Skip to content
Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo Money Helper logo
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Adeiladu eich cronfa bensiwn

    Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    Esbonio pensiynau

    Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    Problemau pensiwn

    Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    Cymryd eich pensiwn

    Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    Treth a phensiynau

    Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    Pensiynau ac ymddeoliad

    Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    Esbonio pensiynau Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Gwaith
  3. Hunangyflogaeth
Gwaith Hunangyflogaeth

Sut i gwblhau ffurflen dreth hunanasesiad

Gall ffurflen dreth Hunanasesiad godi ofn ar unrhyw un. Ond os ydych wedi paratoi, yn drefnus ac yn deall yr hyn a ofynnir i chi, yna bydd y cyfan yn llawer symlach na’r disgwyl. Sicrhewch eich bod chi'n deall eich un chi fel y gallwch chi ei gyflwyno’n gywir ac osgoi talu unrhyw gosbau.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • A oes angen i mi gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad?
  • Sut i gofrestru ar gyfer ffurflen dreth Hunanasesiad
  • Beth yw’r dyddiadau cau ar gyfer Hunanasesiad?
  • Pa wybodaeth fyddaf ei hangen i gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad?
  • Sut i gwblhau ffurflen dreth hunanasesiad
  • Sut i gwblhau’r tudalennau atodol o ffurflen dreth Hunanasesiad?
  • Talu’ch bil treth Hunanasesiad
  • Gwasanaeth Amser i Dalu
  • Beth os na allwch fforddio talu eich bil treth?

A oes angen i mi gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad?

Oes:

  • os oedd eich incwm hunangyflogaeth yn uwch na £1,000 (cyn ystyried unrhywbeth gallwch hawlio rhyddhad treth arno)
  • os oes eich incwm yn sgil gosod eiddo yn uwch na £2,500 (bydd angen i chi gysylltu â HMRC os oedd y swm rhwng £1,000 a £2,500)
  • os enilloch fwy na £2,500 mewn incwm heb ei drethu, er enghraifft mewn arian cildwrn neu gomisiwn.
  • os oedd eich incwm neu fuddsoddiadau yn £10,000 neu fwy cyn treth.
  • os oes angen i chi dalu Treth ar Enillion Cyfalaf ar elw yn sgil gwerthu pethau fel cyfranddaliadau neu ail gartref.
  • os ydych yn gyfarwyddwr ar gwmni (oni bai ei fod yn sefydliad di-elw, fel elusen)
  • os oedd eich incwm chi, neu eich partner, dros £60,000 y flwyddyn a’ch bod yn hawlio Budd-dal Plant
  • os oes gennych chi incwm o dramor sydd angen i chi dalu treth arno, neu eich bod yn byw dramor ond gydag incwm yn y DU.
  • roedd cyfanswm eich incwm trethadwy dros £150,000
  • os ydych yn ymddiriedolwr o ymddiriedolaeth neu gynllun pensiwn cofrestredig
  • os oedd Pensiwn y Wladwriaeth yn fwy na’ch lwfans personol a dyma oedd eich unig ffynhonnell incwm
  • os cawsoch P800 gan HMRC yn nodi na lwyddoch i dalu digon o dreth y llynedd.

Efallai y bydd yn rhaid i chi gwblhau asesiad i hawlio rhyddhad treth ychwanegol yn ôl os gwnaethoch ennill dros £50,270 yn y flwyddyn dreth 2024/25 a gwneud cyfraniadau pensiwn. Ond os ydych chi'n cael eich talu drwy TWE, fel arfer gallwch chi ddatrys hyn drwy ffonio CThEF yn lle hynny.

Gallwch gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad hefyd os dymunwch wneud Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (NICs) Dosbarth 2. Bydd hyn yn eich helpu i fod yn gymwys am fudd-daliadau fel Pensiwn y Wladwriaeth.

