Mae Credyd Cynhwysol nawr wedi disodli chwe budd-dal ‘etifeddol’. Mae’r canllaw hwn yn eich helpu i ddeall sut i wneud cais llwyddiannus a ble i gael cymorth arbenigol am ddim os bydd ei angen arnoch.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Ble i gael cyngor personol am Gredyd Cynhwysol
- Mae Credyd Cynhwysol wedi disodli chwe budd-dal etifeddol
- Sut mae Credyd Cynhwysol yn wahanol i’r hen fudd-daliadau
- Help tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf
- Siaradwch â chynghorydd Cymorth i Wneud Cais Cyngor ar Bopeth i gael cyngoram ddim
Ble i gael cyngor personol am Gredyd Cynhwysol
Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall sut mae symud i Gredyd Cynhwysol yn gweithio a ffyrdd o wneud y mwyaf o’ch arian.
I siarad â rhywun am eich sefyllfa eich hun, gan gynnwys cymorth i hawlio, rhowch gynnig ar y sefydliadau am ddim hyn:
- Cymorth i Wneud Cais Cyngor ar Bopeth am help gyda chwestiynau a hawliadau Credyd Cynhwysol, hyd nes y byddwch yn derbyn eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.
- Advicelocal am help a chefnogaeth gyda budd-daliadauYn agor mewn ffenestr newydd, gan gynnwys cyngor cyfrinachol ynghylch a ddylech hawlio Credyd Cynhwysol.
Mae Credyd Cynhwysol wedi disodli chwe budd-dal etifeddol
Mae’r budd-daliadau ‘etifeddol’ hyn i gyd wedi cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol ac ni chaiff unrhyw fwy o daliadau eu gwneud ar ôl 5 Ebrill 2025:
- Credyd Treth Plant
- Credyd Treth Gwaith
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
Mae’r budd-daliadau etifeddol hyn hefyd wedi cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau newydd ond bydd taliadau’n parhau mewn rhai amgylchiadau:
- Budd-dal Tai
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
Beth fydd yn digwydd os ydych yn hawlio Budd-dal Tai?
Gall Budd-dal Tai eich helpu i dalu eich rhent os ydych yn ddi-waith, ar incwm isel neu’n hawlio budd-daliadau. Gallwch ond wneud cais newydd am Fudd-dal Tai os ydych:
- wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu
- mewn tai â chymorth, tai gwarchod neu dai dros dro.
Beth fydd yn digwydd os byddwch yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm?
Mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm hefyd yn dod i ben ac ni allwch wneud cais newydd amdano, ond mae rhai pobl yn dal i’w gael tra byddant yn aros i symud i Gredyd Cynhwysol.
Os ydych yn dal i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, anfonir llythyr atoch yn eich gwahodd i wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Bydd llythyrau’n cael eu hanfon drwy gydol y flwyddyn tan fis Rhagfyr 2025.
Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth nes i chi gael eich llythyr - bydd yn dweud wrthych pryd y bydd angen i chi wneud cais. Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, ni fydd angen i chi ddarparu tystiolaeth feddygol fel nodiadau ffitrwydd, na chael Asesiad Gallu i Weithio (WCA) eto os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:
- rydych yn symud o ESA i Gredyd Cynhwysol heb seibiant
- eich bod eisoes wedi cwblhau WCA, ac
- roeddech yn y ‘grŵp cymorth’ neu’r ‘grŵp gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith’ yn ESA pan wnaethoch eich cais am Gredyd Cynhwysol.
Efallai y bydd angen i chi gael asesiad arall os yw eich WCA i fod i gael adolygiad neu os bydd eich cyflwr yn newid. Os oeddech yn darparu tystiolaeth feddygol ar ESA cyn i chi symud, bydd angen i chi wneud hynny o hyd gyda’ch cais Credyd Cynhwysol nes i chi gael penderfyniad WCA.
