Os ydych yn byw yn Lloegr, Cymru neu Ogledd Iwerddon, dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth (ar hyn o bryd 66 neu’n hŷn) ac angen cymorth gyda bywyd dyddiol oherwydd salwch neu anabledd tymor hir, efallai y gallwch wneud cais am Lwfans Gweini. Gallai fod yn werth bron i £6,000 y flwyddyn ac nid yw’n gysylltiedig â’ch incwm. Darganfyddwch a allech ei gael a sut i wneud cais.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw Lwfans Gweini?
- Faint yw Lwfans Gweini?
- Pwy all gael Lwfans Gweini?
- Nid oes angen i chi fod ar incwm isel i fod yn gymwys
- Gallwch wneud cais ar-lein neu drwy’r post
- Angen cymorth gyda’ch cais?
- Oes rhaid i mi gael asesiad i wneud cais am y Lwfans Gweini?
- Beth sy’n digwydd os bydd fy amgylchiadau’n newid?
- Beth sy’n digwydd os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad?
- Beth allaf ei wneud os ydw i wedi gwneud cais am y Taliad Anabledd Oedran Pensiwn yn yr Alban o’r blaen?
- Rwy’n cael trafferth, a oes unrhyw gymorth ychwanegol y gallaf ei gael?
Beth yw Lwfans Gweini?
Mae Lwfans Gweini yn fudd-dal di-dreth i bobl sy’n byw yn Lloegr, Cymru ac yng Ngogledd Iwerddon sy’n rhoi arian ychwanegol i chi os oes angen cymorth arnoch gyda’ch gweithgareddau dyddiol oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd tymor hir, neu os ydych yn derfynol sâl ac wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Yn yr Alban, mae wedi’i ddisodli gan y Taliad Anabledd Oedran Pensiwn.
Faint yw Lwfans Gweini?
Mae’r taliad yn cael ei dalu bob pedair wythnos a gall fod yn werth hyd at bron i £6,000 y flwyddyn. Mae ganddo ddwy gyfradd: is ac uwch. Mae’r swm a gewch yn 2025/26 yn dibynnu ar y gofal sydd ei angen arnoch - nid y lefel o ofal rydych chi’n ei gael ar hyn o bryd. Felly, hyd yn oed os nad ydych chi'n cael cymorth gan ofalwr nawr, efallai y bydd gennych hawl i'r budd-dal hwn o hyd.
- Y gyfradd is yw £73.90 yr wythnos. Mae’n berthnasol os oes angen cymorth neu oruchwyliaeth arnoch yn ystod y dydd neu’r nos.
- Y gyfradd uwch yw £110.40 yr wythnos. Mae’n berthnasol os oes angen cymorth neu oruchwyliaeth arnoch yn ystod y dydd a’r nos.
- Os ydych chi’n derfynol sâl ac mae meddyg wedi dweud bod gennych lai na 12 mis i fyw, byddwch yn cael y gyfradd uwch yn awtomatig a byddwch yn cael eich talu'n wythnosol ymlaen llaw.
Fel arfer, ni allwch gael Lwfans Gweini os ydych yn byw mewn cartref gofal ac mae’r awdurdod lleol yn talu am eich gofal.
Ond gallwch wneud cais am Lwfans Gweini os ydych yn byw mewn cartref gofal ac yn talu amdano eich hun.
Y prawf allweddol yw a oes angen cymorth arnoch – nid yw’n hanfodol eich bod yn cael neu’n talu am gymorth ychwanegol
Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli nad oes angen i chi fod eisoes yn derbyn cymorth neu ofal i wneud cais am y taliad. Yr hyn sy’n bwysig yw bod angen cymorth arnoch oherwydd difrifoldeb eich cyflwr. Mae hyn yn golygu eich bod yn cael trafferth neu’n methu â chyflawni rhai tasgau bob dydd heb gymorth – gallai hynny gynnwys mynd i mewn i’r bath, mynd i fyny neu i lawr grisiau, mynd i mewn i neu allan o’r gwely neu wisgo eich hun.
