Mae Hurbwrcasu (HP) yn ffordd o ariannu car newydd neu ail law. Ar ôl talu blaendal, rydych yn hurio’ch car gyda thaliadau misol hyd diwedd y contract, pan fyddwch wedi ei brynu’n llawn.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw hurbwrcasu?
Mae tair prif ran i Hurbwrcasu:
- blaendal y byddwch yn ei dalu ar ddechrau'r contract
- taliadau misol a fydd yn cwmpasu gwerth y car ynghyd â llog
- ffi derfynol 'opsiwn i brynu' tua £100 fel arfer, i gymryd perchnogaeth o'r car.
Byddwch yn cytuno ar hyd contract gyda'ch deliwr a byddwch yn llogi'r car hyd nes y bydd y contract wedi'i gwblhau. Unwaith y byddwch wedi gwneud eich taliad terfynol, gan gynnwys y ffi opsiwn i brynu, byddwch yn dod yn berchennog y car.
Mae Hurbwrcasu yn fenthyciad sydd wedi'i warantu yn erbyn y car. Mae hyn yn golygu, os na fyddwch yn talu'r cwmni cyllid, y gallant gymryd y car oddi wrthych. Bydd y cwmni yn berchen ar y car nes i chi gyrraedd diwedd y contract.
Os ydych wedi prynu car ar gyllid cyn Ionawr 2021
Os gwnaethoch gymryd cyllid car cyn mis Ionawr 2021, efallai eich bod wedi gordalu. Gallwch ddysgu mwy am sut i gwyno a gwneud cais am iawndal.
Beth fyddwch chi'n ei dalu am Hurbwrcasu
Blaendal
Ystyriwch ddefnyddio cerdyn credyd i dalu rhywfaint o'r blaendal
Mae defnyddio cerdyn credyd yn golygu eich bod yn cael amddiffyniad ychwanegol ar eich bargen, o'r enw amddiffyniad talu cerdyn credyd Adran 75. Byddwch yn cael hyn hyd yn oed os ydych yn rhoi dim ond 1c o'r blaendal ar gerdyn credyd.
Ni fydd llawer o ddelwyr yn caniatáu i chi ddefnyddio cerdyn credyd ar gyfer eich blaendal, felly gwiriwch gyda hwy.
Fel arfer bydd angen i chi dalu blaendal o tua 10% o werth y car. Byddwch yn talu hyn wrth gytuno’r hurbwrcasu.
Bydd blaendal uwch yn lleihau eich taliadau misol.
Taliadau misol
Byddwch yn gwneud taliadau misol am gyfnod eich contract. Mae'r taliadau hyn yn seiliedig ar werth y car, ar ôl i chi dynnu'r blaendal.
Byddwch hefyd yn cael llog wedi ei godi. Byddwch yn cytuno ar gyfradd llog ar ddechrau'r cytundeb, a fydd yn seiliedig ar ychydig o ffactorau gwahanol, gan gynnwys eich statws credyd a hyd y contract.
Ffi opsiwn i brynu
Bydd angen i chi wneud taliad terfynol ar ddiwedd eich contract i ddod yn berchennog y car. Mae hyn fel arfer tua £100, ond dylech ddarganfod hwn yn eich contract wrth gytuno ar yr hurbwrcasu.
Costau rhedeg
Er nad ydych yn berchen ar y car, byddwch yn gyfrifol am:
- yswiriant
- tanwydd
- atgyweirio a chynnal a chadw
- unrhyw docynnau parcio neu oryrru.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyllidebu ar gyfer pob un o'r rhain, gan gynnwys costau annisgwyl fel amnewid teiar. Mae mwy o wybodaeth yn ein canllaw Costau prynu a rhedeg car.
Sut mae Hurbwrcasu yn gweithio?
Dyma enghraifft o sut y gallai Hurbwrcasu edrych:
- Rydych chi eisiau prynu car sy'n costio £20,000.
- Rydych yn talu blaendal o £2,000 ac yn cytuno ar gontract tair blynedd.
- Yn seiliedig ar eich statws credyd, mae'r gwerthwr yn cytuno ar gyfradd llog o 15%.
- Bydd yn rhaid i chi wneud £18,000 mewn taliadau misol, ynghyd â llog.
Bydd y ffigurau'n amrywio, ond er enghraifft, byddwch yn talu cyfanswm o tua £4,460 mewn llog. Byddai eich taliadau misol tua £625. Mae Hire Purchase calculator ar The Money CalculatorYn agor mewn ffenestr newydd, a all roi syniad i chi o beth fyddwch yn ei dalu.
