Os ydych yn ystyried benthyg arian, dyma sut i gymharu eich opsiynau a beth i’w wneud cyn gwneud cais.
Oes angen i chi fenthyg?
Gall defnyddio credyd fel cerdyn credyd neu fenthyciad i brynu rhywbeth fod yn ddrud. Gall aros a chynilo fod yn opsiwn rhatach.
Gweler Gwneud yn siŵr eich bod yn gallu fforddio benthyg am fwy o wybodaeth.
Ceisiwch osgoi benthyg os ydych yn cael trafferth
Os ydych chi'n cael trafferth, efallai bydd benthyg arian yn ymddangos fel eich unig opsiwn. Ond gall wneud pethau'n waeth. Nid ydych chi ar eich pen eich hun ac mae help ar gael.
Dyma beth i roi cynnig arni yn gyntaf:
- Defnyddiwch ein Blaenoriaethwr biliau i'ch helpu i ddeall pa ddyled i'w datrys yn gyntaf.
- Os ydych chi'n meddwl y byddwch chi'n methu taliad neu wedi gwneud hynny eisoes, cysylltwch â'ch credydwr i roi gwybod iddynt ac ystyriwch ddefnyddio ein teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion.
- Defnyddiwch Gyfrifiannell budd-daliadau i weld a ydych yn gymwys i gael unrhyw gymorth.
- Defnyddiwch ein Cynlluniwr cyllideb i gadw golwg ar eich arian a'ch biliau.
Beth i'w wneud cyn benthyg arian
Cyn benthyg arian neu wneud cais am gredyd, dilynwch y camau hyn.
Cyfrifwch faint allwch chi fforddio ei ad-dalu bob mis
Sicrhewch bob amser eich bod yn gallu fforddio ad-daliad ychwanegol ar ben eich biliau a’ch ymrwymiadau presennol.
I helpu i gyfrifo faint o arian sbâr sydd gennych bob mis, rhowch gynnig ar ein cynlluniwr Cyllideb am ddim a hawdd ei ddefnyddio.
Bydd benthycwyr hefyd yn gofyn am eich incwm a’ch treuliau rheolaidd i weld faint allwch chi fforddio ei ad-dalu.
Mae'r wybodaeth hon, ynghyd â ffactorau eraill, fel arfer yn eu helpu i benderfynu a fyddant yn eich derbyn a faint y byddant yn ei fenthyca i chi.
Gwiriwch eich adroddiadau credyd am wallau
Mae eich adroddiadau credyd yn dangos:
- os ydych wedi benthyg arian o'r blaen
- faint sy’n ddyledus gennych ar hyn o bryd
- os ydych wedi cadw i fyny ag ad-daliadau.
Ond efallai y byddwch yn dod o hyd i wallau, fel teipo yn eich cyfeiriad neu gyfrif roeddech chi'n meddwl oedd wedi'i gau. Mae hyn yn bwysig gan fod benthycwyr fel arfer yn gwirio'r wybodaeth hon wrth benderfynu a ydynt am eich derbyn.
Mae tair asiantaeth gwirio credyd, felly mae gennych dri adroddiad credyd i'w gwirio. Rhowch wybod am unrhyw gamgymeriadau i'r asiantaeth gwirio credyd ar unwaith.
Darganfyddwch fwy am hyn yn ein canllaw Sut i wirio'ch adroddiad credyd am ddim.
Os byddwch chi'n gweld cynhyrchion yn eich enw chi na wnaethoch gais amdanynt, efallai rydych wedi dioddef o ddwyn hunaniaeth. Mae'n bwysig i:
- siarad â darparwr unrhyw gyfrif twyllodrus a restrir ar eich ffeil
- rhoi gwybod i Action FraudYn agor mewn ffenestr newydd neu drwy ffonio 101 yn yr Alban.
Gallech hefyd ystyried talu am Gofrestriad Diogelu CifasYn agor mewn ffenestr newydd Mae hyn yn dweud wrth fenthycwyr eich bod wedi dioddef twyll, felly byddant yn gwneud gwiriadau ychwanegol i sicrhau bod unrhyw gais credyd newydd yn ddilys.