Gallwch ddarganfod os oes angen i chi gwblhau ffurflen dreth HunanasesiadYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Nol i’r brig

Sut i gofrestru ar gyfer ffurflen dreth Hunanasesiad

Os nad ydych erioed wedi cyflwyno ffurflen dreth o’r blaen, y cam cyntaf yw cofrestru ar gyfer HunanasesiadYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Yn dibynnu ar sut rydych chi'n gyflogedig, mae yna wahanol ffyrdd o gofrestru.

Edrychwch ar y canllawiau cam wrth gam hyn gan CThEF i gael gwybod sut i ddechrau arni.

  • HunanasesiadYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn hunangyflogedig
  • Hunanasesiad os nad ydych yn hunangyflogedigYn agor mewn ffenestr newydd ond bod angen i chi ddatgan incwm

Os ydych mewn partneriaeth, bydd angen i chi lenwi ffurflen SA400 a chofrestru’r bartneriaeth ar gyfer HunanasesiadYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Ar ôl i chi gofrestru am Hunanasesiad

Wedi i chi gofrestru, anfonir eich Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw (UTR) atoch.

Os dymunwch gyflwyno eich ffurflen Hunanasesiad ar-lein, yna bydd angen i chi sefydlu cyfrif Porth y Llywodraeth. I wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y llythyr sy’n cynnwys eich UTR.

Wedi i chi sefydlu’r cyfrif fe gewch god drwy’r post i’w weithredu. Yna byddwch angen cwblhau’r gwaith o sefydlu’ch cyfrif Porth.

Os ydych chi wedi cyflwyno ffurflenni treth Hunanasesiad o’r blaen, byddwch angen eich hen UTR i gofrestru a sefydlu’r cyfrif.

Y peth gorau i’w wneud yw sicrhau y gallwch gael mynediad i’ch cyfrif Porth cyn i chi geisio cyflwyno’ch Hunanasesiad. Mae hyn yn arbed amser i chi os na fyddwch yn gallu mewngofnodi am unrhyw reswm.

Nol i’r brig

Beth yw’r dyddiadau cau ar gyfer Hunanasesiad?

Rydych yn cyflwyno ffurflenni treth ar gyfer blynyddoedd treth, nid blynyddoedd galendr. A byddwch yn gwneud hyn yn y flwyddyn ariannol ddilynol.

Er enghraifft, ar gyfer y flwyddyn dreth 2024/25 - sy’n rhedeg o 6 Ebrill 2024 i 5 Ebill 2025 - byddech:

  • angen cofrestru ar gyfer Hunanasesiad erbyn 5 Hydref 2025 os nad ydych erioed wedi cyflwyno ffurflen dreth o’r blaen
  • angen cyflwyno’ch ffurflen dreth erbyn hanner nos 31 Hydref 2025 os dewiswch ddychwelyd ffurflen dreth ar bapur
  • angen cyflwyno’ch ffurflen dreth erbyn hanner nos 31 Ionawr 2026 os dewiswch ddychwelyd ffurflen dreth ar-lein
  • yn talu’r dreth sy’n ddyledus gennych erbyn hanner nos 31 Ionawr 2026.

Os na lwyddwch chi i gyflwyno erbyn y dyddiadau cau hyn, gallech wynebu ffi gosb.

Nol i’r brig

Pa wybodaeth fyddaf ei hangen i gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad?

Os nad ydych erioed o’r blaen wedi cwblhau Ffurflen Dreth Hunanasesiad, gall y cyfan godi ofn arnoch. Fodd bynnag, wedi i chi ddod i ddeall y broses, mae’n gymharol hawdd - cyn belled â bod yr holl wybodaeth rydych ei hangen wrth law.

Cyn i chi gychwyn, gwnewch yn siŵr bod y rhain gennych:

  • eich Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw (UTR) deg-digid
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • manylion eich incwm heb ei drethu o’r flwyddyn dreth, gan gynnwys incwm o waith hunangyflogedig, difidendau a llog ar gyfranddaliadau
  • cofnodion o unrhyw dreuliau’n gysylltiedig â hunangyflogaeth
  • unrhyw gyfraniadau i elusen neu bensiynau a allai fod yn gymwys am ostyngiad treth
  • eich P60 neu gofnodion eraill sy’n dangos faint o incwm gawsoch chi rydych eisoes wedi talu treth arno.

