Ydych chi’n poeni am eich biliau ynni’n codi? Darganfyddwch pa help sydd ar gael os ydych yn poeni am dalu biliau neu fethu taliad.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Y ffyrdd gorau i arbed arian ar nwy a thrydan
- Newid cyflenwr ynni
- Beth yw mesurydd rhagdaledig?
- A allaf arbed arian gyda mesurydd rhagdaledig?
- A allaf gael fy ngorfodi i gael mesurydd rhagdaledig?
- Y cod ymarfer PPM anwirfoddol ar gyfer cyflenwyr ym Mhrydain Fawr
- Beth sy’n digwydd os ydw i yng Ngogledd Iwerddon?
- A allaf newid cyflenwyr ynni os oes gennyf fesurydd rhagdaledig?
- A fydd mesurydd deallus yn fy helpu i arbed arian?
- Help os anfonir bil ynni atoch i dalu am ragor o ddefnydd yn flaenorol - ôl-filiau ynni
- Yn ei chael yn anodd talu’ch biliau ynni?
- Mannau cynnes
- Beth ddylech chi ei wneud os ydych yn meddwl bod eich swm Debyd Uniongyrchol yn anghywir?
- A yw’n well mynd am dariff tanwydd deuol neu gael contractau trydan a nwy ar wahân?
- Sut i gwyno am eich darparwr ynni
Y ffyrdd gorau i arbed arian ar nwy a thrydan
Mae biliau ynni yn uchel iawn ar y foment, ond mae ambell beth y gallwch ei wneud i gadw’ch costau mor isel â phosibl.
Deall eich bil ynni
Mae’n bwysig adolygu eich biliau ynni i aros yn wybodus, bod mewn rheolaeth a sicrhau nad ydych yn gordalu.
Dysgwch beth sydd wedi’i gynnwys, beth i edrych amdano ar eich bil ynni, a sut i gymryd darlleniadau mesurydd cywirYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Energy Saving Trust.
Yn Lloegr gallwch ffonio Better Housing Better Health am help i ddeall eich bilYn agor mewn ffenestr newydd
Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol
Fel arfer mae’n rhatach i dalu trwy Ddebyd Uniongyrchol ac ni fydd rhaid i chi boeni am fethu taliadau.
Defnyddio llai
Mae’n swnio’n amlwg, ond po leiaf o ynni a ddefnyddiwch po rataf fydd eich biliau.
Mae yna ddigon o awgrymiadau a thriciau i dorri’ch defnydd.
Dyma rai syniadau cyflym i’ch helpu i dorri’n ôl:
- Caewch eich llenni a defnyddiwch rimynnau drafft i atal gwres rhag dianc.
- Defnyddiwch eich peiriant golchi dillad neu’ch peiriant golchi llestri ar dymheredd is, neu rhowch nhw ar y gosodiad ‘eco’ – a pheidiwch â rhoi’r golch ymlaen pan nad oes gennych lwyth llawn.
- Dewch i’r arfer o ddiffodd goleuadau pan fyddwch yn gadael ystafell a diffodd eitemau trydanol yn hytrach na’u gadael yn y modd segur.
Darganfyddwch fwy ar awgrymiadau i ostwng eich biliau ynYn agor mewn ffenestr newydd Energy Saving Trust
Gwneud eich cartref yn fwy effeithiol o ran ynni
Mae gwario ychydig i arbed llawer yn fuddsoddiad da - yn enwedig os nad oes rhaid i chi wario'ch arian eich hun.
Mae llawer o grantiau ar gael, gan gynnwys y Fargen Werdd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae hyn yn helpu i wella effeithlonrwydd ynni eich cartref fel:
- gwella’ch Inswleiddiad
- uwchraddio’ch boeler a’ch offer
- gosod paneli solar neu dechnolegau adnewyddadwy eraill
Prif awgrym
Gwiriwch yr argymhellion yn Nhystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) eich eiddo, os oes gennych un. Gallwch ddod o hyd i’ch tystysgrif ar y Gofrestr EPCYn agor mewn ffenestr newydd
Gallai’r gwelliannau hyn eich helpu i arbed cannoedd o bunnoedd y flwyddyn. Hyd yn oed os nad ydych yn gymwys i gael grant, dylai’r buddsoddiadau hyn eich helpu i ddechrau arbed arian yn eithaf cyflym.
Darganfyddwch fwy am grantiau arbed ynni ledled y DU yn ein canllaw Sut i dalu am welliannau i’r cartref.
