Sgamiau Gumtree: sut i adnabod negeseuon ac eitemau ffug

Diweddarwyd diwethaf:
16 Ionawr 2025
Gall Gumtree fod yn ffordd wych o ddod o hyd i rywle i’w rentu, i werthu’ch eitemau diangen neu i godi beic ail-law. Ond gydag unrhyw le ar-lein mae risg y bydd twyllwyr yn gweithredu ac yn ceisio eich twyllo allan o’ch arian parod.
Gyda mwy na miliwn o hysbysebion yn fyw ar unrhyw adeg, mae’n amhosibl i Gumtree atal pob hysbyseb ffug neu dynnu pob gwefan copi i lawr ar unwaith... felly mae bod yn ymwybodol o’r hyn i gadw llygad allan amdano yn mynd i helpu i gadw’r arian hwnnw yn eich cyfrif.
Sut olwg sydd ar sgam Gumtree?
Yn anffodus, mae mwy nac un dull y mae sgamwyr yn ei ddefnyddio wrth ddynwared Gumtree neu brynu neu werthu eitemau yn dwyllodrus. Os ydych chi’n gwerthu, yn prynu neu bod gennych gyfrif wedi’i sefydlu ar Gumtree, rydych chi mewn perygl.
Eitemau ffug
Bydd sgamwyr yn rhestru eitemau ar y farchnad nad ydynt yn bodoli mewn gwirionedd. Os byddwch yn dangos diddordeb, byddant wedyn yn eich targedu drwy:
- roi pwysau arnoch i gyflawni’r fargen yn gyflym
- gwneud esgusodion pam na allwch weld yr eitem yn bersonol
- gofyn i chi ddefnyddio dull talu heb amddiffyniad.
Unwaith y bydd y taliad yn cael ei anfon, bydd y gwerthwr yn diflannu gan adael chi ar eich colled.
Mae’n syniad da defnyddio dulliau talu diogel yn unig (fel taliadau â cherdyn neu systemau talu ar-lein gyda diogelwch prynwr). Dylech hefyd wirio proffil gwerthwr i weld a oes ganddo hanes o werthu ar Gumtree ac adolygiadau da gan brynwyr eraill.
Gwefannau ffug Gumtree
Dywed Gumtree y byddan nhw’n tynnu safle copicat i lawr cyn gynted ag y gallant, ond fe fydd yna bobl bob amser yn ei ddefnyddio cyn y gall Gumtree ei gyrraedd. Mae’r wefan ffug yn edrych yn ddigon gwir ond defnyddiwch eich greddf. Os ydych chi’n meddwl nad yw rhywbeth yn edrych yn hollol iawn ers y tro diwethaf i chi ddefnyddio'r wefan, yna peidiwch â’i defnyddio.
Mae’r manylion yn fach ond gallai fod:
- dim clo clap yn y bar cyfeiriad
- camgymeriadau sillafu
- cyfeiriad gwe heblaw gumtree.com neu my.gumtree.com.
Byddwch yn arbennig o ofalus gydag unrhyw ddolenni a anfonir atoch mewn e-byst neu negeseuon, gan y gallai’r rhain fod yn eich anfon i fersiwn ffug o wefan Gumtree.
Mae cyngor pellach ar beth i’w wneud wrth weld gwefan ffugYn agor mewn ffenestr newydd ar Gumtree.
Negeseuon Testun Gumtree ffug
Os oes gennych chi gyfrif ar Gumtree, yna efallai y bydd gennych neges destun yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol fel cyfrineiriau neu fanylion banc.
Dilëwch ef ar unwaith, gan na fyddai Gumtree byth yn anfon neges destun yn gofyn hyn.
Efallai y byddwch hefyd yn derbyn neges destun yn ymateb i’ch hysbyseb ‘ar werth’ sy’n edrych braidd yn rhyfedd. Mae hwn yn gynllun i’ch cael chi i glicio ar y ddolen ffug neu ymateb i e-bost ffug o’r enw SMS-rwydo. Os yw’r ymateb yn creu amheuaeth yn eich meddwl yna mewngofnodwch i’ch cyfrif Gumtree i weld a yw’r neges yno hefyd a dileu’r testun.
E-byst ffug
Bydd e-byst ffug Gumtree fel arfer yn gofyn i chi ddarparu manylion banc neu gadarnhau cyfrineiriau. Maent fel arfer yn cyfuno hynny â neges ‘brys’ yn dweud bod eich cyfrif wedi’i gyfaddawdu/bu gweithgarwch amheus, yn y gobaith y byddwch yn gweithredu’n gyflym ac yn cwympo am eu twyll we-rwydo.
Cadwch lygad allan am gyfeiriadau e-bost ffug. Dywed Gumtree nid yw o reidrwydd yn golygu ei fod yn dod o Gumtree os yw’n dangos xxxx@gumtree.com.
Sgamiau ceir Gumtree
Mae’r sgam hwn yn cynnwys delwyr ceir twyllodrus yn esgus bod yn ddefnyddiwr unigol o Gumtree ac yn postio hysbysebion ar gyfer ceir ail law sy’n gweithio’n llawn neu mewn cyflwr da, pan fo’r ceir yn aml yn colli rhannau neu mewn cyflwr gwael.
Mewn rhai achosion, unwaith y bydd y dioddefwr wedi anfon ei e-bost a’i enw at y sgamiwr, bydd wedyn yn derbyn anfoneb ffug. Oherwydd ei fod yn edrych yn ddilys, mae arian yn cael ei drosglwyddo ac mae’r sgamiwr yn diflannu. Yna cewch eich gadael ar eich colled yn ogystal â heb gar.