Fel rhan o’ch cais bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth ategol sy’n dangos y gallech fod wedi elwa o’r cymorth hwn am o leiaf chwe mis. Nid oes angen i chi aros chwe mis i gasglu hyn ac nid oes angen i chi fod wedi cael diagnosis. Yn lle hynny, bydd angen i chi ddisgrifio’ch sefyllfa dros y chwe mis diwethaf gan ddangos eich bod wedi bod angen cymorth yn gyson.
Pwy all gael Lwfans Gweini?
- Rhaid eich bod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch wirio’ch oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
- Mae angen i chi fyw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Os ydych chi’n byw yn yr Alban, dylech wneud cais am y Taliad Anabledd Oedran Pensiwn yn lle hynny.
- Nid yw’ch sefyllfa ariannol yn cael ei hystyried. Os yw’ch cyflwr yn golygu eich bod yn gymwys i gael cymorth, byddwch yn ei gael waeth beth fo’ch incwm neu arbedion.
- Rhaid eich bod yn dioddef o salwch neu anabledd corfforol neu feddyliol sy’n golygu bod angen ‘cymorth’ neu ‘oruchwyliaeth’ arnoch gyda gweithgareddau dyddiol. Nid oes rhestr swyddogol o gyflyrau cymwys – ond mae arthritis, symudedd gwael neu ddallineb ymhlith y cyflyrau sy’n debygol o gael eu derbyn.
- Ni allwch fod eisoes yn derbyn y Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) neu’r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP).
Nid oes angen i chi fod ar incwm isel i fod yn gymwys
Mae Lwfans Gweini yn ddi-dreth ac nid yw’n seiliedig ar brawf modd. Mae hyn yn golygu nad yw’n bwysig faint o incwm rydych yn ei gael o Bensiwn Preifat neu’r Wladwriaeth, cyflogaeth, arbedion neu fuddsoddiadau. Nid yw lefel eich arbedion neu fuddsoddiadau – waeth pa mor uchel – yn effeithio ar y swm.
Gallwch wneud cais ar-lein neu drwy’r post
Os oes gennych atwrneiaeth neu os ydych yn benodai dros rywun, bydd angen i chi wneud cais drwy’r post.
I wneud cais drwy’r post bydd angen i chi naill ai lawrlwytho ac argraffu ffurflen neu gysylltu â llinell gymorth Lwfans Gweini i ofyn am becyn cais i’w anfon atoch drwy’r post.
Os byddwch yn cysylltu â’r llinell gymorth ac yn gwneud cais o fewn chwe wythnos, bydd y dyddiad y gwnaethoch gysylltu â’r llinell gymorth yn cael ei drin fel y dyddiad y bydd y Lwfans Gweini yn cael ei dalu ohono.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr, gallwch ddod o hyd i fanylion ynghylch sut i wneud cais ar-lein neu drwy’r postYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, mae’r broses gwneud cais ychydig yn wahanol. Gallwch ddod o hyd i fanylion ynghylch sut i wneud cais ar-lein neu drwy’r postYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect.
Angen cymorth gyda’ch cais?
Gall y broses gwneud cais deimlo’n frawychus, yn enwedig os mai dyma’r tro cyntaf i chi wneud cais am fudd-dal neu os yw’ch salwch neu anabledd yn ei gwneud yn anoddach i chi gwblhau tasgau gweinyddol. Mae’n gwbl ddealladwy pe bai yn well gennych i rywun arall eich helpu i wneud cais. Dyna pam y caniateir i chi gael rhywun i wneud cais am Lwfans Gweini ar eich rhan.
Gallai hyn fod yn:
- aelod o’r teulu
- ffrind
- rhywun arall sy’n eich helpu, megis gofalwr neu weithiwr cymorth.
