Os ydych chi’n byw yn yr Alban, dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth (66 oed neu’n hŷn ar hyn o bryd) a’ch bod angen help gyda bywyd bob dydd oherwydd salwch neu anabledd hirdymor, gallech hawlio’r Taliad Anabledd Oedran Pensiwn. Gallai fod werth bron i £6,000 y flwyddyn ac nid yw’n cael ei effeithio gan eich incwm. Darganfyddwch a allech chi ei gael a sut i wneud cais.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw’r Taliad Anabledd Oedran Pensiwn?
- Faint yw’r Taliad Anabledd Oedran Pensiwn?
- Pwy all gael y Taliad Anabledd Oedran Pensiwn?
- Nid oes angen i chi fod ar incwm isel i fod yn gymwys
- Gallwch wneud cais ar-lein, neu dros y ffôn ac ar bapur
- Angen help gyda’ch cais?
- Beth sy’n digwydd os bydd fy amgylchiadau’n newid?
- Beth sy’n digwydd os nad ydw i’n cytuno â phenderfyniad?
- Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n hawlio Lwfans Gweini?
- Rwy’n cael trafferthion, oes unrhyw help ychwanegol y gallaf ei gael?
Beth yw’r Taliad Anabledd Oedran Pensiwn?
Mae’r Taliad Anabledd Oedran Pensiwn (PADP) yn fudd-dal i bobl sy’n byw yn yr Alban sy’n rhoi arian ychwanegol i chi os oes angen help arnoch gyda’ch gweithgareddau bod dydd oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor neu os ydych chi’n derfynol wael ac wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae wedi disodli’r Lwfans Gweini yn yr Alban i gyd. Os ydych chi’n byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, gallwch hawlio Lwfans Gweini o hyd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar wneud cais am Lwfans Gweini os ydych chi’n byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon.
Faint yw’r Taliad Anabledd Oedran Pensiwn?
Mae’r Taliad Anabledd Oedran Pensiwn yn cael ei dalu bob pedair wythnos a gall fod werth hyd at bron i £6,000 y flwyddyn. Mae ganddo ddwy gyfradd: is ac uwch. Mae’r swm a gewch yn 2025/26 yn dibynnu ar eich anghenion gofal. Mae’r taliad yn ddi-dreth.
Y gyfradd is yw £73.90 yr wythnos. Mae ar eich cyfer chi os oes angen help neu oruchwyliaeth arnoch yn ystod y dydd neu’r nos.
Y gyfradd uwch yw £110.40 yr wythnos. Mae ar eich cyfer chi os oes angen help neu oruchwyliaeth arnoch yn ystod y dydd a’r nos.
Os yw meddyg neu nyrs cofrestredig wedi dweud eich bod chi’n derfynol wael, byddwch yn cael y gyfradd uwch yn awtomatig ac yn cael eich talu’n wythnosol ymlaen llaw.
Fel arfer, ni allwch gael y Taliad Anabledd Oedran Pensiwn os ydych chi’n byw mewn cartref gofal ac mae’r awdurdod lleol yn talu am eich gofal.
Ond gallwch hawlio PADP o hyd os ydych chi’n byw mewn cartref gofal ac yn talu amdano eich hun.
Y prawf allweddol yw os oes angen help arnoch – nid yw’n hanfodol eich bod chi’n cael neu’n talu am help ychwanegol
Mae’r taliad i gyfrannu tuag at unrhyw anghenion gofal sydd gennych. Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli nad oes angen i chi fod eisoes yn derbyn cymorth i wneud hawliad am y taliad. Yr hyn sy’n bwysig yw bod angen help arnoch oherwydd difrifoldeb eich cyflwr. Mae hyn yn golygu eich bod chi’n gweld rhai tasgau bob dydd yn anodd neu’n amhosibl heb gymorth – gallai fod yn mynd i mewn i fath, mynd i fyny neu i lawr grisiau, mynd i mewn neu allan o’r gwely neu wisgo eich hun.
