Pum ffordd y gallai'r Adolygiad Gwariant effeithio arnoch chi

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
21 Awst 2025
Yn yr un modd ag y mae aelwydydd yn gosod cyllideb fisol neu wythnosol, mae'r llywodraeth yn edrych yn rheolaidd ar sut y gallai ddefnyddio ei harian yn y ffordd orau a gosod cyllidebau adrannol. Roedd yr Adolygiad Gwariant diweddaraf ym mis Mehefin, ac er y bydd y rhan fwyaf o'r cyhoeddiadau yn cael effeithiau tymor hwy, dyma'r pum maes allweddol lle gallai eich cyllideb bob dydd gael ei effeithio
Beth yw 'Adolygiad Gwariant'?
Adolygiad Gwariant yw'r broses y mae'r llywodraeth yn ei defnyddio i osod cyllidebau pob adran ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Er enghraifft, mae'r Adran Addysg yn gofalu am ysgolion a darpariaeth blynyddoedd cynnar. Yn yr Adolygiad Gwariant ym mis Mehefin, mae'r gwariant adrannol o ddydd i ddydd bellach wedi'i osod tan 2028-29.
1. Mwy o blant i gael prydau ysgol am ddim
Os ydych chi'n byw yn Lloegr, yn cael Credyd Cynhwysol ac mae gennych chi blant oedran ysgol, gallen nhw fod â hawl i Brydau Ysgol Am Ddim yn fuan.
Cyhoeddwyd y byddai £410 miliwn ychwanegol y flwyddyn erbyn 2028-29 i ehangu cymhwysedd Prydau Ysgol am Ddim i bob disgybl yn Lloegr sydd â rhiant sy'n derbyn Credyd Cynhwysol. Mae'r newid yn golygu, waeth beth yw incwm eich cartref, os ydych chi'n hawlio Credyd Cynhwysol ac mae gennych chi blant oedran ysgol, y byddech chi'n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim. Ar hyn o bryd, mae angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol A bod gennych incwm cartref o £7,400 y flwyddyn neu lai (ar ôl treth a heb gynnwys unrhyw fudd-daliadau rydych chi'n eu derbyn). Os ydych chi'n meddwl y gallech fod â hawl i Gredyd Cynhwysol ond nad ydych chi'n siŵr – gweler ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol.
Yn yr Alban mae pob plentyn ysgol gyhoeddus hyd at gynradd pump eisoes yn cael prydau ysgol am ddim yn awtomatig ac mae pob plentyn ysgol gynradd yn ysgolion gyhoeddus yng Nghymru yn cael Prydau Ysgol am Ddim. Yng Ngogledd Iwerddon gall rhieni sy'n hawlio budd-daliadau penodol wneud caisYn agor mewn ffenestr newydd ar Education Authority Northern Ireland
2. Mae’r cap tocynnau bws o £3 wedi'i ddiogelu
Cyflwynwyd capiau tocynnau bws yn 2022, gan gyfyngu ar gost un daith ar lwybrau cymwys yn Lloegr. Cododd y cap o £2 i £3 ym mis Ionawr 2025 ac roedd y cap o £3 i fod i ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2025 ond mae bellach wedi'i ymestyn am dros flwyddyn i fis Mawrth 2027.
Ni waeth ble rydych chi'n byw yn y DU - p'un a yw'n well gennych deithio mewn car neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, edrychwch ar ein canllaw ar deithio gostyngol i wneud yn siŵr eich bod chi'n cael yr holl ostyngiadau y mae gennych chi hawl iddynt.
3. Efallai y bydd ysgol eich plentyn yn cynnig clwb brecwast am ddim
O ddechrau tymor yr haf, mae 750 o ysgolion cynradd wedi dechrau derbyn cyllid i ddarparu clwb brecwast am ddim. Dyma'r cam cyntaf o ddarpariaeth a fydd yn gweld clybiau brecwast am ddim ym mhob ysgol gynradd yn Lloegr yn y pen draw. Mae'r llywodraeth yn amcangyfrif y gallai hyn gyrraedd mwy na 180,000 o blant - gan gynnwys 70,000 o ddisgyblion o ysgolion yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad.
Mae clybiau brecwast yn lleoedd o dan oruchwyliaeth y gall plant fynd cyn i'r diwrnod ysgol ddechrau. Maen nhw'n rhoi brecwast maethlon i blant ac yn caniatáu i rieni gadael eu plant yn gynnar er mwyn mynd i’r gwaith. Mae rhai ysgolion yn cynnal eu clybiau brecwast â thâl eu hunain. Ar hyn o bryd mae yna hefyd Raglen Clwb Brecwast Ysgolion Cenedlaethol. Mae hyn yn darparu clybiau brecwast â chymhorthdal i ysgolion mewn ardaloedd dan anfantais.
4. Gallai eich bil ynni ostwng hyd at £600
Bydd y Cynllun Cartrefi Cynnes yn helpu i dorri biliau hyd at £600 i deuluoedd yn Lloegr drwy uwchraddio cartrefi drwy gamau effeithlon o ran ynni, ochr yn ochr â gosod pympiau gwres a thechnolegau carbon isel eraill, fel paneli solar a batris.
Os oes gennych incwm aelwyd o £36,000 y flwyddyn neu lai, neu os ydych chi'n bensiynwr ac yn byw mewn cartref â thystysgrif perfformiad ynni (EPC) wedi'i raddio o D-G, gallech dderbyn uwchraddiadau arbed ynni a gwresogi wedi'u hariannu'n llawn. Os ydych chi'n meddwl y gallech fod yn gymwys i gael yr uwchraddiad cartref am ddim ond nad ydych chi'n siŵr, gallwch ddefnyddio'r gwiriwr cymhwysedd am ddimYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK. Edrychwch ar ein canllaw ar Sut i leihau eich biliau ynni i weld yr ystod lawn o gymorth ar gyfer pob rhan o'r DU.
5. Help gyda biliau tanwydd gaeaf – os ydych chi'n bensiynwr
Mae'r taliad tanwydd gaeaf yn grant di-dreth i helpu tuag at gostau ynni uwch yn ystod y misoedd oerach.
Llynedd aeth y taliad - i bensiynwyr incwm isel (y rhai a anwyd cyn 22 Medi 1959) a oedd yn cael y budd-dal prawf modd Credyd Pensiwn yn unig.
Eleni, bydd y taliad di-dreth gwerth hyd at £300 yr aelwyd (£305.10 yn yr Alban), yn mynd i bob pensiynwr yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon sydd ag incwm trethadwy blynyddol o £35,000 neu lai. Er bod manylion y newid hwn wedi dod cyn cyhoeddiad ffurfiol yr Adolygiad Gwariant, mae'n rhan o'r Adolygiad Gwariant llawn. Gweler ein blog ar Daliad Tanwydd Gaeaf am ragor o wybodaeth.