Os oes angen unrhyw help neu gefnogaeth arnoch, bydd manylion yn cael eu darparu yn eich llythyr, neu gallwch ddysgu mwy am symud i Gredyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Sut mae Credyd Cynhwysol yn wahanol i’r hen fudd-daliadau
Mae Credyd Cynhwysol yn daliad sengl sydd wedi’i gynllunio i’ch cefnogi gyda chostau byw bob dydd, gan gynnwys tai a magu plant. Gallwch ei hawlio p’un a ydych yn gweithio ai peidio.
Mae ein Cyfrifiannell budd-daliadau yn ffordd gyflym a hawdd o wirio beth allech chi ei gael.
Dyma sut y gallai Credyd Cynhwysol fod yn wahanol i’r budd-daliadau cawsoch yn flaenorol:
- gallwch weithio cymaint o oriau ag y dymunwch
- fel arfer bydd angen i chi ymrwymo i ddod o hyd i waith os gallwch
- gallai eich taliad newid bob tro gan ei fod yn seiliedig ar incwm eich cartref a’r cynilion a’r buddsoddiadau a oedd gennych yn y mis blaenorol
- ni chewch unrhyw beth os oes gennych gynilion neu fuddsoddiadau gwerth dros £16,000
- bydd angen i chi aros pum wythnos am eich taliad cyntaf
- rydych fel arfer yn cael eich talu unwaith neu ddwywaith y mis yn dibynnu ar ble rydych yn byw yn y DU (mae cyplau yn cael un taliad)
- rydych fel arfer yn gyfrifol am dalu eich rhent eich hun yng Nghymru, Lloegr a'r Alban
- gallwch hawlio hyd at 85% o'ch costau gofal plant yn ôl
- efallai y bydd eich taliad yn cael ei leihau hyd at 25% i ad-dalu dyledion fel budd-daliadau neu gredydau treth a ordalwyd.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Esbonio Credyd Cynhwysol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch sut bydd hyn yn effeithio arnoch, siaradwch â chynghorydd Cymorth i Wneud Cais Cyngor ar Bopeth neu Advice NI am gymorth a chyngor cyfrinachol a diduedd.
Help os oes angen i chi reoli eich arian yn wahanol
Gan fod llawer o fudd-daliadau etifeddol wedi cael eu talu’n wythnosol neu bob pythefnos, mae’n debyg y bydd angen i chi wneud newidiadau i sut rydych chi’n rheoli’ch arian. Mae hyn yn cynnwys newid y dyddiadau talu ar gyfer eich biliau, rhent neu forgais i’r diwrnod ar ôl i chi gael eich talu neu gyllidebu am daliad misol.
I gael cymorth a gwybodaeth lawn, gweler ein canllaw Help i reoli eich arian os ydych yn cael budd-daliadau.
Gwiriwch faint o Gredyd Cynhwysol rydych chi’n debygol o’i gael
Defnyddiwch ein Cyfrifiannell budd-daliadau cyflym a hawdd i ddarganfod faint o Gredyd Cynhwysol y gallech ei gael, gan ei fod yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol ac enillion eraill.
Am fwy o wybodaeth am sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo, gweler ein canllaw Faint yw Credyd Cynhwysol?
Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
Bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar-lein ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd Os ydych yn byw gyda’ch partner, bydd angen i’r ddau ohonoch wneud cais ar wahân.
Os na allwch wneud cais ar-lein, ffoniwch Linell Gymorth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd neu’r Ganolfan Gwasanaeth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd yng Ngogledd Iwerddon. Gallant drefnu i rywun eich ffonio'n ôl neu ymweld â'ch cartref.
Am ragor o help a gwybodaeth, gweler ein canllawiau:
Ble i gael cyngor a chymorth am ddim gyda’ch cais
Os byddwch yn cael trafferth i wneud cais neu i gael cymorth a chyngor am ddim gyda’ch cais, dylech:
- siarad â chynghorydd Cymorth i Wneud Cais Cyngor ar Bopeth neu Advice NI i gael cymorth a chyngor cyfrinachol a diduedd
- ewch i'ch Canolfan Byd Gwaith leolYn agor mewn ffenestr newydd neu swyddfa Swyddi a Budd-daliadau yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd i gael cymorth wyneb yn wyneb i wneud cais.