Mae gan Gyngor ar Bopeth ganllawiau manwl ar sut i lenwi’ch ffurflen, a gallwch hefyd siarad ag un o’u hymgynghorwyr ar y ffôn. Darganfyddwch fwy am Gyngor ar Bopeth os ydych chi’n byw yn LloegrYn agor mewn ffenestr newydd neu Gyngor ar Bopeth os ydych chi’n byw yng NghymruYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr, gallwch hefyd ffonio llinell gymorth Independent AgeYn agor mewn ffenestr newydd ar 0800 319 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 5.30pm) i gael help os ydych chi’n cael trafferth gwneud cais, fel darllen ffurflenni neu ddeall gwybodaeth gymhleth.
Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gysylltu â AdviceNI am gymorth gyda budd-daliadauYn agor mewn ffenestr newydd
Oes rhaid i mi gael asesiad i wneud cais am y Lwfans Gweini?
Efallai y bydd angen i chi gael asesiad i wirio eich cymhwystra os nad yw’n glir sut mae’ch anabledd neu gyflwr iechyd yn effeithio arnoch. Dyna pam mae’n bwysig ychwanegu cymaint o fanylion â phosibl i’ch ffurflen gais.
Os oes angen asesiad arnoch, byddwch yn derbyn llythyr yn esbonio’r rheswm a’r lleoliad lle mae’n rhaid i chi fynd. Yn ystod yr asesiad, bydd gweithiwr meddygol proffesiynol yn eich archwilio.
Gall gweithio allan pa fudd-daliadau rydych yn gymwys i’w cael fod yn anodd. Darganfyddwch ble i gael cyngor arbenigol am ddim ar-lein, wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Gweler ein canllaw Lle gallaf gael cymorth a chyngor am fudd-daliadau?
Beth sy’n digwydd os bydd fy amgylchiadau’n newid?
Os bydd eich iechyd yn gwella neu’n gwaethygu, neu os bydd eich angen am gymorth oherwydd eich anabledd yn newid, dylech roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Mae hyn er mwyn iddynt allu newid faint o arian a gewch i gyd-fynd â’r cymorth sydd ei angen arnoch.
Os na fyddwch yn rhoi gwybod, efallai y byddwch yn colli arian ychwanegol y mae gennych hawl iddo. Neu efallai y cewch eich talu ormod ac y bydd angen i chi ad-dalu’r budd-daliadau a ordalwyd ynghyd â dirwy o £50.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau yn ein canllaw Help i reoli eich arian os ydych yn cael budd-daliadau.
Beth sy’n digwydd os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad?
Os ydych yn anhapus gyda phenderfyniad am eich budd-daliadau gan y DWP, Social Security Scotland neu CThEF, mae’n bwysig dilyn y broses gywir – gweler ein canllaw Sut i apelio yn erbyn penderfyniad am fudd-daliadau.
Beth allaf ei wneud os ydw i wedi gwneud cais am y Taliad Anabledd Oedran Pensiwn yn yr Alban o’r blaen?
Os ydych eisoes wedi gwneud cais am y Taliad Anabledd Oedran Pensiwn yn yr Alban, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn rhoi gwybod i Social Security Scotland eich bod yn newid cyfeiriad pan fyddwch yn symud. Yna bydd y DWP yn trosglwyddo eich budd-dal i Lwfans Gweini heb i chi orfod gwneud unrhyw beth.
Rwy’n cael trafferth, a oes unrhyw gymorth ychwanegol y gallaf ei gael?
Os ydych o gwmpas neu dros oedran ymddeol, mae nifer o fudd-daliadau y gallech wneud cais amdanynt.
Ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y bydd gennych hawl i arian ychwanegol i helpu gyda’ch gwresogi yn y gaeaf, tocynnau trafnidiaeth am ddim a budd-daliadau eraill. Ewch i’n canllaw Budd-daliadau mewn ymddeoliad i weld trosolwg o rai o’r prif feysydd cymorth y gallech eu cael.