Gall gweithio allan pa fudd-daliadau sydd gennych hawl iddynt fod yn anodd. Darganfyddwch ble i gael cyngor arbenigol am ddim ar-lein, wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.
Cyngor Ar Bopeth
Gall Cyngor Ar Bopeth roi cyngor cyfrinachol, diduedd ac annibynnol am ddim i chi ar fudd-daliadau.
Y cyngor a gynigir
Yn ogystal â chyngor ar fudd-daliadau, gallant eich helpu i ddatrys problemau â dyled, tai a llawer mwy.
Mae ganddynt hefyd wasanaeth 'Help i Hawlio' i'ch cefnogi gyda'ch cais am Gredyd Cynhwysol. Dysgwch fwy yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol.
Y gwasanaethau a ddarperir
- ar-lein
- ymweliadau cartref
- wyneb yn wyneb
- llinell gymorth
- e-bost (mewn rhai achosion).
Yn addas ar gyfer
Pawb.
Cysylltwch â Chyngor Ar Bopeth
Chwiliwch am eich canolfan leol i drefnu apwyntiad neu i weld rhestr o rifau ffôn:
Canolfannau’r Gyfraith
Mae Canolfannau’r Gyfraith yn darparu cyngor cyfreithiol a chynrychiolaeth am ddim i bobl dan anfantais. Efallai y gallant eich helpu â chyngor arbenigol os oes gennych broblem budd-dal gymhleth neu os ydych am apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed ar eich hawl i fudd-dal.
Y cyngor a gynigir
Yn ogystal â chyngor ar fudd-daliadau a hawliau lles, mae Canolfannau’r Gyfraith yn cynnig cyngor cyfreithiol ar faterion yn cynnwys cyflogaeth a thai.
Y gwasanaethau a ddarperir
- wyneb yn wyneb
- ffôn (mewn rhai ardaloedd).
Yn addas ar gyfer
Pawb sy'n methu fforddio talu am gymorth cyfreithiol.
Cysylltwch â’ch Canolfan y Gyfraith leol
Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, darganfyddwch eich un agosaf ar wefan Law Centres Network
Yn yr Alban, darganfyddwch eich Canolfan Gyfraith agosaf arYn agor mewn ffenestr newydd Shelter Scotland.
Cynghorwyr budd-daliadau Macmillan ar gyfer pobl a effeithir gan ganser
Gall cynghorydd budd-daliadau Macmillan eich helpu i gyfrifo pa gymorth ariannol mae gennych hawl iddo.
Y cyngor a gynigir
Maent yn cynnig cyngor arbenigol i helpu i leddfu pryderon ariannol. Gan gynnwys gwybodaeth ar:
- fenthyciadau
- grantiau
- budd-daliadau.
Y gwasanaethau a ddarperir
- wyneb yn wyneb
- ymweliadau cartref
- ffôn.
Yn addas ar gyfer
Unrhyw un a effeithir gan ganser.
Darganfyddwch gynghorydd budd-daliadau Macmillan
Darganfyddwch un yn agos i chi ar wefan Macmillan Cancer SupportYn agor mewn ffenestr newydd
Cyngor budd-daliadau Age UK ar gyfer pobl hŷn
Mae rhai canghennau lleol Age UK yn cynnig gwasanaeth cyngor cyfrinachol am ddim ar fudd-daliadau.
Y cyngor a gynigir
Cymorth ymarferol i wneud yn siŵr eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
Y gwasanaethau a ddarperir
- wyneb yn wyneb
- ymweliadau cartref
- ffôn
- cymorth i lenwi ffurflenni cais.
Yn addas ar gyfer
Unrhyw un sydd dros oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd ac yn byw yn yr ardal a gwmpasir gan y gangen leol.
Cysylltwch ag Age UK
Ffoniwch linell gymorth Age UK:
yn Lloegr, ar 0800 055 6112Yn agor mewn ffenestr newydd neu ewch i wefan Age UKYn agor mewn ffenestr newydd
yng Nghymru, ar 0300 303 44 98Yn agor mewn ffenestr newydd neu ewch i wefan Age CymruYn agor mewn ffenestr newydd
yn yr Alban, ar 0800 12 44 222Yn agor mewn ffenestr newydd neu ewch i wefan Age ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
yng Ngogledd Iwerddon, ar 0808 808 7575Yn agor mewn ffenestr newydd neu ewch i wefan Age NIYn agor mewn ffenestr newydd
Gingerbread cyngor i rieni sengl
Mae Gingerbread yn darparu cyngor a chefnogaeth ymarferol i rieni sengl, gan gynnwys cyngor ar fudd-daliadau yng Nghymru a Lloegr.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Gingerbread.
Gogledd Iwerddon
Ewch i wefan Parenting FocusYn agor mewn ffenestr newydd Gallwch hefyd eu ffonio am ddim ar 0808 8010 722Yn agor mewn ffenestr newydd (ddydd Llun i ddydd Iau: 9.30am i 3.30pm, a ddydd Gwener: 9.30am i 12.30pm).
Cyngor arbenigol ar gyfer arian, tai a bwyd
Help sy'n lleol i chi
Os yw'ch problem yn gymhleth, gall Advicelocal eich helpu i ddod o hyd i gyngor am ddim a diduedd yn eich ardal ar:
fuddion
Treth y Cyngor
tai
cyflogaeth
anabledd a gofal cymdeithasol
lloches a mewnfudo.
Ar wefan advicelocal gallwch ddod o hyd i arbenigwr budd-daliadau yn eich ardal chiYn agor mewn ffenestr newydd
Cyngor ar ddyledion
Os ydych yn poeni am gadw i fyny ag ad-daliadau dyled mae llawer o gymorth a chyngor cyfrinachol ar gael am ddim.
Cyngor ar dai
Mae gan ein canllawiau ar gymorth os ydych chi'n cael trafferth talu rhent a thaliadau morgais wybodaeth ac arweiniad ar beth i'w wneud os ydych chi'n poeni am gostau byw.
Os oes gennych ôl-ddyledion rhent neu forgais, neu os ydych chi'n poeni am golli eich cartref, mae Shelter yn cynnig cyngor cyfrinachol ar ystodo faterion taiYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i gael mynediad at fanc bwyd
Os ydych chi'n wynebu argyfwng ac nad oes gennych arian i dalu am fwyd, efallai y byddwch chi'n gallu defnyddio banc bwyd.
Fel arfer, bydd angen i chi gael atgyfeiriad i fanc bwyd cyn y gallwch ei ddefnyddio. Dysgwch fwy yn ein canllaw Ble alla i gael cymorth brys gydag arian a bwyd?