Mae’n syniad da hefyd i ddarllen y taflenni cymorth perthnasol gan HMRC, yn enwedig ar y rhannau ychwanegol, neu’r tudalennau atodol, ynglŷn â pham yr ydych yn cwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad.

Gallwch ddod o hyd i’r taflenni cymorth a’u lawrlwythoYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Os ydych yn cwblhau eich ffurflen Hunanasesiad ar-lein, mae gwybodaeth ddefnyddiol ar-lein ar gael drwy glicio’r ‘?’ wrth ymyl y gwahanol flychau.

Nol i’r brig

Sut i gwblhau ffurflen dreth hunanasesiad

Mae dwy ran i ffurflen dreth Hunanasesiad. Y brif ran yw SA100, sy’n delio ag:

  • incwm wedi’i drethu a heb ei drethu ar ffurf difidendau a llog
  • cyfraniadau pensiwn
  • rhoddion elusennol
  • budd-daliadau, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, Budd-dal Plant a Lwfans Person Dall.

Oes gennych chi incwm i’w ddatgan fel cyfarwyddwr cwmni, dinesydd tramor (neu breswylydd deuol), o hunangyflogaeth, eiddo, Treth Enillion ar Gyfalaf, neu o dramor? Yna bydd angen i chi hefyd gwblhau tudalen atodol.

Nid oes raid i chi gwblhau’r ffurflen dreth fer (SA200), oni bai yr anfonwyd hon atoch gan CThEF.

Sut i gwblhau’r brif ffurflen dreth (SA100)

Cyn i ddechrau cwblhau’r SA100 neu’r tudalennau atodol, mae’n bwysig i chi ddarllen y taflenni cymorth a’r nodiadau sy’n gysylltiedig â’r adran.

Incwm

Mae’r adran hon yn benodol ar gyfer

  • datgan incwm trethadwy a di-dreth o log a enillwyd o gyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu, a
  • difidendau o gyfranddaliadau.

Pensiynau, blwydd-daliadau a budd-daliadau’r wladwriaeth

Os ydych wedi ymddeol, mae angen i chi nodi:

  • swm y Pensiwn y Wladwriaeth roeddech yn gymwys i’w gael dros y flwyddyn dreth
  • swm gros unrhyw lwmp swm o Bensiwn y Wladwriaeth
  • swm gros unrhyw flwydd-daliadau neu lwmp swm pensiwn (ar wahan i Bensiwn y Wladwriaeth)

Os ydych yn hawlio budd-daliadau, bydd angen i chi nodi:

  • y swm a gafwyd mewn Budd-dal Analluogrwydd a Lwfans Ceisio Gwaith
  • y cyfanswm o fudd-daliadau trethadwy a gafwyd gan gynnwys Lwfans Profedigaeth, Lwfans Gofalwr a Budd-dal Marwolaeth Ddiwydiannol.

Nid oes angen i chi gynnwys:

  • Lwfans Gweini
  • Lwmp swm Taliad Cymorth Profedigaeth
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP)
  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ag incwm
  • Lwfans Mamolaeth, neu
  • Pensiwn Gweddw Rhyfel.

Nid yw’r budd-daliadau hyn yn drethadwy.

Incwm arall y DU

Mae'r adran hon ar gyfer unrhyw incwm trethadwy arall nad yw'n gysylltiedig â llog, difidendau neu unrhyw beth ar y tudalennau atodol.

Gallwch hefyd nodi unrhyw dreuliau derbyniol sy’n gysylltiedig â’r incwm hwn ac unrhyw dreth incwm arno eisoes gennych.