Sut i gymharu opsiynau benthyg a gwneud cais
Fel arfer mae angen i chi dalu llog wrth fenthyg arian, ond mae rhai cynhyrchion yn rhatach nag eraill. Yn gyffredinol, y gyflymaf y gallwch ad-dalu, y lleiaf y bydd yn ei gostio i chi.
Defnyddiwch gyfrifianellau cymhwyster i gymharu cynhyrchion y gallech fod yn gymwys ar eu cyfer
Unwaith y byddwch wedi penderfynu ar y math o gredyd i wneud cais amdano, y cam nesaf yw cymharu bargeinion.
Cyfrifiannell cymhwyster yw'r ffordd orau o wneud hyn gan ei fod ond yn dangos y cynhyrchion rydych chi'n gymwys ar eu cyfer a pha mor debygol ydych chi o gael eich derbyn, heb effeithio ar eich ffeil credyd.
Gallai hefyd ddangos a ydych yn sicr o gael y fargen neu gyfradd llog.
Gallwch ddod o hyd i gyfrifianellau cymhwyster ar wefannau llawer o fenthycwyr a gwefannau cymharu, megis:
- MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
- Credit KarmaYn agor mewn ffenestr newydd
- ClearScoreYn agor mewn ffenestr newydd
Gan nad oes unrhyw wefan yn sganio pob benthyciwr, mae'n well defnyddio cyfuniad i sicrhau eich bod yn gweld yr holl opsiynau sydd ar gael, gan gynnwys bargeinion unigryw.
Os nad ydych yn gweld llawer o ganlyniadau, ystyriwch edrych ar gynhyrchion adeiladwyr credyd, fel cardiau credyd sy'n helpu i wella'ch hanes credyd.
Os na allwch ddod o hyd i wiriwr cymhwyster ar gyfer y cynnyrch rydych chi ei eisiau, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n bodloni'r meini prawf cymhwyster (fel isafswm incwm).
Byddwch yn ofalus wrth wneud cais oherwydd gall camgymeriadau arwain at wrthod
Unwaith y byddwch wedi dewis y fargen orau i chi, gwiriwch eich bod yn gallu fforddio’r ad-daliadau.
Hefyd, byddwch yn ymwybodol efallai na fyddwch yn cael yr union fargen sy’n cael ei hysbysebu. Cadwch lygad allan am dermau fel:
- ‘Hyd at’ – fel arfer i ddisgrifio cyfradd llog hyrwyddol. Er enghraifft, hyd at 18 mis ar 0%. Mae hyn yn golygu y gallai rhai pobl gael cyfnod byrrach, fel 10 mis.
- APR (Cyfradd Ganrannol Flynyddol) – er enghraifft, APR o 5.9%. Dim ond 51% o bobl sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer y cynnyrch sy'n gorfod cael y gyfradd llog honno neu well, gellir codi llawer mwy ar eraill, megis hyd at 30%.
Cyn cyflwyno'ch cais, gwiriwch ddwywaith bod yr holl fanylion yn gywir ac yn cyfateb i'r wybodaeth a gedwir ar eich adroddiad credyd.
Dylech ddarganfod a ydych wedi cael eich derbyn ar unwaith, er y gallai gwiriadau pellach achosi oedi o ychydig ddyddiau yn y broses.
Os cewch eich gwrthod am gredyd, peidiwch â pharhau i ailymgeisio
Gall ceisiadau lluosog mewn cyfnod byr niweidio eich sgôr credyd, gan wneud benthycwyr yn llai tebygol o roi benthyg i chi.
Yn lle hynny, gofynnwch pam y cawsoch eich gwrthod. Efallai y byddwch yn gallu datrys y broblem neu apelio yn erbyn y penderfyniad.
Mae ein teclyn Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credydYn agor mewn ffenestr newydd yn rhoi cynllun i chi wella'ch siawns y tro nesaf.