Dathlu 10 mlynedd o Pension Wise

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
11 Gorffennaf 2025
Mae ein gwasanaeth i helpu pobl i ddeall eu dewisiadau pensiwn yn well yn troi'n ddeng mlwydd oed. Darganfyddwch fwy wrth i ni ddathlu degawd o Pension Wise.
Beth yw Pension Wise?
Mae Pension Wise yn apwyntiad am ddim y gallwch ei drefnu i'ch helpu i ddeall eich opsiynau os oes gennych bensiwn Cyfraniadau wedi’u Diffinio (DC).
Gallwch drefnu apwyntiad pan fyddwch dros 50 oed, neu o dan 50 oed ac yn ymddeol yn gynnar oherwydd iechyd gwael.
Os nad yw apwyntiad Pension Wise yn addas i chi, gallwch siarad ag arbenigwr pensiynau o hyd. Mae ein llinell gymorth neu sgwrs fyw yn agored i unrhyw un, waeth beth yw eich oedran neu pa fath o bensiwn sydd gennych.
Yn ystod eich apwyntiad Pension Wise bydd ein harbenigwyr yn siarad â chi am y dewisiadau y gallwch eu gwneud gyda'ch pensiwn, gan gynnwys:
- cymryd cyfandaliad di-dreth
- prynu blwydd-dal
- cymryd eich pensiwn yn hyblyg (tynnu pensiwn i lawr)
- penderfynu pryd i ymddeol.
Mae yna nawr y dewis i gael eich apwyntiad ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb
Dywedodd bron i 9 o bob 10 o bobl fod eu hapwyntiad Pension Wise dros y ffôn wedi eu helpu i ddeall eu hopsiynau pensiwn yn well.
Rydym yn helpu miloedd o bobl yr wythnos
Mae Pension Wise wedi tyfu'n sylweddol ers lansio'r gwasanaeth yn 2015.
Yn ystod y pum mlynedd diwethaf mae dros hanner miliwn o bobl wedi mynychu apwyntiad Pension Wise, sef tua mwy na 274 bob dydd.
Ymunodd Pension Wise â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol a'r Gwasanaeth Ymgynghori Pensiynau yn 2019 i greu sefydliad sydd bellach yn cael ei alw'n y Gwasanaeth Arian a Phensiynau, gyda HelpwrArian fel ein brand sy'n wynebu defnyddwyr.
Gallwch nawr gael arweiniad am eich pensiwn ar unwaith o wefan HelpwrArian. Gall ein Cyfrifiannell Pensiwn eich helpu i gyfrifo'r hyn sydd gennych a chyfrifo beth i'w ddisgwyl ar ôl i chi ymddeol
Mae'n bwysig eich bod chi'n deall eich pensiwn cyn dechrau meddwl am ymddeoliad. Gall apwyntiad Pension Wise diduedd ac am ddim eich helpu i ddeall eich opsiynau yn well cyn i chi wneud unrhyw benderfyniadau mawr.
Gallwch drefnu eich apwyntiad Pension Wise yma.
Mae gennym hefyd grŵp Facebook pensiynau bywiogYn agor mewn ffenestr newydd lle gallwch ofyn cwestiynau, cael cefnogaeth a dysgu mwy gan ein cymuned.
Edrychwn ymlaen at y 10 mlynedd nesaf!