Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgeisi
I gyfrifo faint allwch chi ei fforddio, defnyddiwch ein cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais.
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
21 Chwefror 2025
Ni fydd eich cynnig morgais yn para am byth. Darganfyddwch pa mor hir maen nhw'n para fel arfer a beth sy'n digwydd os daw'r cynnig i ben.
Ar ôl i’ch cais am forgais gael ei gwblhau a'i fod yn bodloni meini prawf y benthyciwr yn unig y caiff cynnig morgais ei gynnig.
Mae morgais yn gontract cyfreithiol gorfodol sy'n cadarnhau bod eich cais am forgais wedi'i wirio a'i gymeradwyo.
Cyn i chi dderbyn cynnig morgais, efallai y cewch forgais mewn egwyddor (MIP), gellir cyfeirio at hyn hefyd fel Cytundeb mewn Egwyddor (AIP) neu Benderfyniad mewn Egwyddor (DIP). Mae morgais mewn egwyddor yn rhoi cynnig dros dro i chi o faint y gallai'r benthyciwr ei roi i chi, ar yr amod eu bod yn cael mwy o wybodaeth am eich cyllid a'u prisiad o'r eiddo.
Tra mai cytundeb swyddogol gan fenthyciwr i roi'r arian i chi brynu'r eiddo yw cynnig morgais.
Fel arfer mae'n cymryd dwy i bedair wythnos i dderbyn cynnig morgais ar ôl i chi gyflwyno'ch cais.
I wneud cais a sicrhau bod eich proses ymgeisio yn mynd yn llyfn, bydd angen i chi ddarparu cyfriflenni banc, ID, slipiau cyflog, P60s (a ffurflenni treth os ydych yn hunangyflogedig).
Hefyd, gyda llinell amser cynnig morgais, mae angen i chi ystyried ffactorau allweddol fel y cynnig morgais a dderbyniwyd, y broses danysgrifio a llwyth gwaith y benthyciwr fel syniad o amseroedd prosesu.
Gallwch, fel arfer gallwch gael estyniad i'ch cynnig morgais. I wneud hyn, bydd angen i chi gysylltu â'ch benthyciwr a gofyn am hyn yn ysgrifenedig, yn ddelfrydol gydag o leiaf ychydig wythnosau o rybudd. O'r fan honno, bydd y darparwr yn gwneud penderfyniad.
Os cewch estyniad ar eich cynnig morgais, gall hyn fod rhwng mis a chwe mis mewn rhai achosion. Mae hefyd yn werth cofio nad oes rhaid i fenthycwyr i roi estyniad.
Gallai cynnig morgais ddod i ben am sawl rheswm, ond yn bennaf oherwydd oedi yn y broses drawsgludo. Gall hyn fod oherwydd problemau credyd posibl, newid mewn amgylchiadau, materion eiddo, camgymeriadau ar eich cais morgais neu wybodaeth anghywir.
Gall gweithio gyda brocer morgeisi helpu i leihau'r siawns y bydd eich cynnig morgais yn dod i ben. Byddant yn rhoi popeth at ei gilydd ar gyfer eich cais morgais i helpu i osgoi'r materion hyn.
Os nad ydych wedi cwblhau'r gwerthiant erbyn dyddiad terfyn eich cynnig morgais, efallai na fydd y cynnig yn ddilys mwyach.
Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen i chi gysylltu â'ch benthyciwr a siarad â nhw cyn gynted ag sy’n bosibl.
Os yw eich cynnig yn dod i ben efallai y bydd angen i chi ail-ymgeisio am forgais newydd a allai beri i'r gwerthiant fethu.
Hefyd, os mai dim ond dau fis sydd gennych ar ôl ar eich cynnig morgais, gallech ddweud wrth eich trawsgludwr/cyfreithiwr a all ddefnyddio'r wybodaeth hon i geisio cyflymu'r gwerthiant.