Gallwch hefyd roi eich caniatâd i rywun rydych yn ymddiried ynddo i ddelio â'ch cais ar eich rhan, a elwir yn gynrychiolydd. Os nad yw’r person sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yn gallu rheoli ei arian ei hun, gallwch wneud cais i fod yn benodai cyfreithiol.
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Linell Gymorth Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd Canolfan Gwasanaeth Credyd Cynhwysol yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd neu GOV.UK - Caniatâd Credyd CynhwysolYn agor mewn ffenestr newydd
Help tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf
Ar ôl i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol, fel arfer mae angen aros pum wythnos nes i chi gael eich taliad cyntaf.
Mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud tra byddwch chi'n aros, gan gynnwys:
- gwneud cais am daliadau ymlaen llaw os byddwch yn cael trafferth
- gwirio a ydych yn gymwys ar gyfer taliadau neu grantiau eraill
- creu neu ddiweddaru cyllideb.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Help i reoli eich arian tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.
Ar ôl i chi gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, sicrhewch eich bod yn:
- newid unrhyw ddyddiadau talu ar gyfer biliau neu rent i'r diwrnod ar ôl i chi gael eich talu
- gwirio a ydych bellach yn gymwys i gael gostyngiadau neu fargeinion arbennig
- rhoi gwybod os bydd unrhyw beth yn eich bywyd yn newid
- ystyried agor cyfrif Cymorth i Gynilo am fonws am ddim gwerth hyd at £1,200
- cynllunio ymlaen llaw ar gyfer misoedd drud y flwyddyn, fel penblwyddi a'r Nadolig.
Am fwy o fanylion, gweler ein canllaw Help i reoli eich arian os ydych yn cael budd-daliadau.
Os oes angen help arnoch i wneud cais, gallwch siarad â chynghorydd Credyd Cynhwysol am ddim i gael cymorth i gwblhau’r ffurflen gais.
Siaradwch â chynghorydd Cymorth i Wneud Cais Cyngor ar Bopeth i gael cyngoram ddim
Os oes angen mwy o help neu gefnogaeth arnoch ac eisiau siarad â rhywun yn gyfrinachol, gallwch siarad â ymgynghorydd ar-lein neu dros y ffôn.
Gallant eich helpu gyda:
sefydlu cyfrif:
- cyfeiriad e-bost
- cyfrif Credyd Cynhwysol
- cyfrif banc.
gweithio drwy'r rhestr o bethau i'w gwneud ar gyfer gwneud cais llwyddiannus
esbonio'r dyddlyfr ar-lein a sut mae'n cael ei ddefnyddio
cael mynediad i wasanaeth ceisiadau ffôn Credyd Cynhwysol
cael cymorth ymweliadau cartref yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Os ydych yn byw yn: | Gallwch gysylltu â: |
---|---|
Lloegr |
|
Yr Alban |
|
Cymru |
|
Gogledd Iwerddon |
Gallwch hefyd:
- Ffonio’r llinell gymorth Credyd CynhwysoYn agor mewn ffenestr newydd l am ddim yng Nghymru, Lloegr a'r Alban neu'r Ganolfan Gwasanaeth Credyd Cynhwysol yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd am help gyda'ch cais.
- Dod o hyd i ymgynghorydd arbenigol yn eich ardal chi ar Advicelocal i gael help a chymorth am ddim gyda budd-daliadau, gan gynnwys cyngor cyfrinacholYn agor mewn ffenestr newydd ynghylch a ddylech chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
- Defnyddio Gwasanaeth Video Relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i'ch helpu gyda chamau cynnar eich cais Credyd Cynhwysol.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma:
- Cymru: ewch i Cyngor ar Bopeth CymruYn agor mewn ffenestr newydd
- Lloegr: ewch i Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
- Yr Alban: ewch i Citizens Advice ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
- Gogledd Iwerddon: ewch i nidirectYn agor mewn ffenestr newydd