Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgeisi
I gyfrifo faint allwch chi ei fforddio, defnyddiwch ein cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais.
Diweddarwyd diwethaf:
03 Mawrth 2025
Gall prynu tŷ fod yn llawer o straen. Mae'n bosibl eich bod wedi cynilo ers blynyddoedd, wedi cael sgyrsiau anodd, wedi gweld llawer o leoedd - mae llawer yn y fantol.
Pan fyddwch yn cael cynnig morgais yn y pen draw, gall deimlo fel eich bod ar y trywydd iawn i gael y cartref o’ch breuddwydion. Ond beth all fynd o'i le ar ôl hynny?
Mae siawns bob amser y gallai gwerthwr y cartref rydych chi'n ei brynu dynnu allan o'r gwerthiant. Mae sawl rheswm pam y gallai hynny ddigwydd.
Pan fyddwch chi'n prynu eiddo, rydych chi'n aml yn dibynnu ar y person sy'n ei werthu i ddod o hyd i rywle i symud iddo. Os ydyn nhw'n prynu cartref arall, gelwir hyn yn "gadwyn".
Mae cadwyn eiddo yn gyfres o brynu tai cysylltiedig y mae angen i bob un ohonynt ddigwydd i gwblhau'r gadwyn. Os oes llawer o bobl yn eich cadwyn, mae hynny'n golygu bod mwy o le i bethau fynd o’i le.
Os oes rhywbeth o'i le ar yr eiddo y mae eich gwerthwr yn ceisio ei brynu, efallai y bydd yn torri'r gadwyn a gall eich gwerthiant ddisgyn drwyddo.
Enghreifftiau posibl yw bod yr arolwg ar y tŷ maen nhw'n ei brynu wedi dod yn ôl gyda llwyth o broblemau drud, ac nid ydyn nhw’n dymuno ysgwyddo'r cyfrifoldeb, felly maent yn penderfynu prynu rhywle arall.
Neu, efallai bod y gwerthwr wedi dod o hyd i rywbeth gwell iddo neu fod eu cynnig morgais wedi dod i ben cyn eich bod chi i gyd yn gallu cwblhau.
Os ydych chi mewn cadwyn, efallai y gwelwch y gallai eich prynwr dynnu allan hefyd am yr un rheswm. Nid oes llawer y gallwch ei wneud yn ystod y cyfnod hwn, dim ond aros gyda'ch bysedd wedi'u croesi fel bod y cyfan yn gweithio allan.
Gall prynu eiddo gymryd amser hir iawn; fel arfer, tri i chwe mis - ond gallai barhau hyd yn oed yn hirach os oes cadwyn hir neu os yw'r pryniant yn gymhleth.
Gall llawer ddigwydd yn ariannol yn ystod y cyfnod hwnnw. Gallech golli eich swydd neu efallai y cewch ddyrchafiad a phenderfynu eich bod eisiau cael tŷ drutach. Os ydych chi'n prynu gyda phobl eraill, mae posibilrwydd y byddan nhw'n penderfynu tynnu allan ac ni allwch fforddio'r eiddo mwyach.
Weithiau mae prynwyr yn canfod bod llawer o waith y mae angen ei wneud ar ôl yr arolwg ac nid yw'n fforddiadwy bellach.
Bydd benthycwyr yn gwneud gwiriad credyd pan fyddwch yn gwneud cais am forgais, ac os oes gennych sgôr credyd gwael, efallai y bydd eich cais yn cael ei wrthod.
Er mwyn helpu i osgoi hyn, gallwch wirio'ch ffeil gredyd gydag asiantaeth gwirio credyd, fel:
Unwaith y byddwch yn deall eich sgôr credyd, byddwch eisiau edrych ar wella eich statwscredyd. Edrychwch ar ein canllaw ar Sut i wella eich sgôr credyd.
Gall gweithio gyda chyfreithiwr neu drawsgludwr fod yn un o'r pethau mwyaf rhwystredig am brynu cartref, oherwydd y gallant gymryd amser hir i wneud y gwaith a bydd yn costio llawer o arian i chi. Fodd bynnag, maent yn rhan hanfodol o'r broses, gan eu bod yno i'ch helpu drwy unrhyw faterion cyfreithiol a allai godi.
Er enghraifft, efallai y byddwch yn canfod pan fo pethau ar fin mynd drwodd, eich bod yn sylwi ar gamgymeriad yn y contract y mae angen i chi ei ddatrys, sydd wedyn yn golygu bod y cynnig yn cael ei dynnu'n ôl. Mae bob amser yn benderfyniad da i beidio â dibynnu'n llawn ar eich cyfreithiwr, a gwirio popeth y gofynnir i chi ei lofnodi ddwywaith.
Os ydych chi'n prynu neu'n gwerthu eiddo lesddaliad, mae hynny'n eich arwain at gymhlethdodau cyfreithiol posibl hefyd. Er enghraifft, efallai y byddwch yn darganfod pan fyddwch eisoes yn mynd drwy'r broses bod eich prynwr eisiau i chi ymestyn y brydles, sy'n ddrud ac yn gymhleth.
Gall hyd eich cynnig morgais amrywio, fel arfer o chwe mis i flwyddyn (felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio ac yn rhoi'r dyddiad gorffen yn eich dyddiadur), ond oherwydd y gall cymaint fynd o'i le, gallant ddod i ben os ydych yn anlwcus. Mae'n swnio fel amser hir, ond fel arfer, dim ond unwaith y byddant yn gwybod faint o arian sydd ganddynt i’w wario y byddant yn dechrau chwilio am gartref, ac yna mae angen i chi ychwanegu'r broses o dri i chwe mis o brynu ar ben hynny. Mae'n hawdd gweld sut y gallai gyrraedd terfyn y flwyddyn.
Fodd bynnag, gwnewch yn siŵr eich bod yn parhau i hysbysu'ch darparwr morgais, a fyddai o bosibl yn ymestyn eich cynnig, neu'n gwneud un newydd yn gyflym i osgoi i'r pryniant ddisgyn drwodd. Er y gallant ail-wneud gwiriad credyd a gofyn am dystiolaeth newydd.
Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Cyllidebu a ChyniloYn agor mewn ffenestr newydd am awgrymiadau arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.