Treth flynyddol rydych yn ei thalu i’ch cyngor lleol yw Treth Gyngor. Pennir y gost gan eich cyngor ac mae’r arian yn mynd i ariannu gwasanaethau lleol. Darganfyddwch fwy am Dreth Gyngor, sut i wneud yn siwr nad ydych yn talu mwy nag mae rhaid i chi, a beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth â thalu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw Treth Gyngor?
- Am beth mae Treth Gyngor yn talu?
- Faint yw fy Nhreth Gyngor?
- A allaf i gael gostyngiad Treth Gyngor?
- Talu’ch Treth Gyngor dros 12 mis yn lle 10
- Ym mha fand Treth Gyngor ydwyf?
- Gordal Treth Gyngor gwerth uchel newydd yn Lloegr a'r Alban o 2028
- Sut i gael adolygiad o fand eich Treth Gyngor
- Cwynion am Dreth Gyngor
- Os methwch daliad Treth Gyngor
- Beth sy’n digwydd os nad wyf yn delio â fy nyled Treth Gyngor?
Beth yw Treth Gyngor?
Yn byw yng Ngogledd Iwerddon?
Yng Ngogledd Iwerddon mae rhaid talu ardrethi domestigYn agor mewn ffenestr newydd yn lle Treth Gyngor. Darganfyddwch fwy ar wefan nidirect.
Treth flynyddol yw Treth Gyngor y mae’r cyngor lleol yn ei chodi arnoch am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt, fel casglu sbwriel a gwasanaeth llyfrgelloedd. Fel arfer rydych yn talu 10 rhandaliad misol, â 2 fis ar ôl hynny lle na fyddwch yn gwneud taliad.
Bydd faint o Dreth Gyngor fyddwch yn ei dalu yn dibynnu ar:
- eich amgylchiadau personol
- y band gwerthuso mae eich eiddo ynddo
- faint o arian mae’r cyngor angen i ariannu eu gwasanaethau.
Am beth mae Treth Gyngor yn talu?
Oeddech chi’n gwybod?
Os ydych wedi bod yn gordalu ar eich Treth Gyngor ers blynyddoedd, efallai y bydd gennych hawl i gael ad-daliad gwerth miloedd o bunnoedd
Ariennir gwasanaethau lleol gan Dreth Gyngor. Mae hyn yn cynnwys:
- gwasanaethau heddlu a thân
- prosiectau hamdden a hamdden, megis cynnal a chadw parciau a chanolfannau chwaraeon
- llyfrgelloedd a gwasanaethau addysg
- casglu a gwaredu sbwriel a gwastraff
- gwasanaethau trafnidiaeth a phriffyrdd, gan gynnwys goleuadau stryd a glanhau, a chynnal a chadw ffyrdd
- iechyd yr amgylchedd a safonau masnachu
- gweinyddu a chadw cofnodion, fel priodasau, marwolaethau a genedigaeth, ac etholiadau lleol.
Nid yw Treth Gyngor yn cael ei defnyddio i dalu am wasanaethau iechyd.
Faint yw fy Nhreth Gyngor?
Mae faint o Dreth Gyngor byddwch yn ei thalu yn dibynnu ar werth eich cartref a ble rydych yn byw.
Darganfyddwch eich awdurdod lleol a faint mae angen i chi ei dalu drwy ddefnyddio’r dolenni isod:
- Lloegr – Sut mae Treth Gyngor yn gweithioYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
- Yr Alban – Gostyngiadau ac eithriadauYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.scot
- Cymru – Darganfyddwch a ydych yn gymwysYn agor mewn ffenestr newydd ar llyw.cymru.
O’r fan honno gallwch gael gwybodaeth ar y Dreth Gyngor.
Efallai y bydd modd i chi gysylltu â hwy yn uniongyrchol a holi.
A allaf i gael gostyngiad Treth Gyngor?
Gallech gael gostyngiad ar eich Treth Gyngor os rydych:
- ar incwm isel
- yn fyfyriwr neu’n byw gyda myfyrwyr
- yn byw ar eich pen eich hun neu os mai chi yw’r unig oedolyn yn eich cartref
- yn cael rhai budd-daliadau, fel Credyd Cynhwysol, Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd, Cymhorthdal Incwm, Credyd Pensiwn, neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd (os ydych chi'n gymwys)
- chi neu rywun sy’n byw gyda chi gydag anabledd ac o ganlyniad yn gorfod byw mewn cartref mwy
- gydag amhariad meddyliol difrifol neu’n byw gyda rhywun sydd â chyflwr o’r fath
- rhywun sy'n gadael gofal - gallech gael hyd at 100% oddi ar eich bil Treth Gyngor. Mae cymhwysedd fel arfer yn berthnasol rhwng 18 a 25 oed (neu 26 yn yr Alban). Gwiriwch gyda'ch cyngor lleol i ddarganfod beth sydd ar gael yn eich ardal
- yn aelod o’r lluoedd arfog, yn ddibynnol ar eich amgylchiadau
- wedi symud i gartref gofal neu ysbyty
- yn y carchar – oni bai eich bod yn treulio dedfryd o garchar am fethu â thalu Treth Gyngor.