Fel rhan o’ch cais bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth ategol y gallech fod wedi elwa o’r cymorth hwn am o leiaf chwe mis. Nid oes angen i chi aros chwe mis wrth gasglu hyn, ac nid oes angen i chi fod wedi cael diagnosis, mae’n ymwneud â’r help sydd ei angen arnoch. Yn hytrach, bydd angen i chi ddisgrifio’ch sefyllfa yn ystod y chwe mis diwethaf gan ddangos bod angen help arnoch yn gyson.
Pwy all gael y Taliad Anabledd Oedran Pensiwn?
Mae angen i chi fod o oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Yn yr Alban mae’n 66 oed neu’n hŷn, ewch i GOV.UK i wirio eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Nid yw eich cyllid yn cael ei ystyried. Os yw’ch cyflwr yn golygu eich bod yn gymwys i gael help, byddwch chi’n ei gael waeth beth fo’ch incwm neu gynilion.
Mae angen i chi fod â salwch neu anabledd sy’n golygu bod angen ‘help’ neu ‘oruchwyliaeth’ arnoch gyda gweithgareddau bob dydd. Nid oes rhestr swyddogol o gyflyrau cymwys - ond arthritis, symudedd gwael a dallineb, yw rhai o’r cyflyrau sy’n debygol o gael eu derbyn.
Nid oes angen i chi fod ar incwm isel i fod yn gymwys
Mae Taliad Anabledd Oedran Pensiwn yn ddi-dreth ac nid yw’n seiliedig ar brawf modd. Mae hyn yn golygu nad yw faint o incwm rydych chi’n ei gael o Bensiwn preifat neu Bensiwn y Wladwriaeth, cyflogaeth, cynilion neu fuddsoddiadau yn berthnasol i benderfynu a allwch chi gael y taliad.
Ni waeth pa lefel o gynilion neu fuddsoddiadau sydd gennych - ni fyddant yn effeithio ar y swm y gallech ei gael.
Angen mwy o wybodaeth? Gallwch ymweld â mygov.scot i weld y manylion llawn am sut mae’r taliad yn gweithio
Gwiriwch a allech fod yn gymwys i gael Taliad Anabledd Oedran Pensiwn
Os ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n gallu cael y taliad ond eich bod yn ansicr o hyd –defnyddiwch y gwiriwr cymhwysedd am ddim ar mygov.scot. Mewn ychydig funudau byddwch yn gallu gweld a yw’n debygol y bydd eich cais yn llwyddiannus.
Cymerwch ychydig funudau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio a faint y gallech ei gael bob mis gyda’n Cyfrifiannell Budd-daliadau
Gallwch wneud cais ar-lein, neu dros y ffôn ac ar bapur
Ar-lein: Mae hawlio Taliad Anabledd Oedran Pensiwn yn golygu cofrestru trwy myaccountYn agor mewn ffenestr newydd a chyflwyno dwy ran ar wahân o gais ar-lein.
Ffôn a phapur: Gallwch ffonio Social Security Scotland am ddim ar 0800 182 2222. Maen nhw ar agor rhwng 8am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddant yn eich helpu i ddechrau eich cais a byddant yn anfon ffurflen bapur atoch i chi ei chwblhau a’i dychwelyd.
Os ydych chi’n ddefnyddiwr iaith arwyddion: Os ydych chi’n ddefnyddiwr Iaith Arwyddion Prydain, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Contact ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd i gysylltu â Social Security Scotland.
Angen help gyda’ch cais?
Gall y broses ymgeisio deimlo’n frawychus yn enwedig os mai dyma’r tro cyntaf i chi wneud cais am fudd-dal neu os yw eich salwch neu anabledd yn ei gwneud hyd yn oed yn anoddach i chi gwblhau gwaith papur.
Mae’n gwbl ddealladwy os byddai’n well gennych bod rhywun yn eich helpu chi i wneud cais. Dyna pam y caniateir i chi gael rhywun i wneud cais am Daliad Anabledd Oedran Pensiwn ar eich rhan.