Sut alla i gael bargen Hurbwrcasu ar gar?
Gallwch gael bargen Hurbwrcasu:
- gan y gwerthwr yn gwerthu'r car i chi
- gan frocer ar-lein
- trwy rai banciau.
Gallwch ddod o hyd i fargeinion Hurbwrcasu a'u cymharu ar:
Cael y fargen orau
Mae'n syniad da ymchwilio bargeinion ar-lein yn gyntaf, gan y gall cynigion gan wahanol ddarparwyr benthyciadau fod yn wahanol iawn. Bydd yn ddefnyddiol cael rhai rhifau i'ch helpu i drafod gyda'ch deliwr.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn bargeinio wrth brynu gan ddeliwrYn agor mewn ffenestr newydd, a gofynnwch iddynt ostwng nid yn unig pris y car, ond y Gyfradd Ganrannol Flynyddol (APR) hefyd. Gallai llog is arbed cannoedd o bunnoedd i chi.
Gallwch hefyd fargeinio dros flaendaliadau a ffioedd. Peidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar wahanol ddelwyr, gan y gall hyd yn oed delwyr o'r un gwneuthurwr gynnig prisiau gwahanol. Gall ein canllaw Sut i brynu car helpu i'ch tywys drwy'r broses brynu.
Cytuno ar eich cytundeb Hurbwrcasu
Mae'n bwysig eich bod yn deall yn union beth fydd disgwyl i chi ei dalu a phryd.
Os nad ydych yn sicr am unrhyw beth, gofynnwch i'ch deliwr ei egluro. Dylen nhw wneud popeth yn glir - os nad ydynt, byddwch yn barod i gerdded i ffwrdd.
Mae'r rhan fwyaf o werthwyr yn fwy tebygol o gynnig Taliad Contract Personol (PCP) i chi na Hurbwrcasu. Mae'r rhain yn ddau fargen wahanol iawn, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn glir pa fath o gyllid rydych yn ei gael.
Rhestr wirio wrth gytuno ar Hurbwrcasu
- Faint yw'r blaendal?
- Faint yw'r taliadau misol?
- Faint yw'r ffi dewis i brynu?
- Faint ydych chi'n ei dalu mewn llog?
- Beth yw'r gyfradd ganrannol flynyddol (APR)?
- A fyddwch chi'n cael yr APR a hysbysebwyd? Neu a yw'r APR yn gynrychioliadol, sy'n golygu efallai na fyddwch yn cael y gyfradd a hysbysebwyd?
- Faint yw’r cyfanswm rydych yn ei dalu?
- Pa mor hir yw'r contract?
- Beth yw telerau ac amodau'r contract?
- A oes angen i chi roi gwybod i'ch cwmni cyllid os ydych chi'n mynd â'r car dramor?
- A yw'ch contract yn ei gwneud yn ofynnol i chi gael math penodol o yswiriant car (fel cynhwysfawr)?
- A yw eich contract yn caniatáu i chi wneud newidiadau i'r car?
- A oes unrhyw ffioedd eraill i fod yn ymwybodol ohonynt?
Ychwanegiadau dewisol yn eich contract
Bydd rhai gwerthwyr yn cynnig ychwanegiadau dewisol nad ydynt fel arfer mewn Hurbwrcasu, fel yswiriant, yswiriant torri i lawr a gwarantau.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall yn union beth mae'ch deliwr yn ei gynnig i chi, a sut y bydd yn effeithio ar eich taliadau misol – a chwiliwch o gwmpas am fargeinion rhatach cyn dweud ie.
Bydd ein canllaw costau o brynu a rhedeg car yn eich helpu i ddeall sut y gallai ychwanegiadau dewisol effeithio ar y costau cyffredinol.
Yswiriant ‘GAP’
Wrth brynu car efallai y cewch gynnig yswiriant ‘gap’. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw hyn ac os ydych ei angen - a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael bargen deg bob amser.
Gallwch ddysgu mwy am yswiriant 'GAP' ar MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
Gwiriad credyd
Bydd angen i chi basio gwiriad credyd pan yn gwneud cais am Hurbwrcasu. Bydd hwn yn 'chwiliad caled', sy'n golygu bod marc yn cael ei adael ar eich ffeil credyd.
Os ydych yn poeni am eich credyd, edrychwch ar ein canllaw Sut i wella eich sgôr credyd.