Cyfraniadau pensiwn

Unrhyw daliadau i mewn i gynllun pensiwn cofrestredig, contract blwydd-dal, neu gynllun cyflogwr ble gwnaed didyniadau ar ôl treth.

Rhoddion elusennol

Cyfansymiau llawn o roddion Rhodd Cymorth a wnaed i elusennau yn ystod y flwyddyn dreth. Gallwch hefyd nodi cyfansymiau ar gyfer unrhyw gyfranddaliadau, gwarantau, tir neu adeiladau a roddwyd i elusennau.

Lwfans Person Dall

Cadarnhewch a ydych yn hawlio Lwfans Person Dall neu beidio.

Ad-daliadau benthyciad myfyriwr

Cadarnhewch a ydych chi’n ad-dalu’ch benthyciad myfyriwr neu beidio ac os felly a yw’ch cyflogwr yn didynnu’r arian.

Taliad Budd-dal Plant Incwm Uchel

Nid oes raid i chi gwblhau’r adran hon oni bai eich bod yn cael Budd-dal Plant ac roedd eich incwm dros £60,000.

Lwfans Priodas

Cwblhewch yr adran hon os yw eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth yn llai na’r Lwfans Personol ac rydych yn dymuno trosglwyddo rhan o’ch Lwfans Personol i’ch priod.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfans priodas a lwfans cwpl priod
Nol i’r brig

Sut i gwblhau’r tudalennau atodol o ffurflen dreth Hunanasesiad?

Oes gennych chi incwm ychwanegol i’w ddatgan o waith hunangyflogedig, eiddo, neu dreth enillion ar gyfalaf? Yna bydd angen i chi gwblhau tudalen atodol. Os ydych yn:

  • hunangyflogedig, mae angen i chi gwblhau SA103
  • adrodd incwm ar eiddo, cwblhewch SA105
  • yn datgan enillion ar gyfalaf, cwblhewch SA108.

Yn y tudalennau hyn, bydd angen i chi adrodd ar incwm o’r ffynonellau hyn nad ydych wedi talu treth arnynt.

Cewch gyfle hefyd i ddatgan unrhyw dreuliau cymwys a ddidynnir o’ch bil treth.

Fel gweithiwr, cyfarwyddwr cwmni, i ddatgan incwm tramor, fel gwladolyn tramor neu breswylydd deuol, neu bartneriaeth fusnes gallwch lenwi ffurflen drethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Hunangyflogedig (SA103)

Incwm

Os ydych yn ennill arian drwy hunangyflogaeth, fe ofynnir i chi nodi’ch trosiant dan yr adran incwm busnes.

Dyma gyfanswm llawn yr holl incwm a gawsoch yn ystod y flwyddyn dreth cyn tynnu’r treuliau.

Os oes gennych chi fwy nag un ffynhonnell o incwm hunangyflogedig, gallwch nodi’r swm hwn ar wahan. Ond cofiwch mai’r swydd sy’n creu incwm mwyaf i chi yw’ch prif gyflogaeth.

Treuliau

Awgrym da

Ni allwch hawlio treuliau os ydych yn hawlio’r lwfans masnachu di-dreth o £1,000.

Mae dwy ffordd o ddatgan eich treuliau os ydych yn hunangyflogedig.

Os yw eich trosiant blynyddol yn is nag £90,000 gallwch yn syml nodi cyfanswm eich treuliau heb orfod eu rhestru’n unigol.

Os ydych yn hunangyflogedig a bod eich trosiant yn uwch nag £90,000, bydd yn rhaid i chi nodi swm unigol ar gyfer pob gwahanol fath o dreuliau, ynghyd â chyfanswm ar y diwedd.