Ydy eich incwm cartref yn cael ei wasgu?
Os ydych chi’n wynebu costau byw uwch, ond heb fawr o arian os o gwbl yn dod i mewn, darganfyddwch ffynonellau incwm ychwanegol a chymorth sydd ar gael i’ch helpu i reoli biliau cartref ac arbed arian yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig.
Newid cyflenwr ynni
Mae’n werth gwirio a allwch gael biliau ynni rhatach trwy newid cyflenwr neu dariff (y fargen rydych chi arni).
Gallwch gymharu bargeinion ynni gan ddefnyddio gwefannau cymharu, fel:
- Clwb Ynni RhadYn agor mewn ffenestr newydd MoneySavingExpert
- Which?Yn agor mewn ffenestr newydd
Mae’r gwefannau cymharu a restrir uchod ond yn gweithio yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, os ydych yng Ngogledd Iwerddon gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth am y cyflenwyr gallwch newid iddyntYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Which?
Fel arfer mae’n rhatach talu drwy Ddebyd Uniongyrchol misol, yn hytrach nag arian parod neu siec.
Beth yw mesurydd rhagdaledig?
Mae mesurydd rhagdaledig (PPM) yn gweithio fel tariff ‘talu-wrth-fynd’ ar gyfer nwy neu drydan. Mae angen i chi dalu am ynni cyn y gallwch ei ddefnyddio drwy ychwanegu credyd at eich mesurydd.
Fel arfer, rydych chi’n cael cerdyn clyfar neu docyn y gallwch wneud ychwanegiad iddo ar-lein, dros y ffôn neu mewn PayPoint, PayZone neu Swyddfa’r Post.
Mae rhai cyflenwyr ynni hefyd yn caniatáu i chi ychwanegu credyd at eich PPM trwy ap ffôn symudol. Mae gan Gyngor ar Bopeth help os ydych chi’n cael problemau yn ychwaneguYn agor mewn ffenestr newydd gelwir PPMs hefyd yn fesuryddion talu wrth fynd, mesuryddion rhagdaledig, a mesuryddion bysellfwrdd yng Ngogledd Iwerddon.
A allaf arbed arian gyda mesurydd rhagdaledig?
Prif fantais mesuryddion rhagdaledig yw na fyddwch yn gwario mwy nag sydd gennych – gall hyn eich helpu i gadw at gyllideb.
Gall PPM fod yn declyn defnyddiol i’ch helpu i gadw rheolaeth o’ch defnydd o ynni.
A allaf gael fy ngorfodi i gael mesurydd rhagdaledig?
Efallai y byddwch chi’n cael eich gorfodi i gael mesurydd rhagdaledig, ond dim ond fel dewis olaf os ydych chi’n ddyledus i’ch cyflenwr. Gall eich cyflenwr orfodi mesurydd rhagdaledig trwy warant neu drwy newid eich mesurydd clyfar o bell, ond dim ond ar ôl iddynt gymryd pob cam rhesymol i gytuno ar gynllun talu amgen gyda chi.
Ni all eich cyflenwr wneud i chi symud i ragdaledig os na fyddai’n ddiogel neu’n ymarferol ac mae’n rhaid iddo ddilyn y rheolau a osodwydYn agor mewn ffenestr newydd gan Ofgem, y rheoleiddiwr ynni.
Yn ogystal â rheolau presennol Ofgem, maent hefyd wedi cyflwyno’r Cod Ymarfer PPM anwirfoddol sy’n gosod safonau uchel ar gyfer sut mae’n rhaid i gyflenwyr ymddwyn, gan geisio atal arferion gwael a chynnig diogelwch ychwanegol.
Darganfyddwch a allwch stopio cael eich symud i fesurydd rhagdaledigYn agor mewn ffenestr newydd ar Gyngor Ar Bopeth.
Y cod ymarfer PPM anwirfoddol ar gyfer cyflenwyr ym Mhrydain Fawr
Ers mis Tachwedd 2023, rhaid i bob cyflenwr yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ddilyn rheolau llym ar gyfer pryd y gallant ac na allant osod mesurydd rhagdaledig yn orfodol.
Ni fedrwch gael eich gorfodi i ddefnyddio PPM os:
yw eich dyled yn llai na thri mis ar ôl i’r bil gael ei gyhoeddi
os oes gennych chi lai na £200 yn ddyledus am nwy neu drydan
rydych chi yn y broses o symud i gynllun ad-dalu.