A’i Hurbwrcasu yw’r dewis cywir?
Fel pob bargen, mae Hurbwrcasu yn dod â manteision ac anfanteision. Mae p'un a yw y fargen gywir yn dibynnu ar y math o gar rydych ei angen, a'ch sefyllfa ariannol chi.
Manteision o Hurbwrcasu
-
Os ydych angen car mwy newydd, gall hyn fod yn ffordd dda o dorri'r costau.
-
Byddwch yn dod yn berchennog y cerbyd ar ddiwedd y cytundeb.
-
Dim ond taliad bach sydd i'w wneud ar ddiwedd y contract.
-
Fel arfer, nid oes unrhyw gyfyngiadau ar faint o filltiroedd y gall eich car ei wneud fel rhan o'r cytundeb.
-
Byddwch fel arfer yn talu ychydig yn llai mewn llog na PCP.
Anfanteision Hurbwrcasu
-
Ni fyddwch yn berchennog y car tan eich taliad olaf, felly ni allwch werthu nac addasu'r car yn ystod y contract (oni bai eich bod yn cael caniatâd gan y cwmni cyllid).
-
Mae taliadau misol fel arfer yn uwch na Thaliad Contract Personol (PCP), sy'n golygu bod gwerth y car y gallwch ei fforddio yn llai.
-
Os bydd eich sefyllfa ariannol yn newid, byddwch yn dal wedi cael eich cloi i daliadau misol.
-
Mae'n anodd newid eich car am gar mwy newydd yn ystod eich cytundeb.
-
Bydd eich car yn colli gwerth (dibrisio) yn ystod eich cytundeb.
-
Hyd nes eich bod wedi talu traean o gost y car, gall eich cwmni cyllid ei adfeddiannu heb orchymyn llys.
Opsiynau eraill
Efallai y bydd rhai o'r opsiynau hyn yn fwy addas i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Sicrhewch eich bod yn cael cyngor a deall risgiau unrhyw gytundeb a wnewch cyn i chi benderfynu.
Prynu car yn gyfan gwbl
Os oes gennych chi ddigon o gynilion i allu prynu car gydag arian parod, fel arfer dyma fydd eich opsiwn gorau. Ni fyddwch yn talu llog a byddwch yn berchen ar y car ar unwaith.
Mae'n bwysig dal i gael rhywfaint o arian wrth gefn ar gyfer argyfwng. Edrychwch ar ein canllaw Cynilion ar gyfer argyfwng - faint sy’n ddigon?.
Prynu car rhatach
Meddyliwch a fyddai car rhatach yn gwedduch anghenion.
Mae ceir newydd yn colli eu gwerth (dibrisio) yn gyflym, felly ar ddiwedd Hurbwrcasu mae'n debyg y bydd gennych gar sy'n llawer llai gwerthfawr nag yr oedd ar ddechrau'r cytundeb.
Mae ceir hŷn fel arfer yn dibrisio llai, felly weithiau maent yn werth gwell yn y tymor hir. Fodd bynnag, bydd gan rai ceir gostau rhedeg uwch, ac efallai y byddant yn fwy tebygol o fod angen atgyweiriadau a chynnal a chadw.
Mae llawer i'w hystyried wrth gyfrifo costau car yn gyffredinol. Mae ein canllaw costau Costau prynu a rhedeg car yn sôn am hyn yn fanylach.
Prydlesu (Contract Llogi Personol)
Dewis arall yw Contract Llogi Personol (PCH). Ni fyddwch yn prynu'r car gyda'r opsiwn hwn, ond bydd eich taliadau misol yn llawer is.
Os byddwch yn cael trafferth fforddio prynu car yn llwyr, efallai y bydd llogi yn opsiwn gwell.
Benthyciad personol
Os ydych am fod yn berchen ar y car yn llwyr, gallech gael benthyciad personol i dalu amdano.
Bydd angen i chi gymharu'r hyn y gallwch ei fenthyca a faint y byddech yn ei dalu'n ôl. Efallai y gwelwch fod benthyciad yn golygu eich bod yn talu llai mewn llog na Hurbwrcasu yn dibynnu ar ba fargen y gallwch ei chael.
Byddwch yn ymwybodol efallai na fydd benthyciad personol yn cael ei warantu yn erbyn eich car, felly os ydych yn cael trafferth ei ad-dalu, ni fydd eich benthyciwr ond yn mynd â'ch car i ffwrdd i wneud pethau yn iawn.