Y gwahanol dreuliau y gallwch eu cynnwys os ydych yn hunangyflogedig yw:

  • cost stoc a brynwyd i’w ailwerthu
  • cost offer a ddefnyddir yn y gwaith
  • cyflogau, taliadau a chostau staff eraill
  • taliadau i is-gontractwyr (os ydych yn gweithio yn y diwydiant adeiladu)
  • treuliau cerbydau a theithio
  • costau gwaith adeiladu (gan gynnwys rhent, pŵer ac yswiriant)
  • atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau a cherbydau
  • costau swyddfa (gan gynnwys cyswllt â’r rhyngrwyd, ffonau a phapur ac ati)
  • costau hysbysebu a lletygarwch busnes
  • llog ar fenthyciadau
  • costau banc, cardiau credyd ac ariannol eraill
  • costau gwaith cyfrifo, cyfreithiol a phroffesiynol eraill.

Nid oes angen i chi anfon tystiolaeth o’ch treuliau, fel derbynebau, wrth gyflwyno’ch ffurflen dreth Hunanasesiad.

Bydd angen i chi gadw cofnodion o’ch treuliau am bum mlynedd ar ôl i chi gyflwyno’ch ffurflen dreth ar gyfer y flwyddyn honno, rhag ofn y bydd HMRC yn gofyn i gael eu gweld.

Darganfyddwch fwy am dreuliau derbyniol pan fyddwch yn hunangyflogedigYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK(Opens in a new window)

Incwm eiddo yn y DU (SA105)

Incwm

Os ydych yn landlord, bydd gofyn i chi nodi’r incwm o eiddo a rentir mewn dwy adran wahanol.

Yn yr adran gyntaf, bydd angen i chi nodi cyfanswm yr incwm o’ch holl eiddo yn y DU a osodir fel eiddo gwyliau, wedi eu dodrefnu. Os oes gennych chi unrhyw eiddo yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) a osodir fel eiddo gwyliau, wedi eu dodrefnu, nodwch gyfanswm ohonynt ar dudalen ar wahân.

Yn yr ail adran, nodwch gyfanswm y rhent a’r incwm o unrhyw eiddo arall.

Gallwch ennill hyd at £7,500 y flwyddyn yn ddi-dreth drwy fanteisio ar y cynllun Rhentu Ystafell. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynllun Rhentu Ystafell - sut mae'n gweithio a rheolau treth

Treuliau

Awgrym da

Ni allwch hawlio treuliau os ydych yn hawlio’r lwfans masnachu di-dreth o £1,000.

Os gwnewch arian drwy osod eiddo gallwch hawlio treulio ar gyfer:

  • trethi, yswiriant a rhent tir
  • atgyweirio a chynnal a chadw eiddo
  • llog ar fenthyciad a chostau ariannol eraill

ffioedd cyfreithiol, rheoli a phroffesiynol eraill.

Treth ar Enillion Cyfalaf (SA108)

Incwm

Gelwir incwm sydd angen i chi ei ddatgan er dibenion Treth ar Enillion Cyfalaf yn ‘enillion gwario’.

Bydd angen i chi gwblhau cyfanswm ‘enillion gwario’ ar wahân ar gyfer

  • eiddo preswyl
  • eiddo nad yw’n breswyl, a
  • chyfranddaliadau a gwarantau.

Treuliau

Ar ffurflen dreth Treth ar Enillion Cyfalaf, gallwch hawlio am ‘gostau derbyniol’. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • y pris a dalwyd i brynu’r ased yn y lle cyntaf
  • costau unrhyw welliannau (rhaid adlewyrchu hynny yn yr ased pan gaiff ei gwerthu*)
  • costau eraill wrth brynu a gwerthu’r ased - fel Treth Stamp wrth brynu eiddo.

*Mae hyn yn golygu, mae angen i'r gwelliant fod yn bresennol o hyd pan fydd yr ased yn cael ei werthu. Er enghraifft, ni allwch hawlio am garped newydd mewn tŷ os byddwch yn tynnu'r carped cyn i chi werthu'r eiddo.

