Gofalwch rhag sgamiau Taliad Tanwydd Gaeaf
Ni fydd CthEF na DWP byth yn cysylltu â chi i hawlio’ch Taliad Tanwydd Gaeaf. Os cewch neges destun neu e-bost yn dweud wrthych bod angen i chi hawlio’ch taliad, gallai fod yn sgam.
Mae cynnydd wedi bod yn y nifer o adroddiadau o sgamiau Taliad Tanwydd Gaeaf ffug gyda thwyllwyr yn defnyddio gwefannau a negeseuon testun ffug i geisio cael pobl i rannu’u manylion banc a’u gwybodaeth bersonol.
Os ydych chi wedi derbyn neges destun, e-bost neu alwad ffôn amheus, gallwch adrodd arno’n sythYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.
Am fwy o wybodaeth ar sut i ddiogelu’ch hun rhag sgamiau, gweler ein canllaw ar Sut i adnabod ac adrodd ar negeseuon testun ffug a sgamiau SMS-rwydo.