Mae llawer o bensiynwyr yn methu â hawlio’r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Peidiwch â cholli allan ar eich arian – dyma restr o fudd-daliadau y gallech o bosibl eu hawlio a sut i ddarganfod a ydych yn gymwys.
Pensiwn y Wladwriaeth
Bydd Pensiwn y Wladwriaeth yn rhoi incwm trethadwy rheolaidd i chi am weddill eich oes – cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Nid yw’n destun prawf modd, ond bydd faint byddych yn ei gael yn dibynnu ar faint o flynyddoedd cymwys o gyfraniadau neu gredydau Yswiriant Gwladol sydd gennych.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pensiwn y Wladwriaeth: sut mae’n gweithio
Credyd Pensiwn
Mae Credyd Pensiwn ar gyfer pobl sydd ar incwm isel. Mae wedi ei gynllunio i ychwanegu at incwm pensiynwr i roi lefel isafswm gwarantedig.
Mae llawer iawn o bobl sydd â hawl i Gredyd Pensiwn sydd ddim yn ei hawlio.
Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwybod os ydych yn gymwys – a pheidiwch â cholli allan os ydych.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynyddwch eich incwm ymddeol gyda Chredyd Pensiwn
Help gyda Threth Cyngor
P’un ai ydych yn berchen ar eich cartref neu’n rhentu, gallech fod yn gymwys am gymorth gan eich awdurdod lleol (neu Lywodraethau Cymru a’r Alban) i’ch helpu i dalu eich Treth Gyngor.
Cysylltwch â’ch cyngor lleol er mwyn gofyn am gymorth â Threth Gyngor.
Dewch o hyd i'ch cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Help gydag Ardrethi yng Ngogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon, mae system ardrethi yn lle treth gyngor. Mae ardrethi domestig ar gyfer eiddo preswyl yn seiliedig ar werth eich cartref ar 1 Ionawr 2005. Mae swyddfa’r Land and Property Services (LPS) yn delio â biliau a thaliadau.
Os ydych ar incwm isel, efallai y gallech hawlio gostyngiad. Mae hefyd lwfansau ar gyfer unig bensiynwyr (pobl sy’n byw ar ben eu hunain yn 70 oed neu’n hŷn) a phobl anabl.
Darganfyddwch fwy yn y canllaw i gyfraddauYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect
Help gyda chostau gwresogi
Taliad Tanwydd Gaeaf 2025/26
Taliad di-dreth hyd at £300 yw hwn i helpu pobl a gafodd eu geni ar neu cyn 22 Medi 1959 i gadw’n gynnes yn ystod y gaeaf. Mae rhai pobl yn ei alw’n lwfans tanwydd gaeaf.
Os ydych yn byw yng Nghymru, Loegr neu Ngogledd Iwerddon
Byddwch ond yn gymwys i gadw’r Taliad Tanwydd Gaeaf (sydd werth hyd at £300) os:
- ydych chi dros oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd, a
- bod eich incwm trethadwy yn £35,000 neu’n is
Os yw eich incwm trethadwy dros £35,000, bydd CThEF yn hawlio’r taliad yn ôl trwy’r system dreth
Gallwch optio allan o gael y taliad – am wybodaeth bellach ar optio allan, gweler ein blog Dyddiad terfyn optio allan o gael y Taliad Tanwydd Gaeaf.
Os ydych yn byw yn yr Alban
Os ydych chi’n byw yn yr Alban a’ch bod chi’n gymwys, byddwch chi’n cael Taliad Gwresogi Gaeaf Oed Pensiwn – taliad cyfatebol i rhwng £101.70 a £305.10. Bydd y taliad yn awtomatig i’r rhai sydd dros oed Pensiwn y Wladwriaeth sy’n golygu na fydd angen i chi wneud cais. Byddwch yn cael llythyr sy’n cynnwys manylion eich taliad. Fel y Taliad Tanwydd Gaeaf, byddwch ond yn gallu cadw’r taliad os yw eich incwm yn £35,000 neu’n is. Os ydych chi’n meddwl y bydd angen i chi’i ad-dalu, gallwch optio allan. I ddarganfod mwy, gweler Taliad Gwresogi Gaeaf Oed PensiwnYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.scot.