Mae’n bwysig cadw cofnodion da i sicrhau nad ydych yn hawlio am yr un peth ddwywaith. Y rheswm am hyn yw efallai y byddwch chi’n hawlio treuliau fel rhan o’ch ffurflen dreth Hunanasesiad ar gyfer yr eiddo yn y blynyddoedd a fu.

Er enghraifft, os hawlioch am gynnal a chadw ar eiddo Prynu i Werthu mewn blwyddyn dreth flaenorol, ni allwch hawlio am yr un gwariant fel rhan o’ch ffurflen dreth Treth ar Enillion Cyfalaf pan ddaw hi’n amser i chi werthu’r eiddo.

Nol i’r brig

Talu’ch bil treth Hunanasesiad

Wedi i chi gyflwyno’ch ffurflen dreth Hunanasesiad, fe gewch wybod faint o dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol (NICs) os ydych yn hunangyflogedig bydd angen i chi eu talu.

Erbyn pa bryd mae angen i chi dalu?

Y dyddiad cau ar gyfer talu yw 31 Ionawr.

A allaf dalu fy mil treth mewn rhandaliadau?

Gallwch, gallwch dalu mewn rhandaliadau, ond maent yn daliadau ymlaen llaw ar eich bil treth nesaf.

Gallwch drefnu yr hyn a elwir yn gynllun talu ar gyllideb drwy eich cyfrif ar-lein a phenderfynu faint yr hoffech chi ei dalu bob wythnos neu bob mis. Gallwch hefyd ddewis rhoi’r gorau i dalu am hyd at chwe mis.

Yr unig gyfyngiad yw bod yn rhaid ichi fod wedi clirio’ch taliadau Hunanasesiad blaenorol.

Fodd bynnag, ni allwch ddefnyddio’r dull hwn i dalu bil treth blaenorol mewn rhandaliadau.

Darganfyddwch fwy am sut i dalu'ch bil treth HunanasesiadYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Sut wyf yn talu fy mil treth?

Mae amryw o ffyrdd i chi allu talu eich bil treth Hunanasesiad, ond mae’r cyfnod amser yn ddibynnol ar ba ddull a ddewiswch.

Os byddwch yn talu’n agos at y dyddiad cau, dylech ddewis un o’r opsiynau cyflymaf i sicrhau na chewch chi’ch cosbi.

Y dulliau cyflymaf i dalu yw

  • bancio ar-lein neu dros y ffôn
  • System Taliad Awtomatig y System Glirio (CHAPS)
  • cerdyn debyd neu gredyd corfforaethol
  • yn bersonol yn eich banc neu gymdeithas adeiladu.

Ond gallwch drefnu trosglwyddiad banc, Debyd Uniongyrchol neu anfon siec.

Darganfyddwch y gwahanol ffyrdd y gallwch dalu’ch bil treth HunanasesiadYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK(Opens in a new window)

Beth os methaf y dyddiad cau?

Os methwch y dyddiad cau i gofrestru, a chyflwyno eich ffurflen dreth neu dalu eich bil, fe gewch eich cosbi. O Ebrill 2025, mae’r ffi gosb yn dibynnu ar pa mor hwyr yw eich cyflwyniad a faint o dreth sy’n ddyledus gennych:

  • Os ydych yn cyflwyno’ch asesiad hyd at 15 diwrnod yn hwyr, byddwth yn talu cosb gwerth 3% o’r dreth sy’n ddyledus gennych.

  • Os ydych yn cyflwyno’ch asesiad hyd at 30 diwrnod yn hwyr, byddwch yn talu cosb gwerth 6% o’r dreth sy’n ddyledus gennych.

  • Os ydych yn cyflwyno’ch asesiad 31 diwrnod neu’n fwy yn hwyr, byddwch yn talu’r uchod a 10% arall o’r cyfanswm sy’n ddyledus gennych. Yna, bydd angen i chi dalu ffioedd, costau a llog ychwanegol os na fydd y taliad wedi’i wneud aro l 12 mis. 

  • Caiff 10% arall ei ychwanegu am bob blwyddyn arall mae eich taliad yn hwyr.

