Mae gan bob plentyn tair a phedair oed yn y DU hawl i addysg gynnar neu ofal plant am ddim. Mae rhai plant iau hefyd yn gymwys.
Mae nifer yr oriau gofal plant wythnosol am ddim (yn ystod y tymor) a gewch fel arfer yn dibynnu ar oedran eich plentyn, faint rydych yn ei ennill o waith cyflogedig a ble rydych yn byw.
Lloegr – hyd at 30 awr am ddim
Yn Lloegr, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer:
- 15 awr os yw'ch plentyn yn naw mis oed.
- 15 neu 30 awr os ydynt yn dair neu bedair oed.
- O fis Medi 2025 bydd rhieni cymwys sy'n gweithio ac sydd â phlant o naw mis oed yn gallu cael 30 awr o ofal plant wedi'i ariannu.
Gweler GOV.UK am sut i wneud cais i'ch cyngorYn agor mewn ffenestr newydd
Yr Alban – tua 30 awr am ddim
Yn yr Alban, efallai y byddwch yn gymwys am tua 30 awr yn ystod y tymor os yw eich plentyn yn dair neu bedair oed (a rhai yn ddwy oed).
Gweler mygov.scot am sut i wneud cais i'ch cyngorYn agor mewn ffenestr newydd
Cymru – hyd at 30 awr am ddim
Yng Nghymru, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer:
- 12.5 awr os yw'ch plentyn yn ddwy i dair oed ac yn byw mewn a ardal Dechrau'n Deg
- 30 awr os ydynt yn dair neu bedair.
Gweler llyw.cymru i weld a ydych yn gymwysYn agor mewn ffenestr newydd
Gogledd Iwerddon – hyd at 12.5 awr
Yng Ngogledd Iwerddon, efallai y byddwch yn gymwys am 12.5 awr os yw'ch plentyn yn dair neu bedair oed.
Gweler nidirect am sut i wneud cais am le cyn ysgol a ariennirYn agor mewn ffenestr newydd