Gallwch lawrlwytho cod ymarfer llawn OfgemYn agor mewn ffenestr newydd
Beth sy’n digwydd os ydw i yng Ngogledd Iwerddon?
Mae’r Rheoleiddiwr Cyfleustodau yn gyfrifol am lywodraethu cyflenwyr ynni yng Ngogledd Iwerddon ac mae ganddo ei god ymarfer ei hun.
Mae’r cod yn nodi, cyn i’ch cyflenwr osod mesurydd rhagdaledig yn eich cartref am resymau dyled, rhaid iddynt esbonio’n glir:
telerau ac amodau’r trefniant ad-dalu
faint o bob ychwanegiad fydd yn cael ei ddefnyddio i ad-dalu’ch dyled (ni all hyn fod yn fwy na 40%)
beth i’w wneud os na allwch fforddio’r trefniant ad-dalu.
Gallwch ddarganfod mwy ar wefan y Rheoleiddiwr CyfleustodauYn agor mewn ffenestr newydd
A allaf newid cyflenwyr ynni os oes gennyf fesurydd rhagdaledig?
Os oes gennych fesurydd rhagdaledig, gallwch ddal newid darparwyr ynni. Ar hyn o bryd nid oes llawer o fargeinion ar gael am lai na’r cap ar brisiau, ond dylech wirio’n rheolaidd i weld a oes bargeinion sefydlog newydd y gallwch newid iddynt. Mae rhai cwmnïau ynni ond yn cynnig tariffau sefydlog i gwsmeriaid presennol, felly efallai na fydd angen i chi newid hyd yn oed.
Efallai y gwelwch nad yw’r pris sefydlog rydych chi ei eisiau ar gael i gwsmeriaid rhagdalu. Os yw hynny’n wir, ni fydd yr un o’r chwe chyflenwr mawr yn codi tâl arnoch i’ch newid i fesurydd credyd (lle rydych yn talu am ynni ar ôl i chi ei ddefnyddio) a all fod yn rhatach.
Mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi gael gwiriad credyd a bydd angen i’ch cyfrif ynni fod yn ddi-ddyled.
Gallwch ddarganfod mwy o wybodaeth ar gael y mwyaf allan o’ch mesurydd rhagdaledigYn agor mewn ffenestr newydd ar MoneySavingExpert
A fydd mesurydd deallus yn fy helpu i arbed arian?
Gall mesurydd deallus eich helpu i gofnodi eich defnydd o ynni fel y gallwch geisio lleihau faint rydych yn ei ddefnyddio a phryd.
Mae gwirio eich mesurydd deallus yn rheolaidd yn bwysig i sicrhau bod eich darlleniadau’n gywir. Er ei fod yn gweithio’n awtomatig, mae gwirio pob hyn a hyn yn helpu i ddal unrhyw gamgymeriadau a sicrhau bod eich biliau ynni yn cyd-fynd â’r hyn rydych yn wirioneddol yn ei ddefnyddio.
Darganfyddwch fwy am fesuryddion deallus o’r rheoleiddwrYn agor mewn ffenestr newydd ynni Ofgem
Beth os yw fy margen sefydlog yn dod i ben?
Pan ddaw eich cynllun sefydlog i ben, bydd eich cyflenwr yn eich rhoi ar eu tariff amrywiol safonol. Gyda’r prisiau ynni uchel yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd, hwn fydd y cap ar brisiau Ofgem. Mae’r cap ar brisiau yn cyfyngu’r swm rydych yn ei dalu, er dylech ofyn am unrhyw dariffau cyfradd sefydlog rhatach a allai fod ar gael i gwsmeriaid newydd neu gwsmeriaid presennol.
Os ydych yn agos at ddiwedd cynllun sefydlog, ni fydd rhaid i chi dalu ffi i’w adael a symud i dariff newydd – ar yr amod bod eich newid wedi’i gwblhau o fewn 49 diwrnod olaf eich cytundeb presennol.
Darganfyddwch fwy am y cap ar brisiau yn ein canllaw Beth i’w wneud os yw’ch bil ynni’n uchel.
Tariff ynni sefydlog
Gyda thariff ynni pris sefydlog, ni fyddwch yn cael eich effeithio gan gynnydd prisiau yn ystod y contract. Mae bargeinion cyfradd sefydlog newydd sydd ychydig yn is na’r cap ar brisiau yn dechrau dod i’r farchnad. Chi sydd i benderfynu a ydych chi eisiau’r sicrwydd o gloi prisiau cyfredol neu a fyddai’n well gennych aros i weld a yw’r cap ar brisiau yn gostwng.