Os oes gennych chi esgus rhesymol, gallwch apelio.

Darganfyddwch fwy am gosbau am fethu terfynau amser HunanasesiadYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Beth os gwnaf gamgymeriad?

Nid oes raid i chi gwblhau eich ffurflen dreth Hunanasesiad mewn un tro. Felly mae’n syniad da cychwyn arni’n gynnar a chymryd eich amser er mwyn osgoi gwneud camgymeriadau.

Cyn i chi gyflwyno’ch ffurflen yn swyddogol fe gewch gyfle i’w hadolygu a chywiro unrhyw gamgymeriadau a wnaed gennych.

Os sylweddolwch, ar ôl cyflwyno’r ffurflen, eich bod wedi gwneud camgymeriad, gallwch barhau i wneud newidiadau hyd at y dyddiad cau ffeilio y flwyddyn ganlynol. Golyga hyn, ar gyfer y ffurflen dreth a gyflwynwyd gennych erbyn 31 Ionawr 2025, gallwch wneud newidiadau hyd at 31 Ionawr 2026.

Darganfyddwch sut i wneud cywiriad i ffurflen dreth a gyflwynwydYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Taliad ar gyfrif

Oni bai bod eich bil treth Hunanasesiad yn llai na £1,000 neu eich bod eisoes wedi talu mwy nag 80% o’r dreth sy’n ddyledus gennych, bydd gofyn i chi wneud ‘taliadau ymlaen llaw’ tuag at eich bil treth nesaf.

Mae dwy ran i ‘daliadau ymlaen llaw’, gyda’r naill yn hanner o fil treth eich blwyddyn flaenorol, a rhaid eu talu erbyn 31 Ionawr a 31 Gorffennaf.

Oeddech chi’n gwybod?

Nid yw Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Threth ar Enillion Cyfalaf yn cael eu cynnwys yn eich Taliadau Ymlaen Llaw a bydd angen eu talu yn llawn erbyn y dyddiad cau ar 31 Ionawr.

Er enghraifft, os oedd eich bil treth ar gyfer 2023/24 yn £1,500, yna yn ystod y flwyddyn dreth 2024/25 byddwch yn gwneud dau daliad ymlaen llaw o £750 yr un. Pan ddaw hi’n amser i chi gyflwyno’ch ffurflen dreth 2023/24, didynnir y ddau daliad yma o’ch bil treth.

Felly os oedd eich bil treth ar gyfer 2024/25 yn £3,000, didynnwyd £1,500 (dau daliad o £750 ar gyfrif) ar 31 Ionawr a 31 Gorffennaf y flwyddyn honno. A bydd rhaid i chi dalu £1,500 fel taliad mantoli, ynghyd â £1,500 ychwanegol fel eich taliad cyntaf ar gyfrif ar gyfer blwyddyn dreth 2025/26.

Os yw eich bil treth yn llai, bydd CThEF yn anfon ad-daliad atoch. Os ydych yn gwybod y bydd eich bil treth yn is, gallwch gysylltu â CThEF a gofyn am ostyngiad ar eich taliadau ar gyfrif.

Darganfyddwch fwy am daliadau ymlaen llawYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Nol i’r brig

Gwasanaeth Amser i Dalu

Os oes gennych daliad sy'n ddyledus, neu'n poeni y gallech fethu taliad yn y dyfodol, ffoniwch linell gymorth Amser i Dalu Cyllid a Thollau EMYn agor mewn ffenestr newydd ar 0300 200 3822.

I ddefnyddio'r gwasanaeth Amser i Dalu, rhaid bod gennych fil treth Hunanasesiad o £30,000 neu lai.

Rhaid i chi hefyd beidio â chael unrhyw ffurflenni treth heb eu talu a bod gydag unrhyw ddyledion neu daliadau eraill gyda Chyllid a Thollau EM.