Gallai hyn fod yn:
aelod o’r teulu
ffrind
rhywun arall sy’n eich helpu, fel gofalwr neu weithiwr cymorth. Darganfyddwch fwy ar mygov.scot am sut i ddewis y person cywir
Gall gweithio allan pa fudd-daliadau sydd gennych hawl iddynt fod yn anodd. Darganfyddwch ble i gael cyngor arbenigol am ddim ar-lein, wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Gweler ein canllaw Ble alla i gael help a chyngor am fudd-daliadau.
Cymorth pellach
Gallwch hefyd ffonio llinell gymorth Independent Age ar 0800 319 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 5.30pm) am gymorth os ydych chi’n cael anawsterau wrth wneud cais, fel darllen ffurflenni neu ddeall gwybodaeth gymhleth.
Os ydych chi’n anabl, gallwch gael help gan VoiceAbility, gwasanaeth eiriolaeth budd-daliadau nawdd cymdeithasol yn yr Alban. Mae dwy ffordd o gael help ganddynt: naill ai trwy gysylltu â Social Security Scotland a chael atgyfeiriad neu drwy gysylltu â VoiceAbility yn uniongyrchol.
Beth sy’n digwydd os bydd fy amgylchiadau’n newid?
Os bydd eich iechyd yn gwella neu’n gwaethygu neu os bydd eich angen am help oherwydd eich anabledd yn newid, dylech roi gwybod i Social Security Scotland. Mae hyn er mwyn iddynt newid faint o arian rydych chi’n ei dderbyn ar gyfer y lefel o help sydd ei angen arnoch.
Gallwch gael help ychwanegol ar hyn trwy Gyngor ar Bopeth. Os nad ydych chi’n rhoi gwybod i Socital Security Scotland, rydych chi’n peryglu colli cymorth ychwanegol neu bydd angen ad-dalu arian nad oes gennych hawl iddo mwyach. Gweler ‘Sut i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau’ yn ein canllaw Help i reoli eich arian os ydych chi’n derbyn budd-daliadau.
Beth sy’n digwydd os nad ydw i’n cytuno â phenderfyniad?
Os ydych chi’n anhapus â phenderfyniad am eich budd-daliadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Social Security Scotland neu CThEF, mae’n bwysig dilyn y broses gywir – gweler ein canllaw Sut i apelio yn erbyn penderfyniad budd-daliadau.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n hawlio Lwfans Gweini?
Os oes eisoes gennych hawl i Lwfans Gweini, bydd Social Security Scotland yn symud eich budd-dal yn awtomatig i’r Taliad Anabledd Oedran Pensiwn newydd heb i chi orfod gwneud unrhyw beth.
Bydd Social Security Scotland yn ysgrifennu atoch pan fydd eich budd-dal yn dechrau symud a bydd yn ysgrifennu atoch eto pan fydd y symud wedi’i gwblhau.
Byddwch yn parhau i gael eich taliadau Lwfans Gweini rheolaidd gan y DWP tan bod eich budd-dal yn symud ac ni fydd unrhyw doriad
Byddwch yn cael yr un swm pan fydd eich budd-dal yn symud i Daliad Anabledd Oedran Pensiwn. I gael rhagor o wybodaeth am symud o Lwfans Gweini i PADP, Yn agor mewn ffenestr newydd ewch i Mygov.scot.
Rwy’n cael trafferthion, oes unrhyw help ychwanegol y gallaf ei gael?
Os ydych chi tua neu dros oedran ymddeol, mae nifer o fudd-daliadau y gallech eu hawlio.
Yn ogystal â’ch Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y bydd gennych hawl i arian ychwanegol i helpu gyda’ch gwresogi yn y gaeaf, tocynnau trafnidiaeth am ddim a budd-daliadau eraill. Ewch i’n canllaw Budd-daliadau ar ôl ymddeol i weld mwy.