Os byddwch yn dewis tariff cyfradd sefydlog a, mae prisiau ynni yn gostwng, byddwch yn dal i fod yn talu’r hen gyfradd uwch tan ddiwedd y contract.
Os ydych chi am newid eto cyn iddo ddod i ben mae gan rai dariffau sefydlog ffioedd ymadael, y bydd angen i chi eu talu i adael.
Nid yw cael tariff sefydlog ychwaith yn golygu y byddwch yn talu’r un swm ar gyfer pob bil. Y tariff sy’n aros yr un fath a bydd eich bil ynni yn codi ac yn disgyn gyda’ch defnydd.
Help os anfonir bil ynni atoch i dalu am ragor o ddefnydd yn flaenorol - ôl-filiau ynni
Weithiau gallech fod yn defnyddio mwy o ynni na’r hyn a dybir gan eich cyflenwr ynni.
Mae hyn yn fwy o broblem os ydych yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol neu os nad ydych yn anfon y manylion o’ch mesurydd i’ch cyflenwr ynni yn rheolaidd.
Os ydych ar gynllun rhandaliad taliad sefydlog ac yn defnyddio mwy o ynni nag y codir tâl arnoch amdano, gallai’ch cyflenwr anfon bil atoch am y rhagor a ddefnyddiwyd gennych. Mae hwn yn fil am yr ynni ychwanegol a ddefnyddiwyd gennych dros yr hyn a dalwyd gennych.
Os ydych yn newid cyflenwr, gallwch gael bil i dalu am y rhagor a ddefnyddiwyd gennych. Bydd hyn yn ddibynnol ar ba mor gywir y codwyd tâl arnoch am eich defnydd o ynni.
Mae ôl-filio am ynni yn nodi rheolau ar gyfer anfon biliau dal i fyny i chi. Gallant fod am unrhyw swm ond ni chânt gynnwys defnydd o ynni fwy na 12 mis yn ôl.
Darganfyddwch fwy am filio am ynni blaenorolYn agor mewn ffenestr newydd yn Ofgem
Yn ei chael yn anodd talu’ch biliau ynni?
Gall methu â fforddio cynhesu neu bweru’ch cartref beri pryder. Fodd bynnag, mae help ar gael os ydych yn cael trafferth.
Mae’n bwysig cysylltu â’ch cyflenwr i ofyn am help cyn i chi fethu taliad.
Os ydych yn cael trafferth gydag arian neu’n ad-dalu dyled, gall yr opsiynau gynnwys:
- adolygu cynlluniau talu biliau, gan gynnwys dyled y gallech fod yn ei ad-dalu mewn rhandaliadau
- seibiannau talu, neu ostyngiadau yn y swm rydych yn ei dalu
- cael mwy o amser i ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych
- newid i fesurydd rhagdaledig
- mynediad at gronfeydd caledi - mewn achosion eithriadol.
Os ydych yn cael trafferth gyda biliau a thaliadau, mae ein Blaenoriaethwr Biliau cyflym a hawdd ei ddefnyddio yn eich helpu i ddeall pa filiau a thaliadau i ddelio â nhw yn gyntaf a sut i osgoi methu unrhyw daliadau.
Darganfyddwch pwy yw’ch cyflenwr nwy neu drydan, a’u manylion cyswllt, ar fil ynni diweddar.
Os ydych dal yn ansicr,Yn agor mewn ffenestr newydd ewch i wefan Ofgem
Ar gyfer Gogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd, ewch i wefan NI Electricity Networks
Os ydych yn cael budd-daliadau, efallai y gallech dalu arian yn ôl sy’n ddyledus i’ch cyflenwr ynni drwy’r cynllun Fuel Direct.
Mae hyn yn gweithio trwy dynnu swm penodol o arian o’ch budd-daliadau i dalu’ch dyledion, ynghyd â swm ychwanegol i dalu am eich defnydd o ynni, yn awtomatig.
Darganfyddwch fwy ar wefan Cyngor ar Bopeth
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â’ch cyflenwr. Darganfyddwch fwy ar wefan Northern Ireland Electricity NetworksYn agor mewn ffenestr newydd
Mannau cynnes
Mae Warm Welcome yn elusen sy’n cynnig miloedd o lefydd am ddim ledled y DU gan gynnwys llyfrgelloedd, caffis a chanolfannau cymunedol. Darganfyddwch fwy am lefydd Warm Welcome am ddimYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Warm Welcome.