Taliad Contract Personol (PCP)
Mae Taliad Contract Personol (PCP) yn fath arall o gyllid car. Byddwch yn:
- rhoi blaendal i lawr
- gwneud taliadau misol
- cael y dewis i wneud 'taliad balŵn' mawr terfynol ar ddiwedd eich contract, neu
- rhoi'r car yn ôl, weithiau fel cyfnewid rhannol ar gyfer PCP newydd.
Bydd y taliadau misol hyn yn is na Hurbwrcasu, ond bydd y taliad terfynol yn llawer uwch. Ond mae gennych yr opsiwn i beidio â thalu'r taliad balŵn os penderfynwch beidio â phrynu'r car ar ddiwedd y contract.
Gorffen Hurbwrcasu yn gynnar
Os oes angen i chi ddod â Hurbwrcasu i ben yn gynnar, mae gennych ychydig o opsiynau:
Os ydych wedi gwneud o leiaf hanner eich taliadau
Mae gennych hawl gyfreithiol i ddychwelyd y car a dod â'r contract i ben os ydych wedi gwneud o leiaf hanner eich taliadau. Gelwir hyn yn 'derfynu gwirfoddol'.
Os penderfynwch ddychwelyd y car, dywedwch wrth eich cwmni cyllid trwy lythyr neu e-bost, a chadwch gopi. Bydd angen i chi ei gwneud yn glir eich bod yn dychwelyd y car ac yn dod â'r cytundeb i ben.
Gallwch ddefnyddio'r llythyr templed hwn ar National DebtlineYn agor mewn ffenestr newydd i wneud cais am derfynu gwirfoddol.
Os na fyddwch yn rhoi gwybod i'r gwerthwr, byddant yn ei weld fel eich bod wedi methu taliadau, a gallai hyn effeithio ar eich statws credyd.
Bydd eich gwerthwr yn colli allan, felly efallai y byddant yn ceisio gwneud hyn yn anodd a llusgo'r broses. Cofiwch eich bod yn gweithredu o fewn eich hawliau yn unol â'r Ddeddf Credyd Defnyddwyr.
Er enghraifft, efallai y byddant yn honni bod difrod i'r car y tu hwnt i 'draul deg'. Mae'n werth gwirio beth sy'n cael ei ystyried yn 'draul deg' wrth gytuno ar eich Hurbwrcasu, ond mae yna hefyd ganllaw defnyddiol i draul teg gan Gymdeithas Rhentu a Prydlesu Cerbydau Prydain (BVRLA)Yn agor mewn ffenestr newydd, neu gallwch archebu copi caledYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych am wneud ad-daliad cynnar
Siaradwch â'ch deliwr am ddod â'r pryniant i ben yn gynnar. Byddant yn rhoi un taliad mwy terfynol i chi ei wneud, ac yna bydd y car yn eiddo i chi.
Mae taflen ddefnyddiol gan y Gymdeithas Cyllid a PrydlesuYn agor mewn ffenestr newydd sy'n esbonio beth sy'n digwydd pan fyddwch yn ad-dalu benthyciad yn gynnar.
Os ydych yn cael trafferth gwneud eich taliadau misol
Mae'n bwysig siarad â'ch cwmni cyllid car os ydych yn ei chael hi'n anodd cadw i fyny â thaliadau.
Efallai y byddant yn gallu ymestyn eich cytundeb, a all leihau eich taliadau misol. Gallant hefyd ystyried trefniadau eraill, felly gall cael sgwrs gyda nhw fod yn lle da i ddechrau.
Mae'n bwysig cael y sgwrs hon cyn methu unrhyw daliadau. Os na wnewch hynny, efallai y bydd eich deliwr yn ei ystyried yn fethdaliad ar eich taliadau, a allai effeithio ar eich statws credyd.
Beth sy'n digwydd os na allwch gadw i fyny â'ch taliadau?
Mae Hurbwrcasu yn fenthyciad wedi'i warantu - mae hyn yn golygu y gall y darparwr benthyciadau gymryd y car yn ôl os nad ydych yn cadw i fyny â'ch taliadau.
Dylech wirio eich contract am fanylion am beth yw proses y benthyciwr. Os ydych yn gynnar i mewn i’ch contract, yn aml ni fydd angen gorchymyn llys arnynt i adfeddiannu'ch car.
Os ydych yn cael trafferth gyda dyled, mae'n syniad da siarad ag ymgynghorydd dyledion am ddim.
Darganfyddwch ble y gallwch gael cyngor ar ddyledion am ddim.