Gofynnwch i’r gwerthwr bob amser weld manylion y car, ei gyllid ac yswiriant blaenorol, a gofynnwch am gael gweld prawf cyfeiriad a hunaniaeth y gwerthwr a gwiriwch hyn yn erbyn y V5.
Mae cyngor pellach ar gadw’n ddiogel wrth brynu neu werthu ceir ar GumtreeYn agor mewn ffenestr newydd
Arwyddion rhybudd efallai nad yw’n ddilys
Fel gydag unrhyw sgam, mae arwyddion i gadw llygad amdanynt a allai eich helpu i benderfynu a yw’n ddilys.
- Mae angen i unrhyw neges sy’n nodi bod angen i chi weithredu NAWR neu fel arall bydd eich hysbyseb yn cael ei dileu neu bydd eich cyfrif yn cael ei gau, peri pryder. Ni fyddai Gumtree ynghyd â chwmnïau cyfreithlon eraill yn gwneud hyn.
- Mae’n ymadroddiad rydym yn ei ailadrodd o hyd, ond os yw’n swnio’n rhy dda i fod yn wir yna mae’n debyg ei fod. Ffordd gyffredin i sgamwyr eich twyllo yw creu hysbyseb ar gyfer eitem sydd ychydig yn rhatach na’r gystadleuaeth ond ddim yn ddigon i achosi amheuaeth.
- Dylech edrych ar unrhyw un sy’n mynnu cael ei dalu mewn ffordd anarferol gydag amheuaeth. Mae sgamwyr yn edrych i’w gwneud mor anodd â phosibl i chi gael eich arian yn ôl, felly byddwch yn ofalus rhag unrhyw un sy’n gwrthod dulliau talu mwy cyffredin.
- Gwerthwyr rhy neis sy’n gwneud popeth i wneud i chi ymddiried ynddynt. Nid ydym yn dweud nad oes yna rai gwerthwyr neis allan yna, a fyddai’n mynd allan o’u ffordd i helpu, ond efallai y bydd sgamwyr yn cynnig dod draw i’ch tŷ i wneud y trafodiad.
Sut i amddiffyn eich hun rhag sgamiau Gumtree
Os ydych chi’n gwerthu, yn prynu neu os oes gennych chi gyfrif Gumtree nad ydych chi’n gwneud unrhyw beth ag ef, yna fel unrhyw sianel ar-lein, mae angen i chi fod yn wyliadwrus ac amddiffyn eich hun rhag sgamiau.
Os byddwch yn derbyn neges destun neu e-bost yn honni ei fod gan Gumtree
Peidiwch â chlicio ar y ddolen sy’n dweud wrthych am ddiweddaru gwybodaeth neu weithredu nawr cyn i’ch cyfrif gau.
Y peth gorau i’w wneud yw agor eich porwr a mewngofnodi i'ch cyfrif Gumtree yno. Pe bai angen i Gumtree gael gafael arnoch chi, byddent yn gwneud hynny trwy'r ganolfan negeseuon yn eich cyfrif.
Os gwelwch gynnig sy’n swnio’n rhy dda i fod yn wir
Mae’n debyg ei fod.
Os yw'r pris yn ymddangos yn llawer is na’r gystadleuaeth, yna cwestiynwch ei ddilysrwydd. Cyngor Gumtree yw gofyn i’r gwerthwr am brawf prynu, neu unrhyw dystysgrifau. Ac i hefyd chwilio rhif neu fusnes y gwerthwr ar-lein i wirio eu hanes neu am unrhyw adolygiadau blaenorol.
Cyfathrebwch gan ddefnyddio Gumtree yn unig
Gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn defnyddio’r botwm ‘Ymateb i hysbyseb’ ar gyfer unrhyw gyfathrebiad. Mae Gumtree yn dweud bod ei gadw’n ‘fewnol’ yn golygu eich bod yn cael eich amddiffyn gan eu system hidlo sy’n rhwystro unrhyw e-byst sbam neu amheus.
Defnyddiwch ddull talu diogel
Mae Gumtree hefyd yn dweud i fod yn wyliadwrus o brynwyr neu werthwyr sy’n gofyn i chi newid y dull talu, fel arfer i un nad oes ganddo unrhyw amddiffyniad i ddefnyddwyr.
Os ydynt yn honni eu bod yn cael problemau cyfrif yna, fel y soniwyd amdano uchod, chwiliwch eu rhif gwerthwr ar-lein i ddarllen adolygiadau blaenorol, neu ataliwch y gwerthiant nes eich bod wedi cysylltu â Gumtree. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, yna dylech ymddiried yn eich greddf a dywedwch wrth y prynwr/gwerthwr i aros nes eich bod wedi cael cyngor.
Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi cael eich twyllo ar Gumtree
Os ydych yn meddwl eich bod wedi dioddef sgam, rhowch wybod i Action Fraud ar 0300 123 2040 neu defnyddiwch eu ffurflen adroddYn agor mewn ffenestr newydd seiberdroseddu ar-lein.
Cysylltwch â Gumtree hefyd a rhowch wybod iddynt beth sydd wedi digwydd neu, os ydych yn amheus o unrhyw hysbyseb neu brynwr/gwerthwr, gwiriwch ddwywaith gyda Gumtree cyn ymrwymo i brynu neu werthu eitem.
Gallwch adrodd cynnwys niweidiol, gan gynnwys sgamiau, i GumtreeYn agor mewn ffenestr newydd