Darganfyddwch fwy am bwy all gael gostyniad a sut i wneud cais, defnyddiwch y dolenni isod:
- Lloegr – Sut mae Treth Gyngor yn gweithioYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
- Yr Alban – Gostyngiadau ac eithriadauYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.scot
- Cymru – Darganfyddwch a ydych yn gymwysYn agor mewn ffenestr newydd ar llyw.cymru.
Talu’ch Treth Gyngor dros 12 mis yn lle 10
Mae’r rhan fwyaf o gynghorau yn caniatáu i chi ledaenu’ch taliadau Treth Gyngor dros 12 mis yn lle’r 10 arferol.
Gallai talu’r un swm bob mis ei gwneud yn haws i chi gyllidebu.
Gofynnwch i’ch cyngor a ydynt yn cynnig y dewis hwn.
Ym mha fand Treth Gyngor ydwyf?
Cymru
Yng Nghymru mae 9 band – o 1 (yr uchaf) i 9.
Os yw’ch cartref wedi’i osod mewn band uwch nag y dylai, mae’n debyg eich bod yn talu mwy o Dreth Gyngor nag y dylech fod.
Lloegr a’r Alban
Mae gan Loegr a’r Alban 8 o fandiau prisio ar gyfer Treth Gyngor yn amrywio o A (y rhataf) i H.
Mae band Treth Gyngor eich cartref yn seiliedig ar ei werth ardrethol – po ddrutaf yw’r eiddo, po uchaf yw’r band Treth Gyngor.
O fis Ebrill 2028, bydd Gordal Gwerth Uchel y Dreth GyngorYn agor mewn ffenestr newydd ar gartrefi yn Lloegr a gaiff eu nodi i fod gwerth dros £2 filiwn yn 2026.
Gordal Treth Gyngor gwerth uchel newydd yn Lloegr a'r Alban o 2028
Os ydych chi'n byw yn Lloegr
O fis Ebrill 2028 ymlaen, bydd Gordal Treth Gyngor Gwerth UchelYn agor mewn ffenestr newydd ar gartrefi a werthwyd yn 2026 yn fwy na £2 filiwn yn Lloegr, ac £1 miliwn yn yr Alban. Bydd perchnogion (nid meddianwyr) yn talu £2,500 ychwanegol y flwyddyn ochr yn ochr â'r dreth gyngor, gan godi i £7,500 y flwyddyn ar gyfer eiddo dros £5 miliwn.
Os ydych chi'n byw yn yr Alban
O fis Ebrill 2028 ymlaen, bydd cartrefi yn yr Alban gwerth dros £1 miliwn yn cael eu rhoi yn un o ddau fand Treth Gyngor newyddYn agor mewn ffenestr newydd a byddant yn talu mwy. Mae hyn yn effeithio ar lai nag 1 o bob 100 o aelwydydd ledled yr Alban.
Sut i gael adolygiad o fand eich Treth Gyngor
Oeddech chi’n gwybod?
Credir bod cannoedd o filoedd o gartrefi yn Lloegr a'r Alban yn y bandiau Treth Gyngor anghywir. Gwerthuswyd cartrefi Cymraeg yn fwy diweddar ac maent yn llai tebygol o fod yn y band anghywir. (Ffynhonnell: MoneySavingExpert)
Os credwch eich bod yn talu gormod ar eich Treth Gyngor gan fod eich cartref yn y band treth anghywir, yna gallech fod â hawl i ad-daliad.
I gael yr ad-daliad hwn bydd angen i chi ofyn am adolygiad.
Ond cofiwch: gallai’r adolygiad olygu y bydd y cyngor yn gosod eich eiddo mewn band uwch.
Darganfyddwch sut i gael band Treth Gyngor wedi’i adolygu, ewch i wefan MoneySavingExpert
Cwynion am Dreth Gyngor
Os oes gennych gŵyn am eich Treth Gyngor, fel arfer bydd rhaid i chi gwyno i’r cyngor yn gyntaf. Ni ddylent gymryd mwy na 12 wythnos i ddatrys y broblem.
Fodd bynnag, os ydych yn anfodlon â’r canlyniad, neu os ydynt yn cymryd yn rhy hir i ddatrys eich cwyn, gallech gwyno i’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol
Os methwch daliad Treth Gyngor
Gall peidio â thalu’n brydlon – hyd yn oed 1 taliad misol – fod yn fater difrifol â Threth Gyngor. Os na weithredwch yn gyflym gallech orfod talu taliad blwyddyn gyfan ymlaen llaw.
Felly, os oedd eich Treth Gyngor yn £217 y mis, ond gwnaethoch fethu daliad cyntaf y flwyddyn, byddai’r swm yn troi’n ddyled o £2,170 - gan dybio i chi ei dalu dros 10 mis.