Os nad ydych yn gymwys o dan y gofynion hyn, efallai y byddwch yn dal yn gymwys am Amser i Dalu, ond bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM yn uniongyrchol.

Darganfyddwch fwy am y cynllun Amser i DaluYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
 
Os oes gennych gwestiynau am Dreth Incwm, mae manylion cyswllt Cyllid a Thollau EFYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Nol i’r brig

Beth os na allwch fforddio talu eich bil treth?

Os na allwch fforddio talu eich bil, bydd angen i chi gysylltu â CThEF cyn gynted ag sy'n bosibl drwy ffonio 0300 200 3820. 

Gallwch hefyd gysylltu â Business Debtline os ydych yn cael trafferthYn agor mewn ffenestr newydd

Bydd CThEF yn edrych:

  • ar y swm sy’n ddyledus gennych
  • eich incwm
  • gwariant
  • asedau
  • cynilion a buddsoddiadau.

Byddant wedyn yn penderfynu a ddylid rhoi mwy o amser neu beidio i chi dalu.

Os na fyddwch yn talu’n brydlon, mae’n debygol y bydd rhaid i chi dalu llog a thaliadau cosb.

Efallai y cynigir mwy o amser i chi dalu neu gyfle i dalu mewn rhandaliadau.

Darganfyddwch beth i'w wneud os na allwch dalu'ch bil treth mewn prydYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Mae treth yn ddyled flaenoriaeth. Felly os na allwch dalu, neu os ydych yn cael trafferthion talu, eich bil treth – mae angen i chi gysylltu â CThEF.

Os na wnewch chi hynny a gwrthod talu, bydd CThEF yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn. Gall hyn gynnwys casglu’ch dyled yn uniongyrchol drwy:

  • eich enillion
  • eich cyfrif banc
  • eich pensiwn, neu
  • ailfeddiannu, neu drwy gwmni casglu dyledion.

Gallech wynebu achos llys hefyd, bod mewn perygl o gael eich gwneud yn fethdalwr neu gael eich gorfodi i gau eich busnes.

Darganfyddwch fwy am yr hyn sy'n digwydd os na fyddwch yn talu'ch bil trethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Help gyda chostau byw

Poeni am arian oherwydd rhenti cynyddol, biliau ynni uchel neu ddyled? Os felly, rydym yma i helpu.

Cymerwch y camau cyntaf i ddod o hyd i’ch ffordd ymlaen gyda’n canllawiau i’ch helpu gyda chostau byw.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook Twitter
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Hunangyflogaeth

Bod yn hunangyflogedig

  • Sut i ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig
  • Yswiriant busnes pan fyddwch yn hunangyflogedig
  • Treth ac Yswiriant Gwladol pan ydych yn hunangyflogedig
  • Sut i gwblhau ffurflen dreth hunanasesiad
  • Cymryd yswiriant personol pan ewch yn hunangyflogedig
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Bod yn hunangyflogedig

  • Sut i ddechrau busnes neu fynd yn hunangyflogedig
  • Yswiriant busnes pan fyddwch yn hunangyflogedig
  • Treth ac Yswiriant Gwladol pan ydych yn hunangyflogedig
  • Sut i gwblhau ffurflen dreth hunanasesiad
  • Cymryd yswiriant personol pan ewch yn hunangyflogedig
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth E.M
Level AA conformance, W3C WAI Web Content Accessibility Guidelines 2.1 Clear English Standard for Websites logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2025 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn
I gael yr ateb cyflymaf, defnyddiwch ein llinell gymorth neu we-sgwrs. Rydym ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • English: 0800 138 7777
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd difrifol ac mae angen yswiriant teithio arnoch.
Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni am help i ddelio â dyled.
Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni os ydych chi'n poeni am dwyll neu sgamiau ac angen arweiniad arbenigol.
Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Wedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn, ond gall hyn gymryd dros bum niwrnod gwaith. I gael ateb cyflymach, defnyddiwch ein gwe-sgwrs rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.

Blaenorol Cau