Mae cynghorau ar draws y wlad yn agor mannau cymunedol i bobl gadw’n gynnes am ddim yn ystod y dydd yn ystod y misoedd oerach.
Darganfyddwch eich cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK am leoliadau ac amseroedd agor.
Beth ddylech chi ei wneud os ydych yn meddwl bod eich swm Debyd Uniongyrchol yn anghywir?
Os ydych yn credu bod y taliadau misol y gofynnir i chi eu gwneud yn ormodol a bod gennych lawer o gredyd yn eich cyfrif yn barod, gallwch ofyn i’ch cyflenwr eu newid. Mae cod Ofgem ar gyfer cyflenwyr sy’n berthnasol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn nodi y dylent osod Debyd Uniongyrchol teg a gallu esbonio i chi pam mae’r swm hwnnw’n rhesymol. Os na allant, gallwch ofyn i’ch cyflenwr ad-dalu rhywfaint o’ch credyd. Yng Ngogledd Iwerddon, mae’n cael ei reoleiddio gan y Utility RegulatorYn agor mewn ffenestr newydd, os ydych yn credu bod eich bil yn anghywir siaradwch â’ch darparwr neu gallwch fynd at y Cyngor Defnyddwyr am gymorthYn agor mewn ffenestr newydd
Mae gan MoneySavingExpert cyfrifiannell i’ch helpu cyfrifo beth ddylai eich taliad misol fodYn agor mewn ffenestr newydd
Mae biliau ynni gaeaf fel arfer llawer yn uwch na rhai’r haf, felly yn lle codi tâl am yr hyn rydych yn ei ddefnyddio pob mis bydd cyflenwyr yn aml yn cymryd eich defnydd blynyddol a’i rhannu i 12 rhan, fel bod y gost wedi lledaenu’n fwy gyfartal. Gall hyn esbonio pam ofynnir i chi dalu am fwy nag ydych yn ei ddefnyddio. I sicrhau bod eich biliau ynni’n gywir, gwiriwch eich darlleniadau mesurydd yn rheolaidd. Os oes gennych fesurydd deallus, mae’n anfon darlleniadau’n awtomatig.
A yw’n well mynd am dariff tanwydd deuol neu gael contractau trydan a nwy ar wahân?
Mae tariff tanwydd deuol yn golygu eich bod yn cael eich nwy a’ch trydan gan yr un cyflenwr ynni.
Bydd llawer o dariffau sefydlog, ar-lein a safonol yn cynnig opsiwn tanwydd deuol.
Mae llawer o dariffau tanwydd deuol hefyd yn cynnig gostyngiad ar gyfer cymryd nwy a thrydan o’r un cwmni.
Gall fod yn fwy cyfleus delio ag un cyflenwr na chael dau gyflenwr ar wahân ar gyfer nwy a thrydan. Weithiau gall weithio allan yn rhatach ond nid dyma’r opsiwn rhataf bob amser.
Darganfyddwch fwy am dariffau ynniYn agor mewn ffenestr newydd ar Gyngor ar Bopeth.
Sut i gwyno am eich darparwr ynni
Os oes gennych gŵyn, cysylltwch â’ch darparwr ynni yn gyntaf. Bydd rhif ffôn a gwefan eich cyflenwr ar eich bil ynni.
Eglurwch beth yw’r broblem a beth rydych am i’ch cyflenwr ei wneud yn ei gylch. Gallwch ddefnyddio templed llythyrau cwyn am ddim o wefan Cyngor ar Bopeth.
Yna bydd gan gyflenwyr ynni hyd at wyth wythnos i ddweud wrthych am eu penderfyniad ar y cwyn.
Os na allwch ddod i gytundeb gyda’ch cyflenwr ar ôl wyth wythnos, gallwch ofyn am “llythyr terfyn amser”, sy’n eich galluogi i fynd â’ch achos yn rhad ac am ddim at yr Ombwdsmon Ynni.
Bydd yr Ombwdsmon Ynni wedyn yn penderfynu gyda pha barti y mae’n cytuno a sut i ddatrys y mater.
Darganfyddwch fwy am sut i wneud cwynYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Ofgem.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac rydych eisiau gwneud cwyn ynglyn â gwasanaethau ynni, dŵr, trafnidiaeth neu postYn agor mewn ffenestr newydd, cysylltwch â Chyngor Defnyddwyr.