Y peth pwysicaf yw cysylltu â’ch cyngor cyn gynted ag y tybiwch y gallech fethu taliad, gan fod hynny’n gwella’r tebygolrwydd y byddant yn medru dod i drefniant â chi.
Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Os byddwch yn methu taliad, bydd eich cyngor yn anfon nodyn atgoffa yn rhoi saith diwrnod i chi dalu. Os na fyddwch yn talu'r ddyled, gallant fynnu eich bod yn talu balans y flwyddyn gyfan ar unwaith.
Cymru (o 1 Ebrill 2026)
Ar ôl 1 Ebrill 2026, rhaid i'ch cyngor aros 41 diwrnod cyn anfon hysbysiad terfynol, yna rhoi 21 diwrnod pellach i chi dalu. Dyna gyfanswm o 63 diwrnod cyn y gallant gymryd camau gorfodi, fel mynnu balans y flwyddyn gyfan.
Beth os byddwch yn methu taliad ychydig cyn 1 Ebrill 2026?
Os byddwch yn methu taliad ddiwedd mis Mawrth ac nad yw eich cyfnod atgoffa 7 diwrnod wedi dod i ben erbyn 1 Ebrill, byddwch yn symud yn awtomatig i'r amserlen newydd o 63 diwrnod yn lle. Fodd bynnag, dylech bob amser wirio gyda'ch cyngor i gadarnhau.
Bydd rhai cynghorau yn caniatáu i chi wneud y taliad ychydig yn hwyr, er mwyn i chi fedru parhau i dalu’r taliadau o hynny ymlaen yn unol â’r drefn wreiddiol. Efallai y bydd cynghorau eraill yn cynyddu’ch taliadau nesaf i unioni’r taliadau a fethwyd.
Os ydych ar incwm isel, efallai y cewch ostyngiad ar eich bil. Mae’n amrywio o un cyngor i’r llall ac o un achos i’r llall. Os cysylltwch â’ch cyngor yn syth ar ôl i chi fethu taliad, byddant yn aml iawn yn barod i’ch helpu.
Beth sy’n digwydd os nad wyf yn delio â fy nyled Treth Gyngor?
Os byddwch yn osgoi talu’r Dreth Gyngor ac yn anwybyddu llythyrau a anfonwyd atoch, gall y cyfan droi’n broblem ddifrifol.
Yn gyntaf cewch nodyn atgoffa gan y cyngor rhyw bythefnos ar ôl i chi fethu taliad.
Os talwch o fewn 7 diwrnod, nid oes angen i chi wneud dim byd pellach. Bydd y ddyled wedi’i chlirio a byddwch yn medru parhau i dalu eich Treth Gyngor mewn rhandaliadau.
Os na thalwch o fewn 7 diwrnod ers derbyn y nodyn atgoffa neu os mai dyma’r trydydd tro i chi fod yn hwyr â thaliadau Treth Gyngor yn ystod y flwyddyn honno, cewch ‘rybudd terfynol’ gan y cyngor.
Bydd y rhybudd terfynol yn dweud wrthych am dalu’r cyfan o’ch Treth Gyngor ar gyfer gweddill y flwyddyn o fewn 7 diwrnod.
Os na thalwch o fewn 7 diwrnod o’r rhybudd terfynol bydd y cyngor fel arfer yn cyflwyno cais i’r llysoedd am ganiatâd i gasglu’r ddyled gennych - gelwir hwn yn ‘orchymyn dyled’.
Ar ôl hynny gall eich cyngor fynnu bod eich cyflogwr yn talu’ch Treth Gyngor ddyledus o’ch cyflog yn uniongyrchol o’ch cyflog.
Gallant hefyd gyflwyno cais i dynnu arian o rai budd-daliadau penodol, gan gynnwys
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - y ddau fath
- Lwfans Ceisio Gwaith - y ddau fath
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol.
Os nad yw hyn yn bosibl, gallai’r cyngor yrru beili i’ch cartref. Bydd rhaid i chi dalu costau llys a hanner ffi’r beili o bosibl yn ogystal â’ch dyled, a all ychwanegu cannoedd o bunnoedd i’ch bil.
Bydd rhaid i chi dalu costau llys ac o bosibl ffioedd beili yn ogystal â'ch dyled, a all ychwanegu cannoedd o bunnoedd at eich bil.
Os ydych chi yng Nghymru neu Loegr gallwch gael rhagor o wybodaeth am atal beilïaid wrth eich drwsYn agor mewn ffenestr newydd, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth Os ydych yn Lloegr, mae hefyd yn dal yn bosibl cael dedfryd o garchar am fynd ar ei hôl hi gyda’r Dreth Gyngor.
Os ydych chi yn yr Alban, gallwch gael rhagor o wybodaeth am feilïaid neu siryfionYn agor mewn ffenestr newydd ar stopbailiff.co.uk.
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gael rhagor o wybodaeth am orfodiYn agor mewn ffenestr newydd ar NIdirect.