryd. Gwiriwch bob amser a yw eich cynllun pensiwn yn cynnwys cyfraddau blwydd-dal gwarantedig, gan y gallai'r rhain fod yn well nag y gallwch ei gael ar y farchnad agored.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Incwm Ymddeol Gwarantedig (blwydd-daliadau) wedi’i egluro.
Cymryd eich pensiwn fel nifer o gyfandaliad, gydag ychydig yn ddi-dreth
Gallwch adael eich holl bensiwn wedi'i fuddsoddi a chymryd arian o'ch pensiwn pan a phryd fydd ei angen arnoch.
Mae 25% o bob cyfandaliad a gymerwch yn ddi-dreth ac mae'r gweddill yn cael ei drethu ynghyd ag unrhyw enillion eraill. Gallwch hefyd barhau i dalu – gallwch elwa o ryddhad treth ar eich cyfraniadau pensiwn tan 75 oed.
Gan fod eich arian yn cael ei fuddsoddi o hyd, gall gwerth eich pensiwn barhau i godi a gostwng nes i chi ei gymryd allan. Mae hyn yn golygu bod risg y gallai redeg allan os ydych chi'n cymryd gormod yn rhy fuan.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cymryd eich pensiwn fel nifer o gyfandaliadau.
Cymryd eich pensiwn cyfan ar un tro, gydag ychydig yn ddi-dreth
Gallwch gymryd yr holl arian yn eich pensiwn mewn un taliad. Yna gallwch benderfynu sut i wario, buddsoddi neu ei gynilo i wneud yn siŵr nad ydych chi'n rhedeg allan o arian.
Mae 25% yn cael ei dalu'n ddi-dreth ac mae'r gweddill yn cael ei drethu ynghyd ag unrhyw enillion eraill. Mae hyn yn golygu y gallech dalu mwy o Dreth Incwm ar yr arian nag opsiynau eraill, gan y byddai'n cael ei dalu mewn un flwyddyn dreth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cymryd eich pensiwn cyfan ar un tro.
A allaf ddewis mwy nag un ffordd o gymryd fy arian?
Fel arfer, gallwch ddewis mwy nag un ffordd i gymryd eich pensiwn. Mae rhai darparwyr hefyd yn cynnig cynhyrchion sy'n cymysgu dau neu fwy o opsiynau.
Er enghraifft, gallech chi:
gymryd cyfandaliad di-dreth yn 60 oed
defnyddio tynnu pensiwn i lawr i gadw'r gweddill yn buddsoddi
cymryd incwm a/neu gyfandaliad pan a phryd y bo’u hangen arnoch
trosi'r hyn sydd ar ôl yn incwm gwarantedig yn 65 oed.
Os oes gennych nifer o bensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio, gallwch ddewis gwahanol opsiynau ar gyfer pob un. Er enghraifft, gallech drosi un yn incwm gwarantedig a gadael y llall i fuddsoddi nes eich bod yn dymuno cymryd cyfandaliad.
Mynnwch arweiniad am ddim ar eich opsiynau pensiwn
Er mwyn helpu i ddeall yr opsiynau ar gyfer cymryd eich pensiwn, gallwch gael apwyntiad Pension Wise am ddim. Mae hyn yn esbonio:
- pryd y gallwch chi gymryd eich pensiwn
- y gwahanol ffyrdd y gallwch chi gymryd arian
- sut mae pob opsiwn yn cael ei drethu
- sut i weld ac osgoi sgamiau.
Rydych chi'n gymwys i gael apwyntiad os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio yn y DU ac os ydych chi’n:
- 50 oed neu'n hŷn
- dan 50 oed ac:
- yn ymddeol yn gynnar oherwydd iechyd gwael
- wedi etifeddu pensiwn.
Gallwch ddechrau apwyntiad ar-lein ar unwaith neu drefnu dyddiad ac amser gydag arbenigwr pensiynau.
Oes gennych chi gwestiynau eraill am eich pensiwn?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich pensiwn, gall ein harbenigwyr pensiwn eich helpu – does dim ots pa mor hen ydych chi.
Gallwch:
- ddefnyddio ein gwe-sgwrs
- ffonio ar 0800 011 3797Yn agor mewn ffenestr newydd
- Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein.
Rydyn ni ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydyn ni ar gau ar wyliau banc.
Ystyriwch dalu am gyngor ariannol
Gall sut rydych chi'n dewis cymryd eich pensiwn effeithio ar ba mor gyfforddus yw eich ymddeoliad.
Gall ymgynghorydd ariannol rheoledig eich helpu i gynllunio ar gyfer ymddeol, gan gynnwys:
argymell cynhyrchion a darparwyr i'w defnyddio
cynghori ble i fuddsoddi'ch arian
esbonio'ch opsiynau i leihau'r dreth y gallai fod angen i chi ei thalu.
Gall ein teclyn eich helpu chi i ddarganfod ymgynghorydd ymddeoliad neu gweler ein canllaw Dewis ymgynghorydd ariannol am ragor o wybodaeth.
Rhaid i ymgynghorwyr ariannol ddweud wrthych faint y mae angen i chi ei dalu cyn i chi ymrwymo.