Taliad Tywydd Oer
Gwneir y taliadau £25 hyn pan fydd eich tymheredd lleol naill ai’n cael ei gofnodi fel, neu yn cael ei ragolygu i fod, yn gyfartaledd o sero gradd Celsius neu is dros 7 niwrnod olynol rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth pob blwyddyn.
Os ydych yn gymwys i gael unrhyw un o amrywiaeth o fudd-daliadau eraill sy’n seiliedig ar incwm, gan gynnwys Credyd Pensiwn, byddwch yn gymwys i gael Taliad Tywydd Oer.
Nid oes angen gwneud cais amdano. Os ydych yn gymwys, bydd yn cael ei dalu yn awtomatig.
I ddarganfod mwy am daliadau tywydd oerYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Cynllun Gostyngiad Cartref Cynnes
Yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gall rhai pobl sy'n cael budd-daliadau prawf modd gael gostyngiad £150 ar eu bil trydan yn ystod y gaeaf - a elwir yn Gostyngiad Cartrefi Cynnes.
Dylai eich cyflenwr rhoi’r gostyngiad i chi’n awtomatig rhwng mis Hydref a mis Mawrth os ydych yn cael credyd pensiwn neu fudd-daliadau cymwys eraill. Mae dim ond angen i chi wneud cais i'ch cwmni ynni os ydych ar incwm isel yn yr Alban. Os oeddech yn disgwyl gostyngiad ond heb ei gael, cysylltwch â’ch cyflenwr.
Yng Ngogledd Iwerddon, efallai y gallwch hawlio help i wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynniYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy ar GOV.UK am y Gostyngiad Cartrefi CynnesYn agor mewn ffenestr newydd, os ydych yn gymwys a’r cyflenwyr ynni sy’n cymryd rhan.
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am y cynllun Gostyngiad Cartrefi CynnesYn agor mewn ffenestr newydd ar Ofgem
Cynlluniau insiwleiddio a gwresogi
Mae nifer o gynlluniau sy’n gosod systemau inswleiddio a gwella gwresogi er mwyn gwneud eich cartref i arbed ynni.
Rydych yn debygol o fod yn gymwys os nad yw eich cartref wedi’i inswleiddio’n iawn neu os nad oes ynddo system gwres canolog sy’n gweithio’n iawn, ac os ydych yn derbyn unrhyw un o amrywiaeth o fudd-daliadau seiliedig ar incwm gan gynnwys Credyd Pensiwn.
| Os ydych yn byw yn: | Darganfyddwch fwy o wybodaeth ar: |
|---|---|
|
Nghymru a Lloegr |
|
|
Gogledd Iwerddon |
|
|
Yr Alban |
I gael mwy o wybodaeth am inswleiddio a ffyrdd eraill o dorri’ch bil ynni darllenwch ein canllaw ar Sut i leihau eich biliau ynni
Efallai gallech wneud cais am grant i wneud i’ch cartref ddefnyddio ynni yn fwy effeithiol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i dalu am welliannau'r cartref
Buddion iechyd
Mae pawb dros 60 yn cael presgripsiynau a phrofion llygaid am ddim.
Efallai hefyd y byddwch yn gymwys i gael help tuag at:
- driniaeth ddeintyddol
- costau teithio i’r ysbyty
- sbectol neu lensys cyffwrdd.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae hawl gan bawb i gael presgripsiynau am ddim.
Darganfyddwch fwy am gael help gyda chostau sy’n gysylltiedig ag iechyd ar AgeUK
Budd-daliadau anabledd a gofal
Mae budd-daliadau ar gael i bobl sydd ag anableddau, neu anghenion gofal penodol.
Mae’r budd-daliadau hyn yn cynnwys Taliad Annibyniaeth Personol os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth a Lwfans Gweini os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Yn yr Alban bydd yn rhaid i chi wneud cais am Daliad Anabledd Oedolion os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth a’r Taliad Anabledd Oedran Pensiwn os ydych dros Oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau i’ch helpu â’ch anabledd neu’ch anghenion gofal
Buddion teithio a thrwyddedau teledu
Pas Bws
Os ydych yn byw yng Nghymru, yr Alban, neu Ogledd Iwerddon, rydych yn gymwys i gael pas bws am ddim pan fyddwch yn 60 oed neu drosodd.
Yn Lloegr, rydych yn gymwys pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych yn byw mewn bwrdeistref yn Llundain a thros 60 oed, rydych yn gymwys i gael cerdyn llun Oyster i deithio am ddim.
Gwnewch gais am bas bws person hŷnYn agor mewn ffenestr newydd yn GOV.UK
Teithio rhatach
Os ydych dros eich 60 neu’n anabl, darganfyddwch fwy am ostyngiadau teithio isod.
- teithio bws am ddim i bobl hŷn yn LloegrYn agor mewn ffenestr newydd ewch i GOV.UK
- teithio bws am ddim i bobl anabl yn LloegrYn agor mewn ffenestr newydd ewch i GOV.UK
- cerdyn llun Oyster i rai dros 60 yn LlundainYn agor mewn ffenestr newydd ewch i Transport for London
- teithio rhatach yn yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd ewch i Transport Scotland
- teithio rhatach yng NghymruYn agor mewn ffenestr newydd ewch i Trafnidiaeth Cymru
- teithio am ddim ac yn rhatach yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd ewch i nidirect.
Pasbort am ddim
Os cawsoch eich geni ar neu cyn 2 Medi 1929 ac yn ddinesydd Prydeinig, gallech fod yn gymwys i gael pasbort am ddim.
Byddwch angen pasbort deng mlynedd lawn os ydych eisiau teithio dramor, hyd yn oed am ddim ond diwrnod yn unig.
Darganfyddwch fwy am ffioedd a sut i wneud caisYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Trwydded Deledu am ddim
Os ydych chi neu'ch partner yn 75 oed neu’n hŷn ac yn cael Credyd Pensiwn gallwch gael trwydded deledu am ddim. Os na, mae'n rhaid i chi dalu amdano.
Gweler TV Licensing
Budd-daliadau ar gyfer pensiynwyr rhyfel a gwŷr a gwragedd gweddw oherwydd rhyfel
Os gwnaeth eich gŵr, gwraig neu bartner sifil farw, cael eu hanafu neu mynd yn sâl oherwydd ei gwasanaeth yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi, neu yn ystod cyfnod o ryfel cyn 6 Ebrill 2005, yna efallai y byddwch yn gymwys i gael Pensiwn Rhyfel Gŵr neu Wraig Weddw.
Os gwnaethant farw, cael anaf neu salwch oherwydd gwasanaethu mewn gwrthdaro ar neu ar ôl y 6 Ebrill 2005, efallai eich bod yn gymwys am iawndal trwy Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog.
Darganfyddwch fwy am bensiynau a iawndaliadau rhyfel gŵr neu wraig weddw ar GOV.UK
Costau meddygol ar gyfer pensiynwyr rhyfel
Os oes angen triniaeth feddygol arnoch oherwydd i chi ddod yn anabl wrth wasanaethu yn y Lluoedd Arfog, gallech gael help tuag at eich costau meddygol ar gyfer eich anabledd cymwys.
Darganfyddwch fwy am gostau meddygol ar gyfer hen filwyrYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Pensiwn Anabledd Rhyfel
Os cawsoch eich anafu neu ddod yn anabl wrth wasanaethu yn y Lluoedd Arfog cyn 6 Ebrill 2005, gallwch gael help ychwanegol tuag at eich pensiwn.
Darganfyddwch fwy am y Pensiwn Anabledd RhyfelYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Defnyddio cyfrifiannell budd-daliadau ar-lein
Mae defnyddio ein Cyfrifiannell budd-daliadau yn ffordd dda o:
- gwirio pa fudd-daliadau y gallech fod â hawl iddynt
- amcangyfrif faint y gallech ei hawlio
- dangos sut y byddai’r amcangyfrifon yn newid pe bai eich amgylchiadau yn newid
Bydd y teclyn yn gofyn i chi roi gwybodaeth anhysbys am eich cynilion a’ch incwm yn ogystal â’ch gwariant ar bethau fel rhent, morgais, neu daliadau gofal plant.